Agenda item

Derbyn adroddiad ar y cyd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n rhoi trosolwg i'r Aelodau o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) y Cyngor a gyflwynwyd ac y cytunwyd arno yng nghyfarfod y Cabinet ar 28 Ionawr 2021.

 

 

Cofnodion:

Fe wnaeth Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant roi trosolwg i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) y Cyngor, a gafodd ei gyflwyno a'i gytuno yng nghyfarfod y Cabinet ar 28 Ionawr 2021.

 

Rhannwyd trosolwg byr gyda'r aelodau o'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg gan gynnwys manylion capasiti dros ben, gwariant ar addysg cyfrwng Cymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mân waith cyfalaf arfaethedig yn ogystal â manylion pob un o'r saith deilliant sy'n nodi sut mae disgwyl i Awdurdodau Lleol wella addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg am y Gymraeg yn yr ardal.

 

Fe wnaeth y Cyfarwyddwr wneud sylw am gynnydd y Cyngor a sut mae'n gweithio mewn partneriaeth i gyflawni'r cynllun er mwyn sicrhau nad yw'n gorffwys ar ei fri. Dywedwyd wrth yr aelodau am gyfarfod cynllunio mewn perthynas â'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg sydd wedi'i drefnu ac sy'n gyfle i feddwl yn greadigol a chreu ffordd o weithio i gyrraedd y targedau newydd yn y dyfodol.

 

Dywedodd yr Is-gadeirydd fod y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi'i drafod yng nghyfarfod diweddar y Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc yn ogystal â'r Cabinet. Soniodd am y newidiadau cadarnhaol y sylwyd arnyn nhw o fewn addysg cyfrwng Cymraeg ers ffurfio'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg cyfredol. Soniodd yr Is-gadeirydd am bwysigrwydd nodi ansawdd ac argaeledd cynyddol darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer y blynyddoedd cynnar, sy'n ddechreubwynt i ddisgyblion barhau â'u haddysg yn Gymraeg. Gorffennodd yr Is-gadeirydd trwy roi sylwadau ar y meysydd y mae angen mynd i’r afael â hwy yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn y dyfodol a’r cyfleoedd o fewn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i ddarparu'r cyfleoedd dysgu gorau i blant a phobl ifainc RhCT.

 

Croesawodd y Cadeirydd y diweddariad a siaradodd am ansawdd da'r cyfleusterau sydd ar gael yn dilyn buddsoddiad a'r dewis sydd ar gael i'r bobl ifainc a'u rhieni. Cyfeiriodd y Cadeirydd at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth, gan fod gan bawb ran i'w chwarae wrth greu uchelgais i oedolion ifainc y dyfodol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wrth yr Aelodau y byddai'r Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg a Gweithgor y Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc yn rhan o lunio'r strategaeth cyn ei chyflwyno i'r cabinet yn rhan o ddatblygu'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd.

Soniodd ES, Menter Iaith, am y gwaith gwych mewn perthynas â darpariaeth iaith Gymraeg sy'n cael ei gyflawni ledled y sir a soniodd am y pethau cadarnhaol sy'n cael eu cydnabod yn y meithrinfeydd.  Mae hi'n croesawu bod yn rhan o'r broses wrth helpu i osod y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg nesaf a siaradodd am heriau cynllunio ar gyfer cynllun 10 mlynedd o'i gymharu â chynllun byr 4/5 mlynedd.  Cyfeiriodd ES at y ffaith bod dim cynnydd o ran yr iaith Gymraeg dros y 10 mlynedd diwethaf a holodd i swyddogion sut byddai'r cynllun newydd yn gwella'r sefyllfau yma.  Cytunodd y Cyfarwyddwr ei bod hi'n dasg fawr i'r Cyngor a'i bartneriaid a bod angen adeiladu'n barhaus ac yn gyson ar y pethau da sydd ar waith eisoes i fynd i'r afael â'r mater yma. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at gyfarfod cynllunio y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a oedd i fod i gael ei gynnal ac unwaith eto'r cyfleoedd a ddarperir gan gyfarfodydd tebyg i ganolbwyntio a chynllunio ar gyfer darpariaeth o'r fath.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.     Nodi'r wybodaeth sydd wedi'i darparu o ran Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor.

 

 

Dogfennau ategol: