Agenda item

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned yr adroddiad i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn trafod materion perthnasol mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, yn ogystal â materion atodol eraill sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor. 

 

Cyn ei chyflwyniad, rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r Pwyllgor am wall yn yr adroddiad a nododd fod yr wybodaeth yn trafod y cyfnod hyd at 17 Ionawr 2021, nid 2 Chwefror 2021 fel oedd wedi'i nodi yn yr adroddiad.

 

Adroddwyd y bu gostyngiad yn nifer yr Hysbysiadau Achlysuron Dros Dro (TENs), gyda dim ond 18 yn cael eu cyflwyno. Roedd hyn oherwydd y sefyllfa eithriadol o anodd sy'n wynebu'r diwydiant o ganlyniad i'r pandemig Covid-19, y cyfnod atal byr, a'r cyfyngiadau symud yng Nghymru yn ystod y cyfnod. Nododd y Cyfarwyddwr hefyd fod nifer sylweddol o drosglwyddiadau a newidiadau o ran Goruchwyliwr Safle Penodedig, a hynny hefyd, mae'n debyg, o ganlyniad i'r ansicrwydd sy'n wynebu tafarndai a chlybiau oherwydd y pandemig.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr y bu dadlau yngl?n â dau gais ers yr adroddiad Pwyllgor diwethaf. Roedd un o'r rhain yn Gais i Amrywio Trwydded Safle, ac roedd y llall yn gais i Amrywio Goruchwyliwr Safle Penodedig.

 

Adroddwyd hefyd y bu dau adolygiad ar gais Heddlu De Cymru yn ystod y cyfnod. Roedd yr adolygiad cyntaf yn ymwneud â The Legion, y Porth, lle benderfynodd yr Is-Bwyllgor ddiddymu'r Drwydded am bythefnos a diwygio'i hamodau. Roedd yr ail gais yn ymwneud â'r Treorchy Hotel, Treorci, lle benderfynodd yr Is-Bwyllgor ddiwygio amodau'r drwydded. Yn ogystal â hynny, rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r pwyllgor bod dau adolygiad arall yn yr arfaeth, wedi'u trefnu ar gyfer mis Chwefror 2021. Byddai'r rhain yn cael eu hadrodd i gyfarfod pwyllgor yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau at adran 4.3 yr adroddiad lle mae arolygiadau o eiddo a thor rheolau'n cael eu hamlinellu. Cafodd yr Aelodau wybod bod y gyfradd cyflawniad gyfredol yn parhau ar 90.5% gan fod cyn lleied o arolygiadau wedi'u cwblhau yn ystod y cyfnod, wrth i swyddogion ganolbwyntio ar arolygiadau Covid-19.

 

Aeth y Cyfarwyddwr ati i ddisgrifio sefyllfa'r diwydiant yn ystod y pandemig Covid-19, gan esbonio fod effaith fawr wedi bod ar y sector lletygarwch oherwydd y rheoliadau llym, ac yna'r cyfyngiadau symud. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r Pwyllgor bod swyddogion wedi gweithio'n ddiflino i gyflawni ymweliadau cydymffurfio Covid a'i fod yn hapus i ddweud bod eiddo yn RhCT wedi cydymffurfio ar y cyfan.

 

Nododd y Cyfarwyddwr fod 359 o ymweliadau wedi'u cofnodi yn ystod y cyfnod, a hynny heb gynnwys y galwadau ffôn roedd Heddlu De Cymru wedi'u derbyn, ond dywedodd ei bod yn teimlo bod hyn yn tanamcangyfrif y gwaith a wnaed. Cafodd yr Aelodau wybod bod yna safleoedd a oedd wedi methu â glynu wrth y safonau. Roedd hyn wedi arwain at gyhoeddi 18 o hysbysiadau cau a 12 o hysbysiadau gwella yn ystod y cyfnod. Roedd yr Aelodau'n siomedig i nodi bod 74 o hysbysiadau gwella wedi'u cyhoeddi ar y cyfan yn RhCT. Hwn oedd y nifer uchaf yng Nghymru, ond roedden nhw'n cydnabod bod y Garfan Drwyddedu wedi bod yn rhagweithiol, er gwaethaf heriau o ran staffio a phwysau gwaith.

 

O ran adennill ffioedd blynyddol, cafodd yr Aelodau wybod bod yr Adran Drwyddedu wedi penderfynu yn y lle cyntaf i beidio gorfodi talu ffioedd ar unwaith yn ystod y cyfnod oherwydd y caledi economaidd sy'n wynebu safleoedd, ond ei bod bellach yn gofyn am daliadau oherwydd gofynion y Ddeddfwriaeth. Nodwyd bod yr incwm a dderbyniwyd wedi cynyddu o £19,540 ar adegyr adroddiad diwethaf i’r pwyllgor i £103,660. Priodolwyd hyn i waith caled y garfan.

 

Nododd yr aelodau nad oedd unrhyw newidiadau sylweddol o ran Deddf Gamblo 2005.

 

Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i'r Garfan Drwyddedu am ei gwaith parhaus cyn ac yn ystod y pandemig.

 

PENDERFYNWYD:-

a)    Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a;

b)    Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Gamblo 2005.

 

 

 

Dogfennau ategol: