Agenda item

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau o ran dechrau'r broses ymgynghori statudol berthnasol a gofynnol mewn perthynas â'r cynnig i gynnal newidiadau a reoleiddir i Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn, trwy drosglwyddo'r ysgol i adeilad newydd ar safle newydd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro ar faterion Ysgolion yr 21ain Ganrif a Materion Trawsnewid yr adroddiad, sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gychwyn yr ymgynghoriad statudol perthnasol a gofynnol ar gyfer y cynnig i gynnal newid rheoledig yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-y-Forwyn (“YGG Llyn-y-Forwyn”), a hynny drwy symud yr ysgol i adeilad newydd ar safle newydd.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod YGG Llyn-y-Forwyn yn un o adeiladau tlotaf y Cyngor, gyda graddfa cyflwr adeilad 'D' ac ôl-gostau cynnal a chadw o fwy na £1.01 miliwn. Esboniwyd bod yr adeiladddim yn hygyrch ac, o ganlyniad i hynny, ddim yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010. At hynny, roedd y cyfleoedd ar gyfer chwarae yn yr awyr agored yn gyfyngedig, heb unrhyw fannau gwyrdd allanol ar gael a'r holl fannau chwarae caled yn cael eu heffeithio gan raddfa naturiol y tir. 

 

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion, cynigiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y dylid creu ysgol gynradd Gymraeg newydd ar safle newydd, gyda buddsoddiad oddeutu £8.5 miliwn er mwyn gwella ac ehangu'r cyfleusterau. Byddai'r buddsoddiad yn cynnwys:

·         amgylcheddau dysgu modern a hyblyg i'r holl ddisgyblion, neuadd/ardal giniawa, ardal adnoddau dysgu amlbwrpas;

·         cyfleusterau mewnol ac allanol hygyrch at ddefnydd y gymuned ehangach;

·         mannau awyr agored gwell i gefnogi'r ystod lawn o weithgareddau'r cwricwlwm, gan gynnwys ystafell ddosbarth awyr agored ac ardal 'ysgolion coedwig';

·         dulliau rheoli traffig gwell, gan gynnwys man gollwng disgyblion sy'n teithio ar fysiau i'r safle a maes parcio i'r staff.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth na fyddai dalgylch YGG Llyn-y-Forwyn yn cael ei newid ac y byddai'r cynnig yn creu capasiti cyfrwng Cymraeg ychwanegol yn ardal Cwm Rhondda Fach yn Rhondda Cynon Taf. Ymhellach, eglurwyd bod 65% o'r disgyblion sy'n mynychu YGG Llyn-y-Forwyn yn defnyddio Cludiant Cartref i'r Ysgol, a bod diffyg cyfleusterau gollwng disgyblion ar y safle presennol, gyda cherbydau'n defnyddio'r strydoedd cyfagos ar gyfer gollwng a chasglu ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol. Clywodd yr Aelodau y byddai gan safle newydd yr ysgol gyfleusterau gollwng a chasglu pwrpasol ar y safle, gan wneud y broses yn fwy diogel, yn llai aflonyddgar i'r gymuned, ac yn fwy hylaw i staff yr ysgol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, yn dilyn arfarniad safle o 11 ardal, pob un wedi'i leoli yn Rhondda Fach, y cynigiwyd codi adeilad newydd yr ysgol ar ochr ogleddol Crib-y-ddôl, Glynrhedynog, CF43 4AD, ardal a gaiff ei hadnabod yn lleol fel hen Ffatri Chubb.

 

I gloi, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, pe bai'r Cabinet yn cytuno, y byddai ymgynghoriad mewn perthynas â'r mater yn rhedeg o 1 Mawrth 2021 i 30 Ebrill 2021.

 

Canmolodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant yr adroddiad, gan nodi, pe bai'n cael ei gymeradwyo, y byddai un o'r adeiladau tlotaf yn y portffolio addysg yn cael ei ddisodli gan amgylchedd dysgu newydd a modern ar gyfer disgyblion, sydd â chapasiti ychwanegol i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Gyda chaniatâd y Cadeirydd, siaradodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Morgans a J Harries am yr eitem yma.

 

Nododd yr Arweinydd sylwadau a wnaed mewn perthynas â goblygiadau priffyrdd a dywedodd y byddai Asesiad Effaith Trafnidiaeth llawn yn cael ei gynnal, ac y byddai unrhyw lwybrau cerdded diogel yn cael eu datblygu yn rhan o'r datblygiad. Sicrhaodd yr Arweinydd yr Aelodau Lleol y bydd y Cyngor yn ymgynghori â nhw yn rhan o'r broses yma.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai yr adroddiad a'r safle newydd arfaethedig ar gyfer yr ysgol. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am y caniatâd Cynllunio sydd eisoes wedi'i roi ar gyfer y safle ar gyfer cymysgedd o unedau preswyl a diwydiannol, a holodd sut y gellid goresgyn hyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu ei fod yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn adran Eiddo'r Cyngor i drafod y sefyllfa gyfredol o ran cynllunio. Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'r dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer galw diwydiannol a masnachol yn yr ardal yn bwydo i'r Cynllun Datblygu Lleol, a bod potensial i gynnwys y safle fel safle posibl ar gyfer addysg.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.       Nodi cynnwys yr adroddiad;

2.       Rhoi cymeradwyaeth ffurfiol i'r gwaith o ddechrau ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol ar y cynnig i symud YGG Llyn-y-Forwyn i adeilad newydd ar safle newydd, a chadw dalgylch presennol yr ysgol;

3.       Nodi y bydd unrhyw gynnig, pe bai'n cael ei gymeradwyo ar ôl cwblhau'r prosesau statudol gofynnol, yn cael ei weithredu erbyn Mawrth 2024;

4.       Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant i wneud unrhyw fân newidiadau sy'n ofynnol i'r ddogfen ymgynghori arfaethedig (sydd ynghlwm yn Atodiad B i'r adroddiad) cyn ei chyhoeddi a dechrau'r ymgynghoriad.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: