Trafod blaengynlluniau'r Cabinet a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/2021
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad a oedd yn amlinellu blaenraglen waith ddrafft y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am weddill Blwyddyn y Cyngor 2021. Mae hefyd yn rhoi cyfle i graffu a nodi eitemau pellach i'w trafod yn rhan o waith cyn y cam craffu o raglen waith y Cabinet.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod y byddai dull sy'n canolbwyntio ar agwedd benodol yn parhau mewn perthynas â'r blaenraglen waith, fel sydd wedi digwydd dros y misoedd diwethaf, wrth i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu fynd i'r afael â sawl mater strategol. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa bod modd i flaenoriaethau'r blaenraglen waith newid, os bydd angen i'r Pwyllgor drafod materion busnes penodol eraill ar y dyddiad yma. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod hefyd y byddai sesiynau ymgysylltu'r Pwyllgorau Craffu/Cabinet yn cael eu trefnu yn ystod yr wythnosau nesaf a bydd y sesiwn Trosolwg a Chraffu yn cael ei chynnal gyda'r Dirprwy Arweinydd, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Webber a'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd cyn diwedd y mis.
Cafodd Aelodau wybod y byddai datganiad sefyllfa'n cael ei gyflwyno i Weithgor y Pwyllgor Craffu cyn diwedd blwyddyn y Cyngor. Cafodd y Gweithgor yma ei sefydlu i drafod sut y byddai modd datblygu seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth a rheilffordd ac adeiladu ar gamau gweithredu cynnar Metro De Cymru yn Rhondda Cynon Taf. Cafodd y Pwyllgor eu hatgoffa bod y Rhybudd o Gynnig yma wedi cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a bod gwaith wedi cychwyn ar y mater cyn y Pandemig, ond ers hynny, mae'r gwaith wedi cael ei ohirio.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod y byddai'r newyddion diweddaraf yn cael ei rannu â'r Pwyllgor mewn perthynas â'r deg argymhelliad a gafodd eu cyflwyno i'r Cabinet gan y Gweithgor Craffu a gafodd ei sefydlu i ddatblygu'r seilwaith i gefnogi Cerbydau Carbon Isel yn Rhondda Cynon Taf yn dilyn y Rhybudd o Gynnig a gafodd ei drafod gan y Cyngor.
I gloi, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai Model Buddsoddi Cydfuddiannol Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif yn cael ei drafod gan y pwyllgor craffu yma yn hytrach na'r Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc unwaith y bydd y mater wedi cael ei nodi ar Raglen Waith y Cabinet yn unol â chyfarwyddyd y pwyllgor.
Gofynnodd Aelod pryd y mae disgwyl i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu neu'r Cyngor gael y newyddion diweddaraf mewn perthynas â Bargen Ddinesig - Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac a fyddai modd i'r Pwyllgor gyflawni gwaith cyn y cam craffu ar y materion canlynol sydd wedi'u nodi ar flaenraglen waith y Cabinet:-
1. Prosesu Deunyddiau Ailgylchu Cymysg Ymyl y Ffordd
2. Ymateb y Cyngor i Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 3. Lleoliadau Arbenigol 4. Mynwentydd yn RhCT |
Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu bod y trefniadau craffu ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd bellach yn nwylo RhCT ac yn cael eu gweithredu mewn modd cadarn. Cadarnhaodd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor craffu ac y byddai Prif Weithredwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn annerch y Cyngor cyn diwedd Blwyddyn y Cyngor.
Mewn perthynas â'r materion eraill a gafodd eu nodi, cytunwyd i gynnwys ymateb y Cyngor i Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru o ran blaenraglen waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Cadarnhawyd bod y materion eraill sydd wedi'u codi yn cael eu trafod gan y pwyllgorau craffu eraill.
PENDERFYNODD yr Aelodau:-
Dogfennau ategol: