Agenda item

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n darparu trosolwg o ymateb y Cyngor i Storm Dennis ac yn nodi cyfres o argymhellion i'w hystyried gan y Cabinet sy'n gwella ymateb tymor byr a thymor hir y Cyngor i ddigwyddiadau tywydd eithafol, yn ogystal â chyfyngu ar effaith llifogydd ar y cymunedau hynny sydd fwyaf mewn perygl.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr drosolwg manwl i'r Aelodau o ymateb y Cyngor i Storm Dennis, un o blith pedair storm fawr i daro Cymru ar ddechrau 2020, a arweiniodd at lifogydd mewn 1,070 o aelwydydd yn RhCT. Nododd y Prif Weithredwr gyfres o argymhellion i'w hystyried gan y Cabinet sy'n gwella ymateb tymor byr a thymor hir y Cyngor i ddigwyddiadau tywydd eithafol, yn ogystal â chyfyngu ar effaith llifogydd ar y cymunedau hynny sydd fwyaf mewn perygl.

 

Gwnaeth y Prif Weithredwr sylwadau am ddigwyddiad tywydd eithafol Storm Dennis, a ddigwyddodd ar ôl cyfres o ddigwyddiadau eraill. Cyfeiriodd hefyd at dopograffeg y Fwrdeistref Sirol, a oedd hefyd yn ffactor a wnaeth gyfrannu i'r digwyddiadau a ddatblygodd a'r effaith ddinistriol a gafodd y storm ar gymunedau lleol ledled y Fwrdeistref Sirol. Soniodd y Prif Weithredwr am aelwydydd a busnesau a fu dan dd?r, y tirlithriad sylweddol yn ardal Tylorstown a'r difrod a achoswyd i asedau seilwaith priffyrdd, systemau draenio, ac adeiladau'r Cyngor, fel Lido Cenedlaethol Cymru.

 

Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o'r gwaith a wnaed gan y Cyngor i baratoi ar gyfer y Storm, y gwaith a wnaed yn ystod y storm, a'r hyn a wnaed ar ôl hynny.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Prif Weithredwr am ei adroddiad manwl a diolchodd hefyd i'r Aelodau am eu cyflwyniadau, sydd ynghlwm yn Atodiad 3 yr adroddiad, gan nodi bod dau gyflwyniad hwyr hefyd wedi'u derbyn ers cyhoeddi'r adroddiad. Bydd y rhain yn cael eu dosbarthu i Aelodau'r Cabinet er gwybodaeth. Diolchodd yr Arweinydd hefyd am y gwaith a'r sylwadau a ddarparwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hyd yma, a'r themâu penodol sy'n dod i'r amlwg.

 

Gwnaeth yr Arweinydd sylwadau am yr argymhellion yn yr adroddiad a fyddai'n gofyn am gyllid sylweddol, a siaradodd hefyd am gost yr iawndal hyd yn hyn sy'n fwy na £80 miliwn. Clywodd yr Aelodau am lefel y buddsoddiad a nifer y prosiectau a gyflwynwyd eisoes gan y Cyngor, yr ymarferion mapio sydd eisoes ar y gweill a'r angen i gynnal arolygon unigol i sicrhau bod pethau'n cael eu gwneud yn gywir a bod seilwaith, fel cylfatiau, yn dal i fod yn addas at y diben. Soniodd yr Arweinydd am drafodaethau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a'r mesurau ataliol y mae angen eu cryfhau, gan roi sylw i 'ystafell reoli argyfwng' a fyddai'n monitro dyfeisiau llifogydd ac yn cynnwys llinell ffôn annibynnol, a'r wybodaeth ychwanegol y byddai hyn yn ei darparu pe bai'r fath sefyllfa'n codi eto. Gwnaeth yr Arweinydd sylwadau am yr angen i wneud eiddo yn fwy gwydn ac ychwanegodd fod cadernid y systemau sydd ar waith gan y Cyngor wedi gwella ymhellach yn dilyn y digwyddiad. Diolchodd i'r holl staff a'r cymunedau a oedd wedi cyfrannu at yr ymdrechion, cyn, yn ystod ac ar ôl Storm Dennis. Gorffennodd yr Arweinydd ei sylwadau trwy ofyn am gyflwyno adroddiad pellach ar sefyllfa'r Cyngor mewn perthynas â Storm Dennis i'r Cabinet neu'r Cyngor yn y Flwyddyn Newydd.

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am yr ymateb eithriadol a welwyd cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad a dywedodd, oherwydd y cynllun lliniaru llifogydd rhagorol sydd eisoes ar waith yn ei ward, bod yr effaith ar breswylwyr yn cael ei lleihau. Serch hynny, ychwanegodd nad oes modd lliniaru llifogydd yn llwyr, a bod nifer fach o drigolion yn dal i ddioddef llifogydd yn eu heiddo. Gwnaeth sylwadau pellach ar wytnwch y gymuned a chydweithio gan nodi pwysigrwydd 'lleisiau'r cymunedau', sy'n sicrhau cysylltiadau cyfathrebu da rhwng trigolion y Fwrdeistref Sirol a'r Aelodau Etholedig. O ran Aelodau Etholedig, cyfeiriwyd at bwysigrwydd porth yr Aelodau unwaith iddo gael ei ddatblygu'n llawn, a'r cyfle i gynnwys hyn yn hyfforddiant sefydlu'r Aelodau yn dilyn etholiadau 2022. Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am y gwaith craffu amhrisiadwy a oedd wedi bwydo'r adroddiad gerbron y Cabinet, a phwysigrwydd gwaith parhaus y Pwyllgor Craffu yn y maes hwn. I gloi, ychwanegodd, er na allai'r Cyngor fyth gael gwared ar lifogydd na rheoli natur yn llwyr, byddai'r Cyngor yn parhau i wneud popeth o fewn ei allu i leihau'r risg.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol yr adroddiad ger eu bron, gan ychwanegu y byddai'r adroddiad, ynghyd â gwaith agos gyda CNC a chanlyniadau adroddiad S19 yn rhoi digon o wybodaeth i'r Cyngor weithredu arno. Aeth ymlaen i wneud sylwadau am yr angen i liniaru yn erbyn unrhyw broblemau a allai ddeillio o newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol. Siaradodd yr Aelod yn gadarnhaol am y buddsoddiadau a'r prosiectau sydd eisoes yn cael eu cyflawni gan y Cyngor a'r gwaith o lobïo Llywodraeth San Steffan am gyllid pellach ar gyfer cynlluniau atal llifogydd.

 

Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai sylwadau am y tirlithriad a ddigwyddodd yn ardal Tylorstown, mewn ardal a ddefnyddir yn helaeth gan y cyhoedd. Diolchodd yr Aelod i'r swyddogion am y camau ymatebol a gymerwyd a'r gwaith parhaus i sicrhau bod yr ardal yn ddiogel. Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet sylwadau am y gwaith monitro rheolaidd a wneir o ran y tomenni glo presennol, gan nodi pa mor bwysig yw hi i'r Cyngor sicrhau cyllid gan San Steffan i gael gwared ar domenni glo a lleddfu pryderon pobl am unrhyw drychinebau yn y dyfodol.

 

Talodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth deyrnged i'r staff a weithiodd yn ddi-baid yn ystod storm Dennis a'r gwytnwch cymunedol a welwyd, gyda phawb yn rhoi cymorth. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am bwysigrwydd llinellau cyfathrebu agored a'r cyfeiriad yn yr adroddiad at yr ystafell reoli argyfwng a fyddai, yn ei barn hi, yn gwella cyfathrebu. Byddai defnyddio'r timau cyfathrebu i ddarparu gwybodaeth amser real, yn ei barn hi, yn amhrisiadwy.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Oedolion a'r Gymraeg am bwysigrwydd rhoi systemau cadarn ar waith i rybuddio'r cyhoedd, a gwnaeth sylwadau am y diffyg a nodwyd yn yr adroddiad. Amlygodd yr Aelod o'r Cabinet pa mor bwysig yw hi fod pob asiantaeth yn gweithio gyda'i gilydd, i ddarparu rhybuddion digonol lle mae d?r yn codi'n gyflym. Rhoddodd yr Arweinydd fanylion i'r Aelodau am fonitro'r ystafell reoli newydd, y systemau larwm sydd ar waith ar gyfer nodi cylfatiau sydd wedi'u blocio a'r gweithrediadau cctv a fydd yn monitro afonydd mewn ardaloedd allweddol. Pe bai system rhybuddio CNC yn methu, gallai'r Cyngor ddefnyddio'r darpariaethau sydd ganddo ar waith i godi ymwybyddiaeth.

 

Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant sylwadau am y trafodaethau parhaus rhwng y Cyngor a CNC i geisio atal digwyddiadau o'r fath rhag digwydd eto, a soniodd am yr angen i asiantaethau eraill fod yn rhan o drafodaethau o'r fath, gan roi sylwadau am y llifogydd yn ei ward ei hun a'r rôl a chwaraewyd gan sefydliadau D?r Cymru, Network Rail a Trafnidiaeth Cymru. Talodd yr Aelod o'r Cabinet deyrnged i'r gwirfoddolwyr a fu'n helpu yng Nghanolfan Gymunedol Trehafod, gan sicrhau diogelwch y pentref.

 

Diolchodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannoli'r staff a'r cymunedau lleol am ddod at ei gilydd yn ystod y cyfnod anodd yma, ac ysgogi ysbryd cymunedol cryfach yn ystod cyfnod gofidus. Croesawodd yr Aelod yr adroddiad a'r atebion a ddarparwyd, a siaradodd am bwysigrwydd edrych nid yn unig ar seilwaith amddiffyn rhag llifogydd ond hefyd ar newid yn yr hinsawdd, yn rhan o'r strategaeth llifogydd ar gyfer y dyfodol, gan roi sylwadau ar wahanu d?r, plannu coed, adolygiadau dalgylch d?r a chorsydd mawn. 

 

Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant sylwadau am natur ddigynsail y digwyddiadau tywydd ar ddechrau'r flwyddyn a chroesawodd yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad, a oedd yn cyd-fynd â'r sylwadau a ddarparwyd gan y Pwyllgorau Craffu, gan ychwanegu ei bod yn teimlo bod hyn yn adlewyrchiad cytbwys o ymateb y Cyngor i'r storm.

 

Ar yr adeg yma yn y cyfarfod, galwodd yr Arweinydd ar y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol M Adams yn ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, a rhoddodd e drosolwg i'r Cabinet o'r gwaith craffu.

 

Gyda chaniatâd yr Arweinydd, anerchodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher y Cabinet hefyd.

 

Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i holi a fyddai unrhyw gyllid yn cael ei ddarparu gan CNC ar gyfer y mesurau llifogydd angenrheidiol, gan wneud sylwadau penodol am y llifogydd a ddigwyddodd yn Nhrefforest. Dywedodd yr Arweinydd fod llawer o sgyrsiau yn dal i ddigwydd gyda CNC a siaradodd am y llinellau cyfrifoldeb rhwng y Cyngor a CNC.

 

Crynhodd yr Arweinydd drafodaethau'r Cabinet, gan nodi y byddai'r costau sy'n gysylltiedig â'r argymhellion arfaethedig yn cael eu cynnwys yn strategaeth y gyllideb. Siaradodd am bwysigrwydd cyflwyno adroddiad pellach i'r Cabinet neu'r Cyngor yn y Flwyddyn Newydd ar ôl cytuno ar y rhaglen gyfalaf. I gloi, gwnaeth sylwadau pellach am rôl craffu a'r gwaith pellach y gallai'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ei wneud mewn perthynas â chraffu ar weithrediad yr argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad.

 

Ar ôl trafodaeth fanwl, PENDERFYNWYD:

 

 

     I.      Nodi'r camau a gymerwyd gan y Cyngor mewn perthynas â Storm Dennis:

a)    Cyn y Storm;

b)    Yn ystod y Storm;

c)    Yn syth ar ôl y Storm;

d)    Yn ystod y dyddiau a'r wythnosau yn dilyn y Storm;

e)    Yr ymateb tymor hwy o ran atgyweirio ac ailosod seilwaith a oedd wedi'i ddifrodi ac atal llifogydd yn y dyfodol.

 

    II.        Nodi'r adborth o'r gwaith hyd yma gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu mewn perthynas â'i adolygiad o ddigwyddiadau Storm Dennis a'r ymateb amlasiantaethol fel y nodir yn Atodiad C yr adroddiad hwn.

 

  III.        Nodi a chymeradwyo'r argymhellion ar gyfer gwella a nodir yn Adran 11 o'r adroddiad hwn.

 

  IV.        Mae'r cynnydd hwnnw yn erbyn yr argymhellion ar gyfer gwella wedi'i gynnwys yn yr Adroddiadau Rheoli Cyllid a Chyflawniad, a gyflwynir i'r Cabinet bob chwarter, ac i'r Pwyllgor Craffu perthnasol.

 

   V.        Bod adroddiad pellach sy'n nodi canfyddiadau Adroddiadau Ymchwilio Adran 19 Deddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010 sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet yn y Flwyddyn Newydd, a bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn craffu ar yr adroddiad adran 19 ar ôl ei gyhoeddi, yn ogystal â chraffu ar y gwaith parhaus y mae'r Cyngor yn ei wneud mewn perthynas â'r argymhellion yn yr adroddiad yma.

 

Dogfennau ategol: