Agenda item

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol mewn perthynas ag Asesiadau Risg Tân - Adolygiad o'r gweithdrefnau ar gyfer adeiladau sy'n eiddo i'r Cyngor neu'n cael eu defnyddio ganddo.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch y Cyngor adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol, a oedd yn nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am broses Asesu Perygl Tân y Cyngor, yn dilyn cais yn y cyfarfod Trosolwg a Chraffu ar 12 Tachwedd 2019. Atgoffwyd yr Aelodau bod y pwyllgor craffu wedi penderfynu y byddai'r pwyntiau canlynol yn cael eu rhoi ar waith: -

 

Ø  Ymgorffori'r modiwlau E-ddysgu sydd newydd eu datblygu ym mhob cwrs ar gyfer sefydlu gweithwyr newydd;

 

Ø  Y caiff 'hapwiriadau' eu cynnal mewn ysgolion ac adeiladau sy'n eiddo i'r Cyngor, yn ogystal â'r asesiadau diogelwch tân rheolaidd a drefnwyd ymlaen llaw, er mwyn sicrhau cydymffurfiad llawn;

 

Ø  Bod aseswyr risg tân y Cyngor yn gyfrifol a, gynnal asesiadau risg tân mewn ysgolion ac adeiladau sy'n eiddo i'r Cyngor ar sail cylchdro er mwyn atal cynefindra posibl; a

 

Ø  Bod adroddiad pellach yn cael ei ddwyn yn ôl i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu mewn pedwar mis i sicrhau bod y camau a godwyd gan Aelodau Craffu yn cael eu rhoi ar waith.

 

Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch, yn unol â chyfarwyddyd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, fod y materion a grybwyllwyd uchod wedi'u rhoi ar waith, ac ers  3 Tachwedd 2020, mae 364 o weithwyr wedi cwblhau'r cwrs e-ddysgu ymwybyddiaeth diogelwch tân, ac mae 67 wedi cwblhau'r cwrs e-ddysgu Diogelwch Tân ar gyfer Rheolwyr Safle. Bod dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r modiwlau e-ddysgu ar gyfer rheolwyr safle bellach wedi'i nodi, sef 31 Mawrth 2021, a byddai hyn yn cael ei fonitro trwy'r Cyfarwyddwyr perthnasol.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ynghylch targedu'r modiwlau e-ddysgu at ddirprwy reolwyr, cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch  y bydd rheolwyr safle a dirprwyon yn cyrchu'r rhaglen.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod hapwiriadau bellach yn cael eu cynnal ar gyfer ysgolion ac adeiladau eraill sy'n eiddo i'r Cyngor yn ogystal ag asesiadau/archwiliadau diogelwch tân a drefnwyd ymlaen llaw, ac mae aseswyr risg tân yn gyfrifol am gynnal Asesiadau Risg Tân ar sail cylchdro er mwyn osgoi unrhyw gynefindra posibl a oedd yn peri pryder i'r Aelodau.

 

Trwy ei drafodaethau gyda'r Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch, gofynnodd y pwyllgor a allai Asesiadau Risg Diogelwch Tân y Cyngor gwmpasu adeiladau cyngor gwag er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel, er enghraifft drwy edrych ar drefniadau diogelwch ac a oes angen unrhyw reolaethau ychwanegol.

Dysgodd yr aelodau bod yr Undebau Llafur yn cael cyfarfod ar wahân, bob chwe wythnos ar hyn o bryd, ac yn cael diweddariad ar hynt y Gweithgor Materion Diogelwch Tân. Holodd y Pwyllgor a fyddai modd gwahodd yr Undebau Llafur i ffurfio rhan o'r Gweithgor Materion Diogelwch Tân, gan dderbyn adroddiadau cydymffurfio asesiad risg tân a monitro cyflawniad, gan sicrhau bod camau addas yn cael eu cymryd lle bo angen. Mae'r gr?p hefyd yn trafod yr holl faterion diogelwch tân eraill gan gynnwys, er enghraifft, anghenion hyfforddi, tueddiadau a phryderon sy'n dod i'r amlwg.

 

Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch fod archwiliadau bwrdd gwaith wedi'u llunio i gyfyngu ar y cyswllt corfforol lle bo hynny'n bosibl, yn ogystal â mesur cydymffurfiad â rheolaeth 3 maes diogelwch hanfodol, sef y Coronafeirws, Diogelwch Tân a Legionella. Ymgymerwyd â'r rhaglen archwilio bwrdd gwaith yn ystod yr wythnos yn dechrau 23 Tachwedd gyda 12 adeilad wedi'u targedu, fodd bynnag, cafodd ymweliadau corfforol wedi'u blaenoriaethu a'u cynnal lle bo angen.

 

I gloi ac yn dilyn trafodaeth ar yr adroddiad a'r camau wedi'u diweddaru PENDERFYNWYD: -

 

1. Bod diweddariad pellach ar broses Asesu Risg Diogelwch Tân y Cyngor yn cael ei adrodd i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu mewn chwe mis arall (neu pan ystyrir ei fod yn briodol);

 

2. Gofyn am i wahoddiad yr Undebau Llafur i ffurfio rhan o'r Gr?p Materion Diogelwch Tân; a

 

3. Gofyn i'r Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch wneud ymholiadau o ran a oes modd i Asesiadau Risg Tân y Cyngor gynnwys adeiladau gwag y Cyngor fel bod asedau'r Cyngor yn cael eu gwarchod a'u monitro yn yr un modd â'i adeiladau a'i ysgolion dan feddiant.

 

Dogfennau ategol: