Agenda item

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi diweddariad ynghylch y dystiolaeth a ystyriwyd hyd yma a'r camau nesaf

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, ei adroddiad a oedd yn rhoi cyfle i aelodau dderbyn gwybodaeth yn ymwneud â'r llifogydd difrifol a ddigwyddodd ledled y Fwrdeistref Sirol yn ystod 2020. Cafodd hwn ei ddarparu a'i drafod mewn cyfarfodydd Trosolwg a Chraffu a Chyngor llawn, fel y nodir isod:

 

Ø  Cyflwyniadau ysgrifenedig gan Aelodau ward unigol neu bleidiau;

Ø  Tystiolaeth lafar gan aelodau lleol;

Ø  Adroddiad a chyflwyniad PowerPoint i'r Cyngor llawn (25 Tachwedd 2020);

Ø  Crynodeb amgaeedig o'r wybodaeth a gasglwyd dros y ddau fis diwethaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wrth y Pwyllgor y bydd y dystiolaeth a’r wybodaeth a drafodwyd gan aelodau lleol, drwy’r sesiwn craffu a’r cyflwyniadau ysgrifenedig a ddaeth i law, yn llywio canfyddiadau adolygiad mewnol y Cyngor a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cabinet i’w drafod yn ddiweddarach y mis yma. Cadarnhaodd hefyd y byddai'r pwyllgor yn cael cyfle i graffu ar sut y bydd y cyngor yn ymateb i'r adroddiad Adran 19 statudol y mae'n ofynnol i'r Cyngor ei wneud mewn perthynas â llifogydd ym mis Chwefror fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA) o dan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010 (FAWMA 2010).

 

Cofnodwyd y newidiadau canlynol i'r cyflwyniadau llafar gwreiddiol: -

Y Cynghorydd Jarman

“Aberpennar - roedd yr holl waddod a malurion o gylfat Nant Ffrwd yn golygu bod dim mynediad i Aberpennar am ddyddiau. A oedd unrhyw fwriad i hysbysu trigolion bod ymgynghorwyr wedi cael eu cyflogi gan yr awdurdod lleol ynghylch llifogydd Caegarw? Pam na chefais fy hysbysu fel bod modd i mi gydlynu hyn ac annog trigolion i ymgysylltu? ”

 

Y Cynghorydd S. Rees-Owen.

“Yn dilyn adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru nid oes gan drigolion ffydd mewn sefydliadau sy’n ymchwilio i’w hunain, dyna’r rheswm dros alw am Ymchwiliad Annibynnol”

Y Cynghorydd E Webster

“Roedd llifogydd mawr yn Stryd Dumfries a lifodd i lawr o Stryd Callum pan fethodd y cwlfert oherwydd malurion o’r cwrs d?r. Efallai bod achos dros ymgyfreitha gan y bu adroddiadau bod strwythurau anghyfreithlon yn cael eu hadeiladu yn y cwrs d?r i fyny'r afon. Nid yw'r geuffos yn addas i ddelio â'r malurion gormodol. Mae problemau difrifol ac rydym yn gofyn i'r cyngor sicrhau system ddraenio wrth gefn ychwanegol i roi hyder i drigolion.

 

Roedd llifogydd o Stryd Dumfries hyd at y brif stryd a Stag Square ac roedd trigolion yn dal i glirio un o'r ceuffosydd ymhell i'r bore canlynol.

 

Hoffwn ddiolch i Owen Griffiths am edrych ar fesurau ar ochr y mynydd i symud y cwrs d?r y tu ôl i'r fynwent er mwyn sicrhau y bydd llai o dd?r yn dod i mewn i'r system ac yn effeithio ar yr ardal breswyl yn y dyfodol.

 

Swn-Yr-Afon - Roedd wal yr afon wedi erydu ac agorodd llyncdwll gan symud y tir. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Cyngor yn gwrthod mai nhw sy'n gyfrifol, ac yn y cyfamser mae'r twll yn mynd yn fwy.  

 

Y Stryd Fawr - Mae hon wedi dioddef llifogydd dair gwaith yn ystod y 7 mlynedd diwethaf ac ar ôl y llifogydd ym mis Mehefin, asesodd D?r Cymru'r pwmpdy a oedd yn gweithredu o fewn y terfynau, ond ni allai system ddraenio RhCT ymdopi â'r d?r ar y briffordd. Nid yw unrhyw un wedi derbyn mai nhw sy'n gyfrifol ac mae angen i drigolion wybod beth sydd angen cael ei wneud i atal hyn rhag digwydd eto.

 

Mae yna dirfeddiannwyr preifat sydd â thir ar ochr y mynydd, ac yn aml dydy'r lonydd ddim wedi'u mabwysiadau ond fydd y Cyngor ddim yn cymryd cyfrifoldeb am y lonydd yma. Rydw i wedi clirio fy nraeniau i ond mae angen i rywun gymryd cyfrifoldeb am yr asedau yma. Mae d?r sy'n llifo o'r mynydd yn broblem fawr i lawer o'n trigolion ac mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o orfodi'r tirfeddianwyr hyn i sicrhau diogelwch ac uniondeb eiddo cyfagos.

 

Mae'r llinell Gwasanaethau i Aelodau yn wych ond nid yw'n effeithiol o dan yr amgylchiadau yma. Ydy'r llinell yn addas at y diben? "

Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r cywiriadau'n cael eu hadlewyrchu yn y cofnodion manwl (ynghlwm wrth y Cofnodion) cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno fel tystiolaeth i'r Cabinet. Cadarnhaodd y Cadeirydd hefyd y byddai angen cyflwyno unrhyw gyfraniadau ysgrifenedig pellach cyn y dyddiad cau y cytunwyd arno.

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan rai Aelodau'r Pwyllgor nad oedd yr amser a roddwyd i'r Sesiwn Ymchwilio Craffu yn ddigonol i gyfiawnhau maint y gwaith ac ystyriaethau ehangach, dywedodd y Cadeirydd fod sesiwn yr Ymchwiliad Craffu wedi'i chynnal dros dair awr a hanner, a hynny ar ben pwyllgorau craffu eraill lle trafodwyd y materion. Ychwanegodd y Cadeirydd fod pob aelod unigol o'r Cyngor hefyd wedi cael cyfle i gyfrannu at ymateb y Cyngor yn y dyfodol trwy ei adroddiad Adran 19 trwy gyflwyno datganiad ysgrifenedig.

 

Siaradodd rhai aelodau am y gefnogaeth yr oedden nhw a'u trigolion wedi'i chael o ran cwrdd â sefydliadau partner fel Cyfoeth Naturiol Cymru a D?r Cymru i drafod y llifogydd a dadansoddi achosion posibl ers y digwyddiadau ym mis Chwefror 2020, a nodwyd mai gwaith ochr yn ochr â'r Cyngor yw'r dull mwyaf effeithiol o reoli risgiau yn y dyfodol a rhoi camau ar waith i leihau'r niwed a achosir gan lifogydd cyn belled ag y bo modd.

 

Cododd nifer o Aelodau bryderon ynghylch diffyg ymgysylltiad y cyhoedd yn y broses graffu hyd yma ac maent yn galw ar y Cyngor i gydnabod y cyhoedd a dioddefwyr y llifogydd. Ar y sail honno galwodd y Cynghorydd Jarman am welliant i'r cynnig (fel y nodir isod).

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i bryderon ynghylch diffyg cyfranogiad y cyhoedd trwy nodi bod y cyfleoedd i fynd i'r afael â gwaith craffu ar gael yn eang trwy Uned Fusnes y Cyngor a'r Cadeirydd, ac fe gyhoeddir y gweithdrefnau ymgysylltu cyhoeddus llawn ar wefan y Cyngor. Pwysleisiodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu y byddai gan y cyhoedd gyfle i ymgysylltu ar ôl cyhoeddi adroddiad Adran 19 y Cyngor yn ei gyfanrwydd.

Roedd rhai Aelodau o'r farn bod y broses graffu hyd yn hyn yn dryloyw ac yn onest, a bod trigolion yn cael eu cynrychioli'n deg gan eu Haelodau lleol. Cydnabu eraill fod y Cyngor eisoes wedi gwneud cynnydd a gwelliannau sylweddol, mewn cyfnod byr, mewn ymgynghoriad â CNC a D?r Cymru ac fe gyflawnwyd llawer yn dilyn y llifogydd i atgyweirio'r seilwaith ledled y Fwrdeistref Sirol. Roedd Aelodau eraill o'r farn bod y cyhoedd yn haeddu cael yr holl wybodaeth a thystiolaeth ger eu bron, a byddai'r rhain yn cael eu darparu trwy adroddiad Adran 19 y Cyngor

Cyfrannodd yr aelod cyfetholedig a oedd yn bresennol at y trafodaethau gan nodi gan mai dyma ddechrau'r broses graffu, ac os bydd unrhyw elfennau o'r themâu sy'n dod i'r amlwg yn cael eu colli, fel y cyfeirir atynt ym mhwynt 2.2 a 2.3 yr adroddiad, gellir ychwanegu atynt yn ystod y broses. Ychwanegodd y byddai'r pwyllgor yn cael cyfle i ymgymryd â rôl graffu weithredol ar ôl cyhoeddi adroddiad Adran 19 y Cyngor.

  I gloi ac mewn ymateb i bryder ynghylch cylch gwaith y Pwyllgor Craffu mewn perthynas ag ymateb y Cyngor i adroddiad statudol Adran 19, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, ei bod yn ofynnol i'r Cyngor gynnal yr ymchwiliadau a chofnodi'r materion a gyfrannodd at y digwyddiadau ym mis Chwefror a chadarnhaodd fod y cyfle ar gael i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu graffu ar y canlyniadau a chynnal trafodaeth bellach am y mater yn y dyfodol.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

1. Ystyred yr wybodaeth a ystyriwyd hyd yma gan bartneriaid, Swyddogion y Cyngor ac aelodau lleol;

 

2. Cefnogi'r themâu sy'n dod i'r amlwg a nodwyd yn yr adroddiad hwn a gofyn i'r wybodaeth hon a sylwadau aelodau, gan gynnwys cyflwyniadau ysgrifenedig a dderbyniwyd trwy'r broses ymchwilio, gael eu cyflwyno i'r Prif Weithredwr a'r Cabinet, i'w hystyried fel rhan o'r adolygiad mewnol. Wrth wneud hynny, ystyried unrhyw argymhellion neu sylwadau y bydd y pwyllgor yn dymuno eu gwneud ar yr adeg yma yn y broses graffu;

 

  3.  Craffu ar sut y bydd y Cyngor yn ymateb i'r adroddiad Adran 19 statudol y mae'n ofynnol i'r Cyngor ei wneud mewn perthynas â llifogydd ym mis Chwefror fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA) o dan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010 (FAWMA 2010).

 

Noder: Cynigiwyd y cynnig canlynol (a gollwyd) gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman ac eiliwyd gan y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol E Stephens:

 

“Dylai'r cam nesaf ein gweld ni'n ymgynghori â rhanddeiliaid, busnesau a deiliaid tai allweddol a ddioddefodd lifogydd. Yn absenoldeb cefnogaeth y Pwyllgor hwn i Ymchwiliad Annibynnol, rydym yn ymestyn ein Sesiwn Ymchwiliad Craffu i gymryd tystiolaeth gan y rhai a ddioddefodd lifogydd, fel rhanddeiliaid allweddol yn y broses yma. "

 

Nodwch: Roedd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P Jarman ac E Stephens yn dymuno i'w henwau gael eu cofnodi fel y sawl a oedd wedi pleidleisio o blaid y gwelliant.

 

Datganiadau Llafar wedi'u Diweddaru

Y Cynghorydd T Williams (De Aberaman)

“Roedd y ddau bentref, Abercwmboi a Chwmaman, dan dd?r, roedd darnau yn dod oddi ar y mynydd. Cawsom broblemau gyda bagiau tywod. Mae arian wedi cael ei wario ers hynny ac rydyn ni'n aros i ragor o waith gael ei wneud."

Y Cynghorydd R Lewis (Abercynon)

"Roedd y 3 phrif ardal yn Abercynon wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd, Heol y Coed, roedd rhan uchaf Nant y Fedw yn gorlifo ac roedd llifogydd ar ran o'r afon yn Rhes yr Afon. Roedd y geuffos wedi gweithio oherwydd bod yr Awdurdod Lleol wedi gwario arian ar fesurau atal llifogydd. Pan fydd trigolion yn cyfeirio at 1975, mae rhai o'r farn nad oes llawer wedi cael ei wneud ers 1975, ein bod ni wedi gwybod am hyn ers dau ddegawd ac mae Storm Dennis wedi agor ein llygaid, ond a ddylen ni wedi buddsoddi mwy yn ein ceuffosydd a'r afonydd. Mae deng mlynedd o gyni wedi bod yn anodd.

Roedden ni wedi sefydlu'r Ganolfan Argyfwng, gyda chymorth trigolion a chefnogaeth busnesau lleol. Roedd trigolion wedi cysylltu â ni ond roedden ni wedi ein gorlethu gan y digwyddiad. Rydw i a'r Cynghorydd E George wedi ysgrifennu at Swyddogion y Cyngor mewn perthynas â'r llifogydd yn Abercynon ac wedi derbyn ymateb yn gyflym. Mae'r mater ynghylch carthu wedi cael ei godi ”

Y Cynghorydd E George (Abercynon)

"Mae gorlifdir naturiol cyferbyn â Rhes yr Afon, a fyddai lefel glannau'r afon gyferbyn yn lleihau'r gorlifdir naturiol?

Y Cynghorydd G Caple (Y Cymer)

“Gorsafoedd Pwmpio - Roedd ward Cwm Rhondda wedi dioddef llifogydd, roedd un (gorsaf pwmpio) yn Nhrehafod wedi gweithio, ond doedd un ddim wedi gweithio yn Britannia. Nododd D?r Cymru fod rhai draeniau a gynhelir gan wasanaethau'r priffyrdd wedi'u rhwystro a bod y geuffos yn gorlifo. Roedd wal yr afon wedi cwympo ac wedi achosi llifogydd. Mae yna ystod eang o gwestiynau.

Ar 16 Chwefror 2020 bu cyfathrebu cyson â CNC a D?r Cymru - canodd y larymau yng ngorsafoedd pwmpio Trehafod a Britannia am 2 y bore. A oes gwersi i'w dysgu o ran sut ymdopodd y gorsafoedd pwmpio?

Wrth symud ymlaen, o ran y seilwaith mewn perthynas â'r gorsafoedd pwmpio, mae'n hanfodol bod pob gr?p yn gweithio gyda'i gilydd ac yn egluro i drigolion pa gamau sy'n mynd i gael eu cymryd i liniaru'r risgiau. Cafodd waliau'r afon eu chwalu, heb unrhyw help nac esboniad, mae angen i drigolion wybod.

Carthu - Cafodd yr afon ei charthu i gyflymu llif y d?r. Mae angen i'r grwpiau ddod at ei gilydd i hysbysu'r cynghorwyr lleol a'r trigolion a phenderfynu ar strategaeth."

Y Cynghorydd K Morgan (Hirwaun)

“Mae hyn yn cynrychioli adborth trigolion a fy adborth fy hun yn ystod y llifogydd ac yn y cyfnod ers hynny.

Dydyn ni ddim yn teimlo ein bod ni wedi cael ein cefnogi gan RCT, roedden ni'n rhwystredig gyda'r galwadau â'r Ganolfan Alwadau ar y noson.  Rydyn ni wedi bod yn galw am y cyfarfod yma ers peth amser a hoffwn i, fel yr aelod lleol, adleisio rhwystredigaethau'r trigolion. Roedd yn rhaid i mi fynd ar ôl fan y Priffyrdd i gasglu bagiau tywod. Yn y Bwrdd Adfer ar ôl Digwyddiadau Mawr mae cyfeiriad at yr effaith ar y cannoedd o eiddo a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd, y difrod i nifer o geuffosydd ac mae CNC yn rhoi sylw i geuffos Afon Cynon a oedd "yn peri perygl i ddiogelwch y cyhoedd ond ar dir preifat".

Roedd yna lifogydd ar hyd Ffordd Y Rhigos yn ardal Rhigos, ac roedd y d?r a oedd yn gorlifo dros ochrau clawdd yr afon Cynon yn glanio ar y ffordd yma hefyd.

Rydw i'n teimlo fel nad ydw i'n cael fy nghefnogi gan fy mod i'n gorfod mynd ar ôl yr holl sefydliadau.

Nid oedd adroddiad CNC yn rhoi chwarae teg i’r digwyddiadau a nododd Prif Weithredwr CNC “Mae'r her yn rhy fawr i un sefydliad allu mynd i'r afael ag ef"

Mae angen Ymchwiliad Annibynnol arnom er mwyn craffu ar yr adroddiadau gan bawb sy'n gyfrifol. ”

Y Cynghorydd P Jarman (Dwyrain Aberpennar)

“Mae CNC wedi dweud bod y llifogydd ym mis Chwefror 2020 yn cynrychioli digwyddiad unwaith mewn cenhedlaeth ac er hynny, mae’r mapiau o'r llifogydd 40 mlynedd yn ôl a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru'r un peth. Cafodd y seilwaith yn Aberpennar ychydig iawn o sylw. Pam bod yna debygrwydd rhwng 1979 a 2020?

Cynllunio a Datblygu mewn gorlifdir - rydw i'n diolch i Mr Evans am ei gyflwyniad - Pa awdurdod sydd gan GNC o ran gwrthwynebu datblygiadau arfaethedig sydd wedi'u gosod ar orlifdiroedd? Mae CNC bob amser yn dweud mai mater i'r awdurdod lleol yw p'un a ydyn nhw'n cael eu caniatáu ai peidio, a oes hawl gyda chi (CNC) i wrthwynebu'n ffurfiol?

Pe byddech chi wedi arddangos y sgiliau i roi rhybuddion ymgilio byddai hi wedi bod yn bosibl lliniaru rhywfaint o'r trallod. O ran y cynllunio ar gyfer y dyfodol yn achos Treorci, Cwm Rhondda a Threherbert, a oes unrhyw aelodau lleol wedi bod ynghlwm â'r broses?

Aberpennar - roedd yr holl waddod a malurion a ddeilliodd o gylfat Nant Ffrwd yn golygu bod dim modd cael mynediad i Aberpennar am ddyddiau. A oedd unrhyw fwriad i hysbysu trigolion bod ymgynghorwyr wedi cael eu cyflogi gan yr awdurdod lleol ynghylch llifogydd Caegarw? Pam na chefais fy hysbysu fel bod modd i mi gydlynu hyn ac annog trigolion i ymgysylltu? ”

 

Beth yw'r broses ar ôl hyn? A fyddwn ni'n trafod y mater yma?

 

Mae gen i bryderon mawr ynghylch diffyg cynllun argyfwng ar gyfer yr Aelodau hynny sydd newydd eu hethol yn 2017. Mae'r cynllun sydd ar y wefan yn deillio o 2011 ac wedi cael ei adolygu, ar 7 Mawrth roedd y cynllun newydd gyda'r Uwch Garfan Rheoli'r wythnos cyn hynny. Nid oes cynllun argyfwng y mae modd dibynnu arno. Doedd neb wedi dweud wrtha i bod yna llifogydd yn Aberpennar, felly sut mae modd i ni gefnogi ein cymunedau? ”

 

Y Cynghorydd A Morgan (Gorllewin Aberpennar)

 

“Yr ymateb - cafodd y ceuffosydd eu llethu yn y ward ac roedd yr afon yn rhedeg trwy'i chanol. Roedd ar raddfa enfawr ond diolch byth nad oedd unrhyw un wedi marw. Roedd swyddogion wedi fy ffonio ac roedden nhw gyda fi rhwng 10pm a 2.30am. Roedd ceir yn cael eu sgubo lawr yr afon ym Mhontypridd. Am 2.24am roeddwn i a Swyddog Cynllunio ar gyfer Argyfwng y Cyngor yn ffonio staff i sicrhau eu bod i gyd yn effro i'r sefyllfa. Erbyn 6am, neu cyn hynny, roedd y rhan fwyaf o'r Uwch Garfan Rheoli a'r Swyddogion Cynllunio ar gyfer Argyfwng eisoes wedi dechrau mynd ati i fynd i'r afael â'r argyfwng.

 

Es i o amgylch y ward i gwrdd â thrigolion. Ni fyddai unrhyw swyddog wedi dod o hyd i'r amser i ffonio nag e-bostio pan ddigwyddodd hyn yn oriau mân y bore ond ymatebodd yr Uwch Garfan Rheoli erbyn 6.30am. Sefydlodd y Cyngor y Bwrdd Adfer ar ôl Digwyddiadau Mawr yn gyflym.

 

Llwyddodd rhai i gysylltu â'r Cyngor er mwyn rhoi gwybod am lifogydd ledled y Fwrdeistref Sirol. Cyrhaeddodd bagiau tywod ond dim ond bryd hynny y sylweddolodd staff eu bod yn delio â digwyddiad mawr. Mae manylion y Gronfa Ffyrdd Cydnerth er mwyn trwsio a diogelu llwybrau trafnidiaeth allweddol ledled RhCT ar gyfer y dyfodol ar gael i'w darllen yn adroddiadau'r Cabinet.

 

Fe wnes i drefnu cyfarfod cyhoeddus yn fy ward, a'i gynnal, a rhannu'r newyddion diweddaraf â thrigolion fy hun. Wedi hynny, gwnes i'r penderfyniad i adael fy ward a gyrru'r jeep 4x4, cymerodd dros awr i gyrraedd Abercynon a doedden ni ddim wedi llwyddo i yrru ar hyd y B4275. Tynnwyd ein sylw at injan dân a oedd yn gofyn am gymorth, roedd cerbyd 7.5 tunnell wedi'i golli mewn d?r dwfn ar yr A4059 a doedd dim modd i'r Gwasanaethau Brys ei gyrraedd. Er i ni drio'n gorau glas, doedd dim modd cyrraedd rhai ardaloedd.

 

Mae angen inni edrych ar ddigwyddiadau ond does dim modd i ni ymateb i drychineb naturiol, sy'n galw am gynlluniau lleol, dealltwriaeth a gweithio mewn partneriaeth.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu popeth y mae'r Cyngor yn ei gyflwyno ond bydd yn mabwysiadu agwedd barhaus. Gwnaeth y staff bopeth o fewn eu gallu ar y diwrnod. ”

 

Y Cynghorydd S Rees-Owen (Pentre)

 

“Gwelais y dinistr. Cefais fy neffro am 3.30am a gwelais y fideos. 

 

Mae adroddiad CNC yn sôn am ddulliau cyfathrebu gwell, doedd ardal Pentre ddim yn dioddef llifogydd cyn torri'r coed. Fe wnaeth trigolion a gwirfoddolwyr helpu.

 

Cyfathrebu a Chymorth - Mae trigolion lleol yn edrych at eu haelodau lleol am gymorth a chefnogaeth. Mae'n anodd eu cefnogi nhw heb feddu ar yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw e.e. negeseuon ar Facebook ynghylch pobl yn derbyn grantiau gwerth £500 a sesiynau er mwyn cwblhau ffurflenni, ond cyn hir, dim ond materion oedd yn gysylltiedig â Covid-19 oedd yn cael eu hadrodd. Roedd rhaid i fi gysylltu am y materion yma ac ymatebion y swyddogion ar ran y trigolion.

 

Roedd bagiau tywod yn brin a dywedodd y Cyngor mai dim ond eiddo a oedd eisoes dan ddwr a oedd yn gallu hawlio bag tywod (doedd dim modd gwneud hyn fel rhagofal). Dyna pryd y camodd iard yr adeiladwyr lleol i mewn i ddarparu tywod a bagiau tywod yn y gymuned. 

Doeddwn i ddim yn ymwybodol bod y Cyngor wedi gwneud y penderfyniad i atal y gwaith casglu nwyddau cartref, cefais wybod bod y gwasanaeth wedi'i dynnu'n ôl, er i Mr Wheeler gasglu'r dodrefn.

 

Rydym wedi dioddef llifogydd ers hynny ac mae pethau wedi gwella. Mae Mr Daniel Hitchings wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl. Pan fydd y rhagolygon tywydd yn sôn am dywydd gwael, rydw i'n holi'r cwestiynau fel bod modd i fi gyfathrebu â thrigolion.

 

A fyddai modd i Mr Owen Griffiths dreulio rhywfaint o amser gyda ni er mwyn mynd trwy'i gyflwyniad power point a gafodd ei wneud yn y cyfarfod?

 

“Yn dilyn adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru nid oes gan drigolion ffydd mewn sefydliadau sy’n ymchwilio i’w hunain, dyna’r rheswm dros alw am Ymchwiliad Annibynnol. Mar llawer iawn o wersi i'w dysgu.” Mae angen gwella sut rydyn ni'n cyfathrebu negeseuon ac yn darparu cymorth. ”

 

Cynghorydd Weaver (Pentre)

 

“Roedd yna geuffos wedi’i rwystro.

 

Rwy'n cysylltu â thrigolion yn rheolaidd i ofyn sut ydyn nhw, maen nhw'n ofni llifogydd arall. Mae gwaith yn parhau i gael ei wneud ac mae angen tawelu meddwl ein trigolion, er mwyn iddyn nhw wybod y bydd eu cartrefi yn fwy diogel, mae drysau amddiffyn rhag llifogydd yn syniad da.

 

Mae angen gwella sut rydyn ni'n cyfathrebu, nid oedd yn dda iawn. Cerddais y strydoedd gyda brechdanau. Roedd Byddin yr Iachawdwriaeth a grwpiau crefyddol eraill wedi helpu.

 

Mae angen i ni roi adborth i'n trigolion. Mae angen cefnogaeth arnyn nhw ac mae angen cefnogaeth ar Gynghorwyr i leddfu'r straen, rydyn ni ar ein pen ein hunain. Does neb yno i fy nghefnogi i er mwyn i mi allu cefnogi eraill."

 

Y Cynghorydd H Fychan (Tref Pontypridd)

 

“Mae pob trigolyn a busnes yn haeddu cael cyfle i ddweud eu dweud.

Yr argymhelliad allweddol y dylai'r pwyllgor yma ei wneud yw y dylid cynnal Ymchwiliad Annibynnol i'r llifogydd. Mewn 5 munud ni allaf wneud cyfiawnder â thystiolaeth yr holl fusnesau a thrigolion a gafodd eu heffeithio yn fy ward, ac nid oes gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu y gallu i ymchwilio na chasglu'r holl dystiolaeth yn llawn.  A hyd yn oed pe bydden ni'n gallu gwneud hynny fel Cyngor, a ydyn ni yn y sefyllfa orau i ymchwilio i'n hunain? 


Fel y cyfeiriodd y Cynghorydd Jarman ato, nid ydyn ni wedi edrych ar pam fod y Cynllun Brys wedi dyddio, a oedd yn fethiant. Dydyn ni ddim wedi derbyn unrhyw hyfforddiant ers y llifogydd, a doedden ni ddim wedi derbyn hyfforddiant cyn hynny chwaith. Yn ogystal â hynny, ni weithredwyd y cynllun fel y dylai fod. Ni fu unrhyw waith craffu ar hyn.

Hefyd, nid wyf erioed wedi derbyn ateb pam y penderfynwyd rhoi rhaglen uwchraddio TG ar waith y penwythnos hwnnw pan oedd swyddogion yn gwybod ein bod ni'n debygol iawn o wynebu digwyddiad difrifol? Doedd dim modd defnyddio'r rhifau cyswllt a'r e-byst ac ati, na chael gwybodaeth am ba gymorth y byddai'r Cyngor yn ei ddarparu i drigolion. Hefyd, pam na fu unrhyw gyfathrebu â'r holl Gynghorwyr? Mae gwersi i'w dysgu, megis neges destun er mwyn rhybuddio Aelodau ac a fyddai'n darparu'r manylion cyswllt perthnasol iddynt yn gyflym. Gall hwn fod yn un neges i bawb. Nid oedd y cyfathrebu'n ddigon da.

Soniodd Mr Owen Griffiths am y gwirfoddolwyr a'r cydlynwyr.  Dwi dal ddim yn si?r bod y Cabinet yn deall pa mor bwysig oedd rôl y gwirfoddolwyr, ac nad oedd y Cyngor yn cydlynu hyn ond yn hytrach y gwirfoddolwyr eu hunain gyda chefnogaeth gennym ni fel Cynghorwyr.  Cysylltais â'r Arweinydd ar 16 Chwefror yn cynnig cydlynu cefnogaeth; gofynnwyd imi beidio â gwneud unrhyw beth am 24 awr ac y byddwn yn derbyn mwy o wybodaeth ar y dydd Mercher, ac na ddylwn i gysylltu â swyddogion y Cyngor. Felly roeddwn i allan yn helpu dioddefwyr llifogydd, ac eto ni chefais unrhyw gefnogaeth na gwybodaeth gan y Cyngor ac roeddwn i'n teimlo fy mod i'n cael fy nhrin fel niwsans, yn hytrach nac yn rhan o'r ymateb. Rhaid bod rhywun ar gael i gyfathrebu â ni. Fe wnaethon ni sefydlu Canolfan Gymunedol gyda'r Cynghorydd Powell a'r Cynghorydd Eleri Griffiths, oni bai am hyn fyddai dim cefnogaeth gydlynol wedi bod i'r rhai yr effeithiwyd arnynt.

Rhaid i mi allu egluro i drigolion a busnesau sut rydyn ni'n mynd i'w hamddiffyn yn y dyfodol a pha wersi rydyn ni wedi'u dysgu er mwyn gwneud hynny. Rydyn ni angen Ymchwiliad Annibynnol. ”

 

Y Cynghorydd T Leyshon (Ward Cwm Rhondda)

 

“Yn Nhrehafod isaf roedd hyd at 4 troedfedd o dd?r mewn rhai cartrefi. Mae'r pympiau newydd wedi cael eu gosod ond nid yw'r trigolion yn teimlo'n hyderus amdanyn nhw. Daeth y systemau rhybuddio a'r systemau larwm ar ôl y llifogydd, mae angen edrych ar hyn. Mae uchder yr afon yn bryder, daeth o fewn modfeddi i ben wal Trehafod. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru arfer carthu'r afon, hoffwn weld y broses hynny'n cael ei hailddechrau.

 

Y trigolion oedd wedi achub y dydd, yn ogystal â'r ganolfan cymuned a oedd wedi agor ei drysau. Roedden ni wedi canfod bod cysylltiad TG yn y ganolfan cymuned, ac roedd hyn yn wych. Roedd hyn wedi gweithio'n dda ac fe wnaethon ni rhoi Ipads i drigolion. ”

Y Cynghorydd E Griffiths (Ward Cwm Rhondda)

 

“Ar ddiwrnod cyntaf y llifogydd, ni lwyddais i gyrraedd Trehafod felly manteisiais ar y cyfle i gefnogi ardaloedd Pontypridd a'r Trallwng. Fe wnes i ddod ar draws Swyddog Tai Cyngor yno a nodais ei manylion cyswllt.  Roedd hyn yn fendith ac yn ffynhonnell cefnogaeth amhrisiadwy pan lwyddais yn ddiweddarach i gyrraedd Trehafod. 

 

Pan gyrhaeddais yno roedd gwirfoddolwyr o'r neuadd gymunedol eisoes wedi sefydlu canolfan gymorth ac wedi bod yn helpu trigolion.  Roeddent yn gweini bwyd ac yn darparu noddfa i bobl.  Gwirfoddolwyr oedd yn gwbl gyfrifol am yr ymdrech gyfan.

 

Roedd disgwyl i mi ateb cwestiynau am wasanaethau'r Cyngor a chynghori pobl a oedd eisiau aros yn eu cartrefi ac eraill a oedd angen llety brys. 

Yn ffodus roedd gen i rif y swyddog tai yr oeddwn wedi siarad â nhw yn gynharach ym Mhontypridd. Ni chefais unrhyw hyfforddiant i ddelio â sefyllfa o'r fath ac roeddwn i a chynghorwyr eraill yn wynebu cryn ddicter gan bobl leol.  

 

Yn fy naïfrwydd roeddwn yn disgwyl y byddai gwasanaethau'r Cyngor ar gael yn fuan ac y byddai gwiriadau lles yn cael eu cynnal ar gyfer pobl yn eu cartrefi.  Ni wnaeth hyn yn digwydd yn Nhrehafod dros y dyddiau canlynol.

 

Un argymhelliad ar gyfer y dyfodol yw y dylid edrych ar gyfathrebu fel bod gwybodaeth yn cael ei rhannu. Roeddwn yn disgwyl y byddai'r Cyngor wedi sefydlu canolfan gymunedol yn gyflym i rannu gwybodaeth yn yr ardal dan dd?r.  Nid ddigwyddodd hyn. Curodd fy hun a chyd-gynghorwyr ar ddrysau i siarad â thrigolion, a oedd yn rhywbeth yr oeddwn i'n credu y dylai fod yn rhan o'r Cynllun Brys - ond nid yw'n rhan o'r cynllun. 

 

Codais hyn gyda'r Cyngor ar y pryd, a gofyn am gyngor ynghylch glanhau cartrefi a oedd â halogiad d?r budr, a chefais gyngor ar lafar.   Wrth i'r dyddiau fynd yn eu blaen, cymerais ran mewn cyfarfodydd yn y ganolfan cymorth a sefydlwyd yn y Trallwng gan y Cynghorydd Fychan a'r Cynghorydd Powell.  Roedd mater hylendid yn bryder i ni i gyd ac roedden ni'n ddibynnol ar wirfoddolwyr a drefnwyd gan y Cynghorydd Powell i helpu i lanhau cartrefi a pharciau.

 

Cefais neges gan D?r Cymru am yr orsaf bwmpio ac roedd yn hygyrch i drigolion drwy gydol y llifogydd ac wedi hynny.

 

Rhaid i mi ganmol y gwirfoddolwyr. Ers hynny, rydw i wedi astudio'r cynllun Achoson Brys nawr, a gwelais ei fod e'n dweud y byddai'r awdurdod yn cydlynu gwirfoddolwyr.  Nid dyma ddigwyddodd ar y pryd, gan fod y gwirfoddolwyr ac aelodau’r gymuned wedi trefnu eu hunain gyda Chynghorwyr yn helpu, heb gydnabyddiaeth a chefnogaeth swyddogol gan yr awdurdod.

 

Mae achos cryf o blaid Ymchwiliad Annibynnol, er mwyn edrych ar rôl y tri sefydliad mawr, a sut mae pawb yn gweithio gyda'i gilydd, gan gynnwys y sector gwirfoddol.   Rydyn ni angen darlun cyffredinol o'r sefyllfa.

 

Y Cynghorydd Webber (Ward Canol Rhydfelen ac Ilan)

 

“O ran sylwadau'r Cynghorydd Fychan a oedd yn nodi nad oedd yw'r Cabinet yn deall, byddwch cystal â pheidio â thybio ein bod ni ddim yn deall.

 

Mae fy ward i wedi wynebu llifogydd droeon dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae llawer o deuluoedd yn rhan o gynllun Tai Newydd, a nhw sy'n gyfrifol am rai o'r tai yn dilyn y llifogydd. Mae angen gosod drysau amddiffyn rhag llifogydd ar nifer o gartrefi/eiddo. Roedd y d?r wedi chwalu wal gynnal yn y ward.

 

Galwodd y Cynghorydd Powderhill draw am 3pm ac erbyn 9pm roedd y ganolfan gymunedol ar agor i deuluoedd ddod â'u plant yn ddiogel. Doedd neb yn disgwyl y bydd eu galwad i'r ganolfan alwadau yn cael ei hateb.

 

Nifer y ceuffosydd sydd yno, mae'r ward nesaf yn dioddef o lifogydd sy'n effeithio ar y bythynnod yn ardal Glan-bad, gan fod cyfeiriad y cwrs d?r yn newid yn y rhan yma o'r afon ond dydw i ddim yn arbenigwr yn y maes yma.

 

Rydyn ni'n cynrychioli ein cymunedau hyd eithaf ein gallu ond mae gwersi i'w dysgu. Mae fy ward i'n lwcus iawn i elwa o'r Cynllun Atal Llifogydd. Roeddwn i wedi prynu megaffon â seiren er mwyn paratoi ar gyfer digwyddiadau o'r fath. Rydw i'n awgrymu bod CNC yn rhybuddio pobl ymlaen llaw gan fod nifer o unigolion yn fy ward i wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd.

 

Mae'n rhaid i fi dalu teyrnged i'r staff, roedden nhw wedi gweithio'n ddiflino ac wedi gwneud eu gorau glas."

 

Y Cynghorydd Bonetto (Ward Ffynnon Taf)

 

“Erbyn i Nantgarw glywed y rhybuddion ei fod dan dd?r, roedd y fflatiau islawr ar Heol Caerdydd dan dd?r.

 

Roedd y gymuned yn wych, roedden nhw wedi sefydlu mannau gwahanol er mwyn dosbarthu dillad a bwyd, a diolch i'r contractwyr a gafodd eu trefnu gan gwmni Griffiths' Construction (Depo Metro Ffynnon Taf)

Doedd dim modd i ni gael mynediad at ardal Nantgarw ar y dydd Sul, yr unig ffordd o adael yr ardal oedd ar ddingi. Mae hyn wedi arwain at drigolion yn teimlo'n bryderus pan fydd hi'n bwrw glaw. Os yw waliau amddiffyn uwch yn cael eu hadeiladu, bydd y broblem ond yn achosi llifogydd yn rhywle arall.

 

Sut alla i dawelu meddwl fy nhrigolion? Mae'r trigolion yn dechrau poeni gyda phob diferyn o law. Diolch i bawb a weithiodd mor galed. ”

 

Y Cynghorydd M Powell (Ward Trallwng)

 

“Cefais fy ethol yn aelod lleol ar gyfer ardal Trallwng ym 1999 ac rydw i'n gwybod bod llawer o leoedd yn cael eu hadeiladu ar orlifdiroedd gyda llifogydd glaw mawr yn peri problem ychwanegol.

 

Ddydd Sul, 16 Chwefror, roeddwn yn sefyll yn Stryd Seion gydag uwch swyddog y Cyngor. Roeddwn i wedi dargyfeirio'r Swyddog Tai i Eglwys Gymunedol Coedpenmaen er mwyn iddo helpu. Roeddwn i'n trefnu cerbyd 4x4 er mwyn helpu i gael pobl allan o'r ardal. Gofynnais i'r Frigâd Dân ddod i achub pâr priod oedrannus. Roedd un trigolyn wedi cwympo â thrawiad ar y galon a bu farw. Doedd dim modd cael y gwasanaethau brys yno i helpu.

 

Mae angen datrys hyn.

 

Gofynnais i fod taflen wedi'i lamineiddio'n cael ei darparu fel bod trigolion y gwybod sut i gysylltu â'r gwasanaethau a'r swyddogion perthnasol. Roedd cerbydau wedi'u gadael y tu fas a heb unrhyw rybudd, roedden nhw wedi cael eu gadael yn y mannau anghywir a doedd dim modd eu symud. Roedd yr Afon Taf yn chwyddo 800 metr ciwbig yr eiliad.

 

Byddaf yn cefnogi'r cynnig am Ymchwiliad Annibynnol. Nid yw'r awdurdod lleol hwn wedi gwneud dim i amddiffyn y bont, sef ein treftadaeth.

 

Agorais i Ganolfan Cymuned Trallwng heb fawr o gymorth gan yr Awdurdod Lleol, hyd at ddiwedd yr wythnos gyntaf, roedden ni wedi defnyddio'r ganolfan am dair wythnos a hanner gan ddosbarthu bwyd i ward Pentre a Rhondda. Rydw i wedi sylwi nad yw Ynys-y-bwl wedi'i gynnwys ar y rhestr heddiw. Roedd ein cymunedau wedi helpu ei gilydd. ”

 

Y Cynghorydd S Powderhill (Ward Trefforest)

 

“Roedd gan ardal Trefforest dri math o lifogydd gwahanol. Roedd swyddogion yn anhygoel a chafodd y ceuffosydd eu clirio'n gyflym. Roedd malurion a gwrthrychau wedi rhwystro Pont Castle Inn ac roedd hyn wedi achosi'r llifogydd ar Heol Caerdydd. Roedd Stryd Niagra a'r strydoedd cyfagos dan dd?r hyd at lawr cyntaf yr eiddo.

 

Roedd ein Swyddogion yn anhygoel, roedd hon yn drychineb Cenedlaethol. Roeddwn i'n gwybod ble i fynd a beth i'w wneud o'r diwrnod cyntaf. Roeddwn i wedi paratoi'r Ganolfan yn y Gymuned y bore hwnnw ac roedd sawl cynghorydd arall wedi gwneud pethau tebyg. Roedd y rhain yn ddigwyddiadau heb eu tebyg.

 

Sut allwn ni leddfu'r llifogydd yn Stryd Niagra, Stryd yr Aifft a Stryd y Nîl? Os ydyn ni'n adeiladu wal llifogydd uwch, bydd y broblem yn symud i ardaloedd Rhydfelen a'r Ddraenen Wen.

 

Edrychaf ymlaen at yr adroddiad adran 19. Hoffwn i ddiolch i'r gymuned, maen nhw'n ddig ond gwnaethon ni waith anhygoel. ”

 

Y Cynghorydd E Webster (Ward Treorci)

 

“Roedd llifogydd mawr yn Stryd Dumfries a lifodd i lawr o Stryd Callum pan fethodd y cwlfert oherwydd malurion o’r cwrs d?r. Efallai bod achos dros ymgyfreitha gan y bu adroddiadau bod strwythurau anghyfreithlon yn cael eu hadeiladu yn y cwrs d?r i fyny'r afon. Nid yw'r cwlfert yn addas i ddelio â'r malurion gormodol. Mae problemau difrifol ac rydym yn gofyn i'r cyngor sicrhau system ddraenio wrth gefn ychwanegol i roi hyder i drigolion.

 

Roedd llifogydd o Stryd Dumfries hyd at y brif stryd a Stag Square ac roedd trigolion yn dal i glirio un o'r ceuffosydd ymhell i'r bore canlynol.

 

Hoffwn ddiolch i Owen Griffiths am edrych ar fesurau ar ochr y mynydd i symud y cwrs d?r y tu ôl i'r fynwent er mwyn sicrhau y bydd llai o dd?r yn dod i mewn i'r system ac yn effeithio ar yr ardal breswyl yn y dyfodol.

 

Swn-Yr-Afon - Roedd wal yr afon wedi erydu ac agorodd llyncdwll gan symud y tir. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Cyngor yn gwrthod mai nhw sy'n gyfrifol, ac yn y cyfamser mae'r twll yn mynd yn fwy.  

 

Y Stryd Fawr - Mae hon wedi dioddef llifogydd dair gwaith yn ystod y 7 mlynedd diwethaf ac ar ôl y llifogydd ym mis Mehefin, asesodd D?r Cymru'r pwmpdy a oedd yn gweithredu o fewn y terfynau, ond ni allai system ddraenio RhCT ymdopi â'r dwr ar y briffordd. Nid yw unrhyw un wedi derbyn mai nhw sy'n gyfrifol ac mae angen i drigolion wybod beth sydd angen cael ei wneud i atal hyn rhag digwydd eto.

 

Mae yna dirfeddiannwyr preifat sydd â thir ar ochr y mynydd, ac yn aml dydy'r lonydd ddim wedi'u mabwysiadau ond fydd y Cyngor ddim yn cymryd cyfrifoldeb am y lonydd yma. Rydw i wedi clirio fy nraeniau i ond mae angen i rywun gymryd cyfrifoldeb am yr asedau yma. Mae d?r sy'n llifo o'r mynydd yn broblem fawr i lawer o'n trigolion ac mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o orfodi'r tirfeddianwyr hyn i sicrhau diogelwch ac uniondeb eiddo cyfagos.

 

Mae'r llinell Gwasanaethau i Aelodau yn wych ond nid yw'n effeithiol o dan yr amgylchiadau yma. Ydy'r llinell yn addas at y diben? "

 

Y Cynghorydd W Jones (Treherbert)

 

“Doedden ni ddim wedi profi unrhyw beth tebyg i bawb arall, ond roedd ymateb y Cyngor yn gyflym iawn. Mae gen i broblemau gyda CNC. Rydyn ni'n byw ar ben y cwm. Mae wal yr afon mewn cyflwr ofnadwy ac roedd y d?r wedi tynnu'r coed a'r rwbel i ffwrdd a'u llusgo lawr y cwm. Rydw i'n gobeithio y bydd CNC yn cymryd cyfrifoldeb am y mater yma. ”

 

Dogfennau ategol: