Agenda item

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod mai pwrpas yr adroddiad yw rhoi cyfle i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu drafod canlyniadau'r ymgynghoriad ar yr opsiynau a ffafrir ar gyfer dyfodol un ar ddeg cartref gofal preswyl ar gyfer pobl h?n ac i gyflawni gwaith cyn y cam craffu ar argymhellion a fydd yn cael eu trafod gan y Cabinet ar 3 Rhagfyr 2020.

Ychwanegodd fod aelodau’r pwyllgor hwn wedi cael cyfle i gyfrannu at y trafodaethau hyn trwy gydol y broses yn ystod ymgynghoriadau blaenorol yn 2018 a 2019 mewn perthynas â dyfodol y Gwasanaethau Cartref Gofal Preswyl y Cyngor ar gyfer Pobl H?n yn y dyfodol. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at bresenoldeb Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau i Oedolion yn y cyfarfod er mwyn ateb unrhyw ymholiadau.

 

Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant at yr adroddiad sy'n gofyn bod y Cabinet yn trafod deilliant yr ymgynghoriad ar yr opsiynau a ffafrir ar gyfer dyfodol yr un ar ddeg cartref gofal preswyl ar gyfer pobl h?n sy'n cael eu rheoli gan y Cyngor ac i wneud argymhellion pellach a fydd yn cynyddu nifer y cartrefi gofal preswyl sy'n cael eu rheoli gan y Cyngor i naw, gan gynnwys Garth Olwg ac Ystrad Fechan ac i ailddatblygu Dan y Mynydd a Bronllwyn er mwyn cwrdd â'r anghenion sydd wedi'u nodi o ran llety â gofal a chymorth ychwanegol a thai gofal ychwanegol. Cadarnhawyd y bydd adroddiad pellach a fydd yn nodi'r gofynion adnewyddu ar gyfer y cyfleusterau hynny yn cael ei gyflwyno maes o law. Roedd y Cyfarwyddwr Cyfadran hefyd wedi cydnabod y cyfle i gyflawni gwaith craffu er mwyn ymateb i ganlyniadau'r ymgynghoriad cyn i'r Cabinet fynd ati i drafod yr argymhellion.

 

Yn dilyn ei gyflwyniad mewn perthynas â'r adroddiad, roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Oedolion a'r Gymraeg wedi rhoi gwybod ei fod ef wedi bod yn bresennol er mwyn gwrando ar sylwadau'r pwyllgor craffu ac adlewyrchu ar yr adborth cyn cyfarfod y Cabinet ar 3 Rhagfyr.

 

Cafodd Ms Tritschler a Ms Corre o'r Gr?p Cynghori Pobl H?n gyfle i annerch y Pwyllgor gan gyflwyno sawl sylw megis sut bydd y gwasanaethau oriau dydd i bobl ag anableddau dysgu/awtistiaeth a phobl h?n sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd ar y safleoedd yma yn parhau a sut i wahaniaethu rhwng anghenion cymhleth ac anghenion safonol?

 

Roedden nhw wedi cydnabod y gwaith caled sydd wedi cael ei fuddsoddi yn y broses ymgynghori a'r adroddiadau hyd yn hyn ac yn edrych ymlaen yn arw at ddatblygiad y Tai Gofal Ychwanegol ym Mhontypridd.

 

Wrth ymateb i'r ymholiadau ynghylch gwasanaethau oriau dydd ym Mronllwyn a Dan y Mynydd ac fel sydd wedi'i bennu yn yr adroddiad, cadarnhawyd y bydd gwaith ailddatblygu'r ddau safle yn gofyn am ailddosbarthu'r gwasanaethau oriau dydd/awtistiaeth a'r gwasanaethau oriau dydd i bobl h?n sy'n cael eu darparu yn y safleoedd hyn a byddai'r Cabinet yn derbyn adroddiadau pellach sy'n pennu cynigion ar gyfer y gwasanaethau oriau dydd diwygiedig fel sydd wedi'u hadlewyrchu yn yr argymhellion.

 

Cafodd Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gyfle i ofyn cwestiynau a chodi ymholiadau fel a ganlyn:-

 

Gofynnodd un Aelod a oedd y datblygiad Gofal Ychwanegol arfaethedig yn Nh? Bronwydd ac Aberpennar yn rhan o'r gwaith cynllunio ymlaen llaw ar gyfer agenda'r Cyngor a chafodd cwestiwn ei ofyn mewn perthynas â'r dyddiad sydd ar y cynlluniau yn yr atodiadau sy'n gysylltiedig â'r adroddiad, sy'n nodi Chwefror 2020, a p'un a yw'r methiant i ddatblygu T? Bronwydd wedi arwain at wneud penderfyniad ar ddyfodol Bronllwyn.

Roedd y Cyfarwyddwr Cyfadran a Chyfarwyddwyr y Gwasanaethau i Oedolion wedi ymateb i'r ymholiad gan esbonio bod nifer o safleoedd wedi cael eu nodi yn 2017, gan gynnwys edrych ar gyfleusterau'n agos at ganol trefi er y bydd opsiynau eraill yn cael eu hystyried ar sail modelau costau. Roedd Dan y Mynydd wedi rhoi cyfle i'r Cyngor greu cyfleuster yn ardal Porth ac yn cynrychioli safle mwy priodol na safle T? Bronwydd er mwyn datblygu'r cyfleuster.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Oedolion y byddai ymateb ynghylch dyddiad y cynlluniau sydd wedi'u henwi uchod yn cael eu rhannu â'r aelod o'r pwyllgor.

 

Wrth ymateb i'r ymholiad ynghylch a yw'r cynigion yn gynaliadwy ac yn cynrychioli dewis ymarferol ar gyfer y dyfodol o safbwynt ariannol ac o safbwynt adnoddau dynol, cadarnhawyd bod y cynlluniau'n gynaliadwy o safbwynt ariannol a byddai'r Cyngor yn darparu'r gofal a chymorth ar y safle pe byddai'r Cabinet yn cymeradwyo'r argymhellion.

 

O ran a yw'r 203 o leoedd gwag mewn cartrefi gofal yn nifer realistig neu wedi codi o ganlyniad i deuluoedd yn dewis peidio â rhoi aelod h?n o'r teulu mewn cartref gofal oherwydd Covid-19, nododd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant er bod Covid-19 wedi cael effaith ar nifer y lleoedd sydd ar gael, mae'r duedd yn dangos bod nifer o leoedd wedi bod ar gael yn y cartrefi yma ers peth amser felly mae'n werth canolbwyntio ar ofal cymhleth, datblygu'r Model Gofal Ychwanegol fel dull amgen a gwneud defnydd gwell o'r sector annibynnol, lle bo angen.

 

O ran gostwng y terfyn oedran ar gyfer y rheiny ag anghenion cymhleth, awgrymodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod y cyfleusterau yn cael eu hystyried fel darpariaeth ar gyfer pobl h?n ac yn adlewyrchu anghenion pobl h?n, er bod yna mwy o hyblygrwydd erbyn hyn o ran derbyn unigolion i gartrefi, yn enwedig yn rhan o'r model Gofal Ychwanegol.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod gwaith rheoli'r farchnad yn ofyniad rhanbarthol felly buont yn gweithio gyda'n cydweithwyr yng Nghwm Taf i nodi ym mhle mae'r galw. Mae yna Ddatganiad o Sefyllfa'r Farchnad Ranbarthol ac mae Cynllun Comisiynu yn cael ei ddatblygu a fydd yn nodi meysydd risg megis y rheiny sydd angen gofal nyrsio â gofal dementia na all y cyngor eu darparu felly anogir cydweithwyr gofal preifat i ymgymryd â'r maes gofal hwn. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr fod gan y Cyngor berthynas dda gyda darparwyr allanol er mwyn sicrhau bod y ffioedd yn rhesymol ac yn deg. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cyfadran y bydd anghenion staffio ar gyfer Dan y Mynydd yn cael eu rheoli'n fewnol a bod staff eisoes ar gael ac yn mynd i gael eu trosglwyddo i'r cyfleuster.

 

Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Oedolion fod y model ffioedd yn cael eu hadolygu ar gyfer y flwyddyn nesaf ac mae'r wybodaeth yn cael ei rhannu â'r darparwyr. Mae trafodaethau ar y gweill gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â darparu Cronfa Galedi i gefnogi Cartrefi Gofal a darparwyr eraill trwy gynnig taliadau ychwanegol yn ystod y pandemig a fydd yn cefnogi staff ac yn ariannu cyfleusterau. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod £3.5miliwn ychwanegol wedi cael ei ddarparu i Ddarparwyr Gofal Cartref ers mis Mawrth 2020 o ganlyniad i'r Gronfa Galedi, sy'n cynnig rhywfaint o gynaliadwyedd.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cyfadran y bydd y Cyngor yn gyfrifol am sicrhau staff yn y cyfleusterau Gofal Ychwanegol mwy, megis ym Mhontypridd a'r Porth, ond bydd darparwyr gofal cartref yn gyfrifol yn y cyfleusterau llai. Mae gan y Cyngor bartneriaeth gyda'r Darparwr ym Maes-y-Ffynnon. Y Cyngor yw'r comisiynwyr o hyd, felly'r Cyngor sydd â'r cyfrifoldeb pennaf wrth sicrhau presenoldeb cryf yr Awdurdod Lleol yn y cyfleusterau hynny sy'n cael eu rheoli gan y Cyngor.

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Oedolion wybod bod gan y cynllun ym Mhontypridd Ganolfan Oriau Dydd yn y cyfleuster, ac mae gan y Cyngor yr holl hawliau enwebu ar gyfer y Ganolfan. Mae modd integreiddio'r cyfleuster Gofal Ychwanegol gyda chynlluniau oriau dydd y gymuned leol. Bydd darparwyr tai a staff gofal yn cael eu hannog i gefnogi swyddogaethau a gweithgareddau ar gyfer y rheiny sy'n byw yn y cynllun a'r gymuned leol. Ychwanegodd fod y Cyngor yn gyfrifol am fonitro cytundebau, sy'n bwysig wrth sicrhau ansawdd y gwasanaethau sy'n cael eu darparu. Ond, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr hefyd at Uned Datblygu'r Gweithlu Ranbarthol y Cyngor sydd hefyd yn darparu hyfforddiant i'r sector annibynnol, weithiau ar y cyd â staff y cyngor, a chyfleoedd dysgu ar draws darparwyr. Caiff enghreifftiau o arfer da a dysgu eu rhannu ar draws y sectorau.

 

Cafwyd ymateb i ymholiad mewn perthynas â'r ddarpariaeth ym Mronllwyn a sut mae hynny yn wahanol i'r hyn a oedd yn cael ei ddarparu yn lleoliad Bryn y Jones.

 

Roedd sawl aelod o'r pwyllgor wedi canmol yr adroddiad gan gydnabod bod y cynigion yn cynnig datrysiadau y mae modd eu haddasu ar gyfer poblogaeth h?n sy'n tyfu.  Yn enwedig gan fod y cyfleuster Gofal Ychwanegol yn cynnig llety i barau ac mae modd addasu'r cyfleuster er mwyn diwallu'u hanghenion wrth iddyn nhw fynd yn h?n. Roedd Aelodau hefyd wedi canmol y broses ymgynghori a oedd wedi gwrando ar ddymuniadau ac anghenion trigolion lleol ac yn ystyried yr heriau sydd wedi'u rhagweld.

 

Dywedodd aelod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ei bod wedi pleidleisio o blaid y cynnig a gafodd ei golli ar 22 Gorffennaf 2019 “… bod y Cabinet yn cadw’r lefel bresennol o ddarpariaeth gofal preswyl”. Pryd hynny, y dewis a oedd yn cael ei ffafrio gan y Cabinet oedd cadw 7 a datgomisiynu pedwar arall, heddiw mae’r pwyllgor yn craffu ar gynnig i gadw 9 cartref sy’n dangos bod barn y cyhoedd yn arwain yr agenda, gan lunio dadl gref dros eu cadw. Ychwanegodd yr Aelod na fydd y newid yma'n cael ei wireddu os nad yw'r cyllid ar gael er mwyn ei gyflawni.

 

I gloi, cafodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar faterion Iechyd a Lles gyfle i siarad am y cynigion a'r argymhellion drwy groesawu'r adroddiad cynhwysfawr sy'n hyrwyddo cyfleoedd byw'n annibynnol yn y cartref ar gyfer preswylwyr fel bod modd diwallu anghenion cymhleth.  Roedd ef hefyd wedi cydnabod gwerth y broses ymgynghori, gan nodi pa mor fanwl oedd y broses, sydd wedi arwain at gyfres o gynigion teilwng.

 

Ar ôl trafod yr argymhellion, PENDERFYNWYD:

 

1.       Cydnabod y cyfle i gyflawni gwaith cyn y cam craffu ar gynnwys yr Adroddiad i'r Cabinet sydd wedi'i atodi, cyn i'r Cabinet ei drafod;

2.       Gofyn i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu gyflwyno adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu sy'n cynnwys sylwadau, arsylwadau a/neu argymhellion y Pwyllgor i'r Cabinet sydd i fod i drafod y mater yma ar 3 Rhagfyr 2020; a

3.       Parhau i dderbyn y newyddion diweddaraf yngl?n â'r cynnydd sydd wedi'i wneud ar y mater a lle bo angen, rhoi adborth i'r Cabinet i sicrhau bod y Pwyllgor Craffu yn parhau i gyfrannu at y cynigion.

 

Dogfennau ategol: