Agenda item

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n nodi gofynion y Cynllun Datblygu Strategol (SDP) a'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (CDLl) mewn perthynas â pholisïau ac ymrwymiadau i leihau'r Ôl-troed Carbon.

 

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu'r adroddiad i'r Gr?p Llywio, a oedd yn nodi'r hyn y mae'n ofynnol i'r Cynllun Datblygu Strategol (CDS) a'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (CDLl) fynd i'r afael â hwy o ran polisïau ac ymrwymiadau i leihau ein hôl troed carbon; a'r cyfleoedd a fyddai'n cyflwyno'u hunain wrth baratoi a llunio'r cynlluniau hyn, (yn enwedig o safbwynt y CDLl), i ehangu ar y gofynion safonol hyn o safbwynt RhCT.   

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at Adran 6 yr adroddiad ac eglurodd fod nifer o feysydd y gellir ymchwilio ymhellach iddynt mewn perthynas â Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon; dylid hefyd ystyried cynnwys y meysydd hyn yn yr adroddiad. Awgrymodd y Cyfarwyddwr y cwestiynau canlynol i'w hystyried ymhellach gan y Gr?p:

·         Pa ganran o leoedd parcio ceir ddylai fod â phwyntiau gwefru mewn datblygiadau dibreswyl newydd?

·         A ddylai fod polisi tebyg ar gyfer datblygiadau preswyl newydd?

·         A ddylai pob cartref newydd yn RhCT fod yn adeiladau carbon sero?

·         Beth yw rôl ucheldiroedd RhCT wrth frwydro yn erbyn Newid Hinsawdd?

·         Beth yw barn y gr?p ar ddwysedd y datblygiad o amgylch nodau'r Metro a pholisïau di-gar ar ddatblygiadau newydd?

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad a chydnabod faint o waith a wnaed i baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig. Cydnabu'r Cadeirydd uchelgais Llywodraeth Cymru i Gymru ddod yn Net Sero erbyn 2050 a'r mentrau cadarnhaol eraill fel Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Metro De Cymru, teithio cynaliadwy a ffyrdd cynaliadwy o greu cyflogaeth.

 

Cwestiynodd y Cynrychiolydd Allanol p'un ai’r bwriad oedd datblygu Strategaeth Newid Hinsawdd ehangach ar gyfer yr Awdurdod Lleol, a allai gyd-fynd â gwaith y CDLl diwygiedig. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai Strategaeth Newid Hinsawdd yn cael ei datblygu, yn dilyn ystyriaeth y Gr?p o amrywiol adroddiadau allweddol mewn perthynas â phynciau fel trafnidiaeth, tai, bioamrywiaeth, plastigau ac ynni. Roedd y Prif Weithredwr yn gobeithio cyflwyno drafft cychwynnol y Strategaeth i'r Gr?p Llywio yn y Flwyddyn Newydd yn barod i ymgysylltu â'r gymuned ehangach.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr y byddai'r CDLl yn gweithredu fel mynegiant defnydd tir o ddyheadau'r Cyngor, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd a lleihau carbon, sy'n sicrhau bod elfennau allweddol yn cael eu dyrannu. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at argymhelliad y Gr?p am Fawndiroedd yn yr adroddiad blaenorol ar Asedau Natur ac eglurodd y gellid dyrannu'r meysydd blaenoriaeth a nodwyd yn y CDLl diwygiedig.

 

Hysbysodd y Dirprwy Arweinydd y Gr?p Llywio bod pwyntiau gwefru cerbydau trydanol wedi'u gosod ym maes parcio Tesco a nododd y gallai'r CDLl weithredu fel dogfen berswadiol i ddatblygwyr ystyried opsiynau ecogyfeillgar yn y dyfodol.

 

Ychwanegodd y Cadeirydd fod Rhanbarth y Ddinas wedi cytuno ar gyllid ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydanol ar gyfer gwasanaethau tacsi a chludiant yn y lle cyntaf; a nododd fod swyddogion yn cynnal ymarfer i edrych ar feysydd parcio'r Cyngor i ystyried unrhyw gyfleoedd i osod pwyntiau gwefru.

 

Nid oedd un Aelod yn cytuno â'r rhagdybiaeth y gellid cynnal y ffordd bresennol o fyw, trwy newid i drydan yn unig, ac roedd o'r farn nad oedd digon o ynni ar gael i bweru'r fflyd gyfredol o gerbydau. Siaradodd yr Aelod am y gost ynni ar gyfartaledd o ran cynhyrchu car, yn ychwanegol at y gost barhaus o ran ynni i gynnal y cerbyd.

 

Cydnabu’r Cynrychiolydd Allanol farn yr Aelod ac ychwanegodd y dylid rhoi pwyslais ehangach ar wella trafnidiaeth gyhoeddus a lleihau’r angen i deithio.

 

Nododd un Aelod gyflymder datblygu technoleg a theimlai y byddai'n ddoeth symud ymlaen ar gyflymder cyson.

 

PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd:

1.    I gyflwyno sylwadau ar y materion a godwyd yn yr adroddiad hwn, ac yn benodol y pwyntiau trafod a nodir ym mharagraffau 6.9 i 6.15; a

2.    Bod adborth a sylwadau'r Gr?p Llywio yn cael eu hadrodd i'r Cabinet i'w hystyried

 

(Nodwch: Ar y pwynt yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber y cyfarfod.)

 

 

Dogfennau ategol: