Agenda item

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, sy'n rhoi cyfle i'r Gr?p Llywio drafod materion sy'n ymwneud ag Asedau Naturiol a'r argyfyngau o ran yr hinsawdd a bioamrywiaeth.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Ecolegydd y Cyngor adroddiad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd, a oedd yn darparu gwybodaeth ar faterion yn ymwneud ag Asedau Natur a'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr wybodaeth ac roedd ganddo ddiddordeb i nodi'r cyfleoedd i wneud y mwyaf o storio carbon trwy'r asedau naturiol, gan nodi bod RhCT yn ddigon ffodus i gael llu o fioamrywiaeth ar ei stepen drws.

 

Soniodd y Dirprwy Arweinydd am Gr?p Cymunedol lleol, a blannodd 5000 o fylbiau yn lleol yn ystod y flwyddyn flaenorol. Esboniodd yr Aelod o'r Cabinet fod y Gr?p wedi nodi buddion plannu'r bylbiau ac wedi adfywio'r ddaear yn llwyddiannus i ddod â'r blodau gwyllt naturiol, a oedd gynt yn segur, yn eu holau. Serch hynny, soniodd yr Aelod o'r Cabinet am bwysigrwydd sicrhau bod unrhyw goed a blannwyd mewn ardaloedd penodol yn hylaw ac nad ydynt yn effeithio ar y cwrs d?r. Aeth y Dirprwy Arweinydd ymlaen i bwysleisio'r angen i ymgysylltu â'r gymuned a gyda ffermwyr lleol.

 

Adleisiodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth sylwadau’r Dirprwy Arweinydd o ran cyfathrebu ac ymgysylltu â’r gymuned. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi bod adrannau mewnol y Cyngor, fel Iechyd yr Amgylchedd, yr adran Gynllunio a'r adran Addysg, wedi cydweithio'n dda.

 

Roedd gan un Aelod ddiddordeb arbennig yn adfywiad naturiol y coetir. Cododd yr Aelod bryderon mewn perthynas â'r difrod a achoswyd i goed ifainc gan danau mynydd a holodd a oedd mesurau lliniaru ar waith i'w hatal. Dywedodd y swyddog wrth yr Aelod am y dull gweithredu ‘Healthy Hillsides Project’, sy'n sicrhau rheoli cadwraeth/pori cadwraeth mewn ardaloedd nad ydynt yn destun problemau tanau gwyllt, er mwyn cynnal y rhedyn a hyrwyddo blodau gwyllt, bywyd gwyllt ac adfywio coetir.

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd addysg a soniodd am yr ymgyrchoedd proffil uchel sy'n cynnwys y gwasanaeth tân a'r heddlu, a oedd yn ceisio addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd llethrau'r bryniau a'i fywyd gwyllt. Ar ben hynny, roedd y Cadeirydd yn falch o nodi bod potensial i Swyddog Graddedig a Phrentis weithio ochr yn ochr ag Ecolegydd y Cyngor.

 

Adleisiodd y Cynrychiolydd Allanol sylwadau cynharach mewn perthynas â chynnwys y gymuned a chwestiynu pa ardaloedd yn RhCT a nodwyd ar gyfer gerddi glaw. Dywedodd y swyddog mai'r ardd law a ddatblygwyd ar Mill Street, Pontypridd oedd y cyntaf i gael ei nodi fel safle problemus a'i chymeradwyo i'w hariannu. Dywedodd y swyddog y byddai Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn i ddod i ddyrannu cyllid ar gyfer Gwyrddni Trefol ac, o'r herwydd, byddai safleoedd newydd yn cael eu nodi. Esboniwyd hefyd bod swyddogion yn gyfrifol am ymgorffori seilwaith gwyrdd yn y  cynlluniau nodweddion draenio cynaliadwy.

 

Cydnabu’r Cynrychiolydd Allanol y gwaith a wnaed i wneud y mwyaf o storio carbon naturiol trwy adfer corsydd mawn ar dir cyhoeddus a holodd a oedd cynlluniau tebyg ar gyfer tir dan berchnogaeth breifat. Dywedodd y swyddog fod cyngor a chefnogaeth yn cael ei ddarparu i berchnogion tir preifat trwy'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth a'r Cynllun Natur Lleol newydd ond oherwydd costau a diffyg cyllid, ni allai'r Awdurdod Lleol gyflawni'r gwaith. Yn ogystal, hysbysodd y swyddog y Gr?p bod y ffocws ar dir cyhoeddus yn rhoi sicrwydd o gyflawni canlyniadau ac arfer gorau.

 

Soniodd Aelod arall am y draeniad yn Nhomen Albion, Cilfynydd, a oedd wedi newid yn sylweddol dros y degawd diwethaf ac o ganlyniad, wedi effeithio ar y tir fferm i'r gogledd. Cwestiynodd yr Aelod a fyddai'n briodol cysylltu â ffermwyr lleol i'w cynnwys mewn unrhyw gynllun o'r fath. Cydnabu’r swyddog fod llawer o safleoedd wedi mynd yn wlypach dros y blynyddoedd, a hynny o bosibl oherwydd y newid yn yr hinsawdd. O ran gweithio gyda pherchnogion tir trydydd parti, awgrymodd y swyddog y dylai'r Awdurdod Lleol brofi ei fodel yn gyntaf ar dir sy'n eiddo cyhoeddus cyn symud ymlaen.

 

Yn dilyn nifer y cwestiynau mewn perthynas â draenio, argymhellodd y Cadeirydd y dylid cyflwyno adroddiad i gyfarfod yn y dyfodol o Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd, sy'n darparu gwybodaeth mewn perthynas â'r gwaith a wneir yn y dalgylchoedd d?r, lliniaru, cylfatiau, defnydd tir, plannu coed a pherthynas yr Awdurdod Lleol â CNC.

 

Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylai gomisiynu adolygiad i'w gynnal gan Gyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor ac Ecolegydd y Cyngor i nodi'r safleoedd hynny sydd fwyaf addas ar gyfer adfer mawnog ar dir sy'n eiddo i'r Awdurdod Lleol a CNC. Byddai'r adolygiad yn cynnwys nodi'r meysydd blaenoriaeth a'r goblygiadau cost, er mwyn cyflwyno adroddiad yn ôl i'r Gr?p Llywio o'r canfyddiadau i'w ystyried. Pwysleisiodd y Prif Weithredwr bwysigrwydd cynllunio ymlaen llaw, pe bai'r Cabinet yn cytuno i neilltuo arian o fewn y gyllideb Gyfalaf.

 

PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd

1.    Wneud sylwadau ar y materion a godwyd yn yr adroddiad hwn;

2.    Bod Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor ac Ecolegydd y Cyngor yn cynnal adolygiad o'r tir sy'n eiddo cyhoeddus, i nodi'r safleoedd hynny sydd fwyaf addas ar gyfer adfer mawnog a'r goblygiadau cost; gydag adroddiad wedi'i gyflwyno yn ôl i'r Gr?p Llywio ei drafod.

3.    Bod adborth a sylwadau Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd yn cael eu hadrodd i'r Cabinet.

 

 

Dogfennau ategol: