Agenda item

Trafod y blaengynlluniau drafft o ran Busnes arfaethedig y Cabinet a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/2021.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, ei adroddiad er mwyn rhoi rhaglen waith i Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/21.

 

Gofynnwyd i Aelodau drafod pynciau craffu a nodwyd yn y rhaglen waith 3 mis cychwynnol a oedd yn canolbwyntio ar ymateb y Cyngor i COVID-19 a'i waith adfer.

 

Hefyd, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, wybod i Aelodau efallai y bydd angen bod yn hyblyg gyda'r Blaenraglen Waith dros y tri mis nesaf er mwyn ystyried Bil Setliad Llywodraeth Leol. Cafodd Aelodau eu hatgoffa y bydd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Cydbwyllgor Corfforaethol yn dod i ben ym mis Ionawr, a bydd angen ystyried hyn yn rhan o'r Rhaglen Waith.

 

Rhoddodd y Cadeirydd, y Cynghorydd M. Adams, wybod i Aelodau y bydd cyfarfod y Gr?p Llywio i Aelodau'r Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei gynnal cyn bo hir, ac y bydd argymhellion yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu maes o law.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Webber yr angen i fod yn hyblyg wrth gyflawni gwaith craffu a dymunodd gofnodi ei chydymdeimlad dwysaf i ddioddefwyr y llifogydd yn RhCT, yn ogystal â'i diolchgarwch i bob Cynghorydd am eu gwaith caled yn ystod digwyddiad heb ei debyg.

 

Holodd y Cynghorydd Brencher a fyddai goblygiadau Brexit yn eitem ar agenda'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, wybod i Aelodau mai penderfyniad Aelodau'r Pwyllgor yw hyn. Aeth y Cadeirydd ati i atgoffa Aelodau mai dyma'r Rhaglen Waith ar gyfer y 3 mis cychwynnol yn unig, a bydd hi'n anodd cynnwys hyn yn y Blaenraglen Waith nes bod y manylion mewn perthynas â Brexit yn glir. Cytunodd Aelodau â'r cynnig yma.

 

Nododd y Cynghorydd Jarman ei bod hi'n cytuno o ran cael rhaglen waith hyblyg. Serch hynny, mynegodd y Cynghorydd Jarman ei bod hi wedi siomi na chafodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gyfle i gyflawni gwaith cyn y cam craffu ar adroddiad y Cabinet o'r enw '’Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif – Model Buddsoddi Cydfuddiannol’ – a gafodd ei drafod yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi. Holodd y Cynghorydd Jarman pam nad oedd eitem mor bwysig wedi'i chynnwys fel eitem ar ei phen ei hun yn rhan o Flaenraglen Waith y Cabinet ac felly heb gael ei thrafod gan Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod i'r Aelodau bod gan y Cyngor dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymateb, fodd bynnag, nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ei bod hi'n bosibl y bydd modd nodi'r model newydd ar gyfer gwaith cyn y cam craffu yn y dyfodol. Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod amserlenni wedi bod yn dynn iawn, yn enwedig o ran gofynion Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, pwysleisiodd ein bod ni'n parhau i fod yn y camau cynnar iawn ac y bydd nifer o adroddiadau yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet yn y dyfodol gan gynnig cyfle i'r Pwyllgor Craffu gyfrannu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jarman mai prif bwrpas yr adroddiad oedd i Gyngor RhCT llunio cytundeb Partneriaeth Strategol gyda Llywodraeth Cymru a bod hwn yn newid sylweddol i'r ffordd y bydd ysgolion yn RhCT yn cael eu hariannu. Pwysleisiodd y Cynghorydd Jarman ei phryderon bod model newydd o gyllid wedi'i gytuno heb geisio cymeradwyaeth yr Aelodau Etholedig. Esboniodd y Cadeirydd y bydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael cyfle i gyfrannu at y drafodaeth, pan fydd cyllid ar gael. 

 

Cynhaliwyd trafodaeth a nododd Mr Fish, Cynrychiolydd Rhieni/Llywodraethwyr, ei fod yn cytuno gyda'r Cynghorydd Jarman gan fynegi ei bryderon ar ran y Pwyllgor Craffu ar Faterion Plant a Phobl Ifainc. Gofynnodd Mr Fish am eglurhad pellach o ran a fydd cyfle i gyflawni gwaith trawsbynciol ar draws y Pwyllgorau Craffu, yn enwedig mewn perthynas â COVID a materion addysg.  Cytunodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu fod hwn yn ddull pwysig, fodd bynnag, pwysleisiodd ei bod hi'n bwysig nad ydyn ni'n dyblygu unrhyw waith.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cydnabod cynnwys y Rhaglen Waith Trosolwg a Chraffu arfaethedig ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/21 (Hydref - Rhagfyr 2020), sef Atodiad 1 yn yr adroddiad yma.

 

 

Dogfennau ategol: