Agenda item

Trafod effaith llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn ystod 2020.

 

 

 

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd y byddai'r cyfarfod yn dilyn trefn wahanol i'r hynny sydd wedi'i nodi yn yr agenda. Bydd eitem 4 yn cael ei thrafod yn gyntaf ac yna eitem 3.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a

Chyfathrebuei adroddiad mewn perthynas ag effaith y llifogydd yn RhCT yn

ystod 2020. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethwybod i'r Aelodau mai

pwrpas yr adroddiad yw rhoi cyfle i Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu drafod

yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r llifogydd difrifol a ddigwyddodd ar draws y

Fwrdeistref Sirol yn ystod 2020. Cafodd yr aelodau'u hatgoffa bod y broses hon

hefyd yn rhoi cyfle iddyn nhw gyfrannu at waith datblygu gofynion adrodd

statudol gan y Cyngor (yn rhan o'i rôl fel yr awdurdod rheoli llifogydd).

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y broses yn cynnig mecanwaith er mwyn ceisio barn yr Aelodau Etholedig hynny sy'n gyfrifol am yr adrannau etholiadol a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd yma.

 

Aeth Rheolwr Perygl Llifogydd, D?r a Thomenni ymlaen i roi cyflwyniad i Aelodau mewn perthynas ag effaith Storm Dennis ac i rannu manylion am ymateb a gwaith adfer y Cyngor. Rhoddodd y swyddog gyflwyniad sy'n mynd i'r afael â'r materion canlynol;

 

  • Storm Dennis;
  • Paratoi Digwyddiad;
  • Effaith y Digwyddiad; ac,
  • Ymateb ac Adfer

 

Yn dilyn y cyflwyniad, dymunodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A. Morgan, ddiolch i'r swyddog am rannu cyflwyniad manwl gan gydnabod effaith fawr Storm Dennis ar gymunedau RhCT. Aeth yr Arweinydd ati i gydnabod bod digwyddiadau fel hyn yn mynd yn fwy difrifol a diolchodd i swyddogion y Cyngor a’r uwch garfan arwain am eu gwaith caled a’u hymroddiad yn ystod amser hynod heriol. Rhoddodd yr Arweinydd wybod i'r Aelodau bod y Cyngor wedi prynu adnoddau ychwanegol cyn Storm Dennis, fodd bynnag, roedd maint y storm yn ddigynsail. Roedd yr Arweinydd yn dymuno cydnabod cyfranogiad y gymuned, gan ddiolch i'r holl breswylwyr am eu cymorth yn ystod y broses adfer. O ran yr ymateb ariannol, cafodd Aelodau wybod bod y Cyngor wedi derbyn £2.5miliwn gan y gronfa cymorth brys yn yr achos gyntaf. Cafodd oddeutu £2miliwn o adnoddau'r Cyngor eu defnyddio (roedd £800,000 o'r swm yma'n gysylltiedig â'r grantiau a roddwyd i ddeiliaid tai a busnesau). Cadarnhaodd yr Arweinydd hefyd fod y Cyngor wedi derbyn llythyr gan Lywodraeth Cymru yn tanysgrifennu hyd at £6.5miliwn tuag at gostau trwsio seilwaith a ddifrodwyd a phwysleisiwyd bod Llywodraeth Cymru yn dal i apelio am arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU. Ar ben hynny, cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cyngor hefyd wedi sicrhau £2.5miliwn gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith yn ardal Tylorstown. Cafodd Aelodau'r Pwyllgor wybod hefyd y bydd gwaith trwsio'r difrod ar draws y Fwrdeistref Sirol yn costio tua £82.5miliwn a bydd y Cyngor yn parhau i apelio i Lywodraeth y DU am adnoddau ychwanegol.

 

Yn dilyn diweddariad gan Arweinydd y Cyngor, cafodd Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau. I gychwyn, dymunodd y Cadeirydd longyfarch Cyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen ar ran Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar ennill Medal yr Ymerodraeth Brydeinig ar Restr Anrhydeddau'r Frenhines. Estynnodd y Cyfarwyddwr Cyfadran ddiolch i'r Cadeirydd gan bwysleisio y bydd y gwaith caled yn parhau mewn perthynas â'r gwaith adfer yn dilyn Storm Dennis.

 

Yn dilyn trafodaeth, croesawodd y Cadeirydd Mr Michael Evans o Gyfoeth Naturiol Cymru. Cadarnhaodd Mr Evans fod gan CNC gyfres o adroddiadau pwysig i'w rhyddhau, sy'n rhoi sylw arbennig i'r gwersi a ddysgwyd. Pwysleisiodd Mr Evans mai Chwefror 2020 oedd y mis mwyaf gwlyb a gofnodwyd erioed ac roedd bron i bedair gwaith y glawiad misol wedi cwympo yn ystod y mis. Roedd Mr Evans yn dymuno nodi ei gydymdeimlad â'r rheiny a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd a'u teuluoedd. Pwysleisiodd Mr Evans ddifrifoldeb a natur ddigynsail Storm Dennis. Pwysleisiodd na fyddai'r asedau sydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru wedi gallu ymdopi â'r llifogydd yma. Cafodd yr Aelodau wybod bod yr adroddiadau yma dal heb eu cyhoeddi ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cwrdd ag Uwch Swyddogion y Cyngor a byddan nhw'n cael eu cyhoeddi cyn bo hir. Yn anffodus, roedd Mr Evans wedi cydnabod ei bod hi'n debygol y bydd digwyddiadau tebyg yn digwydd yn fwy aml yn y dyfodol oherwydd newid yn yr hinsawdd, er bod y digwyddiad yma'n ddigynsail. Roedd Mr Evans wedi dymuno diolch i staff y Cyngor am weithio mewn partneriaeth yn ystod Storm Dennis. Pwysleisiodd ei fod yn gobeithio parhau gyda'r bartneriaeth yma yn y dyfodol.

 

Cynhaliwyd trafodaethau a gofynnodd y Cadeirydd a oedd CNC neu'r Cyngor wedi cyfathrebu â chwmnïau yswiriant i drafod mesurau y mae modd eu cymryd i osgoi digwyddiad tebyg eto. Rhoddodd y Rheolwr Perygl Llifogydd, D?r a Thomenni wybod mai blaenoriaeth y Cyngor yw deall effaith y llifogydd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jarman am eglurhad ynghylch a oedd tomen Tylorstown erioed wedi bod yn destun cynllun adfer tir ac a oedd y Cyngor wedi bwriadu cynnal gwaith adfer cyn y tirlithriad yn 2020. Pwysleisiodd y Cynghorydd Jarman ei bod hi'n gobeithio y byddai gwaith cynllunio ac adnoddau digonol ar waith i ymdopi â'r gaeaf sydd i ddod, boed hynny ar ffurf bagiau tywod er mwyn helpu gyda llifogydd neu halen i'w roi ar y ffordd wrth fynd i'r afael ag amodau tywydd gaeafol. Gofynnodd y Cynghorydd Jarman a fyddai Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymrwymo i blannu coed mewn ardaloedd wedi'u datgoedwigo ar dir sy'n berchen iddyn nhw yn RhCT yn rhan o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Holodd y Cynghorydd Jarman a fyddai wedi bod yn fuddiol i wahodd D?r Cymru i'r cyfarfod er mwyn ymateb i'r pryderon sy'n honni bod y llifogydd wedi bod yn waeth oherwydd pympiau a dulliau draenio sy'n cael eu rheoli gan D?r Cymru.

 

O ran tomen Tylorstown, eglurodd y Cadeirydd nad yw'r ardal sy'n cael ei chyfeirio ati'n cynrychioli Tomen Tylorstown. Mae'n cynrychioli ardal wahanol sy'n cael ei galw'n enw gwahanol yn lleol. Esboniodd nad yw ardal Tomen Tylorstown erioed wedi bod yn destun cynllun adfer tir gan nad oedd unrhyw broblemau wedi codi, hyd y gwyddo ef. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Rheng Flaen, nad oedd unrhyw gynllun adfer tir wedi cael ei weithredu yn yr ardal y mae'r Cynghorydd Jarman yn cyfeirio ati. Fodd bynnag, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth bod yr ardal wedi'i nodi gan y Cyngor a'r Awdurdod Glo, ac yn cael ei harchwilio o ganlyniad i hynny. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y Cyngor wedi cyflawni adolygiadau helaeth gyda Llywodraeth Cymru ers digwyddiadau Storm Dennis ym mis Chwefror. Cafodd y cyfarfodydd yma'u cadeirio gan Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Yn ystod y cyfarfodydd yma, cafodd problemau eu codi a'r newyddion diweddaraf mewn perthynas â chynnydd ei rannu. Cafodd Aelodau wybod bod yr Awdurdod Glo yn llunio cronfa ddata mewn perthynas â'r holl tomenni sydd ar feysydd glo yng Nghymru. Maen nhw wedi mabwysiadu strategaeth risg y Cyngor i'w defnyddio fel proses asesu risg safonol ar gyfer y tomenni yma.  Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyfadran, Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen wybod i'r Pwyllgor ei fod e'n cwrdd gyda swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru ar fore Mawrth mewn perthynas â phlannu coed ar draws y Fwrdeistref Sirol. Bydd yn rhannu'r adborth o'r cyfarfod yna gyda'r Gr?p Llywio ar faterion yr Hinsawdd.

 

O ran cwestiwn y Cynghorydd Jarman, ceisiodd y Cadeirydd gadarnhad gan Gyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ynghylch a fyddai D?r Cymru yn cael ei wahodd i gyfarfod nesaf y Gweithgor. Cadarnhawyd y byddai modd i'r Cyngor drefnu hyn os ydy Aelodau o'r farn y byddai hyn yn cyfrannu at y drafodaeth yn ystod y cyfarfod nesaf.  Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau y byddai D?r Cymru yn cael ei wahodd i'r sesiwn craffu nesaf.

 

Parhaodd y drafodaeth, gofynnodd y Cynghorydd Caple gwestiwn mewn perthynas â'r llifogydd yn ardal Trehafod a Britannia. Gofynnodd am eglurhad mewn perthynas â'r cysylltiad rhwng sicrhau bod y ceuffosydd yn cael eu clirio ac effeithlonrwydd y gorsafoedd pwmpio. Cadarnhaodd Reolwr Materion Llifogydd, D?r a Thomenni bod y Cyngor yn parhau gyda'i waith ymchwilio mewn perthynas â'r llifogydd yn y lleoliad yma ar hyn o bryd. Bydd y Cyngor yn edrych ar unrhyw elfennau eilaidd neu ffactorau sy'n cyfrannu at y broblem. Pwysleisiodd y Rheolwr Perygl Llifogydd, D?r a Thomenni y bydd unrhyw ddeilliannau'n cael eu rhannu â'r Pwyllgor cyn gynted ag y byddan nhw ar gael.

 

**Ymddiheurodd Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Andrew Morgan, i'r Pwyllgor - roedd angen iddo adael er mwyn mynd i gyfarfod COVID**

 

Cynhaliwyd rhagor o drafodaethau a nododd y Cynghorydd Cox na ellir labelu digwyddiadau fel Storm Dennis yn “ddigynsail” bellach, oherwydd newid yn yr hinsawdd, ac yn anffodus, mae’r digwyddiadau hyn yn debygol o ddigwydd yn fwy aml. Mynegodd y Cynghorydd Cox ei fod o'r farn bod angen i ymateb y Cyngor i'r digwyddiadau yma fod yn glir.  Roedd y Cynghorydd Cox hefyd am nodi ei ddiolch a'i ddiolchgarwch i staff y Cyngor mewn perthynas â'u hymateb i'r argyfwng. Fodd bynnag, pwysleisiodd y Cynghorydd Cox fod yn rhaid inni edrych ar wersi a ddysgwyd yn ogystal â pha gamau y mae modd i ni eu cymryd i wella. Gofynnodd y Cynghorydd Cox am eglurhad pellach ynghylch proses uwchgyfeirio'r Cyngor o ran sut mae'n ymateb i argyfwng. Roedd yr Aelod hefyd wedi holi pa waith gafodd ei gyflawni yn ystod y tri mis cyn Storm Dennis, megis pa waith gafodd ei gynnal i glirio'r ceuffosydd. Holodd y Cynghorydd Cox a oedd y gwaith mewn perthynas â thomenni categori C a D wedi cael ei aildrefnu a pha lefelau risg y mae'r rhain yn eu cyflwyno i'r cymunedau. Rhoddodd y Rheolwr Perygl Llifogydd, D?r a Thomenni wybod ein bod ni wedi wynebu Storm Callum a Storm Donna cyn Storm Dennis a bod RhCT wedi dioddef 25,000 o stormydd ers 2018. Pwysleisiodd y Rheolwr Perygl Llifogydd, D?r a Thomenni fod y Cyngor wedi bod yn cyflawni adolygiad o'i ymatebion ac wedi bod yn cyflawni gwaith paratoi ar gyfer y gaeaf. Cadarnhaodd y Rheolwr Perygl Llifogydd, D?r a Thomenni hefyd bod y Cyngor yn cyflawni archwiliadau mewn perthynas â chategorïau C a D unwaith bob mis, bob tri mis neu bob chwe mis gan ddibynnu ar ei statws. Roedd y Cyfarwyddwr Cyfadran, Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen hefyd yn dymuno nodi'i barch a'i ddiolch i holl staff y Cyngor sydd wedi gweithio'n galed iawn yn ystod y cyfnod yma sydd heb ei debyg. O ran y rhybudd coch, rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen wybod i'r Aelodau mai gweithdrefn y Cyngor yw monitro'r rhagolygon tywydd a defnyddio'r wybodaeth hynny i wneud penderfyniadau ar adnoddau priodol. Cafodd Aelodau wybod bod hyn yn cael ei fonitro dydd a nos i sicrhau bod y camau priodol yn cael eu gweithredu. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Cyfadran, Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen natur ddigynsail Storm Dennis a rhoddodd wybod i'r Aelodau mai hwn oedd y tro cyntaf i'r Cyngor alw am gymorth gan feysydd eraill y Cyngor.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Rheng Flaen, wybod i Aelodau bod y Cyngor wedi gwario tua £80,000 ers llifogydd mis Chwefror er mwyn cynnal archwiliadau mewn perthynas ag asedau tomenni. Cafodd Aelodau wybod hefyd bod yna bedwar contractwr gwahanol ar y safleoedd yn cynnal gwaith archwilio mewn perthynas â'r tomenni a'r systemau draenio ac ati. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth bod pob tomen wedi cael ei archwilio nifer o weithiau ers llifogydd mis Chwefror. Er bod CNC wedi derbyn rhybudd o 5 diwrnod bod storm ar ei ffordd, cynghorodd Mr Michael Evans, CNC, ei bod hi'n anodd nodi faint o law fydd yn cwympo ac ym mhle o ganlyniad i batrymau tywydd newidiol.

 

Cynhaliwyd trafodaethau pellach a gofynnodd y Cynghorydd Brencher a oedd unrhyw amgylchiadau eithriadol y mae modd eu nodi fel rheswm am y newid yn yr afon yn ystod llifogydd mis Chwefror. Gofynnodd hefyd am eglurhad o ran a oedd hyn yn cael ei gynnwys yn rhan o archwiliad CNC. Pwysleisiodd y Cynghorydd Brencher sylwadau cynharach y Cynghorydd Jarman mewn perthynas â thorri coed ar draws y Fwrdeistref Sirol a hoffai gweld Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i wneud hyn. Hefyd, nododd y Cynghorydd Brencher fod bagiau tywod wedi cymryd peth amser i gyrraedd unigolion yn ystod Storm Dennis. Gofynnodd y Cynghorydd Brencher am sicrwydd bod gwaith wedi cael ei wneud i atal hyn rhag digwydd eto yn y dyfodol.   Pwysleisiodd y Rheolwr Perygl Llifogydd, D?r a Thomenni y bydd d?r llifogydd sy'n dod trwy'r llawr yn cael ei gynnwys yn rhan o archwiliad y Cyngor a bydd data'n cael ei gasglu gan breswylwyr. Rhoddodd Mr Evans, CNC, wybod i Aelodau nad oedd unrhyw gronfeydd d?r wedi agor yn ystod y cyfnod yma, a bod hyn wedi cael ei gadarnhau gan D?r Cymru. Pwysleisiodd Mr Evans faint o law oedd wedi cwympo a bod y d?r wedi cyrraedd lefel uchaf yr Afon Taf yn gyflym iawn. O ran y coed, rhoddodd Mr Evans wybod i'r Aelodau bod yna fwriad i dorri'r coed yma, a bod hyn yn cael ei wneud yn rhan o ofyniad statudol i glirio'r ardal yma. Fodd bynnag, pwysleisiodd Mr Evans y byddai'r llifogydd wedi digwydd hyd yn oed os oedd y gwaith yma wedi'i gyflawni'n barod. O ran gwaith cnydio, pwysleisiodd Mr Evans y bydd CNC yn edrych ar gyflawni'i waith mewn ffordd wahanol yn y dyfodol ac y bydd hyn yn cael ei gyflawni yn rhan o adroddiadau CNC.

 

O ran y bagiau tywod, rhoddodd Cyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen wybod i'r Aelodau bod y Cyngor eisoes wedi buddsoddi mewn math newydd o fag tywod a bod trigolion Pentre eisoes wedi derbyn y rhain. Mae'r bagiau tywod newydd hyn yn atal d?r rhag dod i mewn.

 

Parhaodd y trafodaethau a dymunodd y Cynghorydd Hughes ddiolch i Swyddogion y Cyngor, CNC a D?r Cymru am eu gwaith caled yn ystod y digwyddiad digynsail. Pwysleisiodd y Cynghorydd Hughes raddfa ddigynsail y digwyddiad ac roedd o'r farn nad oedd modd i unrhyw waith sefydlu mesurau ataliol atal y risg o lifogydd pellach yn gyfan gwbl.  Holodd y Cynghorydd Hughes a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnig cymorth ariannol pellach i drigolion mewn ardaloedd sydd wedi'u nodi. Nododd y dylai'r holl Aelodau lobïo Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ariannol pellach i gyflawni gwaith trwsio yn dilyn y storm.  

 

Rhoddodd y Rheolwr Prosiectau Strategol wybod i'r Aelodau bod y gwaith rheoli perygl llifogydd yn ymwneud ag ystod eang o adnoddau rheoli llifogydd ac adnoddau cymorth, nid mesurau atal llifogydd corfforol yn unig, er mwyn mynd i'r afael â stormydd a llifogydd nad oes modd eu hatal.

 

Parhaodd y trafodaethau a chododd y Cynghorydd Stephens bryderon gan nodi ei bod hi'n bosibl bod llifogydd yn ei ward hi wedi bod yn waeth oherwydd draeniau wedi'u blocio a llwyni a dail heb eu torri sy'n effeithio ar y cwrs d?r a'r system draenio o'r mynyddoedd. Nododd y Cynghorydd Stephens bod pobl yn parhau i bryderi, yn sgil effaith Covid-19 ar nifer y staff ac adnoddau sydd ar gael, a bydd hyn yn parhau i fod yn broblem wrth symud ymlaen. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Cyfadran, Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen nad oedd unrhyw broblemau wedi codi mewn perthynas â nifer y staff sydd ar gael a fyddai mesurau Cyfyngiadau Symud COVID ddim yn effeithio ar nifer y staff sydd ar gael, gan fod yr aelodau o staff yma'n "weithwyr allweddol". Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyfadran, Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen wybod i Aelodau bod gwaith archwilio cyson yn cael ei gyflawni mewn perthynas â cheuffosydd a draeniau a bod problemau'n cael eu nodi a'u trwsio'n barhaus.

 

Cododd y Cynghorydd Griffiths bryder mewn perthynas â gwaith adeiladu a cheisiadau am eiddo sy'n cael eu hadeiladu ar orlifdiroedd ar hyd a lled RhCT. Rhoddodd y Rheolwr Perygl Llifogydd, D?r a Thomenni wybod i Aelodau mai CNC yw'r Awdurdod Rheoli Perygl Llifogydd yn achos gorlifdiroedd o gwmpas afonydd, yn unol â Deddf Rheoli Llifogydd a D?r. Bydd Cyngor RhCT yn mynd i'r afael â d?r wyneb ffo a gwaith rheoli'n rhan o'r broses gynllunio i sicrhau bod y datblygiadau'n cael eu hadlewyrchu yng nghyfraddau d?r wyneb ffo'r safle cyn i'r gwaith datblygu ddechrau.

 

Cadarnhaodd Mr Evans, CNC, mai Cyngor RhCT, nid Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n mapio llifogydd ac sy'n gwneud penderfyniadau o ran cynllunio, yn ôl polisi Llywodraeth Cymru.

 

Nododd y Cynghorydd Bonetto ei phryderon o ran gorlifdiroedd a gofynnodd am sicrwydd o ran pa fesurau sydd ar waith ar gyfer tai wedi'u hadeiladu ar orlifdiroedd. Cytunodd Mr Evans, CNC, bod Nantgarw ar orlifdir a rhoddodd wybod i Aelodau fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ailfodelu'r afon Taf o Bontypridd i ganol Caerdydd yn seiliedig ar fesuriadau a gwybodaeth newydd. Rhoddodd Mr Evans wybod i Aelodau fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn edrych ar wella'u gwydnwch o ran llifogydd ond pwysleisiodd nad oes datrysiad hawdd o ran mynd i'r afael â'r problemau yn Nantgarw gan y bydd rhagor o amddiffynfeydd rhag llifogydd yn symud y perygl o lifogydd at gymunedau ymhellach i lawr yr afon.

 

Croesawodd y Cadeirydd gwestiynau ychwanegol yn unig gan Aelodau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Stephens am gadarnhad nad oedd unrhyw doriadau pellach wedi'u gwneud i'r rhaglen cynnal a chadw o ran ceuffosydd a draeniau ledled RhCT. Rhoddodd Cyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen sicrwydd i Aelodau trwy nodi nad yw'r rhaglen wedi newid, nac yn digwydd yn llai aml a dydy nifer yr adnoddau ddim wedi lleihau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jarman gwestiwn yngl?n â faint o'r isadeiledd draenio o'r oes Victoria yn RhCT sy'n cael ei ddefnyddio o hyd. Rhoddodd y Rheolwr Perygl Llifogydd, D?r a Thomenni wybod i Aelodau fod dros 700 cilomedr o asedau draenio a chyrsiau d?r ledled y sir wedi'i nodi yn yr adroddiad isadeiledd. Serch hynny, rydyn ni wedi canolbwyntio ar nodi cyfrifoldebau, lleoliadau, llwybrau, ac ati a doedd dim gwybodaeth ar gael yn rhwydd o ran oedran yr asedau yma. Nododd y Rheolwr Perygl Llifogydd, D?r a Thomenni fod oedran yr isadeiledd presennol yn amrywio, o adeiladwaith modern i adeiladwaith yr Oes Fictoria.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD: 

 

  1. Cydnabod cynnwys yr wybodaeth a gafodd ei chyflwyno gan Gyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen yr awdurdod lleol;

     2     Sefydlu sesiwn ymchwiliad craffu i ystyried barn yr Aelodau Etholedig sy'n cynrychioli'r cymunedau hynny sydd wedi'u heffeithio;

    3      Cytuno i ystyried asesiad y Cyngor, fel yr awdurdod llifogydd statudol, gan ystyried yr wybodaeth wedi'i darparu yn rhan o'r sesiwn ymchwiliad craffu.

 

 

 

 

 

 

 

 

  

 

 

Dogfennau ategol: