Agenda item

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Diogelwch y Cyhoedd yr adroddiad i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn trafod materion perthnasol mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005, yn ogystal â materion atodol eraill sy'n codi o gyfrifoldebau'r Pwyllgor. 

 

Adroddwyd y bu gostyngiad yn nifer yr Hysbysiadau Achlysuron Dros Dro, sydd, o bosibl, oherwydd y pandemig Covid-19. Arweiniodd y pandemig at gau adeiladau trwyddedig a doedd dim modd cynnal yr achlysuron cymunedol a fyddai fel arfer yn digwydd yn ystod y misoedd hynny. Yn dilyn llacio'r cyfyngiadau, derbyniwyd nifer o Hysbysiadau Achlysuron Dros Dro er mwyn caniatáu i sefydliadau fasnachu yn yr awyr agored yn ystod y cyfnod heriol yma.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod dau gais yn yr arfaeth ers yr adroddiad diwethaf i'r Pwyllgor, y naill yn Gais i Amrywio Trwydded Safle; a'r llall yn gais ar gyfer Amrywio Goruchwyliwr Dynodedig y Safle.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at adran 4.3 yr adroddiad lle mae arolygiadau o eiddo a thor rheolau'n cael eu hamlinellu. Dysgodd yr Aelodau fod 90.5% o'r safleoedd a gafodd eu harolygu yn cydymffurfio i raddau helaeth - doedd y nifer ddim wedi newid ers y cyfnod diwethaf, a hynny oherwydd diffyg ymweliadau yn dilyn pandemig y coronafeirws a'r mesurau diogelu ychwanegol yr oedd gofyn i staff y Cyngor eu rhoi ar waith. 

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at y sesiwn hyfforddi ar-lein a gynhaliwyd gan Mr D Lucas o'r Sefydliad Trwyddedu, gan nodi bod nifer fawr o aelodau'r Pwyllgor Trwyddedu wedi cymryd rhan ynddi. Nododd fod y sesiwn yn gyfle gwerthfawr i'r Aelodau ddysgu rhagor neu ddiwygio'u gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u harbenigedd o ran swyddogaeth yr awdurdod trwyddedu a'r Cynghorwyr, a sut i gynnal gwrandawiadau trwyddedu.

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ddisgrifiad o'r sefyllfa sy'n wynebu masnachwyr yn ystod pandemig Covid-19, ac eglurodd fod y diwydiant wedi'i effeithio'n sylweddol gan hyn a'i bod hi'n adeg heriol iawn. Clywodd yr Aelodau fod y newid parhaus o ran amgylchiadau a chanllawiau'r Llywodraeth wedi peri gofid i swyddogion a masnachwyr. Fodd bynnag, roedd yr Aelodau'n falch o glywed bod y swyddogion wedi rhoi dull rhagweithiol ar waith drwy gysylltu â safleoedd fesul un er mwyn cynnig cymorth. The Service Director continued and spoke of the number of complaints received in respect of licenced premises operating indoors at the beginning of the lockdown period and advised that officers had successfully worked with South Wales Police to further investigate these. Yn dilyn ailagor y safleoedd ar 3 Awst 2020, nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y Garfan Drwyddedu wedi dechrau ymweld â safleoedd. Hyd yma, derbyniodd dri safle orchymyn i gau, a derbyniodd nifer o safleoedd hysbysiadau gwella. Canmolodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y garfan, ac eglurodd eu bod nhw wedi mynd y tu hwnt i'r galw, er gwaetha'r cynnydd yn eu llwyth gwaith. Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ei bod hi'n amlwg bod y rhan fwyaf o safleoedd yn ceisio dilyn y rheolau, a rhoddodd sicrwydd i'r Aelodau y byddai'r Garfan yn mynd i'r afael ag unrhyw safleoedd lle nad oedd hynny'n digwydd.

Diolchodd yr Aelodau i'r Garfan Drwyddedu am ei gwaith parhaus, gan gydnabod pa mor newidiol yw'r amgylchiadau ar hyn o bryd.

 

Holodd un Aelod p'un a fyddai modd darparu ad-daliadau ar gyfer Hysbysiadau Achlysuron Dros Dro a gafodd eu canslo oherwydd Covid-19 a'r cyfyngiadau lleol.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai modd i ddeiliaid yr Hysbysiadau yma eu trosglwyddo i ddyddiad arall, neu hawlio ad-daliad drwy gysylltu â'r Adran Drwyddedu.

PENDERFYNWYD:-

a)    Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a;

b)    Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â Deddf Gamblo 2005.

 

 

Dogfennau ategol: