Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran Materion Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf am ddatblygu a chyflawni'r cynllun trafnidiaeth sylweddol: Gogledd Porth Cwm Cynon (Ffordd Osgoi Aberdâr).
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Priffyrdd a Thrafnidiaeth ei adroddiad i'r aelodau a oedd yn rhoi diweddariad ar y cynnydd presennol mewn perthynas â datblygu a chyflwyno'r prif brosiect trafnidiaeth: Gogledd Porth Cwm Cynon (Ffordd Osgoi Aberdâr)
Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth bod Gogledd Porth Cwm Cynon yn gyswllt pwysig rhwng yr A4059 sydd eisoes yn bodoli â'r cynllun deuoli arfaethedig ar gyfer yr A465, sy'n briffordd strategol. Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai Ffordd Osgoi Aberdâr yn darparu hwb economaidd i'r ardal, yn ogystal â bod yn gyswllt pwysig.
Cyfeiriodd yr Aelodau at Adran 3.3 o'r adroddiad, sy'n nodi amlinelliad o fanteision trafnidiaeth ac adfywio'r prosiect, mae'r rhain yn cynnwys:
· Cysylltedd;
· Llai o draffig yn Llwydcoed;
· Capasiti a Chydnerthedd;
· Amseroedd teithio gwell; ac
· Ansawdd aer gwell.
Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ymlaen i drafod cynnydd y cynllun hyd yn hyn, gan roi gwybod i Aelodau bod y gwaith alinio'r briffordd cychwynnol wedi dod i ben a bod yr ymgynghoriad â rhanddeiliaid a'r rheiny sydd wedi'u heffeithio gan y cynigion mewn perthynas â Gogledd Porth Cwm Cynon.
Dymunodd yr Arweinydd ddiolch i'r swyddog am yr adroddiad a siaradodd o blaid y cynigion. Siaradodd yr Arweinydd am gynllun deuoli Ffordd Blaenau'r Cymoedd. Mae disgwyl i'r cynllun wneud cynnydd yn y dyfodol agos a heb y ffordd gyswllt, dywedodd y byddai llwybr amgen llawer yn hirach er mwyn cyrraedd Cwm Cynon. Siaradodd yr Arweinydd am fanteision y ffordd, gan nodi y byddai'n lleihau'r pellter teithio'n sylweddol ar gyfer trigolion sy'n teithio i mewn ac allan o'r cwm. Mewn perthynas â chyllid ar gyfer y cynllun, nododd yr Arweinydd bod £4.3miliwn wedi'i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru a'r Awdurdod Lleol. Rhoddodd wybod ei fod wedi mynychu cyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyllid cynyddol pellach. Daeth yr Arweinydd i ben trwy roi gwybod bod y cynllun yn cysylltu â datblygiadau eraill yn RhCT, megis y datblygiad yn Nhresalem.
Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai y datblygiad ar gyfer RhCT a De Cymru.
PENDERFYNODD y Cabinet:
1. Nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud a chefnogi camau nesaf y rhaglen ar gyfer y cynllun;
2. Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen i gyflwyno cais cynllunio ar ran y Cyngor ar gyfer Porth Cwm Cynon (Ffordd Osgoi Aberdâr);
3. Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen, yn amodol ar gyllid, i drafod prynu unrhyw dir sy'n berchen i drydydd parti ac sydd ei angen ar gyfer y cynllun. Hefyd, caffael y tir hwnnw yn rhan o gytundeb. Os nad oes modd prynu'r tir yn rhan o drafodaeth, dirprwyo'r grymoedd fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 2.1.4 mewn perthynas â gweithredu Gorchymyn Prynu Gorfodol a'r Gorchymyn Ffyrdd Ymyl;
4. Yn amodol ar gymeradwyo caniatâd cynllunio a sicrhau digon o gyllid ar gyfer pob cam o'r broses, rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen a chymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau bod y Gorchymyn Prynu Gorfodol a Gorchymyn Ffyrdd Ymyl mewn perthynas â'r tir sydd ei angen er mwyn gweithredu'r cynllun, gan gynnwys ond heb ei gyfyngu i'r camau canlynol:
5. Ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Gorchmynion Prynu Gorfodol a Gorchmynion Ffyrdd Ymyl gan Weinidogion Cymru (neu, os yw hynny'n cael ei ganiatáu, gan y Cyngor yn unol ag Adran 14A o Ddeddf Caffael Tir 1981), gan gynnwys paratoi a chyflwyno achos y Cyngor ar gyfer unrhyw Sylwadau Ysgrifenedig, Gwrandawiad neu Ymchwiliad Cyhoeddus a all fod ei angen.
6. Cyhoeddi a chyflwyno hysbysiadau o gadarnhad o'r Gorchmynion Prynu Gorfodol a Gorchmynion Ffyrdd Ymyl ac ar ôl hynny, gweithredu a chyflwyno unrhyw Ddatganiadau Breinio Cyffredinol a/neu Hysbysiadau i Drafod Telerau a Hysbysiadau Mynediad.
7. Caffael y buddiannau angenrheidiol yn y tir a thalu'r iawndal, yn amodol ar gyllid.
8. Atgyfeirio anghydfodau sy'n ymwneud ag iawndal prynu gorfodol i'r Uwch Dribiwnlys (Siambrau).
Dogfennau ategol: