Agenda item

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am elfen ariannu'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) ar gyfer rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

 

Cofnodion:

Rhannodd Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant y newyddion diweddaraf mewn perthynas ag elfen ariannol Model Buddsoddi Cydfuddiannol Rhaglen Colegau ac Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru â'r Cabinet yn ogystal â cheisio cymeradwyaeth gan y Cabinet er mwyn cychwyn Cytundeb Partneriaeth Strategol gyda Phartneriaeth Addysg Cymru (WEPCo) i hwyluso gwaith darparu addysg a chyfleusterau yn y gymuned. Roedd y Cyfarwyddwr hefyd wedi ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i benodi Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif a materion Trawsnewid a/neu Gyfarwyddwr Eiddo Corfforaethol i fod yn  'Gynrychiolydd Cyfranogwyr' yn rhan o'r Bwrdd Partneriaeth Strategol.

 

Gofynnodd y Cyfarwyddwr i'r Aelodau nodi y byddai cymeradwyo cychwyn Cytundeb Prosiect ar gyfer unrhyw Brosiectau Braenaru yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet unwaith eto yn y dyfodol a bod cytuno i gychwyn Cytundeb Partneriaeth Strategol ddim yn golygu bod y Cyngor wedi ymrwymo i gychwyn trefniadau cytundebol mewn perthynas ag unrhyw brosiectau. 

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant y Cyfarwyddwr am yr adroddiad cymhleth a chynhwysfawr. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am yr angen i barhau gyda'r agenda moderneiddio ysgolion ac felly, yr angen i fanteisio ar gyllid refeniw yn rhan o'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol a chychwyn Cytundeb Partneriaeth Strategol gyda Phartneriaeth Addysg Cymru. Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet bod y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn wahanol ac yn fwy manwl na'r model Menter Cyllid Preifat a nododd y byddai'r Awdurdod Lleol yn parhau i berchen ar y fenter. O ran penodi 'Cynrychiolydd Cyfranogwyr' i fod yn rhan o'r Bwrdd Partneriaeth Strategol, roedd yr Aelod o'r Cabinet yn fodlon gyda'r argymhellion ac roedd o'r farn y byddai'n ddefnyddiol i'r ddau swyddog fynychu cyfarfodydd, gan ddibynnu ar yr agenda, oherwydd yr arbenigedd sydd gyda nhw.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol o blaid y cynigion i barhau i wella cyfleusterau ysgolion a chytunodd y byddai Aelodau'r Bwrdd Partneriaeth Strategol yn elwa o arbenigedd y ddau swyddog. Holodd yr Aelod o'r Cabinet a fyddai'n bosibl i'r Cyngor gyflwyno cais tendro i gyflawni rhywfaint o waith cynnal a chadw a all godi. 

 

Adleisiodd yr Arweinydd y sylwadau gan yr Aelod o'r Cabinet mewn perthynas â'r Cyngor yn cyflawni rhywfaint o'r gwaith a'r refeniw os oedd yn bosibl.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi deilliant Cam y Cynigydd a Ffefrir y Weithdrefn Caffael Cystadleuol yn rhan o'r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad;

2.    Bod yn rhan o weithredu a chyflawni'r Cytundeb Partneriaeth Strategol gyda Phartneriaeth Addysg Cymru ym Medi 2020 i hwyluso darpariaeth ystod o wasanaethau seilwaith a darparu cyfleusterau addysg a chymunedol;

3.    Cymeradwyo'r Cytundeb Partneriaeth Strategol yn Atodiad A o'r adroddiad ac fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 4.6 i 4.16 ac Atodiad 1 o'r adroddiad;

4.    Nodi y bydd y Cytundeb Partneriaeth Strategol yn cael ei gyflawni fel gweithred a'i ardystio'n unol ag Erthygl 14.05, Rhan 2 o Gyfansoddiad y Cyngor;

5.    Penodi Andrea Richards, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif a Thrawsnewid Dros Dro a/neu Dave Powell, Cyfarwyddwr Eiddo Corfforaethol yn 'Gynrychiolydd Cyfranogwyr' i fod yn rhan o'r Bwrdd Partneriaeth Strategol (SPB);

6.    Dechrau'r Broses Gymeradwyo ar gyfer Prosiectau Newydd fel sydd wedi'i nodi yn Atodlen 5 o'r Cytundeb Partneriaeth Strategol er mwyn darparu adeiladau ysgol newydd ac er mwyn i'r Achos Amlinellol Strategol ar gyfer y Prosiectau Braenaru cychwynnol gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Ysgol Gynradd Pont-y-clun ac Ysgol Gynradd Penygawsi yw'r Prosiectau Braenaru. Bydd adroddiad pellach sy'n ymwneud â threfniadau cyllid yn cael ei rannu â'r Cyngor yn y dyfodol; a

7.    Nodi y byddai angen cymeradwyaeth pellach gan y Cabinet er mwyn cytuno i gyflawni unrhyw brosiect newydd gan gynnwys y Prosiect Braenaru, a chychwyn dogfennau cyfreithiol cysylltiedig.

 

 

Dogfennau ategol: