Agenda item

Newid defnydd llawr cyntaf ac ail lawr yr eiddo, o hen neuadd snwcer (Dosbarth D2) i 22 o fflatiau hunan-gynhaliol preswyl i fyfyrwyr (Sui Generis) a gwaith cysylltiedig. 1 Stryd Fothergill, Trefforest, Pontypridd, CF37 1SG.

 

Cofnodion:

Newid defnydd llawr cyntaf ac ail lawr yr eiddo, o hen neuadd snwcer (Dosbarth D2) i 22 o fflatiau hunan-gynhaliol preswyl i fyfyrwyr (Sui Generis) a gwaith cysylltiedig. 1 Stryd Fothergill, Trefforest, Pontypridd, CF37 1SG.

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais a adroddwyd yn wreiddiol i'r Pwyllgor ar 16 Gorffennaf 2020. Cafodd ei ohirio ar gyfer ymweliad safle a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2020. Cafodd y cais ei ailgyflwyno i'r Pwyllgor ar 20 Awst 2019, gydag argymhelliad i'w gymeradwyo, ond gwrthododd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu am y rhesymau canlynol:

 

1. Byddai'r datblygiad arfaethedig yn rhoi pwysau sylweddol ar y safle, ac yn arwain at orddefnydd ac orddatblygu'r safle. Byddai ceisio hwyluso cynifer o fflatiau ag sy'n bosibl o fewn yr adeilad, heb unrhyw ofod amwynder, yn arwain at greu llety cyfyng o ansawdd isel ar gyfer meddianwyr y dyfodol. O ganlyniad i hyn, mae'r cynnig yn groes i Bolisi AW5 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf a'r Canllawiau Cynllunio Atodol: Datblygu Fflatiau wedi'u mabwysiadu gan y Cyngor:

 

2. Byddai'r datblygiad arfaethedig felly'n arwain at effaith niweidiol ar ddiogelwch holl ddefnyddwyr y briffordd a llif traffig, yn groes i Bolisi AW5 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf, am y rhesymau canlynol:

i. Byddai'r datblygiad arfaethedig yn arwain at ragor o bobl yn defnyddio'r safle a bydd rhagor o draffig ar hyd y strydoedd preswyl. Mae'r strydoedd yma eisoes yn brysur ac mae'r ddarpariaeth parcio ar y stryd eisoes yn golygu dim ond un car sy'n gallu teithio ar hyd y stryd ar unrhyw adeg a felly'n arwain at effaith niweidiol ar ddiogelwch holl ddefnyddwyr y ffordd a llif y traffig.

ii. Does dim darpariaeth parcio oddi ar y stryd wedi'i chynnwys yn y cais a does dim lle ar y safle i ddarparu hynny, felly byddai meddianwyr yn cael eu gorfodi i barcio ar y priffyrdd ar hyd y strydoedd preswyl cyfagos. Mae'r rhain eisoes yn brysur a byddai hyn yn arwain at barcio'n ddiwahân ar y stryd ac mae hyn yn niweidiol i ddiogelwch holl ddefnyddwyr y priffyrdd a llif y traffig.

iii. Byddai'r ardal storio biniau arfaethedig wedi'i lleoli wrth ymyl y briffordd ger y gyffordd â Stryd y Parc a Heol Cyrch-y-Gwas, lle nad oes llwybr troed. O ganlyniad i hynny, byddai'n rhaid i feddianwyr y dyfodol fynd ar y briffordd brysur i ddefnyddio'r biniau, sy'n niweidiol i'w diogelwch a diogelwch defnyddwyr y ffordd.

iv. Byddai'n anodd gorfodi mesurau rheoli mewn perthynas â'r ail fynedfa i'r adeilad, sydd ger y gyffordd â Stryd y Parc a Heol Cyrch-y-Gwas, i sicrhau bod y man yma ond yn cael ei ddefnyddio 'at ddibenion storio biniau'. Byddai hyn yn arwain at breswylwyr yn defnyddio'r fynedfa yma fel y brif fynedfa. Does dim llwybr troed ar gael felly bydd hyn yn niweidiol i ddiogelwch cerddwyr a diogelwch y briffordd.

 

 

Dogfennau ategol: