Agenda item

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned gyflwyniad i'r Aelodau yngl?n ag adfer Canolfan Gelf y Miwni a'r cydgysylltu posibl o ran datblygiad yr YMCA.

 

Amlinellodd y cyflwyniad strwythur Canolfan Gelf y Miwni a'r cyfleoedd y mae ei ddyluniad pensaernïol gwreiddiol yn eu cynnig, er enghraifft, gwneud y Miwni yn fwy ynni effeithlon trwy ddefnyddio d?r sy'n casglu ar y to. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr fod trafodaethau manwl wedi cael eu cynnal rhwng y Cyngor ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen i lunio cynllun gwaith cyfalaf, a chynnig gweledigaeth hirdymor uchelgeisiol ar gyfer y Miwni, gan gynnwys adfer y bensaernïaeth wreiddiol a gwneud gwelliannau sylweddol er mwyn creu lleoliad celf ac adloniant o bwysigrwydd rhanbarthol.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Gr?p Llywio bod y Cabinet wedi cytuno ar gyfraniad refeniw o £105,000 ar gyfer 2020/21 er mwyn adfer Canolfan Gelf y Miwni.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cymunedol ymlaen i roi cyflwyniad i'r Gr?p Llywio yngl?n â chynlluniau'r Cyngor i ailddatblygu adeilad yr YMCA ym Mhontypridd. Bydd y lleoliad yma'n cynnwys gofod perfformio hefyd, er y bydd yn dal nifer llai o bobl na'r Miwni. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth bwysigrwydd sicrhau bod y ddau leoliad yn cefnogi ei gilydd, a phwysigrwydd diogelu adeiladwaith yr adeilad. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wrth yr Aelodau am y cynlluniau ailddatblygu, fel y bwriad o greu theatr stiwdio, caffi ac oriel.

 

Cafwyd trafodaethau, ac aeth nifer o'r Aelodau ati i ganmol y cynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol. Pwysleisiodd un Aelod bwysigrwydd sicrhau y bydd mynedfa i'r anabl ar du blaen adeilad yr YMCA. Pwysleisiodd un Aelod hefyd fod cyfleoedd enfawr ar y gweill, yn enwedig o ran y metro a'r cyfle i ddenu ymwelwyr i'r cymoedd. Cytunodd y Gr?p Llywio y bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2022 yn gyfle enfawr i ddenu ymwelwyr i'r rhanbarth, ac y bydd y metro a'r Miwni yn rhoi cyfle i'r Cyngor fanteisio ar y cyfleoedd yma.

 

Rhybuddiodd Aelod o'r Gr?p Llywio nad yw asedau diwylliannol yn gweithio oni bai fod sylfaen economaidd i'w cefnogi, a nododd pa mor bwysig yw sicrhau bod yr ailddatblygiadau'n cael cefnogaeth gadarn gan y Cyngor. Aeth y sgwrs yn ei blaen, a phwysleisiodd Aelodau’r Gr?p Llywio bwysigrwydd manteisio ar nifer yr ymwelwyr a’r myfyrwyr i’r Brifysgol ym Mhontypridd, a’r buddion diwylliannol y gallai hyn eu cynnig i’r rhanbarth. 

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd fod gweithio ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Awen mewn perthynas â'r Miwni yn weledigaeth hirdymor uchelgeisiol, a bod yr ailddatblygiad yn cyd-fynd â strategaeth ailddatblygu strwythurau canol tref ehangach y Cyngor. Pwysleisiodd y Cadeirydd fod y Cabinet wedi ymrwymo i gynnal ei weledigaeth hirdymor ar gyfer Canolfan Gelf y Miwni ac adeilad yr YMCA.

 

Canmolodd y Gr?p Llywio’r cynlluniau uchelgeisiol, fodd bynnag, pwysleisiodd un Aelod bwysigrwydd sicrhau bod seilwaith trafnidiaeth ar waith ledled y cymoedd er mwyn cefnogi strategaeth y Cyngor.

 

Cytunodd y Gr?p Llywio bod y ddemograffig yn newid ym Mhontypridd, a chytunwyd bod yn rhaid i'r Cyngor fanteisio i'r eithaf ar bob cyfle yn y maes yma. Canmolodd yr Aelodau fuddsoddiad parhaus y Cyngor yn y celfyddydau, yn enwedig ar adegau o lymder.

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned bwysigrwydd trawsnewid asedau cymunedol, a chyfeiriodd y Gr?p Llywio at ddatblygu hybiau cymunedol. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr nad yw fframwaith strategol ar gyfer darparu asedau diwylliannol yn gweithio oni bai fod yr asedau'n ategu ei gilydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cymunedol, bod modd i'r celfyddydau leihau dibyniaeth y gymuned ar wasanaethau statudol ac, yn aml, mae modd iddyn nhw wella lles y gymuned hefyd.

 

I gloi, diolchodd y Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned am ddarparu trosolwg manwl i'r Gr?p Llywio a diolchodd i'r Aelodau am eu hadborth.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD yr Aelodau nodi'r adroddiad

a gyflwynwyd i'r Cabinet ar yr 17 Rhagfyr 2019 mewn perthynas â

throsglwyddo ased gymunedol - Canolfan Gelf y Miwni.

 

Dogfennau ategol: