Agenda item

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gyfadran Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng-flaen, sy'n rhoi gwybod i'r Gr?p Llywio am y sefyllfa bresennol o ran allyriadau carbon a thrafnidiaeth, er mwyn nodi'r camau y mae modd eu cymryd i leihau'r allyriadau hyn.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau'r Rheng Flaen wybod i'r Gr?p Llywio am y sefyllfa gyfredol o ran allyriadau carbon a thrafnidiaeth, er mwyn nodi'r camau y mae modd eu cymryd i leihau'r allyriadau hyn.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod twf trafnidiaeth ynghlwm â'r economi, a phan mae'r economi'n tyfu, mae'r galw o ran teithio'n cynyddu hefyd. Soniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am gynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o ran datgarboneiddio, sy'n cynnwys buddsoddi mewn cerbydau trydan fel ceir, tacsis a bysys. Eglurwyd fod camau y mae modd i gynghorau unigol eu cymryd i ddatgarboneiddio trafnidiaeth, ac y bydd camau o'r fath yn fwy effeithiol os cân nhw eu darparu o dan strategaeth gydlynol ar lefel ranbarthol neu genedlaethol, lle mae pawb yn canolbwyntio ar wireddu'r un nod. Cafodd y Gr?p Llywio wybod fod RhCT yn rhagweithiol o ran hybu prosiectau sy'n benodol ar gyfer RhCT, tra hefyd yn gweithio ar lefel ranbarthol drwy Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Tynnodd y swyddog sylw'r Aelodau at Adran 3.11 yr adroddiad, sy'n amlinellu rhestr o raglenni ymgysylltu amrywiol RhCT sydd â goblygiadau cadarnhaol o ran lleihau allyriadau. Roedd y rhain yn cynnwys y Rhaglen Gwneud Defnydd Gwell, Llwybrau Diogel i'r Ysgol/Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, Ehangu Coridorau, Gorfodi Parcio, Gwasanaethau bws â chymhorthdal

Parcio a Theithio a Teithio Llesol

 

Aeth y swyddog ymlaen i ddarparu manylion yngl?n â chyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer RhCT i'r Gr?p Llywio:

·         Metro - 

·         Cerbydau Trydanol ac Isadeiledd Gwefru

·         Rheoli'r Galw

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, o ganlyniad i'r adroddiad, fod Llywodraeth Cymru wedi gwahodd ceisiadau i ddatblygu isadeiledd ar gyfer Cerbydau Allyriadau Isel Iawn yn ogystal â menter anogol sy'n canolbwyntio ar dacsis a cherbydau llogi preifat. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn gweithio gyda Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd/Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddiogelu'r cyllid yma, gyda chyllid cyfatebol gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Cafwyd trafodaethau yngl?n â'r dull rhanbarthol o gyflwyno isadeiledd Cerbydau Trydanol ar draws safleoedd strategol sy'n eiddo i'e Cyngor yn ogystal â'r strategaeth i sicrhau bod pob tacsi yn gerbyd trydanol erbyn dyddiad targed Llywodraeth Cymru 2028. Er bod y Gr?p Llywio'n teimlo'n gadarnhaol am y fenter yma, cododd y gr?p nifer o bryderon, yn arbennig yngl?n â'r isadeiledd cyfredol yn RhCT a'r heriau a fyddai ynghlwm â gosod mannau gwefru ar strydoedd cul gyda thai teras. Cytunodd y Cyfarwyddwr Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen â hyn, gan nodi y byddai hi'n synhwyrol i ni osgoi cymryd unrhyw gamau sylweddol ar hyn o bryd. Yn hytrach, dylen ni edrych ar danwyddau mwy cynaliadwy wrth i'r farchnad ar gyfer ceir addas dyfu ac wrth i ddatrysiadau mwy addas i'r diben ddod i'r amlwg. O ran cerbydau fflyd y Cyngor, dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran wrth y Gr?p Llywio fod canlyniadau ymarfer costau yn dangos ei bod hi'n rhatach llogi cerbydau yn hytrach na'u prynu. O ganlyniad i hyn, bydd y Cyngor yn ceisio llogi cerbydau fflyd yn y tymor byr. Ychwanegodd bod y Cyngor wrthi'n arbrofi gyda dewisiadau hybrid a thrydanol, a bydd yn monitro'r potensial ar gyfer datrysiadau tanwydd eraill ar gyfer cerbydau fflyd mwy.

 

Aeth y Gr?p Llywio ymlaen i drafod y Strategaeth Dacsis ar gyfer De-ddwyrain Cymru, gyda'r swyddog yn cadarnhau y byddai pwyllgor Trwyddedu'r Cyngor yn ystyried hyn yn ei gyfarfod ym mis Ebrill 2020. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Diogelu'r Cyhoedd, at y ffaith nad oes modd i gerbyd fod yn dacsi am fwy na deng mlynedd yn RhCT, a ph'un a oes angen adolygu hyn er mwyn ystyried y camau llai ar gyfer bwrw'r targed o ran allyriadau erbyn 2028. Aeth y Gr?p Llywio ymlaen i gydnabod fod masnachu a thopograffi yn y cymoedd yn wahanol iawn i Gaerdydd, a bod fflyd dacsis RhCT yn nes at gydymffurfio â rheoliad Euro 6.

 

Yn ogystal â hynny, o dan y pennawd Rheoli'r Galw, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at Bapur Gwyn Caerdydd ar gyfer trafnidiaeth, a allai arwain at godi tâl am yrru yn y brifddinas. Nododd y Gr?p Llywio bryderon yngl?n â'r annhegwch posibl gan fod trigolion Caerdydd yn cael eu heithrio, a thrafododd y gr?p yr angen i ymgynghori ar faterion o'r fath er mwyn sicrhau y bydda unrhyw drefn godi tâl yn deg i bawb, ac y byddai buddsoddiadau mewn trafnidiaeth o ganlyniad i dâl o'r fath yn digwydd ar lefel ranbarthol.

 

Mewn perthynas â'r Metro, holodd un Aelod am yr amserlen o ran cwblhau'r gwaith, a nododd y swyddog y byddai hyn yn digwydd yn 2022/2023. Siaradodd y Gr?p Llywio yn gadarnhaol am y Metro, gan gytuno y byddai'n gyfle cynaliadwy i ddefnyddwyr ceir newid i drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer rhai teithiau. Cytunodd yr Aelodau fod y Metro yn ddatblygiad arwyddocaol, serch hynny, yr her yw integreiddio'r cynllun â'r gwasanaeth bws a'r Cynllun Teithio Llesol.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: