Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, yn amlinellu'r dull arfaethedig o ymgysylltu â thrigolion, a chyfathrebu â nhw, mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd. Amlinellir hefyd ddull arfaethedig o weithio gyda grwpiau amgylcheddol yn lleol ac yn genedlaethol, trigolion a busnesau i godi ymwybyddiaeth ac annog newid cadarnhaol o ran ymddygiad tuag at yr amgylchedd.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Materion Polisi Corfforaethol ac Ymgynghori yr adroddiad, a oedd yn ceisio rhoi gwybod i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd am y dulliau arfaethedig o ymgysylltu a chyfathrebu â'r gymuned, a hynny er mwyn sicrhau bod yr holl randdeiliaid allweddol yn llywio'r gwaith o godi ymwybyddiaeth o arfer gorau ac annog trigolion i newid eu hymddygiad.
Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at Adran 5 yr adroddiad, sy'n nodi'r prif feysydd sydd angen ffocws:
A) Cyfathrebu a gweithgarwch ar y Cyfryngau Cymdeithasol;
B) Datblygu ymgyrch newid ymddygiad;
C) Hwyluso Cyfranogiad;
D) Ymgysylltu â chenedlaethau'r dyfodol.
Cynigiodd y swyddog y dylai porth rhyngrwyd Newid Hinsawdd Canolig gael ei sefydlu, fel bod modd cyfeirio trigolion a rhanddeiliaid ato i godi ymwybyddiaeth o brosiectau cyfredol, arfer gorau, achlysuron lleol a chenedlaethol, ac astudiaethau achos.
Yn Adran 5.18 yr adroddiad, roedd rhestr o grwpiau ac unigolion sydd wedi'u nodi'n rhai i ymgysylltu a nhw yn rhan o'r agenda ehangach. Nododd y swyddog y byddai'n hanfodol ehangu'r rhestr yma a chreu cronfa ddata o'r grwpiau/unigolion allweddol sy'n hyrwyddo newid ac yn cael effaith yn lleol.
Rhoddodd y swyddog enghraifft i'r gr?p llywio o'r gwaith ymgysylltu a gynhaliwyd gyda thrigolion mewn perthynas â Chynllun Corfforaethol y Cyngor. Soniodd am ddosbarthu 'pecynnau cymryd rhan' i rai unigolion, sy'n rhoi cyfrifoldeb iddyn nhw dros ymgysylltu â grwpiau llai.
O ran cyfathrebu newid mewn ymddygiad, rhoddodd y swyddog enghreifftiau o ymgyrchoedd ailgylchu proffil uchel blaenorol, sydd wedi hyrwyddo newid cymdeithasol cadarnhaol yn y Fwrdeistref.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad trylwyr, a nododd fod angen i'r Cyngor, Grwpiau Amgylcheddol a'r gymuned ehangach weithio gyda'i gilydd.
Soniodd un cynrychiolydd am y prosiect 'skyline vision' Croeso i'n Coedwig, sy'n ceisio nodi sut mae modd i gymuned newid er mwyn lleihau ei hôl-troed carbon, a dywedodd y byddai'r wybodaeth yn cael ei rhannu yn dilyn y cyfarfod. Aeth y Gr?p Llywio ati i gydnabod y byddai newidiadau bach a datrysiadau arloesol, fel nodi maint ôl-troed carbon unigolion a'i leihau, yn grymuso trigolion ac yn eu galluogi i gymryd perchenogaeth. Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at y 4000 o fylbiau a blannwyd gan gr?p cymunedol yn Rhydfelen. Roedd hyn wedi cyfrannu at y newid, a hefyd wedi bod o fudd cadarnhaol i'r cyfranogwyr.
Cafodd y Gr?p Llywio sgwrs am addysg a'r effaith gadarnhaol y mae modd i'r cyfryngau cymdeithasol a'r porth rhyngrwyd ei chael ar bobl ifainc.
Roedd y Cynrychiolwyr Allanol yn gefnogol o'r dull ac yn falch o gyfeirio'r Cyngor ar grwpiau llai, a oedd wedi dangos ymrwymiad i wneud gwahaniaeth.
PENDERFYNWYD:
1. Cefnogi'r pedwar maes ffocws arfaethedig:
a) Cyfathrebu a gweithgarwch ar y Cyfryngau Cymdeithasol
b) Datblygu ymgyrch newid ymddygiad
c) Hwyluso Cyfranogiad
d) Ymgysylltu â chenedlaethau'r dyfodol;
2. Cytuno i'r swyddogion weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid a grwpiau amgylcheddol allweddol er mwyn datblygu'r dull yma ar gyfer y dyfodol, a gofyn iddyn nhw gydweithio â ni ar weithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu penodol;
3. Derbyn diweddariadau ar y cynnydd mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
Dogfennau ategol: