Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned sy'n rhoi cyfle i'r Gr?p Llywio drafod pa gamau y mae modd eu cymryd yn yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, er mwyn sicrhau bod ansawdd aer yn gwella ledled Bwrdeistref y Sir.
Cofnodion:
Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, cyflwynodd y Rheolwr Diogelwch yr Amgylchedd a Safonau Tai yr adroddiad i'r Aelodau, gyda'r bwriad o drafod y camau y mae modd eu cymryd mewn Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, a hynny er mwyn sicrhau bod ansawdd aer yn gwella ledled y Fwrdeistref Sirol.
Rhoddwyd enghreifftiau i'r Gr?p Llywio o'r 16 ardal Rheoli Ansawdd Aer a nodwyd yn Rhondda Cynon Taf ac roeddent yn falch o nodi'r farn bod y rhan helaeth o'r Fwrdeistref yn profi ansawdd aer da a bod yr ardaloedd hynny a nodwyd yn fannau ynysig. Clywon nhw y gall amgylchiadau lleol penodol iawn arwain at lefelau Nitrogen Deuocsid a allai fod yn uwch nag Amcan Ansawdd Aer.
Aeth yr Aelodau ati i gydnabod bod potensial i Newid Hinsawdd gael effaith negyddol ar ansawdd aer yn y dyfodol a bod angen gweithredu i ddarparu atebion cynaliadwy.
Cyfeiriwyd y Gr?p Llywio at Atodiad 1 yr adroddiad, lle rhestrwyd y Cynlluniau Gweithredu Ansawdd Aer unigol. Ystyriwyd bod nifer o'r gwelliannau yn ymarferol o ran cyflawni gwelliant tymor byr mewn ansawdd aer yn yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer. Fodd bynnag, roedd y Gr?p Llywio yn cydnabod na fyddai'r materion a'r seilwaith cyfredol sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth o fewn RhCT yn cefnogi rhai o'r camau cynaliadwy, tymor hir a nodwyd mewn modd digonol. Roedd barn y dylid cynnal trafodaethau rhwng Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned a'r Cyfarwyddwr Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen i nodi'r gweithredoedd hyfyw, hirdymor o Dabl B yr adroddiad, i'w cynnwys yn Rhaglen Cyfalaf Priffyrdd y Cyngor ar gyfer ystyriaeth gan y Cabinet.
Cafwyd trafodaethau ynghylch ymgysylltu â'r gymuned yngl?n â'r Diwrnod Aer Glân, sy'n cael ei gynnal ar 20 Mehefin 2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy'n rhan o'r ymgyrch Diwrnod Aer Glân ehangach ledled y DU. Teimlai'r Gr?p Llywio y byddai cyfranogiad y Cyngor yn y fenter yn hyrwyddo neges gadarnhaol i'w drigolion ond cytunwyd y byddai angen cyfleu'r neges gywir, boed hynny o ran rhannu ceir, beicio i'r gwaith neu blannu coed.
Mewn perthynas â'r cyllid grant, a ddefnyddiwyd i ddarparu gwell goleuadau stryd i wasanaethu'r llwybr mynediad teithio llesol i Ysgol Uwchradd Pontypridd, cydnabuwyd bod y dull deilliannau amlasiantaeth wedi bod yn hanfodol a'i fod wedi bod o fudd i nifer o agendâu, gan gynnwys ymgysylltu lleol, teithio llesol, ansawdd aer, newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad. PENDERFYNWYD:
1. Nodi cynnwys yr adroddiad;
2. Argymell y canlynol i'r Cabinet:
I. Parhau i symud ymlaen gyda'r camau tymor byr ac ymarferol a nodwyd yn Nhabl B yr adroddiad;
II. O ystyried amgylchiadau lleol cyfredol, bod y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned yn gweithio gyda'r Cyfarwyddwr Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen i nodi'r gweithredoedd hyfyw, hirdymor o Dabl B yr adroddiad, i'w cynnwys yn Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd y Cyngor, i'w ystyried gan y Cabinet;
III. Bod y Cyngor yn ceisio ymgysylltu â thrigolion yngl?n â'r Diwrnod Aer Glân, sy'n cael ei gynnal ar 20 Mehefin 2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy'n rhan o'r ymgyrch Diwrnod Aer Glân ehangach ledled y DU.
Dogfennau ategol: