Agenda item

Derbyn diweddariad ar lafar

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant ddiweddariad llafar i'r Gr?p Llywio mewn perthynas â Buddsoddi yn y Celfyddydau yn RhCT ar gyfer 2018/19 a 2019/20.

 

Cadarnhaodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant fod adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Cabinet ar 17 Hydref 2019. Cadarnhawyd bod dolen i'r adroddiad wedi'i hanfon at Aelodau'r Gr?p Llywio trwy'r Swyddog Craffu Graddedig.

 

Cafodd yr aelodau wybod bod Theatrau RCT Gwasanaethau Celfyddydau Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gleient Portffolio Celfyddydol Cymru Cyngor Celfyddydau Cymru ac wedi derbyn cyllid refeniw o £150,821 yn 2018/19 ac y byddan nhw'n derbyn yr un swm yn 2019/20. Dywedwyd wrth yr aelodau mai'r unig leoliadau eraill sy'n cael eu rhedeg gan Awdurdod Lleol sy'n derbyn cyllid refeniw blynyddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yw Sefydliad Glowyr y Coed Duon (Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili) a Theatr Clwyd (Cyngor Sir y Fflint).

 

O ran ysgolion a Buddsoddiadau Cyngor Celfyddydau Cymru, dywedodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant wrth y Gr?p Llywio fod llawer o ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol wedi llwyddo i ennill cyllid trwy raglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa bod gan y rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau dri opsiwn cyllido ar gyfer ysgolion; Ysgolion Creadigol Arweiniol, eu cynlluniau Ewch i Weld a Chydweithio Creadigol, sef dau opsiwn cyllido o dan y gronfa Profi'r Celfyddydau.

 

O ran buddsoddiadau eraill Cyngor Celfyddydau Cymru yn RhCT, cadarnhaodd y Rheolwr fod Valleys Kids a Chymuned Artis yn parhau i dderbyn cyllid refeniw blynyddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Derbyniodd Valleys Kids £122,383 yn 2018/19 ac mae’n aros yr un fath ar gyfer 2019/20 a derbyniodd Cymuned Artis £199,960 yn 2018/19 ac mae’n aros yr un fath ar gyfer 2019/20.

 

Mewn perthynas â chyllid y Loteri Genedlaethol, dywedwyd wrth yr Aelodau fod £136,218 wedi'i ddyfarnu hyd yma yn 2019/20 i sefydliadau cenedlaethol sy'n gwasanaethu Rhondda Cynon Taf.

 

Rhoddodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant wybod i'r Aelodau bod £2,490 wedi'i ddyfarnu i Wales Arts Review yn ystod 2018/19 ar gyfer datblygu ei Fforwm Beirniaid Ifainc a Chelfyddydau Ieuenctid.Dywedwyd wrth yr aelodau hefyd fod Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd wedi buddsoddi £25,000 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn rhan o'i raglen i feithrin capasiti Byrddau Iechyd ledled Cymru.

 

O ran heriau posibl o'n blaenau, rhestrodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant y 'Rhaglen Teuluoedd Cydnerth: Comisiwn Teuluoedd yn Gyntaf' a nododd y byddai digomisiynu neu ostwng y comisiwn yn effeithio ar ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifainc ymgysylltu â'r celfyddydau a chymryd rhan ynddyn nhw, ynghyd â cholli gwybodaeth ac arbenigedd yng Ngharfan y Celfyddydau a'r Diwydiannau Creadigol. Yn ogystal â hynny, byddai cyfyngu ar argaeledd cyllid loteri ar gyfer Gwasanaeth y Celfyddydau a Theatrau RhCT yn cael effaith ar y cyfleoedd i drigolion ymgysylltu â'r celfyddydau a'r diwydiannau creadigol, ac i gymryd rhan ynddyn nhw, er enghraifft datblygu gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth, a chynyrchiadau theatr fyw sydd wedi'u creu ar y cyd â thrigolion ac sy'n berthnasol iddyn nhw.

 

Pwysleisiodd y Rheolwr y bydd colli neu leihau'r cyllid refeniw sy'n cael ei dderbyn a statws ein Portffolio Celfyddydol yn effeithio ar y rhaglen fyw yn Theatrau RhCT, gwaith cydgynhyrchu a chynhyrchu, marchnata a hyrwyddo'r celfyddydau, gweithgaredd cyfranogi a staff. O ran Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau, dywedodd y Rheolwr wrth yr Aelodau nad oes unrhyw gyhoeddiad wedi bod gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn perthynas â'r rhaglen a'r arian sydd ar gael ar ôl Mawrth 2020. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa, pe bai'r rhaglen hon yn dod i ben neu petai'r cyllid sydd ar gael yn lleihau, byddai'n cael effaith ar allu ysgolion i gyrchu arbenigedd a chyfleoedd creadigol a fyddai'n rhan allweddol o gefnogi'r cwricwlwm newydd ym maes y Celfyddydau Mynegiannol.

 

I gloi, rhoddodd y Rheolwr wybod i'r Gr?p Llywio bod gobaith y bydd cyllid ar gael o hyd oddi wrth ystod o ffynonellau fel bod modd i drigolion barhau i elwa o ymgysylltu â'r celfyddydau o bob math.

 

Cafwyd trafodaethau a chanmolodd Aelodau'r Gr?p Llywio'r buddsoddiad parhaus yn y Celfyddydau yn RhCT. Holodd Aelod am y sefyllfa gyllido yn y dyfodol o ran Brexit. Cydnabu Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant fod risg bosibl na fyddai RhCT yn derbyn cyllid bellach gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Serch hynny, pwysleisiodd y Rheolwr hefyd safle cryf y Cyngor o ran ei raglen Gelfyddydol a chyfeiriodd yr Aelodau at ganllawiau'r Loteri Genedlaethol, sy'n galluogi RhCT i wneud cais am gyllid mewn perthynas â'r Celfyddydau a phobl ifainc. Cadarnhaodd Rheolwr y Celfyddydau a Diwydiannau Creadigol y bydd y Cyngor yn parhau â'i waith gyda Camau'r Cymoedd a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ar ôl Brexit.  O ran ansicrwydd, dywedodd y Cadeirydd wrth y Gr?p Llywio fod swyddogion yn RhCT wedi bod yn gweithio'n galed i fagu gwytnwch. Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau fod ansicrwydd mewn perthynas â Brexit yn rhan o'r sector ehangach a bod cyni wedi gwaethygu'r ansicrwydd economaidd yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Parhaodd y trafodaethau a chyfeiriodd Aelod o'r Gr?p Llywio at saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a phwysleisiodd fod cyllido'r Celfyddydau o werth cynhenid i'r gymdeithas.  Cytunodd yr aelodau fod cerddoriaeth mewn ysgolion yn hanfodol o ran datblygiad person ifanc.  Atgoffodd Aelod arall yr Aelodau am y cyfleoedd sydd ar y gweill i RCT mewn perthynas ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a phwysleisiodd fod angen i'r Awdurdod Lleol fod yn rhagweithiol o ran ei gynllunio, yn enwedig o ran y Celfyddydau a phobl ifainc.

 

Yn dilyn trafodaeth, diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am ddarparu diweddariad mor fanwl i'r Gr?p Llywio, a gofynnodd i ddiweddariadau yn y dyfodol gael eu hadrodd i'r Gr?p Llywio pan oedd angen.