Agenda item

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol yngl?n â Rhaglen Dylunio Gwerth Cyhoeddus at Ddiben Cyngor Celfyddydau Cymru. 

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant ddiweddariad i'r Pwyllgor mewn perthynas â chynnydd Theatrau RhCT ar Raglen Dylunio Gwerth Cyhoeddus â Phwrpas Cyngor Celfyddydau Cymru.

 

Atgoffodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant yr Aelodau fod 'Dylunio Gwerth Cyhoeddus â Phwrpas' yn rhaglen 7 mis a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac a ddatblygwyd ac a ddarperir gan The Experience Business ar gyfer tri o'i leoliadau celfyddydau perfformio Portffolio Celfyddydol Cymru. Atgoffwyd yr aelodau mai Theatrau RhCT, Theatr Felinfach yn Llanbedr Pont Steffan a Chanolfan Ucheldre yng Nghaergybi oedd y tri lleoliad a ddewiswyd i gymryd rhan yn y rhaglen, ar ôl cyflwyno mynegiant o ddiddordeb. Bydd RhCT yn canolbwyntio ar Theatr y Parc a'r Dâr yn Nhreorci at ddibenion y rhaglen hon.

 

Wrth siarad am y sefyllfa bresennol, dywedodd y Rheolwr wrth yr Aelodau fod ymchwil ddiweddar wedi nodi bod gan Theatr y Colisëwm ddalgylch mwy ymgysylltiedig o fewn amser gyrru 20 munud, tra bod dalgylch y Parc a'r Dâr yn dangos bod gan 85% lefel isel o ymgysylltiad gyda'r celfyddydau. Rhoddodd y Rheolwr wybod felly fod angen dull sy'n cynnwys rhagor o gymorth ar Theatr y Parc a'r Dâr a thargedu'r sawl i'w cynnwys.

 

O ran y ffordd ymlaen, dywedodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant wrth yr Aelodau, o ganlyniad i ddatblygu'r Canolfannau Cymuned ledled Rhondda Cynon Taf, mae Theatrau RhCT yn hyrwyddo lleoliad Theatr y Parc a'r Dâr yng nghanol y dref a ger y llyfrgell fel cyfle i archwilio'i photensial fel Canolfan Ddiwylliannol yn y Gymuned. Cafodd yr Aelodau wybod am y canlyniadau disgwyliedig canlynol: cysylltu cymunedau; galluogi pobl i gyflawni'u potensial; gwneud y mwyaf o les corfforol a meddyliol pobl; darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell sy'n hygyrch, yn gost effeithiol ac wedi'u cyd-gysylltu; hyrwyddo a diogelu cymunedau, diwylliant a threftadaeth.

 

O ran Gwerth Cyhoeddus, cafodd yr Aelodau eu hatgoffa o'r gweithdy dau ddiwrnod a gafodd ei gynnal ym mis Mehefin 2019, wedi'i hwyluso gan 'The Business Experience'. Cafodd yr Aelodau wybod y cafodd cyfres o aseiniadau eu gosod yn dilyn y gweithdy, er mwyn tynnu canlyniadau'r gweithdy ynghyd. Cafod y rhain eu rhannu mewn diwrnod Dysgu Cymheiriaid ym mis Medi 2019. Rhoddodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant wybod i'r Aelodau bod y gweithdy nesaf wedi canolbwyntio ar ddatblygu mentrau newydd ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd, yn seiliedig ar Theori Newid, a nodi prototeipiau i'w datblygu'n Theori Gweithredu.

 

I grynhoi, atgoffodd y Rheolwr yr Aelodau fod cymryd rhan yn y rhaglen wedi galluogi'r Cyngor i ddeall ei gyd-destun gweithredu o fewn Treorci ac i bennu pum gwerth craidd ar gyfer Theatr y Parc a'r Dâr Theatrau RhCT: Creadigrwydd; Gwreiddiau; Calon; Cysylltedd; a, Llawenydd. 

 

Cafwyd trafodaethau a chanmolodd y Cadeirydd y rhaglen, yn enwedig y sesiynau gweithdy a'r ffordd yr anogwyd Aelodau i feddwl am Theatrau RhCT a'i rôl yn y gymuned ehangach.

 

Rhybuddiodd Aelod yngl?n â rhoi'r ffocws ar drigolion Treorci  a phwysleisiodd fod angen i RCT annog ystod ehangach o ymwelwyr i fynd i Theatr y Parc a'r Dâr. Atgoffodd yr Aelod y Gr?p Llywio fod Theatr Parc a'r Dâr yn y gorffennol yn arfer meithrin talent ifanc a bod angen i'r Cyngor ganolbwyntio ar wneud i'r Theatr ffynnu eto. Rhybuddiodd yr Aelod hefyd yngl?n â'r angen i gael balans o ran prisiau tocynnau a sicrhau bod y celfyddydau'n fforddiadwy i bawb.

 

O ran prisiau tocynnau, cytunodd yr Aelodau ei bod yn aml yn weithred gydbwyso anodd, yn enwedig o ran cyfyngiadau cyllidebol. Cytunodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant y bydd angen i'r Cyngor adolygu prisiau tocynnau yn y dyfodol, fodd bynnag, pwysleisiodd y Rheolwr fod prisiau tocynnau yn aml yn cael eu pennu gan y perfformwyr eu hunain neu eu hasiantau.

 

O ran canolbwyntio ar Dreorci, cynghorodd y Rheolwr yr Aelodau fod y Siambr Fasnach y mae’r Theatr Park and Dare yn aelodau ohoni, yn datblygu ‘Siambr Fasnach Cwm Rhondda’, a fyddai’n bwrw'r rhwyd y tu hwnt i Dreorci. Gofynnodd Aelod arall am eglurhad ynghylch diffinio “dalgylch”. Rhoddodd Rheolwr Datblygu a Gweithrediadau'r Theatr wybod i'r Aelodau bod y darn o waith wedi'i gomisiynu i ganolbwyntio ar Dreorci a'r ffocws oedd edrych ar ddemograffig trigolion Treorci a gweld sut maen nhw'n teimlo am y celfyddydau.

 

Cafwyd trafodaethau mewn perthynas â'r dalgylch ehangach a nododd y Cadeirydd y bydd Metro Cymoedd De Cymru yn annog mewnlifiad o ymwelwyr i Gwm Rhondda ac i Theatr y Parc a'r Dâr. Canmolodd nifer o Aelodau'r syniad o gyflwyno Canolfan Ddiwylliannol yn y Gymuned yn Theatr y Parc a'r Dâr, a phwysleisiodd bwysigrwydd ei gwneud hi'n weledol i'r gymuned ehangach. Pwysleisiodd Aelod bwysigrwydd atgoffa'r gymuned bod y Ganolfan yn perthyn iddyn nhw a chreu ymdeimlad o berchnogaeth gymunedol. Cytunodd yr Aelodauy byddai creu Canolfan Gymdeithasol yn annog ymgysylltiad cymunedol. Nododd y Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned bwysigrwydd gwneud y mwyaf o'r adeilad heb gyfaddawdu yngl?n â'i werth craidd. Roedd yr aelod cyfetholedig o'r farn mai'r bobl ifainc sydd yn y sefyllfa orau i ddelio â phrofiadau newydd, fodd bynnag, pwysleisiodd hefyd fod angen cyfle ar bobl h?n i ymgyfarwyddo ag unrhyw ddatblygiadau strwythurol a chymunedol newydd. 

 

Cafwyd trafodaethau a chytunodd yr Aelodau y byddai Canolfan Ddiwylliannol yn y Gymuned yn gyfle gwych i ddenu ymwelwyr i'r gymuned leol. Pwysleisiodd nifer o Aelodau bwysigrwydd cysylltu'r Ganolfan â'r llyfrgell leol. Nododd yr aelodau y cyfleoedd niferus sydd ar gael i gysylltu â chlybiau llyfrau lleol, eglwysi a neuaddau pentref. Serch hynny, nododd Aelod fod mwyafrif helaeth y profiadau celfyddydol yn cael eu cynnal yn y gymuned, fel y rheiny mewn Eglwysi a Chapeli, ac mai dim ond cyfran fach o'r digwyddiadau hyn sy'n cael eu hysbysebu gan y Cyngor. Nododd nifer o Aelodau ei bod yn aml yn weithred gydbwyso anodd i'r Awdurdod a bod y gofod newydd yn Theatr y Parc a'r Dâr yn gam enfawr ymlaen.

 

Cyfeiriodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant y Gr?p Llywio at y gweithdai a gynhaliwyd ym mis Mehefin a mis Medi a nododd y bydd allbynnau'r cyfarfodydd yn cael eu rhannu gyda'r Gr?p Dysgu Cymheiriaid ym mis Mawrth 2020.

 

Gorffennodd y Cadeirydd y trafodaethau trwy roi gwybod i'r Gr?p y bydd diweddariad mewn perthynas â'r camau nesaf yn cael ei ddarparu yn ystod cyfarfod nesaf y Gr?p Llywio.  

 

Dogfennau ategol: