Agenda item

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yngl?n â lleihau ynni a charbon.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor adroddiad i'r Aelodau mewn perthynas â datblygiadau perthnasol i Leihau Ynni a Charbon.

 

Atgoffwyd yr Aelodau y dylid ystyried yr adroddiad fel rhan o'r brif 'Bapur Trafod - Rhaglen Waith ar gyfer Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd'.

 

Atgoffodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau fod y rhaglen Buddsoddi Ynni i Arbed ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2020/21 wrthi'n cael ei chwblhau, ond rhagwelir y bydd yn ymrwymo'r Cyngor i fuddsoddi o leiaf £1.4 miliwn arall ar welliannau lleihau ynni a charbon. 

 

Cafwyd trafodaethau a chyfeiriodd un Aelod y Gr?p at y buddsoddiad sylweddol a wnaed gan y Cyngor i Oleuadau Stryd mwy effeithlon o ran ynni. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa bod yr holl oleuadau stryd yn y Fwrdeistref Sirol bellach wedi cael eu trosi yn rhai LED, ac mae hyn, ynghyd â pholisïau pylu a lleihau goleuadau gyda'r nos, wedi arwain at ostyngiad o 75% yn yr ynni a ddefnyddir.

 

Cyfeiriodd Aelod arall y Gr?p at y £7 miliwn a fuddsoddwyd gan y Cyngor mewn mesurau Lleihau Ynni a'r gostyngiadau ynni amcangyfrifedig o dros 18 miliwn MW o ynni. Dywedodd yr Aelod y byddai'n ddefnyddiol derbyn gwybodaeth am yr oriau MW sydd wedi'u harbed o ganlyniad uniongyrchol i fesurau lleihau ynni.

 

Parhaodd y trafodaethau a phwysleisiodd un Aelod bwysigrwydd dangos i'r cyhoedd pa gamau y mae RhCT wedi'u cymryd dros y deng mlynedd diwethaf i fuddsoddi mewn mesurau lleihau ynni. Cyfeiriodd yr Aelod y Gr?p at bolisi gweithio hyblyg y Cyngor a'i ddull o ddefnyddio llai o bapur. Yn hyn o beth, holodd un Aelod pa gamau a gymerwyd gan y Cyngor i osod pwyntiau gwefru trydan ledled y Fwrdeistref Sirol. Dywedodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor fod y Cyngor wedi cytuno i ychwanegu pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan newydd ar gyfer pob prosiect newydd gan y Cyngor wrth symud ymlaen.

 

O ran gweithio'n hyblyg, holodd un Aelod a oedd y defnydd cynyddol o offer TG yn dda i'r amgylchedd. Dywedodd yr Aelod y gallai gweithio'n hyblyg arwain at ragor o ddefnydd o ynni. Cafwyd trafodaethau a chytunodd nifer o Aelodau fod gweithio hyblyg ar y cyfan yn defnyddio llai o ynni a'i fod yn gam cadarnhaol tuag at leihau ynni a charbon. 

 

Nododd yr Aelodau fod angen i'r Cyngor hyrwyddo'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud gan yr Awdurdod mewn perthynas â lleihau carbon ac ynni, a phwysleisiwyd pwysigrwydd rhannu gwybodaeth. Nodwyd mai RhCT yw'r Awdurdod Lleol cyntaf i ffurfio Gr?p Llywio ar Faterion yr Hinsawdd i fynd i'r afael yn benodol â'r argyfwng Newid Hinsawdd, a chytunwyd bod angen cymryd camau rhagweithiol wrth symud ymlaen fel Awdurdod Lleol. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran – Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen wrth yr Aelodau bod gwaith sylweddol yn cael ei wneud mewn perthynas â pholisi fflyd y Cyngor a bod y Cyngor yn defnyddio cerbydau hybrid ac yn annog pobl i rannu ceir. Fodd bynnag, pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Cyfadran hefyd fod technoleg yn y maes hwn yn dal i gael ei datblygu a bod cryn dipyn i'w wneud eto i fynd i'r afael ag allyriadau carbon. O ran seilwaith cerbydau carbon isel, nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd y bydd y Gr?p Llywio yn monitro'r seilwaith ac adroddir argymhellion y Gr?p yn ôl i'r Cabinet.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi'r diweddariad mewn perthynas ag Ynni Eiddo'r Cyngor a Lleihau Carbon.

 

Dogfennau ategol: