Agenda item

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n amlinellu sefyllfa bresennol y Cyngor mewn perthynas â'r newid yn yr hinsawdd a'r rhaglen waith arfaethedig ar gyfer y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ei adroddiad i'r Aelodau mewn perthynas â Rhaglen Waith y Gr?p Llywio ar gyfer y dyfodol.

 

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa fod Cabinet y Cyngor wedi ailedrych ar ei ymrwymiad i ddod yn Gyngor Carbon Niwtral, ac wedi gosod targed uchelgeisiol o gyflawni hyn erbyn 2030, ynghyd â thrigolion a busnesau'r Fwrdeistref Sirol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr wrth yr Aelodau fod y rhaglen waith yn gosod targed uchelgeisiol, a phwysleisiodd fod y Cyngor yn croesawu mewnbwn gan sefydliadau ac unigolion eraill wrth helpu i gyrraedd targed 2030.

 

O ran amlder, clywodd yr Aelodau y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn fisol er mwyn rhoi cyfle i'r Gr?p Llywio ystyried y camau sydd eu hangen ar y Cyngor mewn perthynas â'r Cynllun Corfforaethol a thargedau Net Zero 2030.

Esboniodd y Prif Weithredwr y gallai aelodau allanol y Gr?p Llywio hefyd gyflwyno eitemau i'w hystyried ar yr agenda, a bod amser wedi'i ddyrannu yng nghyfarfod mis Mawrth i ystyried yr eitemau hyn. Pe bai'r ddau aelod allanol yn dymuno cyflwyno unrhyw eitemau ar yr agenda, byddai swyddogion y Cyngor yn barod i weithio gyda'r ddau aelod i gynnal unrhyw ymchwil neu ysgrifennu adroddiadau drafft i'w cefnogi. Croesawodd y Prif Weithredwr eu cyngor yngl?n â'r ffordd orau i ymgysylltu ag ystod eang o grwpiau cymunedol sydd â diddordeb uniongyrchol mewn diogelu'r amgylchedd lleol.

 

Cafwyd trafodaethau a nododd Aelod fod yn rhaid i'r Cyngor rymuso ei gymunedau. Pwysleisiodd yr Aelod bwysigrwydd rhannu gwybodaeth a modelau arfer da, yn ogystal â phwysigrwydd trosglwyddo gwybodaeth i'r genhedlaeth nesaf. Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at y gymuned yn Rhydfelen a sut mae preswylwyr wedi cael eu hannog i blannu dros 7000 o fylbiau yn yr ardal yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2019/20.

 

O ran polisi ailgylchu'r Cyngor, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i bob awdurdod lleol ailgylchu o leiaf 70% o'i wastraff cartrefi erbyn 2025. Clwyodd yr Aelodau fod y Cyngor eisoes yn agos iawn at gyflawni'r targed hwn. Fodd bynnag, mae'r Cyngor eisiau cynyddu'r lefel yma i o leiaf 80% o'r holl wastraff cartref erbyn 2030. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Cyfadran – Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen nad oes modd i'r Cyngor gyrraedd y targed o 80% heb ymrwymiad ein preswylwyr ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol.

 

Aeth y trafodaethau ymlaen a rhoddodd nifer o Aelodau bwyslais ar y cyfleoedd sydd ar gael i rymuso cymunedau lleol. Cytunodd y Prif Weithredwr, a phwysleisiodd bwysigrwydd rhoi cyhoeddusrwydd i waith parhaus y Cyngor i ddod yn Gyngor 'Net Zero'. Cytunodd yr Aelodau y bydd angen i'r Cyngor weithio ar y cyd â grwpiau cymunedol lleol a chynghorwyr tref a chymuned. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu bwysigrwydd cynnwys fforymau ieuenctid cymunedol hefyd. Cytunodd y Gr?p y bydd addysg ac ymgysylltu yn rhan allweddol o strategaeth y Cyngor. 

 

O ran ynni adnewyddadwy, nododd un Aelod nad oes cydberthynas ar hyn o bryd rhwng y defnydd o ynni a CDG. Pwysleisiodd Aelod arall bwysigrwydd rheoli adnoddau ar gyfer defnyddio carbon, a hysbysodd y Gr?p mai rheolaeth dda o'r goedwigaeth yw sut y byddwn yn sicrhau mwy o garbon. 

 

Rhybuddiodd un Aelod y bydd yna elfennau sydd y tu allan i gylch gwaith y Gr?p ac y dylai'r Gr?p ganolbwyntio ei waith a chymryd agwedd realistig.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cytuno ar raglen waith pedwar mis ddrafft hyd at 31 Mawrth 2020.

 

Dogfennau ategol: