Mae'r dudalen hon yn rhestru'r cyfarfodydd ar gyfer Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg.
Yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac o ystyried gofynion Adran 58 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a'r canllawiau statudol cysylltiedig, cafodd Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu ei sefydlu, sy'n cynnwys Aelodau etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Bwriad hyn yw craffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg.
Aelodaeth:
Mae aelodaeth Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg yn cynnwys 15 Aelod etholedig (5 o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, 5 o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a 5 o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful), sydd i'w gweld isod:-
Rhondda Cynon Taf:
Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol R. Bevan, B. Stephens, M. Ashford, J. Bonetto a K. Morgan (S. Evans - Dirprwy Aelod).
Merthyr Tudful:
Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: C. Jones, K. Gibbs (x 3 Aelod i'w cadarnhau)
Pen-y-bont ar Ogwr:
Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: Alex Williams, Amanda Williams, (X 3 Aelod i'w cadarnhau) (Freya Bletsoe – Dirprwy Aelod)