Pori cyfarfodydd

Mae'r dudalen hon yn rhestru'r cyfarfodydd ar gyfer Pwyllgor Craffu - Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Pwyllgor Craffu - Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant

Bydd y Pwyllgor yma'n gyfrifol am graffu ar y gwaith o Gynnal Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws ystod o wasanaethau'r Cyngor a'r sector cyhoeddus. Bydd hyn yn cynnwys Gwasanaethau Rheng Flaen sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor, gan gynnwys Gwastraff a Phriffyrdd. Bydd y Pwyllgor yn trafod materion sy'n berthnasol i'r Amgylchedd a Datblygiad Cynaliadwy. Yn fwy penodol bydd y Pwyllgor yma'n gyfrifol am graffu ar sut mae'r Cyngor yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac yn lleihau ei ôl troed Carbon. Bydd hefyd yn trafod meysydd sy'n cyfrannu at ffyniant megis Datblygiad Economaidd, Adfywio a Thwristiaeth.