Pori cyfarfodydd

Mae'r dudalen hon yn rhestru'r cyfarfodydd ar gyfer Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned.

Cyfarfodydd

Gwybodaeth ynghylch Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned

Mae'rPwyllgor yma'n gyfrifol am ganolbwyntio ar wasanaethau’r Cyngor sy'n cefnogi Iechyd a Lles ein cymunedau. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid yn y Gwasanaeth Iechyd a thrafod ffactorau sy'n cyfrannu at y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig i gefnogi pobl h?n. Mae'r Pwyllgor yn trafod gwasanaethau cymdeithasol i oedolion yn ogystal â'r holl ffactorau eraill sy'n cyfrannu at Iechyd a Lles y Fwrdeistref Sirol, megis Gwasanaethau Hamdden a Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y CyhoeddYn rhan o'i gylch gwaith, ochr yn ochr â'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol, bydd yn trafod cyfrifoldebau'r Cyngor ac yntau'n Rhiant Corfforaethol, gan gynnwys cyfrifoldebau Plant sy'n Derbyn Gofal. Yn ogystal â hyn, dyma Bwyllgor Materion Troseddau ac Anhrefn dynodedig y Cyngor (o dan Adrannau 19 a 20 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder, 2006).