Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Virtually

Cyswllt: Tracy Watson - Uwch Swyddog Democrataidd a Craffu  07385 086 169

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

41.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd D Wood, a'r Aelod Cyfetholedig Mr L Patterson.

42.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:

 

Mr Veale - Buddiant personol yn eitemau 5 a 6 ar yr agenda - “Rydw i'n Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen-wen”

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Evans - Buddiant personol yn eitemau 5, 6 a 7

“Mae ysgol fy mab wedi'i nodi yn yr adroddiad”

“Rydw i'n Is-gadeirydd Corff Llywodraethu ysgol sydd wedi'i nodi yn yr adroddiadau”

“Rydw i'n gweithio i Brifysgol De Cymru”

“Rydw i'n Is-gadeirydd Corff Llywodraethu ysgol sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad”

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Ashford - Buddiant personol yn eitem 5 ar yr agenda - “Rydw i'n Llywodraethwr Ysgol Gynradd Pont-y-clun” 

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher – Buddiant personol yn eitemau 5 a 6 ar yr agenda – “Roeddwn i'n arfer dysgu yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen-wen”

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Lisles - Buddiant personol yn eitemau 5 a 6 ar yr agenda - “Rydw i'n Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen-wen”

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Jayne Smith – Buddiant personol yn eitem 7 ar yr agenda “Rydw i'n Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn”

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Hickman - Buddiant personol yn eitem 5 “Mae fy merch yn mynychu Ysgol Gynradd Ynys-hir”

43.

COFNODION pdf icon PDF 188 KB

Cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod ar-lein y Pwyllgor Craffu – Addysg a Chynhwysiant a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2023, yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr eu cadarnhau'n gofnod cywir o’r cyfarfod.

44.

DOLENNI YMGYNGHORI

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w hystyried gan y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Blaen Swyddog Craffu wrth yr Aelodau am yr ymgynghoriadau wedi'u cyhoeddi, gan atgoffa Aelodau i gysylltu â'r Garfan Graffu os oes gyda nhw unrhyw gwestiynau.

45.

YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU – STRWYTHUR Y FLWYDDYN YSGOL pdf icon PDF 176 KB

Cyfle i Aelodau'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Blaen Swyddog Craffu yr adroddiad i Aelodau er mwyn iddyn nhw ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sy'n nodi cynigion egwyddor newid y flwyddyn ysgol, opsiynau ar gyfer newid y flwyddyn ysgol gan gynnwys newidiadau i flwyddyn ysgol 2025-2026 a dyddiadau tymor awgrymedig ar gyfer blwyddyn ysgol 2025-2026.

 

Yn dilyn cyflwyno'r adroddiad, croesawodd y Cadeirydd sylwadau gan Aelodau mewn perthynas â'r cynigion.

 

Cafodd pryderon eu codi y gallai ymestyn gwyliau'r ysgol yn ystod tymor yr hydref/gaeaf waethygu tlodi plant gan y byddai angen i deuluoedd wresogi eu cartrefi yn ystod y dydd yn y misoedd oer a darparu pryd poeth ychwanegol. Pe byddai newid i dymor yr ysgol, byddai'n well gan Aelodau wythnos ychwanegol ym mis Mai.

Roedd yn well gan Aelodau gadw'r trefniadau presennol o ran cyhoeddi canlyniadau TGAU er mwyn bod yn gyson â Lloegr i osgoi dryswch a'r manteision posibl o ddisgyblion Cymru'n derbyn eu canlyniadau'n gyntaf.

Roedd rhai Aelodau o'r farn bod cadw 6 wythnos o wyliau yn ystod misoedd yr haf yn well o ran lles plant o ganlyniad i ddiwrnodau hirach a thywydd mwy cynnes.  Doedd Aelodau ddim yn erbyn lleihau nifer yr wythnosau i 5 ond roedd yn well ganddyn nhw ychwanegu'r wythnos ychwanegol at wyliau mis Mai/Mehefin.

Roedd Aelodau o blaid gwahanu gwyliau'r Pasg a Gwyliau Banc er mwyn gwneud tymhorau'r Gwanwyn / Haf yn fwy cyfartal.  Dywedodd Aelod fod hyd tymor yr Hydref yn hir a dylid ystyried lles staff a disgyblion.

Nododd Aelodau y gallai tymhorau ysgol mwy cyfartal helpu plant ag ADY all ddioddef o ganlyniad i dymhorau hirach gan fod yn well ganddyn nhw strwythur a threfn yn gyffredinol.

Dywedodd Aelod fod y strwythur gwyliau presennol yn denu llawer o bobl i'r maes felly gallai newid hwn gael effaith ar bobl sydd am ddechrau gyrfa ym myd addysg. 

Nododd Aelodau y dylai unrhyw newidiadau i'r strwythur presennol ystyried lles y disgyblion a'r staff gan y gallai newid y strwythur gael effaith negyddol arnyn nhw.

Roedd Aelodau'n bryderus y gallai newid y strwythur presennol ei gwneud hi'n anodd o ran gofal plant i rieni, yn enwedig y rheiny sy'n gweithio yn Lloegr lle bydd tymhorau'n parhau yr un peth.

Wrth ystyried iechyd a lles plant, dywedodd Aelodau y dylid adolygu amseroedd dechrau ysgolion yn lle newid tymhorau, a hynny er mwyn osgoi'r angen i ddisgyblion ddechrau teithio i'r ysgol ar drafnidiaeth gyhoeddus am 7am. 

 

Yn dilyn trafod yr wybodaeth, PENDERFYNWYD:

 

  1. Rhoi adborth ar y cynigion fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 4 a phenderfynu a oes unrhyw sylwadau neu awgrymiadau pellach lle'n addas yn dilyn trafod yr wybodaeth sydd ger eu bron.

Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i gyflwyno adborth Aelodau i Lywodraeth Cymru ar ran y Pwyllgor.

46.

GWAITH CONSORTIWM CANOLBARTH Y DE YN Y RHANBARTH AC AWDURDOD LLEOL RHONDDA CYNON TAF 2022 - 2023 pdf icon PDF 1 MB

Cyfle i Aelodau'r Pwyllgor graffu ar yr Adroddiad Blynyddol a'i herio.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Swyddogion y Consortiwm a rhoddodd ddiolch iddyn nhw am ymuno â'r cyfarfod.  Ar ôl adolygu'r adroddiad, gofynnodd y Cadeirydd i'r Swyddogion a oedd gyda nhw gyflwyniad ychwanegol neu unrhyw wybodaeth bellach yr hoffen nhw i Aelodau eu derbyn cyn cwestiynau.

 

Ar ôl trafod yr wybodaeth ger ei fron, cytunodd y Pwyllgor ohirio'r eitem yma a gofynnodd i'w thrafod mewn cyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol.  Roedd Aelodau o'r farn bod yr adroddiad yn cynnwys llawer o ddata a'i bod hi'n anodd gwybod beth oedd yn benodol i RCT. Gofynnodd yr Aelodau fod y Swyddogion yn dod yn ôl i gyfarfod yn y dyfodol gydag adroddiad sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

 

·       Cynnydd Ysgolion sy'n destun Mesurau Arbennig.

·       Gwaith mewn Partneriaeth.

·       Gwybodaeth mewn perthynas â Llywodraethwyr Ysgolion a hyfforddiant.

·       Hepgor gwybodaeth fwy cyffredinol am CCD a chynnwys data a manylion sy'n benodol i RCT.

·       Cwtogi'r adroddiad a'i symleiddio. Roedd Aelodau o blaid defnydd cyflwyniad Powerpoint.

·       Gwahodd Pennaeth o'r Gr?p Gwella Ysgolion i'r cyfarfod.

.

Rhoddodd Rheolwr Gyfarwyddwr CCD ddiolch i Aelodau am eu sylwadau ac am bwyntiau llywio eglur ar gyfer adroddiad yn y dyfodol. Rhoddon nhw sicrwydd y bydden nhw'n symleiddio'r wybodaeth yma a'i chyflwyno ar ffurf Powerpoint mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

 

Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD:

 

Gohirio'r eitem a'i derbyn mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu – Addysg a Chynhwysiant yn y dyfodol, ynghyd â chyflwyniad o ddata sy'n benodol i RCT.

47.

ARGYMHELLION ESTYN pdf icon PDF 383 KB

Cyfle i Aelodau’r Pwyllgor graffu ar y diweddariad ar argymhellion Estyn a'i herio.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Chynhwysiant yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sydd wedi'i wneud yn erbyn yr argymhellion ar gyfer gwella a nodwyd yn dilyn arolygiad Estyn o'r gwasanaethau addysg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ym mis Ionawr 2023. Nododd y Cyfarwyddwr fod adroddiad Estyn yn darparu trosolwg cynhwysfawr o'r darganfyddiadau, gan gynnwys cryfderau'r Gyfadran, pethau i'w gwella ac argymhellion.

 

Gofynnodd Aelod beth yw dyddiad cwblhau'r targedau ac a fydd y Pwyllgor yn cael gwybod am y cynnydd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Chynhwysiant fod yna gynlluniau manwl o dan yr argymhellion gyda phum blaenoriaeth strategol sy'n rhan o fframwaith cynllun cyflawni blynyddol. Nododd y Cyfarwyddwr y bydd cynllun cyflawni newydd sbon yn cael ei ddatblygu ym mis Ebrill, gyda llawer o gamau gweithredu fydd yn cael eu monitro bob chwarter.  Rhoddodd y Cyfarwyddwr sicrwydd bod swyddog cyfrifol wedi'i neilltuo i bob cam gweithredu a bod amserlen benodol ar waith sy'n cael ei hadolygu a'i monitro. Dywedodd y Cyfarwyddwr eu bod nhw ar y trywydd iawn o ran mynd i'r afael â'r materion ac aeth ati i gydnabod bod angen cynnal gwaith sylweddol i fynd i'r afael â materion presenoldeb a gwaharddiadau.   Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod modd rhannu'r cynllun cyflawni gydag Aelodau'r Pwyllgor yn fuan.

 

Gofynnodd Aelod a yw'r materion parhaus megis presenoldeb yn ymwneud yn rhannol â'r nifer uchel o blant sy'n byw mewn tlodi. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Chynhwysiant wybod bod gan faes presenoldeb daith wella sylweddol gan fod yna nifer o gymhlethdodau gwahanol yn y maes yma a'u bod nhw wedi bod yno ers cyn y pandemig.  Dywedodd y Cyfarwyddwr fod gan Lywodraeth Cymru gr?p gorchwyl sy'n herio'r materion yma'n genedlaethol a bod yr Awdurdod yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion i'w datrys. 

 

Aeth Aelodau ati i gydnabod bod nifer yr argymhellion wedi haneru sy'n gynnydd sylweddol yn barod. Mae'r rhestr o argymhellion eisoes wedi'i chynnwys yn rhan o Raglen Waith y Pwyllgor Craffu – Addysg felly byddan nhw'n parhau i gael eu monitro gan Aelodau, gan gynnwys gwaith y Consortiwm a sut mae'n ein cefnogi ni i fynd i'r afael â'r argymhellion.  Awgrymodd yr Aelodau fod y Swyddogion yn dod yn ôl i gyfarfod o'r Pwyllgor mewn blwyddyn er mwyn cyflwyno adroddiad cyffredinol ar gynnydd y cynlluniau cyflawni.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

  1. Trafod yr wybodaeth a ddarparwyd;

Ystyried a oes angen unrhyw wybodaeth bellach o ran unrhyw agwedd ar yr adroddiad neu waith y gyfadran Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant.

48.

CYNLLUN STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG – Y DIWEDDARAF AR Y CYNLLUN BLYNYDDOL pdf icon PDF 219 KB

Cyfle i Aelodau'r Pwyllgor graffu ar yr Adroddiad Blynyddol a'i herio.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Chynhwysiant yr wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â rhoi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022–2032 y Cyngor ar waith, a'i gynnydd.

 

Rhoddwyd gwybod i Aelodau y cafodd Adroddiad Adolygiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer blwyddyn un y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar 31 Gorffennaf 2023. Derbyniwyd adborth ar yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru ar 14 Tachwedd 2023 ac roedd yr adborth yn gadarnhaol ar y cyfan. Dywedodd y Swyddog fod cynnydd nodedig pellach wedi'i wneud mewn nifer o feysydd ers i'r adroddiad gael ei lunio a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2023, a bod y rhain i'w gweld yn yr adroddiad.

 

Dywedodd Aelodau eu bod nhw wedi'i chael hi'n anodd cynnal cymaint o waith craffu ar yr adroddiad ag yr oedd ei angen o ganlyniad i nifer yr adroddiadau. Dywedon nhw hefyd fod yr adroddiad yn rhy hir a bod llawer o ddata, dolenni a dogfennau wedi ei gwneud hi'n anodd iddyn nhw ddarllen yr adroddiad. Gofynnodd y Pwyllgor fod yr eitem yn cael ei gohirio a'i thrafod mewn cyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol, a hynny gyda chrynodeb o'r wybodaeth sydd ei hangen ar Aelodau i graffu'n effeithiol ar yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Chynhwysiant ddiolch i Aelodau am eu sylwadau a chynigiodd fod pob Uwch Reolwr y Cyngor yn darparu crynodeb o bob deilliant a gall y rhain gael eu cynnwys mewn adroddiad i Aelodau. Hefyd, gallai partneriaid gael eu gwahodd i'r cyfarfod. 

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

  1. Gohirio'r eitem tan y cyfarfod nesaf gydag adroddiad sy'n cynnwys crynodeb o bob deilliant gan bob Uwch Reolwr y Cyngor.

 

Nodwch: Yn unol â rheolau gweithdrefnol Trosolwg a Chraffu y Cyngor, bydd yr eitem wreiddiol yma bellach yn cael ei thrafod gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

49.

ADOLYGIAD Y CADEIRYDD A DOD Â'R CYFARFOD I BEN

Myfyrio ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

 

Cofnodion:

Dymunodd y Cadeirydd ddiolch i'r Aelodau a'r Swyddogion am fynychu'r cyfarfod ac am eu cyfraniadau. Roedd y Cadeirydd o'r farn bod y drafodaeth wedi bod yn ddefnyddiol iawn ac roedd hi'n edrych ymlaen at weld rhai o'r adroddiadau manwl.  Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau y bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei gynnal ar 13 Mawrth 2024.

50.

MATERION BRYS

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Cofnodion:

Dim.