Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Tracy Watson - Uwch Swyddog Democrataidd a Craffu  E-bost: scrutiny@rctcbc.gov.uk

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

33.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau am golli'r cyfarfod oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol K Webb, J Elliot a J Cook.

 

34.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Eitem 4 - Rhag-graffu ar yr Adroddiad i'r Cabinet

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Maohoub - Buddiant Personol - "Rydw i'n adnabod teulu'r siaradwr cyhoeddus, Mr Morris"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Rogers - Buddiant Personol - "Rydw i'n Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd y Rhigos a Hirwaun"

 

Eitem 5 - Adroddiad Blynyddol – Gwaharddiadau o'r Ysgol yn ystod y Flwyddyn Academaidd 2022/23

 

Mr Veale - Buddiant Personol - "Rydw i'n Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher - Buddiant Personol - "Roeddwn i arfer dysgu yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Lisles - Buddiant Personol - "Rydw i'n Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Evans - Buddiant Personol - "Mae ysgol fy mab wedi'i henwi yn yr adroddiad"

 

 

Eitem 6 - Data Mynychu'r Ysgol

 

Mr Veale - Buddiant Personol - "Rydw i'n Ynad ac yn mynychu'r Llys ar gyfer achosion o beidio â mynychu'r ysgol"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Evans - Buddiant Personol - "Fi yw Is-gadeirydd y Corff Llywodraethu yn un o'r ysgolion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad"

 

35.

COFNODION pdf icon PDF 275 KB

Cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod hybrid y Pwyllgor Craffu – Addysg a Chynhwysiant a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2023, yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Hydref2023 yn adlewyrchiad cywir o'r trafodaethau a gynhaliwyd, yn amodol ar nodi bod enw'r Cynghorydd S Emanuel wedi'i sillafu'n anghywir.

 

 

36.

DOLENNI YMGYNGHORI

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w hystyried gan y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Cafodd Aelodau'u hatgoffa o'r ymgynghoriadau agored sy'n cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Cafodd manylion y rhain eu hanfon at Aelodau ar 30 Tachwedd ac mae'n bosibl y byddan nhw o ddiddordeb i Aelodau'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant.

 

37.

Trefniadau cyn y cam craffu ar adroddiad drafft o'r Cabinet pdf icon PDF 181 KB

Craffu'r argymhellion i'r Cabinet ymlaen llaw mewn perthynas â'r Cynnig i gau Ysgol Gynradd y Rhigos gyda disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Gynradd Hirwaun.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad i'r Aelodau er mwyn rhoi cyfle i'r Pwyllgor gynnal gwaith rhag-graffu mewn perthynas ag argymhellion y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant y cafodd eu cyflwyno i Gabinet y Cyngor ar 18 Rhagfyr 2023, mewn ymgynghoriad â'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg mewn perthynas â'r Cynnig i Gau Ysgol Gynradd y Rhigos, gan symud disgyblion i Ysgol Gynradd Hirwaun. 

 

Cafodd Aelodau wybod bod yr adroddiad drafft i'r Cabinet wedi'i nodi fel mater a fydd yn destun gwaith rhag-graffu gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant yn unol â rheolau gweithdrefn Trosolwg a Chraffu'r Cyngor. Tynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth sylw at bwrpas gwaith rhag-graffu'r Aelodau, fel cyfaill beirniadol, sef dylanwadu a chraffu ar benderfyniadau'r Cabinet cyn gwneud y penderfyniadau yma. Manteisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ar y cyfle i atgoffa'r Pwyllgor Craffu nad ydyn nhw'n gweithredu fel corff sy'n gwneud penderfyniad mewn perthynas â'r mater yma.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth sylw Aelodau'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant at yr argymhellion sydd wedi'u nod yn ei hadroddiad.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ei hadroddiad sy'n rhoi gwybod i'r Aelodau am ganlyniad yr ymgynghoriad diweddar mewn perthynas â'r cynnig i gau Ysgol Gynradd y Rhigos a throsglwyddo disgyblion i Ysgol Gynradd Hirwaun erbyn mis Medi 2024. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod yr adroddiad yn ceisio caniatâd y Cabinet i symud y cynigion ymlaen i gam nesaf y broses ymgynghori trwy gyhoeddi Hysbysiad Statudol priodol a fydd yn sbarduno dechrau'r Cyfnod Gwrthwynebu. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau at adran pedwar o'r adroddiad, sy'n amlinellu canlyniad cyfarfod y Cyngor a gafodd ei gynnal ar 18 Medi 2023 pan roddwyd caniatâd i ddechrau proses ymgynghori ffurfiol mewn perthynas â'r cynnig i gau Ysgol Gynradd y Rhigos gan drosglwyddo Disgyblion i Ysgol Gynradd Hirwaun.   Mae'r cyfiawnhad dros wneud hyn wedi'i nodi yn yr adroddiad a'r ddogfen ymgynghori ynghyd â'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, yr Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg a'r Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned. Cafodd y rhain eu llunio mewn perthynas â'r cynnig a'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr amlinelliad o gynnwys yr adroddiad ymgynghori sydd wedi'i lunio ac sy'n cynnwys gwybodaeth am gyfarfodydd a gynhaliwyd i drafod y cynigion gyda chopïau o'r nodiadau a luniwyd yn ystod y cyfarfodydd yma, ymateb llawn Estyn i'r cynnig a'r eglurhad i'r ymateb, crynodeb o'r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori a lle bo angen, yr eglurhad priodol mewn perthynas â materion a godwyd.

 

Aeth y Cyfarwyddwr ati i grynhoi cyfanswm nifer yr ymatebion a deisebau a dderbyniwyd, gan amlinellu'r trefniadau ar gyfer dwy sesiwn galw heibio a gafodd eu trefnu ar gyfer Ysgol Gynradd Hirwaun ac Ysgol Gynradd y Rhigos er mwyn rhoi cyfle i'r cyhoedd drafod y cynigion gyda Swyddogion o Gyfadran Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant y Cyngor. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr fod pob thema allweddol sydd wedi deillio o'r broses  ...  view the full Cofnodion text for item 37.

38.

ADRODDIAD BLYNYDDOL – GWAHARDDIADAU O'R YSGOL YN YSTOD Y FLWYDDYN ACADEMAIDD 2022/23 pdf icon PDF 2 MB

Aelodau o'r Pwyllgor i dderbyn dadansoddiad o ddata gwaharddiadau o'r ysgol y flwyddyn academaidd 2022/23.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant yr adroddiad i'r Aelodau i roi dadansoddiad iddyn nhw o ddata gwaharddiadau o'r ysgol yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23 a chymharu'r data gwaharddiadau yma gyda'r 5 mlynedd diwethaf, ble y bo'n addas.

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod yr adroddiad yn darparu dadansoddiad a gwerthusiad o ddata gwaharddiadau dros gyfnod o 5 mlynedd. Oherwydd bod cyfraddau gwahardd yn ystod y pandemig wedi’u heffeithio gan nifer sylweddol o ysgolion yn cau yn ystod y cyfnod yma, nid oes modd cymharu cyfraddau gwahardd yn ystod y pandemig yn uniongyrchol â blynyddoedd academaidd arferol, a dyna pam y penderfynwyd cynnwys cymaryddion â data cyn-Covid mewn perthynas â rhai setiau data penodol yn yr adroddiad.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, gofynnodd Aelod a oes modd cysylltu'r data sy'n ymwneud â gwaharddiadau â'r disgyblion hynny sydd â phresenoldeb gwael gan nodi y gallai gweld y gydberthynas hon fod yn ddefnyddiol wrth oresgyn problemau sy’n ymwneud â phresenoldeb yn y dyfodol. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant y gellid cynnal y dadansoddiad o'r safbwynt yma i ddeall a oes unrhyw gydberthynas a rhannu'r dadansoddiad yma gyda'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant maes o law.

 

Holodd Aelod arall a oes unrhyw dystiolaeth o faterion lles yn effeithio ar y plant hynny sydd ychydig yn is na’r trothwy ar gyfer gwaharddiad a pha ffactorau, os o gwbl, sy’n wahanol yn y fwrdeistref sirol a allai effeithio ar y data sy’n benodol i RhCT. Roedd yr Aelod yn arbennig o bryderus am y cyfraddau gwahardd uwch yn RhCT nag mewn ardaloedd eraill ac effaith yr achosion o wahardd ar les athrawon a’r disgyblion hynny sy’n dymuno bwrw ymlaen â’u dysgu. 

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant nad yw data sy'n ymwneud â lles unigolion yn cael ei goladu, fodd bynnag, mae'r garfan yn cysylltu â'r holl ysgolion ar y materion penodol hyn ac maen nhw’n yn cael eu codi'n fwy rheolaidd erbyn hyn. Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant at y cymorth sydd ar gael mewn ysgolion, megis cymorth ADY a'r cymorth sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â materion lles emosiynol a chymdeithasol. Cyfeiriodd at hyfforddiant NurtureUK, dyma sefydliad sydd wedi ymroi i wella iechyd meddwl a lles cymdeithasol ac emosiynol plant a phobl ifanc gyda phwyslais ar ddeall y sbardunau ar gyfer ymddygiad a manteision rhannu data o'r math yma.

 

Awgrymodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant fod effaith Covid ar y fwrdeistref sirol yn aruthrol gyda lefelau uchel o drawma o ganlyniad i’r niferoedd sylweddol o farwolaethau a ddioddefwyd gan deuluoedd a chymunedau. Mae hyn, yn ogystal â lefelau uchel o ran tlodi ac amddifadedd yn y rhanbarth, yn cael effaith ar faterion lles.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant fod y safle cenedlaethol cyffredinol wedi gwella. Er bod yna broblemau yn ymwneud â'r cyfryngau cymdeithasol o hyd (mae hyn yn gyffredin ar draws awdurdodau lleol eraill), nid oedd unrhyw ffactorau sylfaenol nac unigryw yn cyfrannu at y data a lefelau uwch o ran gwaharddiadau.

 

Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant at gymorth ychwanegol  ...  view the full Cofnodion text for item 38.

39.

DATA PRESENOLDEB MEWN YSGOLION pdf icon PDF 299 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth - Mynychu'r Ysgol a Lles adroddiad i Aelodau sy'n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am ddata presenoldeb mewn ysgolion ledled yr awdurdod lleol a chamau gweithredu'r Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles a'r Gyfadran Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ehangach i gynyddu lefelau presenoldeb.

 

Yn yr un modd â’r adroddiad blaenorol a gyflwynwyd i’r Aelodau, nododd Aelod nad oedd yr adroddiad yma'n cynnwys yr un lefel o fanylder. Gofynnwyd bod y mater yma'n cael ei ystyried wrth lunio'r adroddiad nesaf ar gyfer y cyfarfod nesaf, gan holi a fyddai modd cynnwys amrywiannau lleol mewn perthynas â data presenoldeb. Yn ogystal, codwyd ymholiad mewn perthynas â pharagraff 4.1 a gofynnwyd a oedd ystadegau Haf 2 ar gael ar gyfer y cyfnod uwchradd, a hynny oherwydd bod y tymor yma'n cynrychioli'r tymor gwaethaf o ran lefelau presenoldeb.

 

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth - Mynychu'r Ysgol a Lles wybod bod adroddiadau hanner tymor yn cael eu cyhoeddi a'u rhannu â phob ysgol. Mae'r adroddiadau yma'n cynnwys data cymharol, y gall Llywodraethwyr ofyn amdano os ydynt yn dymuno ei weld. Cafodd yr adroddiad yma ei rannu â’r Pwyllgor Craffu yn dilyn yr adroddiad blaenorol ar bresenoldeb yn gynharach yn y flwyddyn. Fodd bynnag, yn unol â Fframwaith Estyn, nid rôl yr Awdurdod Lleol yw cymharu cyflawniad ysgolion yn erbyn ysgolion eraill. Eglurodd Pennaeth Gwasanaeth - Mynychu'r Ysgol a Lles yr anawsterau wrth gasglu data mewn perthynas â tharged cyflawniad cyffredinol yr ALl; fodd bynnag, roedd yn gallu cadarnhau'r ffigurau dangosol o 91.8% ar gyfer ysgolion cynradd ac 89.4% ar lefel uwchradd. Ychwanegodd nad oes ffigyrau cenedlaethol ar gyfer yr hanner tymor diwethaf ar gyfer ysgolion uwchradd (darparwyd gwybodaeth am ysgolion cynradd) gan fod Llywodraeth Cymru yn casglu’r data ar lefel genedlaethol ar ddiwedd mis Mai. Byddai casglu data Haf 2 yn cynnwys anomaleddau, gan ystyried bod blwyddyn 11 yn absennol yn dilyn eu harholiadau. Er gwaethaf yr anghysondeb a'r gostyngiad yn y ffigurau mynychu'r ysgol, roedd y Pennaeth Gwasanaeth - Mynychu'r Ysgol a Lles yn hapus i ddarparu'r data gan fod yr Aelodau wedi nodi bod addysg yn cwmpasu chwe hanner tymor ac y dylid olrhain presenoldeb hefyd ar draws y cyfnod yma. Cytunwyd y byddai hyn yn gam gweithredu clir ar gyfer yr adroddiad nesaf.

 

Gofynnodd Aelod arall a oedd modd cynnwys crynodeb clir o’r materion amlwg allweddol sy'n deillio o'r Adroddiad Monitro Presenoldeb a dywedodd y byddai’r wybodaeth ychwanegol yma’n helpu’r Pwyllgor i ddeall yr heriau gwirioneddol a gofynnodd am ragor o fanylion am y rhan o'r adroddiad sy’n amlinellu triwantiaeth a hynny er mwyn deall sut mae'r Cyngor yn mynd i'r afael â'r mater yma ac a yw'r ymgyrch hysbysebu wedi cael ei chynnal.

 

Esboniodd Pennaeth Gwasanaeth - Mynychu'r Ysgol a Lles fod gwaith yn cael ei gynnal gyda dau gwmni hysbysebu ar hyn o bryd, mae un yn canolbwyntio ar ysgolion cynradd gan ddefnyddio'r cymeriad 'Super Fynychwr' sydd eisoes wedi cael ei ddefnyddio mewn ysgolion ar ffurf gwisg. Mae'r cysyniad yma wedi cyflwyno heriau felly mae'r awdurdod lleol yn  ...  view the full Cofnodion text for item 39.

40.

ADOLYGIAD Y CADEIRYDD A DOD Â'R CYFARFOD I BEN

Myfyrio ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.