Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Tracy Watson - Uwch Swyddog Democrataidd a Craffu  E-bost: scrutiny@rctcbc.gov.uk

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

24.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Y Cynghorydd C Preedy, "Buddiant personol gan fod un o'r Ysgolion Arbennig sydd wedi'u nodi yn Eitem 7 ar yr agenda yn fy ward i"

 

Y Cynghorydd C Lisles "Buddiant personol gan fod Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen wedi'i nodi yn Eitem 6 ac rydw i'n Llywodraethwr yn yr ysgol hon"

 

Y Cynghorydd S Hickman "Buddiant personol mewn perthynas ag eitem 6, rydw i'n Llywodraethwr yn Ysgol Gymuned y Porth"

 

Y Cynghorydd S Evans "Buddiant Personol mewn perthynas ag Eitem 6, rydw i wedi fy nghyflogi gan Brifysgol De Cymru"

 

Ms Rebecca Lydon "Buddiant personol mewn perthynas ag Eitem 7, mae fy meibion i'n awtistig"

 

Y Cynghorydd Sera Evans "Buddiant personol mewn perthynas ag eitem 7, mae gan fy mab ddatganiad"

 

Mr L Patterson "Buddiant personol mewn perthynas ag eitem 7, mae gan fy mab ddatganiad ac mae e'n derbyn ei addysg yn RhCT"

 

25.

COFNODION pdf icon PDF 147 KB

Cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod ar-lein y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant a gynhaliwyd ar 14 Medi 2023, yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Medi 2023 yn gofnod cywir o’r cyfarfod.

 

 

26.

DOLENNI YMGYNGHORI

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w hystyried gan y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Cafodd Aelodau wybod am yr ymgynghoriadau agored diweddaraf sydd wedi'u rhannu ag Aelodau, gan nodi bod modd i Aelodau gysylltu â'r Garfan Graffu os oes unrhyw ymholiadau gyda nhw.

 

27.

Ymgysylltu ag Aelod o’r Cabinet ddwywaith y flwyddyn pdf icon PDF 164 KB

Rhoi cyfle i'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant herio a chraffu ar waith yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad i Aelodau er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw graffu ar y penderfyniadau a gafodd eu gwneud gan yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg yn ystod y cyfnod a nodir yn yr adroddiad, a sicrhau bod y mecanweithiau priodol yn eu lle i graffu'n effeithiol ar yr Adain Weithredol.

 

Gofynnodd Aelod am y cynigion sydd wedi'u nodi yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg i sicrhau bod yr Awdurdod yn annog y defnydd o'r Gymraeg.  Roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi ateb drwy nodi mai un o flaenoriaethau allweddol yr Awdurdod Lleol yw cyflawni targedau'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.  Esboniodd fod Llywodraeth Cymru wedi pennu sawl targed ar gyfer yr Awdurdod Lleol mewn perthynas â chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Fwrdeistref ac yn ein hysgolion.  Dywedodd fod yr Awdurdod wedi buddsoddi Adnoddau Cyfalaf mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, er mwyn gwella adeiladau a chyfleusterau yn ogystal ag adeiladu nifer o ysgolion cynradd sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. Ychwanegodd fod yr Awdurdod yn gweithio gyda darparwyr y Blynyddoedd Cynnar er mwyn buddsoddi mewn cyfleusterau y Blynyddoedd Cynnar i wneud y Gymraeg yn fwy deniadol o oedran iau, yr uchelgais yw y bydd y plant yma'n parhau i fynychu lleoliad cyfrwng Cymraeg trwy gydol eu haddysg.

 

Gofynnwyd i'r Aelod o'r Cabinet roi sylwadau ar y Buddsoddiad Cyfalaf sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad gan Estyn a gofynnodd Aelod a oes unrhyw wybodaeth mewn perthynas â'r deilliannau gwell ar gyfer disgyblion a argymhellir.  Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod y Cyngor wedi ymrwymo i adeiladu tair ysgol gynradd newydd yn y Fwrdeistref, ac mae gwaith eisoes wedi cychwyn ar y safleoedd yma.  Ychwanegodd fod y Gweinidog dros Addysg wedi ymweld â'r safleoedd ac roedd yn falch o weld y cynnydd sydd wedi'i wneud ar gyfer ein plant a phobl ifainc. Esboniodd fod blaenoriaethau allweddol yr Awdurdod yn cynnwys sicrhau bod y cyfleusterau gorau ar gael ar gyfer ein dysgwyr, mae'n hollbwysig ein bod ni'n parhau i adnewyddu ein hysgolion presennol i wella cyrhaeddiad, yn ogystal ag adeiladu cyfleusterau newydd. Nododd fod ein plant yn haeddu'r cyfleusterau gorau ar gyfer eu haddysg.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr argymhellion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad gan Estyn, a gofynnodd i'r Aelod o'r Cabinet am ei farn e mewn perthynas â sut y bydd modd gwella'r rhain yn RhCT.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi ymateb drwy ddweud bod y rhan fwyaf o'r adroddiad gan Estyn yn cynnig adlewyrchiad cywir o safon uchel yr Addysg sydd ar gael ledled yr Awdurdod, gan gydnabod bod cyfleoedd i wella.  Nodwyd bod modd gwella'r trefniant o weithio mewn partneriaeth â'r Consortiwm, a bydd y meysydd sy'n ymwneud â hunanwerthuso hefyd yn cael eu hadolygu er mwyn gwella effeithlonrwydd.  Ychwanegodd fod yr adroddiad yn rhoi pwyslais ar Arweinyddiaeth llawn pwrpas a bod hyn yn adlewyrchu safon yr uwch swyddogion a'r dull arweinyddiaeth strategol sydd ar waith yn RhCT.  Mae'r adroddiad yn  ...  view the full Cofnodion text for item 27.

28.

Enwebu Aelodau - Tlodi Plant

Enwebu dau Aelod o'r Pwyllgor Craffu Addysg a Chynhwysiant i dderbyn gwahoddiad i fynychu cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i gyfrannu at drafodaethau ar y Rhybudd o Gynnig – Tlodi Plant (adroddiad yn Saesneg yn unig)

 

Cofnodion:

Yn dilyn cyfarfod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 27 Medi, gofynnwyd i'r Aelodau enwebu dau Aelod o'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant i dderbyn gwahoddiad i fynychu cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i gyfrannu at drafodaethau ar y Rhybudd o Gynnig – Tlodi Plant

 

PENDERFYNWYD enwebu'r Cynghorydd S Emmanuel a'r Cynghorydd C Preedy i fynychu cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu er mwyn cyfrannu at drafodaethau am y Rhybudd o Gynnig - Tlodi Plant.

29.

Y Newyddion Diweddaraf - Tlodi Plant ac Ysgolion Bro pdf icon PDF 483 KB

Derbyn diweddariad ar faterion Tlodi Plant a'r dull Ysgolion Bro yn RhCT

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles adroddiad i Aelodau mewn perthynas â'r Dull Ysgolion Bro yn RhCT. Mae'r adroddiad yn cynnig diweddariad pellach yn dilyn yr adroddiad a gafodd ei rannu ag Aelodau ym mis Rhagfyr 2022. Mae'r adroddiad yn trafod y dull o ran ymgysylltu â theuluoedd a defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru a'r Cabinet yn y maes yma, yn ogystal â rhywfaint o'r Grant Cyfalaf y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu i RCT.  Aeth y Swyddog ati i egluro bod yr adroddiad hefyd yn trafod y gwaith sydd wedi'i wneud i liniaru effaith tlodi ar ddysgwyr a'u teuluoedd fel bod modd cael gwared ar unrhyw rwystrau i addysg.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, rhoddodd y Cadeirydd gyfle i'r Aelodau ofyn cwestiynau.

 

Cyfeiriodd Aelod at y dull ymgysylltu â'r gymuned gan holi a yw'r gweithgareddau a'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig tu hwnt i oriau ysgol yn hawdd eu cyrraedd ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi, e.e. does dim angen cadw lle ar-lein, talu ar gyfer gweithgareddau a threfnu cludiant i/o'r gweithgareddau.

 

Roedd Pennaeth y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles wedi ymateb drwy ddweud bod y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn gweithio'n agos gydag ysgolion i wneud yn si?r bod cludiant yn cael ei ddarparu ar gyfer y disgyblion fel bod modd iddyn nhw fynychu'r gweithgareddau a theithio adref yn ddiogel.  Fodd bynnag, roedd e wedi cydnabod bod gwaith dadansoddi data yn dangos bod angen cynnal gwaith a gwaith datblygu pellach yn y maes yma i weld a oes modd goresgyn y costau uchel sy'n gysylltiedig â chludiant.

 

Nododd Aelod nad oes modd i rai rhieni sy'n byw mewn tlodi fynychu nosweithiau rhieni gan fod eu plant yn dal y bws i'r ysgol a dydy'r rhieni ddim yn gallu teithio yn ôl i'r ysgol ar gyfer yr apwyntiadau gyda'r nos.   Nododd yr Aelod fod cynnal y cyfarfodydd yma yn y gymuned fel bod modd i bob rhiant fynychu wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol. Cytunodd y Cadeirydd a nododd fod llai na 50% o ysgolion yn cynnig gweithgareddau ar ôl ysgol a bod angen gwneud rhagor i fynd i'r afael â Thlodi Plant a'r rhwystrau y mae'r teuluoedd yma'n eu hwynebu. Cyfeiriodd y Cadeirydd at y gostyngiad (61.5% i 59.3%) yn nifer yr ysgolion sydd ag aelod dynodedig o staff sy'n gyfrifol am ddatblygu a gwella gwaith amlasiantaeth, a nododd fod angen ymchwilio ymhellach i'r gostyngiad yma.

 

Wrth ymateb i ymholiad gan Aelod am waith amlasiantaeth a chymorth trydydd parti mewn perthynas â materion mynychu'r ysgol, rhoddodd y Pennaeth Mynychu'r Ysgol a Lles wybod bod llawer o waith yn cael ei wneud yn y maes yma, er bod llawer o waith eto i'w wneud.  Ychwanegodd fod y gwasanaeth yn cynnal trafodaethau strategol gyda sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â darparu cyfleoedd cyd-leoli mewn ysgolion e.e. cymorth iechyd meddwl ac ymwelwyr iechyd ochr yn ochr â gwasanaethau addysg canolog, mae'r trafodaethau yma yn y camau cynnar ar hyn o bryd.

 

Gofynnodd Aelod a yw'r fenter  ...  view the full Cofnodion text for item 29.

30.

DIWEDDARIAD AR AIL FLWYDDYN CYNLLUN GWEITHREDU DEDDF ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A’R TRIBIWNLYS ADDYSG 2018 YNG NGHYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF pdf icon PDF 225 KB

Derbyn y newyddion diweddaraf ar broses weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg 2018 (ALNET) a'r Cod ADY cysylltiedig yn Rhondda Cynon Taf (RhCT) yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant yr adroddiad i'r Aelodau, sy'n cynnwys diweddariad ar weithredu'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg Cymru (2018) a'r Cod ADY yng Nghymru (2021) yn Rhondda Cynon Taf (RhCT) yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cydlynwyr ADY i'r cyfarfod, gan ddiolch iddyn nhw am gyfrannu at y trafodaethau.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, rhoddodd y Cadeirydd gyfle i'r Aelodau ofyn cwestiynau.

 

Gofynnodd Aelod a yw'r swyddogion o'r farn bod unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth yn RhCT. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant fod gwaith adlinio dosbarthiadau cynnal dysgu yn cael ei gynnal yn aml ac rydyn ni'n ceisio sicrhau bod y dosbarthiadau cynnal dysgu yn cael eu dosbarthu'n deg ledled y Fwrdeistref Sirol. Rydyn ni o hyd yn ceisio gwella'n cyfleusterau i sicrhau eu bod nhw'n addas ar gyfer cwricwlwm yr 21ain ganrif. Ychwanegodd nad oedd hi o'r farn bod unrhyw fylchau ar hyn o bryd, ond roedd hi'n cydnabod bod angen adolygu'r ddarpariaeth yn rheolaidd.

 

Gofynnodd Aelod a yw'r porth sy'n cael ei ddefnyddio gan staff ysgol wedi'i wella. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant fod newidiadau wedi'u gwneud i wella a symleiddio'r broses yn dilyn adborth gan y Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol. Ychwanegodd fod swyddogion wedi ymchwilio i achosion o wrthod ceisiadau ac mae’r wybodaeth yma wedi cael ei defnyddio i wella'r broses o gyflwyno cais. Nododd y Swyddog fod y ffurflen Gwneud Cais am Leoliad Arbenigol hefyd wedi cael ei hadolygu a does dim angen i'r Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol gyflwyno cynifer o ffurflenni erbyn hyn. Roedd hi'n cydnabod bod y broses yma'n broses newydd arall - ond nododd fod y broses wedi'i symleiddio.  

 

Rhoddodd y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol wybod bod y porth wedi cyflwyno rhai heriau ac er bod rhai heriau bach o hyd, mae'r Awdurdod Lleol wedi gwneud llawer o waith i wella'r broses. Ychwanegodd fod gweithgor wedi adolygu ac asesu pa welliannau y mae modd eu gwneud ac mae'r rhain wedi'u gweithredu erbyn hyn.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a yw'r Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol yn teimlo bod ganddyn nhw'r amser a'r adnoddau sydd eu hangen i sicrhau bod modd iddyn nhw gyflawni'u dyletswyddau. 

 

Roedd y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol o'r farn ei bod hi mewn sefyllfa ffodus, mae ei Phennaeth hi'n darparu arweinyddiaeth gadarn ac roedd hi'n angerddol dros gynhwysiant ac yn rhoi amser i sicrhau bod modd i'r garfan wella'u sgiliau. Roedd hi o'r farn bod ei hysgol hi wedi ymrwymo'n llwyr i anghenion y myfyrwyr ac yn canolbwyntio ar gymorth ADY, maen nhw'n cael eu cefnogi gan gynorthwywyr ac yn derbyn cymorth gweinyddol hefyd.  Cadarnhaodd Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol arall ei bod hi mewn sefyllfa debyg, eleni mae ganddi rôl sydd ddim yn cynnwys addysgu fel bod modd iddi ganolbwyntio ar ADY. Yn ogystal â hyn mae ganddi Ddirprwy Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol. Nododd hefyd fod ceisio addysgu yn ogystal â chyflawni rôl y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yn heriol.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wybod y byddai'r Pwyllgor yn hoffi trafod yr eitem yma  ...  view the full Cofnodion text for item 30.

31.

ADOLYGIAD Y CADEIRYDD A DOD Â'R CYFARFOD I BEN

Myfyrio ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

 

32.

MATERION BRYS

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Cofnodion:

None