Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Tracy Watson - Uwch Swyddog Democrataidd a Craffu  07747 485567

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

16.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol Ashford, Emanuel a Smith; yr Aelod Cyfetholedig Mr L Patterson; Pennaeth Materion Mynediad a Chynhwysiant - Ceri Jones; yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg; y Cynghorydd Lewis a Chyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, Christian Hanagan.

17.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

 

2.  Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Eitem 4 ar yr agenda - Ymgynghoriad ar gynnig i agor ysgol arbennig 3 i 19 oed newydd yn Rhondda Cynon Taf

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Preedy - Datganiad Personol - 'Mae un o'r ysgolion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad, Ysgol T? Coch, yn fy ward i'

 

Ø  Mr R Lydon, Aelod Cyfetholedig - Datganiad Personol - 'Fi yw Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Arbennig Park Lane'

 

Eitem 5 ar yr agenda - Ymgynghoriad ar y cynigion i ad-drefnu darpariaeth dosbarthiadau cynnal dysgu prif ffrwd - anghenion dysgu ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Evans – Datganiad Personol - 'Mae ysgol fy mab wedi'i nodi yn yr adroddiad'

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Lisles - Datganiad Personol - 'Fi yw Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen, rydw i hefyd yn Aelod o'r Corff Llywodraethu yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen'

 

Ø  Mr M Veale, Aelod Cyfetholedig - Datganiad Personol - 'Rydw i'n Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen ac yn rhan o'r Corff Llywodraethu dros dro ar gyfer Ysgol Afon Wen'

 

18.

COFNODION pdf icon PDF 251 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2023 yn rhai cywir yn dilyn y newid canlynol:-

 

Dylai teitl swydd y Pennaeth Gwasanaeth nodi 'Pennaeth Gwasanaeth – Materion Trawsnewid, Derbyn Disgyblion a Llywodraethu'.

19.

DOLENNI YMGYNGHORI

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w hystyried gan y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd Aelodau eu hatgoffa bod yr ymgynghoriadau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru wedi'u rhannu ag Aelodau ar 1 Medi, a does dim ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru pellach i'w rhannu ag Aelodau ar hyn o bryd.

20.

CYNNIG I DDATBLYGU YSGOL ARBENNIG NEWYDD YN RHONDDA CYNON TAF pdf icon PDF 122 KB

Trafod yr ymgynghoriad sy’n cynnig datblygu ysgol arbennig 3-19 oed newydd yn Rhondda Cynon Taf (RhCT), fel sydd wedi’i amlinellu yn yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr  Uwch Swyddog Democrataidd a Materion Craffu wedi atgoffa Aelodau mai pwrpas y dasg yma yw rhoi cyfle i'r Pwyllgor ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriad y Cyngor sy'n cynnig datblygu ysgol arbennig 3-19 oed newydd yn Rhondda Cynon Taf (RhCT). Rhoddodd Pennaeth Gwasanaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif a Thrawsnewid wybodaeth bellach i Aelodau am y cynigion i ddatblygu ysgol arbennig newydd yn RhCT, gan gyflwyno adroddiad i Aelodau.

 

Holodd Aelodau am ymatebion rhieni i'r ymgynghoriad, sut roedden nhw wedi ymgysylltu â'r ymgynghoriad â'r broses o ran ymgynghori â rhieni'r plant hynny sydd ag anghenion presennol.

 

Roedd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif a Thrawsnewid wedi cydnabod bod cyfarfodydd unigol wedi'u cynnal gyda phob un o'r ysgolion arbennig, yn rhan o broses y Cod Trefniadaeth Ysgolion, roedd y cyfarfodydd yma'n cynnwys llywodraethwyr, disgyblion, y cyngor ysgol, a rhieni. Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd noson agored yng Nghwm Clydach - ond ni ddaeth llawer o bobl i'r achlysur. Mae'r ddogfen ymgynghori wedi cael ei rhannu ag ysgolion RhCT fel bod cyfle gyda nhw i gyflwyno sylwadau.

 

Cadarnhaodd Rheolwr Busnes a Threfniadaeth Ysgolion - Ysgolion yr 21ain Ganrif fod pob rhiant sydd â phlentyn mewn ysgol arbennig wedi derbyn dolen i ddogfennau'r ymgynghoriad, hyd yn hyn mae 44 o ymatebion wedi'u cyflwyno, gyda llai na hanner yn cyflwyno sylwadau negyddol. Nodwyd nad yw'r ymgynghoriad wedi'i ystyried yn ymgynghoriad dadleuol, ac mae'r adborth ar y cyfan wedi bod yn gadarnhaol. Nifer fach o bobl sydd wedi dod i gyfarfodydd gyda staff a'r cyrff llywodraethu.

 

Gofynnodd Aelod am grynodeb o ymatebion Menter Iaith, Mudiad Meithrin a Chomisiynydd y Gymraeg.

 

Rhoddodd Rheolwr Busnes a Threfniadaeth Ysgolion - Ysgolion yr 21ain Ganrif wybod nad oedd unrhyw ymateb wedi'i dderbyn hyd yn hyn. Dim ond un ymateb sydd wedi'i dderbyn gan ymgynghorai statudol hyd yn hyn, sef Estyn.

 

Holodd Aelod sawl disgybl sydd wedi symud o ysgol arbennig i Ddosbarth Cynnal Dysgu mewn ysgol brif ffrwd neu i'r gwrthwyneb.

 

Esboniodd Pennaeth y Gwasanaeth Cynnal Dysgu ei bod hi dim ond yn gwybod am un plentyn a symudodd o ysgol arbennig i un o’r ysgolion prif ffrwd. O ran symud o Ddosbarthiadau Cynnal Dysgu i ysgolion arbennig, byddai llawer o rieni yn rhoi cyfle i'r plentyn mewn amgylchedd diogel  yr ysgol gynradd ond roedd y naid i'r ysgol uwchradd yn rhy fawr.

 

Gofynnodd yr Aelod am eglurhad pellach o ran y gwahaniaethau sydd i’w gweld yn y data.

 

Esboniodd y Rheolwr Busnes a Threfniadaeth Ysgolion - Ysgolion yr 21ain Ganrif fod y Cod yn nodi bod angen defnyddio o leiaf 5 mlynedd o ddata wrth edrych ar bresenoldeb, er iddi gydnabod bod yr adroddiad arall yn defnyddio data 10 mlynedd. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant fod y data sydd yn yr adroddiad ar ysgolion arbennig yn dangos twf sylweddol o ran galw.

 

Nododd yr Aelod y ddarpariaeth y tu allan i'r sir a'r gost sy'n gysylltiedig â'r ddarpariaeth yma, a gofynnodd am sicrwydd y bydd y ddarpariaeth yma'n lliniaru rhai o'r costau yma, gyda'r ddarpariaeth wedi'i  ...  view the full Cofnodion text for item 20.

21.

YMGYNGHORIAD AR Y CYNIGION I AD-DREFNU DARPARIAETH DOSBARTHIADAU CYNNAL DYSGU PRIF FFRWD - ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL YN RHONDDA CYNON TAF pdf icon PDF 124 KB

Rhag-graffu – Yr Aelodau i graffu ar yr adroddiad a gwneud unrhyw argymhellion cyn ei gyflwyno i'r Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr Uwch Swyddog Democrataidd a Materion Craffu wedi atgoffa'r Aelodau mai pwrpas y dasg hon yw rhoi cyfle i'r Pwyllgor gynnal gwaith cyn y cam craffu mewn perthynas â deilliannau ymgynghoriad diweddar ar y cynigion i ad-drefnu darpariaeth dosbarthiadau cynnal dysgu prif ffrwd - Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf (RhCT). Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaeth Cynnal Dysgu drosolwg o'r penderfyniad a gafodd ei wneud gan y Cyngor ym mis Mai 2023 (Atodiad A), sy'n rhoi caniatâd i gychwyn ymgynghoriad ffurfiol ar y 5 cynnig i ad-drefnu'r ddarpariaeth dosbarthiadau cynnal dysgu yn y Sir. Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaeth Cynnal Dysgu y 5 cynnig, cyn mynd ati i drafod cefndir yr adroddiad yn adran 4, a deilliannau'r ymgynghoriadau mewn perthynas â'r cynigion yn adran 5, gan nodi'r ymateb da. Cafodd gweddill yr adroddiad ei gyflwyno i'r Aelodau.

 

Cyfeiriodd Aelod at dabl 1 ar dudalen 138, gan ofyn am eglurhad pellach gan fod y rhan fwyaf o ymatebion yn anghytuno â’r cynnig. Holodd yr Aelod a oedd hyn o ganlyniad i'r lleoliad newydd. Gofynnodd yr Aelod am gadarnhad y bydd y pryderon yma'n cael eu hateb.  Ceisiodd yr Aelod sicrwydd y bydd cymorth digonol ar waith ar gyfer disgyblion a rhieni yn ystod y cyfnod pontio yma, gan gynnwys cludiant.

 

Esboniodd Pennaeth y Gwasanaeth Cynnal Dysgu mai dyma'r rheswm pam, esboniodd fod camau wedi'u cymryd gyda 3 disgybl sydd ar fin symud ar ddechrau'r tymor a byddan nhw'n parhau i fod yno hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud. Yn ogystal â hyn, drwy symud y dyddiad dechrau, dim ond 5 disgybl a staff fydd yn symud gyda nhw, gan gynnig nifer o gyfleoedd i gynnal ymweliadau. O ran cludiant, mae'n annhebygol y bydd hyn yn newid, gyda nifer o blant eisoes yn cyrraedd yr ysgol ar gludiant ysgol. Mae gan y Gwasanaeth Cynnal Dysgu weithdrefnau cyfathrebu â rhieni sydd wedi'u hen sefydlu.

 

Nododd Aelod ymateb y Cyngor Ysgol gan dynnu sylw at eu tristwch nhw mewn perthynas â'r cynnig i symud ysgol, gan nodi bod hyn yn dyst i lwyddiant yr ysgol, gan gynnwys y Dosbarth Cynnal Dysgu, ac mae angen dathlu hyn.

 

Ceisiodd Aelod sicrwydd na fydd symud lleoliad yn golygu newid o ran ansawdd y cyfleusterau a'r profiadau sy'n cael eu darparu, gan nodi'r ganmoliaeth ar gyfer Ysgol Gynradd Gymunedol Abercynon sydd wedi'i nodi yn yr ymatebion a derbyniwyd yn yr ymgynghoriad.

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif a Materion Trawsnewid wybod bod Perthcelyn ymhlith yr ysgolion mwyaf newydd a bod gan yr ysgol yr un cyfleusterau â'r ysgol yn Abercynon.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth Cynnal Dysgu fod pob Dosbarth Cynnal Dysgu'n dilyn yr un drefn, felly roedd yr un disgwyliadau o ran darparu'r cwricwlwm yn berthnasol i bob dosbarth, mae’r athrawon yn derbyn yr un cymorth a hyfforddiant. Er hynny, mae'r ffordd y mae hyn yn cael ei ddarparu yn wahanol er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael yn yr ysgolion unigol.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant wedi cydnabod bod  ...  view the full Cofnodion text for item 21.

22.

ADOLYGIAD Y CADEIRYDD A DOD Â'R CYFARFOD I BEN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd wedi cydnabod bod yr Aelodau wedi cyfrannu'n wych yn ystod y cyfarfod gan ddiolch iddyn nhw am holi cwestiynau. Dymunodd y Cadeirydd ddiolch i'r Swyddogion am ateb y cwestiynau a'r gwaith paratoi, gan ddymuno pob dymuniad da iddyn nhw gyda'u hadroddiadau i'r Cabinet.

 

23.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

None.