Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Tracy Watson - Uwch Swyddog Democrataidd a Craffu  07747 485567

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

6.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Smith a Chynghorydd y Fwrdeistref Sirol Wood, a'r Aelod Cyfetholedig Mr Booth.

7.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

 

2.  Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

8.

COFNODION pdf icon PDF 195 KB

Cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2023 a 20 Mehefin 2023, yn rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 27 Ebrill a 20 Gorffennaf 2023 yn rhai cywir.

9.

DOLENNI YMGYNGHORI

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w hystyried gan y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn yr ymgynghoriadau agored gafodd eu cynnal gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, cafodd yr Aelodau eu hatgoffa am yr ymgynghoriad fydd efallai o ddiddordeb iddyn nhw.

10.

RHAGLEN WAITH DDRAFFT 2023-24 pdf icon PDF 95 KB

Trafod a chytuno ar Raglen Waith y Pwyllgor Craffu – Addysg a Chynhwysiant ar gyfer 2023-24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad a oedd yn gofyn i'r Aelodau gymeradwyo Rhaglen Waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/24 a chyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r rhaglen waith yma. Cafodd yr Aelodau wybodaeth gefndirol yn Adran 4.1 i Adran 4.3 a rhoddwyd gwybod bod y rhaglen ddiwygiedig wedi cael ei thrafod gan y Cabinet, a bydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn trafod y rhaglen ym mis Medi cyn rhoi adborth i'r Pwyllgor yma. Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ymlaen i drafod Adran 5 o'r adroddiad, meysydd craffu i'w trafod, gan bwysleisio y dylai Aelodau nodi ble mae modd cyflawni'r gwerth mwyaf posibl wrth fynd ati i drafod unrhyw feysydd y maen nhw'n dymuno eu diwygio neu'u hychwanegu. Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wedi cydnabod bod y Pwyllgor yma'n bwyllgor prysur gyda chylch gorchwyl eang, felly roedd hi'n bwysig nodi a chanolbwyntio ar faterion a allai ychwanegu gwerth a llywio gwaith datblygu polisïau.

 

Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu am gyflwyno'r adroddiad.

 

Yn dilyn trafodaeth rhwng Aelodau a Swyddogion, cafodd y diwygiadau/ychwanegiadau canlynol eu cymeradwyo:

 

Ø  Symud adroddiad Argymhellion Estyn i dymor yr Hydref;

Ø  Symud yr adroddiad ar ddata Mynychu'r Ysgol o dymor y Gwanwyn i dymor yr Hydref;

Ø  Symud yr adroddiad ar gynnig y Cwricwlwm Ôl-16 i dymor y Gwanwyn.

Ø  Ychwanegu eitem ar Gynlluniau Teithio i'r rhestr o eitemau heb ddyddiad.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Cytuno ar y materion a fydd yn cael eu cynnwys yn Rhaglen Waith 2023/24 y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant (fel sydd wedi'u nodi yn Atodiad A) gan nodi'r diwygiadau perthnasol yn ôl yr angen;

 

2.    Gofyn bod y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yn rhoi gwybod i'r Aelod perthnasol o'r Cabinet a'r Swyddog perthnasol am y materion sydd wedi'u nodi fel materion a fydd yn cael eu craffu cyn i'r Cabinet eu trafod.

 

3.    Cytuno y bydd y Rhaglen Waith yn cael ei hadolygu'n rheolaidd i sicrhau bod y materion sydd wedi'u nodi fel materion i'w trafod yn berthnasol a sicrhau bod unrhyw atgyfeiriadau pellach yn cael eu cynnwys; a

 

4.    Trafod, ble y bo'n addas, unrhyw eitemau y byddai modd eu cyflwyno i'r Pwyllgor fel adroddiadau gwybodaeth, er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i Aelodau drafod unrhyw eitemau brys neu roi cyfle i Aelodau drafod eitemau sydd heb ddyddiad wedi'i bennu ond sydd wedi'u nodi gan y Pwyllgor fel eitemau i'w trafod.

 

5.    Trafod a phennu unrhyw eitemau y mae'r Aelodau'n dymuno craffu arnyn nhw yn ystod y cyfnod yma.

 

11.

ADRODDIAD AR Y CYLCH GORCHWYL A GORFFEN MEWN PERTHYNAS Â'R ADRODDIAD AR FODERNEIDDIO YSGOLION – YR WYBODAETH DDIWEDDARAF AM RAGLEN CYMUNEDAU DYSGU CYNALIADWY BAND B pdf icon PDF 177 KB

Rhoi diweddariad i'r Aelodau mewn perthynas â sefydlu gr?p gorchwyl a gorffen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad ar y cylch gorchwyl a gorffen mewn perthynas â'r adroddiad ar foderneiddio ysgolion – yr wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Band B. Rhannodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybodaeth gefndirol yn Adran 3, gan nodi bod Aelodau wedi gweld yr Adroddiad gan Estyn am Wasanaethau Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn ystod y cyfarfod pwyllgor ar 20 Mehefin 2023. Tynnodd sylw at yr ymateb gan Estyn, ym mharagraff 3.4 o'r adroddiad, cyn esbonio'r ffordd ymlaen a'r camau nesaf.

 

Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu am gyflwyno'r adroddiad.

 

Roedd Aelod yn gwbl gefnogol o'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen, ond roedden nhw'n ystyried y broses yn broses dwy gam, felly roedd angen adroddiad ysgrifenedig neu ddadansoddiad er mwyn cyd-fynd ag unrhyw ymweliadau.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu mai'r gobaith yw manteisio ar adnoddau craffu er mwyn casglu a rhannu'r adborth sy'n cael ei ddarparu drwy'r cylchoedd trafod, ac ar adegau allweddol drwy gydol y broses, a rhannu'r adborth yma gyda’r Pwyllgor. O safbwynt craffu, roedd y Cyfarwyddwr yn gobeithio y byddai modd defnyddio hyn i ddarparu argymhellion ystyrlon, ac felly pe byddai'r Cyngor yn ystyried bwrw ymlaen â'r cynigion ad-drefnu strategol yma, byddai modd i'r Cyngor gadw'r materion yma mewn cof. Yna byddai modd i'r Cabinet benderfynu pa argymhellion sy'n cael eu mabwysiadu, a hynny gyda chyngor y Cyfarwyddwr.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ei bod hi'n effro i'r ffaith bod y Rhaglen Band B ar waith ar hyn o bryd, felly os oedd y Pwyllgor yn awyddus i weld gwerthusiad o'r effaith y mae hyn yn ei chael ar fuddsoddi yna efallai dylai'r Pwyllgor edrych ar ysgolion Band A, a hynny gan fod y rhaglen yma wedi'i chwblhau ers sawl blwyddyn. Byddai cynnal asesiad a gwerthusiad o'r materion sy'n codi, yr heriau, a manteision Rhaglen Band B ar hyn o bryd yn heriol gan fod y datblygiadau yn cael eu cwblhau o hyd.

 

Ar ôl darllen yr adroddiad, nododd Aelod Adran 3.4 o'r adroddiad, gan ofyn am eglurhad mewn perthynas â gwerth y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, gan ystyried bod ysgolion Band B bellach yn y cam gweithredu.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wedi cydnabod bod heriau'n codi o hyd wrth lunio rhaglenni gwaith y pwyllgorau craffu, weithiau mae gallu'r Aelodau i ennill dealltwriaeth well o rai materion wedi'i gyfyngu gan amgylchedd y Pwyllgorau. O ran pwrpas y Gr?p Gorchwyl a Gorffen, mae'r Gr?p yn ychwanegu gwerth drwy roi cyfle i Aelodau ymchwilio i fater ymhellach, felly mae'n bwysig mabwysiadu dull sy'n ceisio datblygu argymhellion penodol iawn, i lywio cynigion yn y dyfodol.

 

Awgrymodd y Cadeirydd ei bod hi bron fel dechrau yn y man gorffen, e.e. beth ydy'r gr?p eisiau ei gyflawni? beth ydyn nhw eisiau dysgu?, felly roedd hyn yn glir iawn cyn cychwyn ar y  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

DATA'R GWEITHLU ADDYSG pdf icon PDF 493 KB

Rhoi cyfle i Aelodau'r Pwyllgor graffu a herio'r adroddiad ar ddata'r gweithlu addysg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant y newyddion diweddaraf i Aelodau mewn perthynas â data'r gweithlu addysg yn y 115 ysgol ledled Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â data penodol am weithlu'r sector cyfrwng Cymraeg, gan nodi bod yr adroddiad yma'n adroddiad a gafodd ei lunio ar y cyd â chydweithwyr o'r adran AD, gan ddefnyddio 3 adnodd data allweddol. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant y cyd-destun yn Adran 4, cyn trafod Adran 5 sy'n ymwneud â data iTrent. Yna, aeth y Cyfarwyddwr ati i ddarparu trosolwg o ddata staff addysgu (ym mhob sector) fel sydd wedi'i nodi yn Atodiad 1; data staff addysgu (cyfrwng Cymraeg) yn Atodiad 2; a data staff cymorth fel sydd wedi'i nodi yn Atodiad 3, cyn rhannu data CYBLD yn Adran 6. Aeth y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ati i drafod Data yngl?n â'r Gymraeg yn Adran 7 cyn crynhoi'r casgliadau yn Adran 14 o'r adroddiad.

 

Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant am gyflwyno'r adroddiad.

 

Roedd Aelod wedi gofyn am eglurhad ynghylch cadw staff mewn pynciau craidd e.e. Ffiseg.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant wedi cydnabod bod recriwtio athrawon ar gyfer pynciau craidd yn heriol yn y sector addysg cyfrwng Saesneg a'r sector addysg cyfrwng Cymraeg, ond mae hi'n arbennig o anodd yn y sector addysg cyfrwng Cymraeg.  Mae yna her o ran cynyddu nifer yr athrawon sydd ar gael, ac roedd hi'n ansicr ynghylch sut y bydd Prifysgolion yn llwyddo i gwrdd â thargedau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o ran addysg gychwynnol i athrawon. Roedd y gwasanaeth yn effro iawn i'r ffaith bod pobl yn symud o fewn y system ac mae cadw staff yn her fawr.

 

Holodd Aelod pa waith sy'n cael ei wneud i annog staff sydd ddim yn siarad Cymraeg i fanteisio ar gyfleoedd i ddysgu Cymraeg.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant fod yr Adran AD wedi mynd i ysgolion gwahanol i recordio unigolion er mwyn rhannu'u profiadau gwahanol a chyhoeddi'r llwyddiannau ar wefan y Cyngor, i ddangos sut mae modd i bobl symud i rolau a sectorau gwahanol. Yn rhan o ddeilliant 7 y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, sy'n canolbwyntio ar sicrhau staff digonol yn y sector addysg cyfrwng Cymraeg, mae modd i ni weld nad oes digon o gynnydd wedi'i wneud yn y maes yma. Mae angen gwneud rhagor er mwyn annog unigolion i fanteisio ar yr hyfforddiant sydd ar gael. Mae is-grwp marchnata wedi'i sefydlu er mwyn hyrwyddo'r neges, ynghyd ag ailwampio'r wefan i ddenu staff posibl. Mae llawer o staff yn y sector addysg cyfrwng Saesneg sydd heb ddigon o hyder i addysgu yn Gymraeg, ond gyda'r cymorth iawn mae'n bosibl y byddai modd iddyn nhw symud i addysg cyfrwng Cymraeg. Mae llawer o waith i'w wneud ac mae sicrhau cynnydd o ran niferoedd staffio yn mynd i fod yn heriol, ond mae'r Cyngor wedi ymrwymo i geisio gwella'r elfen yma.

 

Holodd Aelod pa mor aml ydy disgyblion yn mynychu gwers lle dydy'r  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

MATERION DERBYN DISGYBLION pdf icon PDF 233 KB

Rhoi cyfle i Aelodau'r Pwyllgor graffu a herio crynodeb blynyddol y broses derbyn disgyblion.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Trawsnewid Gwasanaethau, Derbyn Disgyblion a Llywodraethu grynodeb o'r broses derbyn disgyblion flynyddol, sy'n rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ym maes derbyn disgyblion ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/2023 a'r dyddiadau ymgeisio ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24. Cyflwynodd y Pennaeth Trawsnewid Gwasanaethau, Derbyn Disgyblion a Llywodraethu'r wybodaeth sydd yn Adran 4, sy'n cynnwys crynodeb o'r broses derbyn disgyblion flynyddol, ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23, y broses apelio, ceisiadau hwyr, cyfrifoldeb rhiant, ysgolion pob oed, yr amserlen ar gyfer 2023/24, rhestr aros a derbyn disgyblion ar adegau gwahanol. Roedd Adran 5 yn cynnwys rhagor o fanylion am y sector Cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys data. Roedd Adran 6 yn amlinellu manylion derbyn disgyblion ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Addysgol Arbennig, ac roedd y Pennaeth Trawsnewid Gwasanaethau, Derbyn Disgyblion a Llywodraethu wedi dod â'i chyfraniad hi i ben drwy gyfeirio at Adran 7, sy'n cynnwys manylion am y Panel Mynediad Teg.

 

Dymunodd y Cadeirydd ddiolch i'r Pennaeth Trawsnewid Gwasanaethau, Derbyn Disgyblion a Llywodraethu am gyflwyno'r adroddiad.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad pellach o ran symud disgyblion o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7.

 

Nododd y Pennaeth Trawsnewid Gwasanaethau, Derbyn Disgyblion a Llywodraethu fod dewis y rhieni yn dylanwadu ar hyn, gan nodi nad oedd ysgolion cynradd yn cyflenwi ysgolion uwchradd penodol, felly mae hyn yn golygu bod angen cydymffurfio â'r cod derbyn disgyblion statudol.   Mae hyn yn golygu bod modd i blentyn Blwyddyn 6 mewn Ysgol Pob Oed wneud cais i symud i Flwyddyn 7 mewn ysgol arall.

 

Ceisiodd Aelod eglurhad pellach am fanylion y disgyblion sy'n trosglwyddo yn ystod y flwyddyn, ai trosglwyddiadau mewnol yn RhCT yw'r rhain, neu ydyn nhw'n cynnwys disgyblion sy'n symud i'r Fwrdeistref Sirol?  Nododd yr Aelod fod nifer y disgyblion ysgol uwchradd sy'n symud yn ystod y flwyddyn yn edrych yn uchel iawn, gan holi a oes rheswm dros hyn.

 

Esboniodd y Pennaeth Trawsnewid Gwasanaethau, Derbyn Disgyblion a Llywodraethu fod 51.81% o'r disgyblion a symudodd ysgol yn ystod y flwyddyn wedi gwneud hynny o ganlyniad i symud t?, ond yn anffodus, does dim hawl cyfreithiol i ofyn pam bod hyn yn digwydd. O ran ysgolion uwchradd, mae swyddog trosglwyddo yn ystod y flwyddyn yn cwrdd â rhieni i geisio deall y rhesymau dros wneud hyn, cyn cymeradwyo'r cais i drosglwyddo.

 

Gofynnodd yr Aelod am eglurhad ynghylch pam y mae rhieni yn dewis anfon eu plant i ysgol eglwysig, er enghraifft, yn hytrach na'r ysgol gysylltiedig.

 

Esboniodd y Pennaeth Trawsnewid Gwasanaethau, Derbyn Disgyblion a Llywodraethu fod gan ysgolion ffydd eu hawdurdod derbyn disgyblion eu hunain, ac roedd hyn felly yn ymwneud â dewis y rhieni, gan amlaf bydd rhieni'n cyflwyno cais ar gyfer 2 ysgol, 1 ysgol RhCT ac 1 ysgol ffydd.

 

Nododd yr Aelod ei bod hi'n anodd cynllunio'n strategol gan ystyried y newid sylweddol o ran niferoedd, gan holi a oes modd cynnal unrhyw waith pellach mewn perthynas â hyn.

 

Esboniodd y Pennaeth Trawsnewid Gwasanaethau, Derbyn Disgyblion a Llywodraethu fod e-bost wedi cael ei anfon at bob ysgol gynradd sy'n cynnwys ragamcanion niferoedd disgyblion,  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

ADOLYGIAD Y CADEIRYDD A DOD Â'R CYFARFOD I BEN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dymunodd y Cadeirydd ddiolch i'r Swyddogion am eu hadroddiadau manwl a'u diwydrwydd wrth ateb cwestiynau. Roedd y Cadeirydd hefyd wedi diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau nhw, cyn atgoffa Aelodau y bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei gynnal ar ddydd Iau, 28 Medi 2023, gan atgoffa Aelodau i gysylltu â'r Uwch Swyddog Democrataidd a Chraffu mewn perthynas â'r Rhaglen Gwella Gwyliau'r Ysgol - 'Bwyd a Hwyl', a fydd yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher 9 Awst 2023.

15.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.