Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Tracy Watson - Uwch Swyddog Democrataidd a Craffu  07747 485567

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd ymddiheuriadau am absenoldeb eu derbyn gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol Ashford, Cook a Hickman ac Aelodau Cyfetholedig Mr Patterson, Mr Thomas a Mr Veale.

2.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

 

2.  Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Eitem 2 ar yr agenda – Adroddiad Estyn ar Wasanaethau Addysg Cyngor RhCT

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Evans – Personol – 'Mae fy mhlant yn mynd i ddwy ysgol yn RhCT a fyddai wedi cael eu hasesu yn rhan o'r adroddiad yma. Rydw i hefyd yn Is-gadeirydd Corff Llywodraethu un o'r ysgolion yn RhCT fyddai wedi cael ei chynnwys yn rhan o'r arolygiad yma.'

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Lisles – Personol – 'Rydw i'n Gadeirydd y Corff Llywodraethu mewn ysgol yn RhCT ac yn Gadeirydd gr?p gweithredu Ein Plant yn Gyntaf'.

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Wood – Personol – 'Rydw i'n un o lywodraethwyr ysgol gynradd leol'.

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Smith – Personol – 'Rydw i'n llywodraethwr mewn ysgolion sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad. O ran fy nghyflogaeth amser llawn, rydw i'n uwch swyddog undeb llafur, sy'n trafod ar gyfer Estyn'.

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Maohoub – Personol – 'Rydw i'n llywodraethwr un o'r ysgolion sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad ac rydw i'n aelod o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'.

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Preedy – Personol – 'Rydw i'n llywodraethwr mewn ysgol gynradd, ac roeddwn i'n ddisgybl diweddar un o'r ysgolion uwchradd a gafodd eu harolygu felly rydw i'n adnabod disgyblion presennol'.

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Emanuel – Personol – 'Mae fy mhlant yn mynd i ysgol sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad, ac rydw i'n llywodraethwr dwy ysgol'.

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher – Personol – 'Rydw i'n llywodraethwr ysgol a gafodd ei nodi yn yr adroddiad ac oedd yn gysylltiedig â'r sylw am fesurau arbennig'.

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Elliott – Personol – 'Rydw i'n llywodraethwr Ysgol Gynradd Cwm-bach'.

 

3.

ADRODDIAD ESTYN AR WASANAETHAU ADDYSG YNG NGHYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF pdf icon PDF 147 KB

Rhag-graffu – Yr Aelodau i graffu ar yr adroddiad a gwneud unrhyw argymhellion cyn ei gyflwyno i'r Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi trosolwg o'r broses arolygu a deilliannau arolygiad Estyn o Wasanaethau Addysg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a gafodd ei gynnal ym mis Ionawr 2023. Byddai modd gweld yr adroddiad manwl yn Atodiad A ac ar y cyfan, rhoddodd yr adroddiad ddarlun cadarnhaol o safbwynt Estyn ar Wasanaethau Addysg yn RhCT. Rhoddodd Adran 4 rywfaint o wybodaeth gefndirol, ac mae esboniad o'r broses arolygu i'w weld yn Adran 5. Mae'n nodi bod tri maes arolygu yn sail i'r Fframwaith Arolygu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol. Cafodd Aelodau wybod nad yw arolygwyr wedi arolygu na gwerthuso pob gwasanaeth addysg yn ystod arolygiad craidd. Roedd adroddiad yr arolygiad yn fanwl iawn felly aeth y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ddim drwy'r adroddiad llawn. Yn lle hynny, tynnodd sylw at y crynodeb lefel uchel o ddarganfyddiadau Estyn, a oedd i'w gweld yn Adran 6.2 ac yn yr adroddiad hir yn Atodiad A. Rhoddodd Estyn 3 argymhelliad allweddol, a oedd i'w gweld yn Adran 8. Yn amlwg, byddai'r argymhellion yma'n ganolbwynt gwaith gwella yn 2023 a thu hwnt, ac maen nhw eisoes i'w gweld yn y cynlluniau cyflawni a chamau gweithredu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Daeth y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant i'r casgliad y byddai'r adroddiad yn cael ei drafod gan Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'r Cyngor a'r Cabinet, mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Roedd arolygiad cyffredinol o Wasanaethau Addysg yn RhCT yn gadarnhaol iawn ac roedd yr adborth a ddarparwyd gan randdeiliaid hefyd yn gadarnhaol iawn. Roedd Estyn wedi nodi sawl maes cryf yn y Gyfadran, yn ogystal â nodi rhai meysydd allweddol i'w gwella. Roedd y meysydd gwella yma eisoes wedi cael eu hystyried ac roedden nhw'n ganolbwynt gwaith cynllunio a chyflawni gwelliannau.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r Cyfarwyddwr Addysg a Chynhwysiant, gan gydnabod bod y Pwyllgor o'r farn bod yr adroddiad yn gadarn iawn. Estynnodd longyfarchiadau ar ran y Pwyllgor, gan nodi bod sawl enghraifft o arfer da a bod angen canmol y Gyfadran. Roedd Estyn wedi gofyn am y 2 astudiaeth achos a oedd yn rhywbeth i fod yn falch ohono. Roedd y Cadeirydd o'r farn bod yr argymhellion yr oedd Estyn wedi'u rhoi yn deg ac yn rhesymol i'w rhoi ar waith.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 2, paragraff 4, o'r adroddiad arolygu, mewn perthynas â 'At ei gilydd, mae ansawdd y cymorth a’r wybodaeth a ddarperir gan CCD yn rhy amrywiol' a gofynnodd am eglurhad. Gofynnodd yr Aelod a yw'r un data a gafodd ei gyflwyno i Estyn ar gael i'r Pwyllgor. Cyfeiriodd yr Aelod at dudalen 15, paragraff 4, yr adroddiad arolygu, mewn perthynas ag ‘effaith tlodi’ a gofynnodd a allai Estyn fod wedi cryfhau'r datganiad hwnnw.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, yn nhermau amrywioldeb, fod dehongliad yr adborth hwnnw mewn perthynas â rhywfaint o'r gwaith adrodd. Roedd Estyn wedi cymryd trawstoriad o adroddiadau Cofnod Partneriaeth Gwella Ysgolion (SIPL) a oedd yn cynnwys manylion gwaith Partneriaid Gwella a Charfanau Strategol  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

ADOLYGIAD Y CADEIRYDD A DOD Â'R CYFARFOD I BEN

Myfyrio ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i Swyddogion a oedd yn bresennol am gyfrannu at y cyfarfod ac i Aelodau am eu sylwadau a chwestiynau. Aeth y Cadeirydd ati i atgoffa Aelodau o'r Hyfforddiant Craffu ddydd Llun 26 Mehefin 2023 am 4.30pm, a oedd yn gyfle da iddyn nhw. Roedd angen i Aelodau'r Pwyllgor fod yn effro i rai o elfennau'r hyfforddiant. Yn ogystal â hynny, cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 19 Gorffennaf 2023 am 5pm, byddai cyfarfod Pwyllgor ar y cyd â'r Pwyllgor Craffu – Gwasanaethau Cymuned am 4pm, a hynny er mwyn trafod y Rhybudd o Gynnig mewn perthynas â thlodi plant. Byddai dyddiad arall yn cael ei drefnu ar gyfer y rhag-gyfarfod a oedd i fod i gael ei gynnal ar 19 Gorffennaf.

5.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.