Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Sarah Handy - Swyddog Ymchwil a Chraffu i Aelodau  07385 401942

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

33.

Ymchwil a Chraffu

Mae cyfleuster ymchwil craffu ar gael yn Uned Busnes y Cyngor i gynorthwyo Aelodau â'u cyfrifoldebau craffu a'u rolau'n Aelodau Etholedig.  Mae ymchwil o'r fath yn cryfhau rhaglenni gwaith y Pwyllgorau Craffu er mwyn sicrhau bod pynciau sy'n seiliedig ar ddeilliannau yn cael eu nodi. Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynghylch gwaith ymchwil, e-bostiwch: Craffu@rctcbc.gov.uk

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Swyddog Ymchwil a Materion Craffu'r Aelodau at y cyfleusterau ymchwil sydd ar gael i Aelodau yn Uned Busnes y Cyngor. Rhoddwyd gwybod i Aelodau os oes gyda nhw unrhyw ymholiadau penodol, mae modd iddyn nhw e-bostio Craffu@rctcbc.gov.uk. 

 

34.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Nodwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol Geraint Jones, E. Dunning a J. Barton.

 

35.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

36.

Cofnodion pdf icon PDF 130 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2023 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod ar 22 Tachwedd 2023 eu CADARNHAU'N rhai cywir.

 

 

37.

Ymgynghoriadau

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w hystyried gan y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Swyddog Ymchwil a Materion Craffu'r Aelodau at y dolenni ymgynghori sydd ar gael trwy wefan 'Craffu RhCT'.  Cafodd Aelodau eu hatgoffa bod gwybodaeth yn cael ei rhannu mewn perthynas ag ymgynghoriadau priodol i'w trafod gan y Pwyllgor bob mis a'i diweddaru bob pythefnos. 

 

38.

Rhag-graffu mewn perthynas â'r Strategaeth Ddiwygiedig Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a'r cynllun Gweithredu. pdf icon PDF 90 KB

Cyfle i Aelodau'r Pwyllgor gynnal gwaith rhag-graffu mewn perthynas â'r Strategaeth Ddiwygiedig Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a’r cynllun Gweithredu.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wrth yr Aelodau mai pwrpas yr adroddiad oedd rhag-graffu ar y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol (LFRMS) ac y bydd sylwadau'r Aelodau'n cael eu rhannu gyda'r Cabinet. Yn dilyn hyn, cyflwynodd y Pennaeth Materion Rheoli Perygl Llifogydd ei adroddiad i'r Aelodau a dywedodd y byddai'r strategaeth wedyn yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w chymeradwyo gan y Gweinidog.

 

Yn dilyn hyn, cafodd Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau. Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am drosolwg manwl a chanmolodd y strategaeth. Holodd Aelod arall a oes modd i'r gwynt waethygu llifogydd. Cadarnhaodd y Pennaeth Materion Rheoli Perygl Llifogydd fod y gwynt yn chwythu cynifer o falurion o gwmpas, ac mae modd i'r rhain rwystro cyrsiau d?r mewn ceuffosydd. Yn ogystal â hynny, mae modd iddyn nhw effeithio ar ardaloedd llanw ac ati a chynyddu'r perygl o lifogydd.

 

Roedd sgwrs i ddilyn, a dywedodd Aelod y byddai'n ddefnyddiol pe bai'r adroddiad yn cynnwys llai o fyrfoddau a mwy o fanylion am y geiriau a ddefnyddir. Dywedodd y Pennaeth Materion Rheoli Perygl Llifogydd fod hyn bob amser yn her ac na fydd y ddogfen gryno, sydd ar ffurf drafft ar hyn o bryd, yn cynnwys acronymau o gwbl. Bydd y ddogfen gryno wedi'i hanelu at aelodau'r cyhoedd.

 

Holodd Aelod arall sut mae'r Cyngor yn annog trigolion i roi rhagor o gynlluniau atal llifogydd eu hunain ar waith, er enghraifft yn eu gerddi eu hunain, a hefyd sut mae'r Cyngor yn annog datblygwyr preifat i fabwysiadu rhagor o strategaethau atal llifogydd? Nododd y Pennaeth Materion Rheoli Perygl Llifogydd fod dwy ardal dan sylw; yr ardaloedd sydd eisoes ag adeiladau arnyn nhw, a'r ardaloedd lle bydd gwaith adeiladu. O ran yr ardaloedd sydd eisoes ag adeiladau arnyn nhw, nododd y Pennaeth Materion Rheoli Perygl Llifogydd fod cyfathrebu yn hollbwysig, yn ogystal ag adnoddau ar-lein a sicrhau mynediad didrafferth. Mae hefyd angen ystyried materion gorfodi, sef y rheolau a'r rheoliadau y mae'r isadeiledd bresennol yn ddarostyngedig iddyn nhw. Mae'n rhaid canolbwyntio'n bennaf ar addysg. O ran adeiladu tai, mae’n rhaid i bopeth fodloni safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer draenio cynaliadwy sydd, i bob pwrpas, yn dod o dan isadeiledd gwyrdd. Cadarnhaodd y Pennaeth Materion Rheoli Perygl Llifogydd fod hyn wedi'i gynnwys yn y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol. Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn ystyried Canllawiau Cynllunio, ac mae hyn hefyd wedi'i ymgorffori yn Strategaeth y Cyngor ar Newid yn yr Hinsawdd. Mewn perthynas â hyn, holodd y Cadeirydd a oedd darpariaeth ar gyfer cynnal a chadw yn cael ei sicrhau wrth ddatblygu prosiectau adeiladu. Dywedodd y Pennaeth Materion Rheoli Perygl Llifogydd fod Safon 6 o Safonau Llywodraeth Cymru i gyd yn ymwneud â'r cyfnod Adeiladu a chynaliadwyedd, a chafodd yr Aelodau sicrwydd bod hyn i gyd bellach wedi'i ymgorffori yn y Strategaeth.

 

Parhaodd y drafodaeth a dywedodd Aelod y byddai'n ddefnyddiol pe bai'r ddogfen yn cynnwys dadansoddiad o ba mor agored i'r perygl o lifogydd yw pob ward. Holodd yr Aelod hefyd pa gyfrifoldeb sydd gan gwmnïau  ...  view the full Cofnodion text for item 38.

39.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Cofnodion:

Doedd dim mater brys i'w drafod.

 

40.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Myfyrio ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau a'r Swyddogion am ddod i'r cyfarfod. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, y byddai sylwadau'r Aelodau'n cael eu bwydo'n ôl i'r Cabinet ac y byddai llythyr yn cael ei lunio yn crynhoi'r argymhellion a ddaeth i law.