Agenda, Penderfyniadau

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Sarah Handy - Members’ Researcher & Scrutiny Officer  07385 401942

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMCHWIL A CHRAFFU

Mae cyfleuster ymchwil craffu ar gael yn Uned Busnes y Cyngor i gynorthwyo Aelodau â'u cyfrifoldebau craffu a'u rolau'n Aelodau Etholedig.  Mae ymchwil o'r fath yn cryfhau rhaglenni gwaith y Pwyllgorau Craffu er mwyn sicrhau bod pynciau sy'n seiliedig ar ddeilliannau yn cael eu nodi. Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynghylch gwaith ymchwil, e-bostiwch: Craffu@rctcbc.gov.uk

 

2.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

3.

COFNODION pdf icon PDF 131 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgorau a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2024 a 1 Chwefror 2024 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

4.

YMGYNGHORIADAU

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w hystyried gan y Pwyllgor.

 

5.

YMGYSYLLTU AG AELOD O'R CABINET DDWYWAITH Y FLWYDDYN pdf icon PDF 171 KB

Craffu ar unrhyw faterion gyda deiliad y portffolio sy'n gyfrifol a sicrhau bod y mecanweithiau priodol yn eu lle i graffu'n effeithiol ar yr Adain Weithredol.

 

6.

Cyflawniad Ailgylchu RhCT 2023/24 pdf icon PDF 191 KB

Derbyn diweddariad ar ddatblygiad y strategaeth a chynnydd tuag at fwrw targed ailgylchu 80% y Cyngor, gyda chanolbwynt arbennig ar gasgliadau gwastraff bob 3 wythnos.

 

7.

Gwasanaethau Treftadaeth pdf icon PDF 117 KB

Derbyn trosolwg o wasanaethau treftadaeth yn RhCT.

 

Dogfennau ychwanegol:

8.

Adroddiad Blynyddol Hawliau Tramwy Cyhoeddus pdf icon PDF 3 MB

Diweddariad mewn perthynas â phroses gwaith cynnal a chadw cyffredinol Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

 

9.

MATERION BRYS

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

10.

ADOLYGIAD Y CADEIRYDD A DOD Â'R CYFARFOD I BEN

Myfyrio ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.