Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Sarah Handy - Members’ Researcher & Scrutiny Officer  07385 401942

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

22.

Croeso

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, Swyddogion a'r Aelodau o'r Cabinet i'r cyfarfod.

 

23.

Ymchwil a Chraffu

Mae cyfleuster ymchwil craffu ar gael yn Uned Busnes y Cyngor i gynorthwyo Aelodau â'u cyfrifoldebau craffu a'u rolau'n Aelodau Etholedig.  Mae ymchwil o'r fath yn cryfhau rhaglenni gwaith y Pwyllgorau Craffu er mwyn sicrhau bod pynciau sy'n seiliedig ar ddeilliannau yn cael eu nodi. Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynghylch gwaith ymchwil, e-bostiwch: Craffu@rctcbc.gov.uk

 

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Swyddog Ymchwil a Materion Craffu'r Aelodau at y cyfleusterau ymchwil sydd ar gael i Aelodau yn Uned Busnes y Cyngor. Rhoddwyd gwybod i Aelodau os oes gyda nhw unrhyw ymholiadau penodol, mae modd iddyn nhw e-bostio Craffu@rctcbc.gov.uk. 

 

 

24.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol V. Dunn, P. Binning, P. Evans a Geraint Jones.

 

25.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

26.

Cofnodion pdf icon PDF 166 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2023 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod ar 18 Hydref 2023 eu cadarnhau'n rhai cywir.

 

 

27.

Ymgynghoriadau

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Swyddog Ymchwil a Materion Craffu'r Aelodau at y dolenni ymgynghori sydd ar gael trwy wefan 'Craffu RhCT'.  Cafodd Aelodau eu hatgoffa bod gwybodaeth yn cael ei rhannu mewn perthynas ag ymgynghoriadau priodol i'w trafod gan y Pwyllgor bob mis a'i diweddaru bob pythefnos. 

 

28.

Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Cyhoeddus Statudol ar gyfer Adolygiad yr Awdurdod o'r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd a'r Cynllun Gweithredu pdf icon PDF 175 KB

Ccyfle i drafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus statudol ar y Strategaeth Ddrafft a'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd Lleol.   

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd ei adroddiad i'r Aelodau er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw drafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad statudol â'r cyhoedd mewn perthynas â'r Strategaeth Leol Ddiwygiedig Ar Gyfer Rheoli Perygl Llifogydd a'r Cynllun Gweithredu (Y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn flaenorol), fel sy'n ofynnol dan Adran 10 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a D?r (2010).

 

Yn dilyn y cyflwyniad, cafodd Aelodau gyfle i graffu ar yr adroddiad a gofyn cwestiynau.

 

Nododd Aelod fod nifer o bobl wedi bwrw golwg ar y dudalen ar wefan y Cyngor ond dim ond nifer fach o drigolion sydd wedi cwblhau'r ymgynghoriad. Holodd yr Aelod pam bod hyn wedi digwydd a beth allai'r Cyngor ei wneud er mwyn annog pobl i gymryd rhan. Nododd y Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd fod hyn yn ymgynghoriad statudol ac mae rhaid cynnwys grwpiau penodol. Ychwanegodd fod manylion yr ymgynghoriad wedi cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol ddwywaith yr wythnos. Pwysleisiodd ei bod hi'n gadarnhaol bod pobl yn edrych ar y dudalen, mae modd ystyried hyn yn ganiatâd goddefol. Nododd y Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd fod yr ymatebion a dderbyniwyd yn dda iawn a byddai modd cynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y dyfodol drwy ymgysylltu â'r Garfan Gyfathrebu.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd y Cyngor wedi ymgysylltu â grwpiau i bobl anabl/gwirfoddolwr yn y gymuned/elusennau ac ati. Cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd at Atodiad B, sy'n nodi'r ymgynghorai statudol y mae angen eu cynnwys, yna cafodd staff, Cynghorwyr, Trafnidiaeth Cymru ac ati eu targedu. Nodwyd nad oedd grwpiau demograffig wedi cael eu targedu, ond cafodd ei anelu at y cyhoedd. Gofynnodd y Cadeirydd a oedd y Cyngor wedi ymgynghori â'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Nododd y Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd nad yw'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ymgynghorai statudol, fodd bynnag nododd hefyd nad yw hwn yn gynllun ymateb mewn argyfwng, dyma fesur sydd wedi'i gynnwys yn y strategaeth.

 

Holodd Aelod arall a yw'r cyhoedd yn ymgynghorai statudol a chadarnhawyd eu bod nhw'n cael eu hystyried yn ymgynghorai statudol yn rhan o'r broses. Holodd yr Aelod a oedd y garfan wedi manteisio i'r eithaf ar y cyfryngau cymdeithasol fel modd o gyfathrebu. Cyfeiriodd y Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd at Atodiad A a'r poster a gafodd ei ddefnyddio. Nodwyd bod y neges yma wedi'i rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol ddwywaith yr wythnos yn ystod yr ymgynghoriad chwe wythnos.

 

Holodd Aelod arall sut bydd y cynllun yma'n helpu'r rheiny sydd wedi'u heffeithio gan lifogydd a'r rheiny a allai gael eu heffeithio gan lifogydd yn y dyfodol. Nododd y Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd mai sail y strategaeth yw deall y perygl a rhoi cynllun ar waith mewn modd effeithiol. Mae'r strategaeth yn nodi'r 5 egwyddor sydd wedi'u pennu gan Lywodraeth Cymru yn ogystal ag amcanion a mesurau sydd eisoes wedi'u cynnwys yn y strategaeth. Gofynnodd yr Aelod a oedd gan y trigolion y pecynnau gwybodaeth fel bod modd iddyn nhw baratoi'n well. Nododd y Swyddog fod y tudalennau ar wefan Rheoli Perygl Llifogydd bellach yn fyw a bydd  ...  view the full Cofnodion text for item 28.

29.

Strategaethau Canol Tref RhCT pdf icon PDF 180 KB

Derbyn adroddiad ar y cynnydd a wnaed hyd yma ar Strategaethau Canol Tref y Cyngor yn Rhondda Cynon Taf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu'r adroddiad cyn rhoi cyfle i'r Pennaeth Materion Adfywio annerch yr Aelodau. Gofynnwyd i'r Aelodau drafod y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran datblygu a chyflwyno strategaethau adfywio canol trefi a chynlluniau creu lleoedd yn Rhondda Cynon Taf. 

 

Yn dilyn hyn, cafwyd trafodaeth. Holodd y Cadeirydd pa gorgyffwrdd sydd rhwng Cynghorau Tref a Chynghorau Cymuned gan ystyried nad oes Cyngor Tref yng Nghwm Rhondda. O'r holl drefi sydd â strategaeth, cadarnhaodd y Pennaeth Materion Adfywio mai dim ond Pontypridd sydd â Chyngor Tref a bod partneriaeth gadarn wedi'i sefydlu gyda Chyngor Tref Pontypridd sydd wedi ein galluogi ni i gryfhau'r broses ar gyfer cyflwyno'r strategaeth.

 

Tynnodd Aelod sylw at y broblem o ddigartrefedd gan nodi bod modd i hyn effeithio ar nifer y bobl sy'n ymweld â chanol trefi. Holodd Aelod pa gamau y mae'r Cyngor wedi'u cymryd i fynd i'r afael â hyn ac a ydyn nhw'n gweithio mewn partneriaeth â'r Garfan Materion Tai. Holodd yr Aelod a yw Cynlluniau Tai Cymdeithasol wedi'u cynnwys yn rhan o'r cynlluniau ar gyfer y trefi. Cadarnhaodd y Pennaeth Materion Adfywio eu bod nhw wedi bod yn edrych ar anghenion tai yn rhan o'r dull strategol, ac aeth ati i gadarnhau bod y garfan yn gweithio'n agos gyda'i chydweithwyr yn y garfan materion tai a'r cymdeithasau tai. Cyfeiriodd y Cadeirydd at ardal Tonypandy, gan nodi bod dau ddatblygiad mawr eisoes yn yr ardal yma a holodd a fydd y Cyngor yn blaenoriaethu adeiladau presennol cyn rhoi caniatâd ar gyfer datblygiadau cymdeithasol eraill yng nghanol trefi. Rhoddodd y Pennaeth Materion Adfywio wybod bod angen sicrhau cydbwysedd ar gyfer pob canol tref a bydd y strategaeth yn adlewyrchu'r angen ym mhob ardal. Cytunodd Aelod arall a nododd fod modd rhannu eiddo'n tai cymdeithasol ac eiddo masnachol. Nododd yr Aelod y duedd o siopa mewn parciau manwerthu gan nodi bod angen i ni edrych ar gysylltiadau trafnidiaeth er mwyn annog pobl i ymweld â chanol trefi. Cytunodd y Cadeirydd a nododd bwysigrwydd y bensaernïaeth unigryw yn ein trefi.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu wedi cydnabod y pwyntiau yma a nododd fod pwrpas ein trefi a sut maen nhw'n cael eu defnyddio wedi newid. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n newid y ffordd rydyn ni'n edrych ar ein canol trefi a'u bod nhw'n cael eu hystyried yn hybiau cymdeithasol ar gyfer ein cymunedau. Rhaid i ni hefyd edrych ar yr hyn sydd ei angen ar bobl. Nododd y Cadeirydd hefyd ein bod ni wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n ymweld â'n canol trefi, yn enwedig ers y pandemig.

 

Gofynnodd Aelod arall am y camau nesaf mewn perthynas â thref Tonypandy, a hefyd a yw'r garfan yn gweithio gyda'r heddlu mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein trefi a'r effaith y mae modd i hyn ei chael ar nifer y bobl sy'n ymweld â'r dref. Yn dilyn y gwaith sydd wedi'i gyflawni'n ddiweddar i lunio strategaeth o'r gwaelod i fyny ar gyfer Aberdâr yn  ...  view the full Cofnodion text for item 29.

30.

Cynllun Gweithredu - Datgarboneiddio pdf icon PDF 144 KB

Derbyn trosolwg o Strategaeth Ddatgarboneiddio a Chynllun Gweithredu'r Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor ei adroddiad i Aelodau'r Pwyllgor

Craffu – Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant.

Roedd yr adroddiad yn trafod y cynnydd sydd wedi'i wneud yn rhan o'r

Strategaeth Ddatgarboneiddio Gorfforaethol a'r Cynllun Gweithredu

cysylltiedig, yn dilyn mabwysiadu'r Strategaeth yn ystod cyfarfod

Is-bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd ar 23 Mawrth 2023.

 

Yna rhoddodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon a'r Prif Swyddog Lleihau Carbon ddiweddariad i'r Aelodau gan ddefnyddio cyflwyniad Powerpoint.

 

Yn dilyn hyn, cafodd Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau.

 

Holodd y Cadeirydd pa effaith y mae'r toriadau a'r cyfyngiadau o ran y gyllideb yn ei chael ar y cynllun datgarboneiddio. Gofynnodd y Cadeirydd fod diweddariadau rheolaidd yn cael eu rhannu â'r Pwyllgor Craffu. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod cyfrifo cost carbon niwtral yn ddarn o waith sy'n mynd rhagddo o hyd, dylai'r gwaith yma gael ei gwblhau yn gynnar yn y flwyddyn ariannol nesaf. Pwysleisiwyd hefyd bod y garfan wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau grantiau i dalu am brosiectau a swyddi

ac ati.  

 

Gofynnodd y Cadeirydd gwestiwn yngl?n â'r broses gaffael, gan ofyn sut

mae'r Cyngor yn bwriadu sicrhau cefnogaeth cwmnïau lleol o ran cyfrannu at y cynllun carbon niwtral. Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor at ddatblygu cyfrifiannell carbon y mae modd i gontractwyr ei defnyddio i sefydlu beth yw eu hallyriadau carbon gwirioneddol. Nododd y Cyfarwyddwr fod pob £1miliwn sy'n cael ei wario ar brosiectau yn cael ei luosi â ffactor carbon er mwyn cyfrifo'r allyriadau honedig, a hynny'n rhan o ganllawiau Llywodraeth Cymru i gyfrifo Ôl-troed Carbon y Cyngor. Y gobaith yw y bydd y ffigurau yma'n fwy manwl gywir yn y dyfodol pan fydd y Cyngor yn annog contractwyr i ddefnyddio'r pecyn cymorth a'r gyfrifiannell allyriadau. Rhoddodd y Prif Swyddog Lleihau Carbon wybod bod y dull yma wedi'i ddatblygu ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig yn ogystal â chwmnïau mawr.

 

Cafwyd trafodaeth a holodd Aelod faint o arian y mae'r Cyngor yn ei

arbed drwy ddefnyddio Paneli Solar. Rhoddodd y Prif Swyddog Lleihau Carbon wybod bod y ffigurau yma ar gael a byddan nhw'n cael eu rhannu ag Aelodau yn dilyn y cyfarfod.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a yw'r Cyngor yn gweithio gyda'r Grid Cenedlaethol a Phartneriaid i gyflawni'r cynllun. Rhoddodd y Prif Swyddog Lleihau Carbon wybod bod y Cyngor yn gweithio gyda'i bartneriaid a'r dull mwyaf effeithlon o dynnu ynni yw eich stopio chi rhag tynnu ynni o'r Grid. Rhoddodd y Swyddog wybod bod modd rhannu'r adroddiad incwm blynyddol ag Aelodau.

 

Cafwyd trafodaeth bellach a holodd Aelod a yw'r Cyngor yn gweithio gydag

adeiladwyr lleol i'w hannog nhw i wneud gymaint ag sy'n bosibl. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod prosiect yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ym Mhontypridd sy'n cynnwys gosod Paneli Solar, mewn rhai achosion caiff paneli solar eu defnyddio ond nid oes modd gweld y paneli solar gan eu bod nhw'n rhan o'r to llechi. O safbwynt cynllunio, mae paneli solar effeithlon o ran ynni yn cael eu trafod yn rhan o'r broses  ...  view the full Cofnodion text for item 30.

31.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Cofnodion:

Doedd dim mater brys i'w drafod.

 

32.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Myfyrio ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

 

Cofnodion:

Dymunodd y Cadeirydd ddiolch i bawb am ddod i'r cyfarfod a dymunodd Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.