Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Sarah Handy - Members’ Researcher & Scrutiny Officer  07385 401942

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

10.

Croeso

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Aelodau a Swyddogion i gyfarfod y Pwyllgor a chroesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol a'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Hamdden a'r Amgylchedd

11.

Ymchwil a Chraffu

Mae cyfleuster ymchwil craffu ar gael yn Uned Busnes y Cyngor i gynorthwyo Aelodau â'u cyfrifoldebau craffu a'u rolau'n Aelodau Etholedig.  Mae ymchwil o'r fath yn cryfhau rhaglenni gwaith y Pwyllgorau Craffu er mwyn sicrhau bod pynciau sy'n seiliedig ar ddeilliannau yn cael eu nodi. Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynghylch gwaith ymchwil, e-bostiwch: Craffu@rctcbc.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Swyddog Ymchwil a Materion Craffu'r Aelodau at y cyfleusterau ymchwil sydd ar gael i Aelodau yn Uned Busnes y Cyngor. Rhoddwyd gwybod i Aelodau os oes gyda nhw unrhyw ymholiadau penodol, mae modd iddyn nhw e-bostio Craffu@rctcbc.gov.uk. 

 

12.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol E Dunning, G Jones a P Evans

13.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

14.

Cofnodion pdf icon PDF 109 KB

Cadarnhau cofnodion o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2023 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod ar 27 Mehefin 2023 eu cadarnhau'n rhai cywir.

 

15.

Ymgynghoriadau

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w hystyried gan y Pwyllgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyfeiriodd y Swyddog Ymchwil a Materion Craffu'r Aelodau at y dolenni ymgynghori sydd ar gael trwy wefan 'Craffu RhCT'.  Cafodd Aelodau eu hatgoffa bod gwybodaeth yn cael ei rhannu mewn perthynas ag ymgynghoriadau priodol i'w trafod gan y Pwyllgor bob mis a'i diweddaru bob pythefnos. 

 

 

16.

Ymgysylltu ag Aelod Cabinet ddwywaith y flwyddyn pdf icon PDF 145 KB

Craffu ar unrhyw faterion gyda'r deiliad portffolio cyfrifol am faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol, a sicrhau bod y mecanweithiau priodol yn eu lle i graffu'n effeithiol ar yr Adain Weithredol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol i'r Pwyllgor a rhoddodd ddiolch iddi am ddod. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad i Aelodau a rhoddodd wybod iddyn nhw fod gyda nhw gyfle i graffu ar unrhyw faterion gyda deiliad y portffolio sy'n gyfrifol am faterion yr hinsawdd a gwasanaethau corfforaethol a sicrhau bod y mecanweithiau priodol yn eu lle i graffu'n effeithiol ar yr Adain Weithredol.

 

Cafwyd trafodaeth a gofynnodd Aelod am y camau y mae'r Cyngor wedi'u cymryd i ddelio â glaswellt artiffisial sy'n ddrwg i'r amgylchedd ac o ran atal llifogydd yn y Fwrdeistref Sirol. Gofynnodd yr Aelod faint o'n tirwedd ni bellach yn laswellt artiffisial o'i gymharu â glaswellt naturiol. Rhoddodd yr Aelod o'r Cabinet wybod nad yw'r Cyngor yn gwybod pa ardaloedd sydd â glaswellt artiffisial ar hyn o bryd, gan nodi y gallai'r mater yma fod yn adroddiad i graffu arno yn y dyfodol. Nododd yr Aelod fod angen ymgyrch i roi gwybod i bobl am y drwg y mae glaswellt plastig yn ei wneud. Nododd y Cadeirydd y mater yma'n eitem i graffu arni yn y dyfodol a dywedodd y byddai'n ddefnyddiol i'r Cyngor gysylltu â gwerthwyr i gael gwybod faint maen nhw wedi'i werthu.

 

Cafwyd trafodaeth a gofynnodd Aelod am y gymhareb o ran mannau gwefru cerbydau trydan yn y Fwrdeistref Sirol, hynny yw nifer y cerbydau trydan yn erbyn nifer y mannau gwefru. Gofynnodd a yw datblygiad posibl technoleg fodern a allai ddilyn cerbydau trydan yn y dyfodol wedi cael ei ystyried. Rhoddodd yr Aelod o'r Cabinet wybod bod Swyddogion wrthi'n casglu'r wybodaeth yma a chytunodd yr Aelod o'r Cabinet fod technoleg fodern yn bryder, gan roi sicrwydd i Aelodau fod pob posibilrwydd yn cael ei fonitro'n agos. Gofynnodd yr Aelod gwestiwn arall o ran pa mor agos y mae'r Cyngor yn gweithio gyda'r diwydiant cerbydau modur i fonitro'r camau y mae'n eu cymryd gyda datblygiad technoleg newydd. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet y byddai'n trafod gyda Swyddogion a rhoi'r wybodaeth i'r Pwyllgor Craffu maes o law.

 

Gofynnodd Aelod arall am ragor o wybodaeth mewn perthynas â gwobrau ECO mewn ysgolion a sut rydyn ni'n gwneud yn si?r bod pawb yn cael cymryd rhan. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet, ynghyd â'r Cynghorydd R Lewis, eu bod wedi cwrdd â phlant ysgolion cynradd a'u bod nhw'n lansio'r wobr efydd eleni. Cawson nhw gymaint o adborth gan blant ysgolion cynradd â phosibl am eu syniadau. Roedd y plant yn awyddus iawn i dyfu a choginio eu llysiau eu hunain a choginio eu prydau ysgol eu hunain. Mae gan y Wobr Efydd dri chategori; Bioamrywiaeth lle bydd disgyblion yn astudio bioamrywiaeth yn y Fwrdeistref Sirol a bydd Hyrwyddwr Bioamrywiaeth yn cyflwyno mentrau newydd. Yn ail, Gwastraff ac Ailgylchu lle bydd her mewn perthynas â gwastraff bwyd ac yn drydydd, Allyriadau Carbon lle byddwn ni'n gofyn i ysgolion sicrhau gostyngiad o 10% yn eu hallbwn nwy a thrydan. Pwysleisiwyd bod modd i bob  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

17.

Hinsawdd Ystyriol RhCT - Strategaeth Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd (2022–25) y Cyngor pdf icon PDF 162 KB

Derbyn Adroddiad Cyflawniad y Cyngor mewn perthynas â'i ddarpariaeth o Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd 22/23.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad ar Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd 2022-2025 y Cyngor. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth drosolwg gan nodi cynnydd y Cyngor o ran cyflawni Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor, 'Hinsawdd Ystyriol RhCT', fel y cytunwyd ym mis Mehefin 2022.

 

Cafwyd trafodaeth a chyfeiriodd y Cadeirydd at darged y Cyngor o fod yn garbon niwtral erbyn 2030 a sero net erbyn 2040 a gofynnwyd sut y byddai'r Cyngor yn monitro'r targedau yma a sut y byddai'n monitro'r sector preifat. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod bod y targedau wrthi'n cael eu datblygu ac y bydd gan y pwyllgor craffu rôl allweddol i'w chwarae wrth fonitro'r cynnydd tuag at y targedau yma. Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai modd i'r pwyllgor craffu dderbyn yr wybodaeth ar ffurf siart. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod hyn yn faes cymhleth iawn ac y byddwn ni'n canolbwyntio ar roi cymorth i Aelodau trwy hyfforddiant ar bob agwedd ar faterion Newid yn yr Hinsawdd.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD Aelodau:  

 

·       Mynegi barn ar unrhyw feysydd posibl i'w trafod ymhellach yn rhan o Raglen Waith y Pwyllgor Craffu – Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant;

·       Nodi'r argymhelliad sy'n dod o Is-Bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd, gweler paragraff 5.1, mewn perthynas â nwyddau a gwasanaethau wedi'u caffael, a'r effaith ar ôl troed carbon y Cyngor;

·       Nodi'r potensial i ymgorffori ymateb y Cyngor i'r Newid yn  yr Hinsawdd ymhellach ym musnes y Cyngor, a hynny'n rhan o ddatblygiad Cynllun Corfforaethol newydd y Cyngor;

·       Ystyried a yw Aelodau'n dymuno craffu'n fwy manwl ar faterion yn yr adroddiad yn unol â Chylch Gorchwyl y Pwyllgor, gan gynnwys derbyn diweddariadau rheolaidd mewn perthynas â chynnydd y Cyngor o ran cyrraedd ei dargedau Sero Net a derbyn hyfforddiant rheolaidd ar yr Newid yn yr Hinsawdd i Aelodau'r Pwyllgor Craffu.

 

18.

Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol pdf icon PDF 97 KB

Rhoi cyfle i Aelodau'r Pwyllgor rag-graffu ar Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem a rhoddodd wybod i Aelodau ei bod yn eitem rhag-graffu lle byddai sylwadau Aelodau'n cael eu rhoi i'r Cabinet. Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio ei adroddiad i'r Aelodau yn fanwl, gan dynnu sylw Aelodau at yr atodiadau perthnasol.

 

Yn dilyn hyn, cafodd Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau. Gofynnodd y Cadeirydd faint o arian Ardoll Seilwaith Cymunedol (CIL) sydd gan Gynghorau Tref neu ydy'r arian mewn prosiectau seilwaith yn bennaf. Rhoddodd Pennaeth Materion Cynllunio wybod bod gan y Cynghorau Tref gyfrifoldeb uniongyrchol am arian CIL. Serch hynny, mae rhaid iddyn nhw ddangos ei fod yn cael ei wario mewn ffordd addas ac yn unol â rheoliadau CIL. Cafodd Aelodau wybod y dylai Clercod Cynghorau Cymuned gysylltu â Swyddog CIL y Cyngor i ofyn am gyngor o ran yr hyn sy'n addas. Gofynnodd y Cadeirydd sut mae hyn yn gweithio yng Nghwm Rhondda lle nad oes unrhyw Gynghorau Tref. Rhoddodd Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu wybod y cafodd y mater yma ei drafod yn gyntaf pan gafodd CIL ei mabwysiadu gan y Cabinet. Dywedodd y Cyfarwyddwr pe byddai datblygiad yng Nghwm Rhondda sy'n denu taliad CIL megis archfarchnad newydd, yna byddai'r Cyngor yn cadw'r CIL ac yn ymgysylltu â'r Aelodau Lleol o ran sut i wario'r arian CIL. Gofynnodd y Cadeirydd a oes amserlen o ran gwario'r arian ar seilwaith yn y Fwrdeistref Sirol. Nododd Pennaeth Materion Cynllunio nad oes amserlen ar gyfer y Fwrdeistref Sirol ond mae gan Gynghorau Cymuned amserlen benodol ond mae elfen o ddisgresiwn.

 

Cafwyd trafodaeth a chyfeiriodd Aelod arall at y rhestr rheoliad 123 ac eitem cyffordd â signalau'r A4119 Castell Mynach, a gofynnodd a fydd y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo o hyd yn ôl y cynnig. Dywedodd Pennaeth Materion Cynllunio y bydd y gwaith yn parhau heb newidiadau.

 

Gofynnodd Aelod a yw cyllid CIL ar gael i ddatblygiadau newydd yn unig, a gofynnodd pe byddai rhywun yn dod i Aberdâr i gynnal gwaith adfer o ran concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) yn yr adeilad, fyddai modd defnyddio cyllid CIL. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant wybod na fyddai'r sefyllfa honno yn gymwys a bod rheoliadau CIL yn eu lle i sicrhau bod yr arian sy'n cael ei gasglu yn cael ei wario ar seilwaith i gefnogi twf yn y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD Aelodau gynnwys sylwadau'r Pwyllgor Craffu ar yr adroddiad yn rhan o'r adborth sy'n cael ei roi i'r Cabinet yn ei gyfarfod sydd i'w gynnal ar 23 Hydref 2023.

 

 

19.

Y Strategaeth Coed a Gwrychoedd pdf icon PDF 1 MB

Rhoi cyfle i Aelodau'r Pwyllgor Craffu graffu ar y ddarpariaeth barhaus o Strategaeth Coed, Coetiroedd a Gwrychoedd RhCT sydd wedi'i mabwysiadu. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu ei adroddiad mewn perthynas â'r cynnydd o ran cyflawni Strategaeth Coed, Coetiroedd a Gwrychoedd RhCT.

 

Cafwyd trafodaeth a gofynnodd Aelod sut rydyn ni'n mesur cynnydd gwaith adfywio coed, er enghraifft faint sy'n tyfu ledled y Fwrdeistref Sirol. Pwysleisiodd yr Aelod bwysigrwydd ymgysylltu â'r Aelod(au) Lleol ar gyfer pob ward. Gofynnodd yr Aelod sut mae hyn yn cyd-fynd â chynllunio, yn enwedig y Cynllun Datblygu Lleol. Mewn perthynas â mesur gwaith adfywio coed, dywedodd y Cyfarwyddwr fod yr adroddiad yn nodi sut rydyn ni'n dechrau mesur gwaith adfywio naturiol trwy ddadansoddi ein tir ein hunain, a bod gorchudd coed wedi tyfu'n sylweddol ar ein daliadau tir. Pwysleisiwyd bod Swyddogion yn hyderus bod y twf o ran gorchudd coed wedi digwydd o ganlyniad i adfywio naturiol. Yn nhermau tir dydy'r Cyngor ddim yn berchen arno, dibynnir ar wybodaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac mae honno'n dod yn achlysurol. Pan fydd yr wybodaeth ar gael, bydd modd ei rhannu gyda'r Pwyllgor Craffu. O ran y polisi cynllunio, rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod ffyrdd o ddiogelu coed trwy'r system gynllunio. Bydd gwerth coed a'r fioamrywiaeth maen nhw'n ei hybu yn cael eu diogelu'n fwy yn y Cynllun Datblygu Lleol yma, o'i gymharu â'r cynllun blaenorol. Os oes pryderon penodol am goeden/coed, mae gyda ni fesurau megis Gorchmynion Diogelu Coed (TPOs) y mae modd i ni eu defnyddio. Pwysleisiodd yr Aelod bwysigrwydd TPOs a dywedodd y dylen ni fod yn rhagweithiol o ran hyn trwy'r broses gynllunio.

 

Gofynnodd Aelod arall sut mae modd i ni annog grwpiau cymunedol lleol a chynghorau cymuned i gymryd rhan yn y mentrau yma. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y cynllun Partneriaeth Natur Leol yn fenter wych i gynnwys grwpiau lleol a chyfeiriodd Aelodau at wefan y Cyngor. Cytunodd y Cyfarwyddwr fod angen iddyn nhw atgoffa pobl bod y wefan ar gael a phwysleisiodd fod y wefan yn ased da i ysgolion a grwpiau natur lleol. Byddai'r grwpiau lleol yn cael eu hannog i fwrw golwg ar wefan Action For Nature a dod o hyd i fanylion cyswllt lleol.

 

Cafwyd trafodaeth a gofynnodd Aelod a oes ffordd o ofyn i brynwr posibl tir y Cyngor am eu bwriad o ran y coed ar y tir cyn ei werthu eto ac, os felly, fyddai modd i ni werthu'r tir gyda Gorchymyn Diogelu Coed. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod proses fewnol eithaf cadarn ar waith cyn i dir gael ei werthu a bod adrannau'r Cyngor yn cael yr wybodaeth i gyflwyno sylwadau arni cyn i'r tir gael ei werthu. Nododd y Cyfarwyddwr y byddai'n gwirio a yw'r Swyddog Coed yn rhan o'r broses fewnol yma. Mae'n eithaf cyffredin nad yw coed ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor wedi'u diogelu trwy Orchymyn Diogelu Coed ar y sail eu bod nhw wedi'u diogelu gan eu bod nhw ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor. Y broses fyddai rhoi Gorchymyn Diogelu Coed arnyn nhw yn rhan o'r broses werthu. Gofynnodd yr Aelod a yw'n bosibl i'r  ...  view the full Cofnodion text for item 19.

20.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Doedd dim mater brys i'w drafod.

 

21.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Myfyrio ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aeth y Cadeirydd ati i ddiolch i'r Swyddogion ac Aelodau am fynychu'r cyfarfod ac i atgoffa Aelodau y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 22 Tachwedd 2023. Lluniodd y Cadeirydd grynodeb o geisiadau'r Pwyllgor am ragor o wybodaeth a dywedodd y bydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu gydag Aelodau maes o law.