Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Sarah Handy - Members’ Researcher & Scrutiny Officer  07385 401942

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

Croeso

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf y Pwyllgor Craffu - Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-24.

2.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau am golli'r cyfarfod oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Barton a R Yeo.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

4.

Cofnodion pdf icon PDF 123 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2023 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

Cafodd cofnodion o'r cyfarfod a gafodd ei gynnal ar 22 Mawrth 2023 eu cadarnhau'n rhai cywir.

 

5.

Ymchwil a Chraffu

Mae cyfleuster ymchwil craffu ar gael yn Uned Busnes y Cyngor i gynorthwyo Aelodau â'u cyfrifoldebau craffu a'u rolau'n Aelodau Etholedig.  Mae ymchwil o'r fath yn cryfhau rhaglenni gwaith y Pwyllgorau Craffu er mwyn sicrhau bod pynciau sy'n seiliedig ar ddeilliannau yn cael eu nodi. Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynghylch gwaith ymchwil, e-bostiwch: Craffu@rctcbc.gov.uk

 

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Swyddog Craffu ac Ymchwil i Aelodau at y cyfleusterau ymchwil sydd ar gael i Aelodau yn rhan o Uned Busnes y Cyngor.  Cafodd Aelodau wybod bod modd anfon unrhyw ymholiadau penodol drwy e-bost: Craffu@rctcbc.gov.uk.

 

 

6.

Ymgynghoriadau

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Swyddog Craffu ac Ymchwil i Aelodau at yr ymgynghoriadau sydd ar gael ar wefan 'Craffu RhCT'. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa bod gwybodaeth mewn perthynas â'r ymgynghoriadau y mae angen i'r Pwyllgor eu trafod yn cael ei rhannu ag Aelodau. Caiff yr ymgynghoriadau yma eu rhannu'n fisol, a'u diweddaru bob pythefnos. 

 

7.

Blaen-raglen Waith y Pwyllgor Craffu - Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant 2023-24 pdf icon PDF 129 KB

Trafod a chytuno ar Raglen Waith y Pwyllgor Craffu Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant ar gyfer 2023-24.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynodd y Swyddog Craffu ac Ymchwil i Aelodau'r Rhaglen Waith ar gyfer 2023-24 i Aelodau, gan geisio cymeradwyaeth yr Aelodau mewn perthynas â'r rhaglen waith a gwahodd unrhyw awgrymiadau gan Aelodau.

 

Yn dilyn hyn, cafodd y Pwyllgor drafodaeth yngl?n â'r mater.

 

Holodd Aelod a oedd modd cynnwys torri gwair yn rhan o'r eitem ar Goed a Gwrychoedd. Holodd Aelod arall a oedd modd cyfeirio at weiren bigog a'r ddeddfwriaeth berthnasol yngl?n â'r mater yma yn rhan o'r adroddiad ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Cadarnhaodd y Swyddog Craffu ac Ymchwil i Aelodau y bydd yr eitemau yma'n cael eu rhannu â'r Swyddogion perthnasol.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD Aelodau gymeradwyo'r Rhaglen Waith ar gyfer 2023-24. 

 

8.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Cofnodion:

Doedd dim materion brys i'w trafod.

 

9.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Myfyrio ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

 

Cofnodion:

Dymunodd y Cadeirydd ddiolch i'r Aelodau am ddod i'r cyfarfod, gan nodi y bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei gynnal ym mis Hydref. Bydd modd i'r Pwyllgor ddechrau defnyddio'r Rhaglen Waith yn ystod y cyfarfod yma.