Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Sarah Handy - Swyddog Ymchwil a Craffu I Aelodau  07385 401942

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

41.

Croeso

Cofnodion:

Croesawodd yr Is-gadeirydd yr Aelodau a'r Swyddogion i'r cyfarfod

42.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol C. Middle, J. Barton ac E. Dunning. 

 

43.

YMCHWIL A CHRAFFU

Mae cyfleuster ymchwil craffu ar gael yn Uned Busnes y Cyngor i gynorthwyo Aelodau â'u cyfrifoldebau craffu a'u rolau'n Aelodau Etholedig.  Mae ymchwil o'r fath yn cryfhau rhaglenni gwaith y Pwyllgorau Craffu er mwyn sicrhau bod pynciau sy'n seiliedig ar ddeilliannau yn cael eu nodi. Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynghylch gwaith ymchwil, e-bostiwch: Craffu@rctcbc.gov.uk

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Swyddog Ymchwil a Materion Craffu'r Aelodau at y cyfleusterau ymchwil sydd ar gael i Aelodau yn Uned Busnes y Cyngor. Rhoddwyd gwybod i Aelodau os oes gyda nhw unrhyw ymholiadau penodol, mae modd iddyn nhw e-bostio Craffu@rctcbc.gov.uk.

44.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Yeo y buddiant canlynol mewn perthynas ag eitem 5 ar yr agenda:

“Rydw i'n cael fy nghyflogi gan 'National Grid Energy Distribution' (Western Power Distribution gynt). Rwy'n gweithio i garfan Projects East, sy'n gyfrifol am adeiladu Prosiectau Mawr. Mae'r rhain yn tueddu i fod yn brosiectau ar raddfa fawr. Felly, dydw i ddim yn ymwneud yn uniongyrchol â Gwefru Cerbydau Trydan. Rydw i hefyd yn gweithio mewn swydd weinyddol, a dydw i ddim yn gyfrifol am wneud penderfyniadau yn rhan o hynny. Felly, 'Buddiant Personol' yw hwn.

 

45.

YMGYNGHORIADAU

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w hystyried gan y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Swyddog Ymchwil a Materion Craffu'r Aelodau at y dolenni ymgynghori sydd ar gael trwy wefan 'Craffu RhCT'.  Cafodd Aelodau eu hatgoffa bod gwybodaeth yn cael ei rhannu mewn perthynas ag ymgynghoriadau priodol i'w trafod gan y Pwyllgor bob mis a'i diweddaru bob pythefnos. 

 

46.

'HINSAWDD YSTYRIOL RHCT' – STRATEGAETH MYND I'R AFAEL Â NEWID YN YR HINSAWDD Y CYNGOR 2022-2025 pdf icon PDF 202 KB

Derbyn adroddiad cyflawniad dwywaith y flwyddyn y Cyngor mewn perthynas â'i 

Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd.

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad ar Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd 2022-2025 y Cyngor. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth drosolwg gan nodi cynnydd y Cyngor o ran cyflawni Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor, 'Hinsawdd Ystyriol RhCT', fel y cytunwyd ym mis Mehefin 2022.

 

Roedd trafodaeth i ddilyn, a holodd yr Is-gadeirydd sut mae'r Cyngor yn gweithio gyda'r sector preifat i leihau'r Ôl Troed Carbon ledled y Fwrdeistref Sirol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y gallai hwn o bosibl fod yn ddarn o waith i'r Pwyllgor ymchwilio iddo yn y dyfodol, gan bwysleisio bod yr Uwch Reolwyr yn cytuno, er bod modd i'r Cyngor leihau ei Ôl Troed Carbon, ei bod hi'n bwysig gweithio ar y cyd â'r sector preifat i gyflawni nodau o ran Newid yn yr Hinsawdd.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD Aelodau: 

 

i. Trafod yr wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

ii. Mynegi barn ar unrhyw feysydd posibl i'w trafod ymhellach yn rhan o Raglen Waith y Pwyllgor Craffu – Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant;

iii. Nodi'r gwaith i'w ddatblygu ac ymgorffori ymateb y Cyngor i'r Newid yn yr Hinsawdd ymhellach ym musnes y Cyngor, a hynny'n rhan o ddatblygiad Cynllun Corfforaethol newydd y Cyngor.

iv. Trafod a yw Aelodau'n dymuno craffu'n fanylach ar unrhyw faterion a gynhwysir yn yr adroddiad yn unol â Chylch Gorchwyl y Pwyllgor.

 

 

47.

SEILWAITH GWEFRU CERBYDAU TRYDAN AR SAFLEOEDD ASEDAU'R CYNGOR pdf icon PDF 176 KB

Rhannu'r newyddion diweddaraf am y cynnydd sydd wedi'i wneud ym maes gwefru cerbydau trydan ar safleoedd asedau'r Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor a Phennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon yr adroddiad i Aelodau a rhoddwyd diweddariad mewn perthynas â'r cynnydd ym maes gwefru cerbydau trydan yn asedau'r Cyngor, a hynny o ran gweithio tuag at nodau gwefru cerbydau trydan y Cyngor sydd wedi cael eu datgan yn gyhoeddus. Rhoddodd y Cyfarwyddwr gyflwyniad PowerPoint i Aelodau mewn perthynas â mannau gwefru cerbydau trydan ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Roedd trafodaeth i ddilyn a holodd Aelod pa mor agos y mae'r Cyngor yn gweithio gyda chynhyrchwyr ceir i ddarganfod sut mae'r maes Gwefru Cerbydau Trydan yn datblygu ac yn dod yn ei flaen. Dywedodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor ein bod ni'n cydweithio â Chyfarwyddwr Prifddinas-ranbarth Caerdydd, sy'n gwneud llawer o waith ymchwil yn y maes yma, a dywedodd hefyd fod gan y Cyngor ddarn o feddalwedd sy'n ei alluogi i fesur a rheoli'r galw am wefrwyr cerbydau trydan. Dywedodd y Pennaeth Materion Ynni a Lleihau Carbon hefyd fod y Cyngor yn gweithio'n agos gyda Trafnidiaeth Cymru yn y maes hwn a bod y feddalwedd yn rhagweld tueddiadau'r dyfodol o ran Gwefru Cerbydau Trydan a thrafnidiaeth yn gyffredinol. Dywedwyd wrth yr aelodau bod cwmni o'r enw Senex, sy'n cael ei noddi gan Lywodraeth y DU, yn gweithio gyda'r holl gyrff gweithgynhyrchu hefyd i fonitro tueddiadau yn y maes yma. Defnyddir y canllawiau yma i lywio proffil buddsoddi'r Cyngor ar gyfer y dyfodol. Holodd yr Aelod beth mae’r wybodaeth yma'n ei ddweud wrthyn ni o ran y 5 mlynedd nesaf. Dywedodd y Swyddogion y bydden nhw'n casglu'r data perthnasol ac yn anfon yr wybodaeth at yr Aelod.

 

Roedd trafodaeth i ddilyn, a holodd Aelod a oedd un pwynt gwefru cerbydau trydan ym maes parcio T? Elái yn ddigonol. Holodd hefyd a fyddai mannau gwefru cerbydau trydan ym mynwent Trealaw at ddefnydd y cyhoedd neu swyddogion yn unig. Mewn perthynas â Th? Elái, dywedwyd wrth yr Aelodau bod pwyntiau gwefru cerbydau trydan wedi'u gosod yn ddiweddar, a fydd ar gael ar gyfer y Fflyd a'r cyhoedd. O ran Trealaw, dywedwyd wrth yr Aelodau ei bod y pwynt gwefru wedi'i fwriadu ar gyfer defnydd Fflyd, ond bod dau fae yno a fydd hefyd ar gael i'r cyhoedd.

 

Parhaodd y trafodaethau a holodd Aelod a oedd cynllun hirdymor i gael pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn Ysgolion, ysbytai a meddygfeydd teulu. Holodd hefyd a oedd cynllun yn ei le i ddarparu pwyntiau gwefru cerbydau trydan i gymunedau sydd heb feysydd parcio cyhoeddus. Dywedodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor fod gyda ni ganllawiau dylunio ar gyfer pob Ysgol newydd yn y Fwrdeistref Sirol a bod proses hefyd o gyflwyno system gwefru cerbydau trydan i Ysgolion addas eraill ar y cyd â chydweithwyr o'r Gwasanaeth Addysg. Mewn perthynas ag ysbytai/meddygfeydd, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod y Cyngor yn gweithio ar y cyd â'r Bwrdd Iechyd, ond fydd y Cyngor ddim yn gyfrifol am osod y pwyntiau gwefru cerbydau trydan. O ran cymunedau nad oes gyda nhw feysydd parcio cyhoeddus, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod digon o bwyntiau gwefru cerbydau trydan hyd yma, ac  ...  view the full Cofnodion text for item 47.

48.

Cyflwyno Terfynau Cyflymder 20mya Llywodraeth Cymru pdf icon PDF 252 KB

Rhoi cyfle i Aelodau'r Pwyllgor graffu ar 6 mis cyntaf deddfwriaeth Llywodraeth Cymru i leihau'rterfyn cyflymder o 30mya i 20mya a'r goblygiadau ymarferol cysylltiedig yn RhCT.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Traffig a Chludiant ei adroddiad i'r Aelodau a rhoddodd Gyflwyniad Power Point mewn perthynas â Chyflwyno Terfyn Cyflymder 20mya Llywodraeth Cymru yn RhCT.

 

Yn dilyn hyn, cafodd Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau. Holodd Aelod a oedd yna gost fawr i'r Awdurdod mewn perthynas â fandaliaeth arwyddion a holodd a fyddai preswylwyr RhCT yn cael mwy o fewnbwn o ran cyfyngiadau cyflymder ar ffyrdd yn eu cymunedau eu hunain. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y Dirprwy Weinidog wedi cynghori preswylwyr yn ddiweddar i ymgysylltu'n weithredol ag Awdurdodau Lleol ynghylch eu barn ar gyfyngiadau ffyrdd yn eu hardaloedd. Mewn perthynas â fandaliaeth, dywedodd y Pennaeth Traffig mai chwistrell paent oedd wedi achosi'r difrod pennaf yn ffodus, felly bychan iawn oedd y gost i'r Awdurdod.

 

Parhaodd y trafodaethau a nododd Aelod ei bod hi'n bwysig i’r Pwyllgor gael adolygiad pellach ymhen 12 mis o ran gweld yr effaith ar ddamweiniau ffyrdd a marwolaethau yn ein cymunedau. Pwysleisiodd yr Aelod hefyd bwysigrwydd adolygu’r effaith ar leihau amseroedd teithio ar gyfer bysiau a gyrwyr tacsis, a'r effaith a gaiff hyn ar eu hincwm.

 

Holodd Aelod arall a oedd cyfle i osod mwy o arwyddion ffyrdd. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y Cyngor wedi ymrwymo i osod arwyddion wrth y fynedfa a'r marciau ffordd, fel yr hen arwyddion 30mya, ac na all y Cyngor godi arwyddion 20mya ailadroddus oni bai fod dim goleuadau stryd.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD: 

 

i.                 Trafod cynnwys yr adroddiad; a

 

ii.                Trafod a ydy’r Aelodau’n bwriadu craffu ymhellach ar yr effaith y mae'r cynllun wedi'i chael ar breswylwyr Rhondda Cynon Taf (RhCT); a,

 

iii.              Derbyn adroddiad pellach i'r Pwyllgor Craffu yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2024/25 sy'n amlinellu'r effaith y mae'r cynllun yn ei gael ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreswylwyr yn Rhondda Cynon Taf.

 

 

49.

Cynllun Buddsoddiad y Priffyrdd pdf icon PDF 261 KB

Rhoi cyfle i Aelodau'r Pwyllgor dderbyn diweddariad mewn perthynas â’r Cynllun Buddsoddiad y Priffyrdd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Priffyrdd a Pheirianneg ei adroddiad i'r Aelodau mewn perthynas â'r Cynllun Buddsoddiad yn y Priffyrdd yn RhCT. Rhoddwyd Cyflwyniad PowerPoint i'r Aelodau.

 

Yn dilyn hyn, cafodd Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau.

 

Holodd Aelod pa gyfiawnhad sydd ei angen i aelod o'r cyhoedd ofyn am fuddsoddiad neu osod wyneb newydd ar ffordd benodol yn ei ardal. Mewn perthynas â phriffyrdd mabwysiedig, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth mai'r ffordd orau o fynd ati yw i'r Aelod Etholedig Lleol ysgrifennu at y Cyngor, a bydd y Cyngor wedyn yn ymchwilio ac yn asesu cyflwr y ffordd. Bydd yr Arolygwyr Priffyrdd hefyd yn asesu'r priffyrdd yn rheolaidd. Ychwanegodd yr Aelod bod modd i'r Cyngor elwa ar atgyweirio'r tyllau yn y ffordd gan y byddai hyn yn arwain at lai o breswylwyr yn cymryd camau cyfreithiol am gost atgyweirio eu cerbydau. Cydnabu'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth hyn ond ychwanegodd hefyd fod y cyfan yn dibynnu ar yr arian sydd ar gael, a bod y swm o arian sydd ei angen i gadw'r priffyrdd fel y maen nhw ar hyn o bryd yn sylweddol yn y cyfnod hwn o fesurau cyni.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:  

 

i.                 Craffu ar yr wybodaeth ddiweddaraf am seilwaith priffyrdd yn y Fwrdeistref Sirol gan gyfeirio'n benodol at y strategaeth rheoli asedau a'r strategaeth fuddsoddi; a,

 

ii.                Craffu ar y gwariant sydd ei angen i gynnal a chadw 

                asedau seilwaith y briffordd.

 

 

50.

Adroddiad Blynyddol Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a'r Gronfa Ffyniant Bro pdf icon PDF 152 KB

Rhannu'r newyddion diweddaraf â'r Pwyllgor Craffu mewn perthynas â chyflawni buddsoddiad lleol yn RhCT.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Materion Ffyniant a Datblygu ei adroddiad i'r Aelodau a rhoddodd ddiweddariad mewn perthynas â darparu'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a'r Gronfa Ffyniant Bro.

 

Yn dilyn hyn, cafodd Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau. Holodd yr Is-gadeirydd a ydyn ni'n yn debygol o barhau i gael cyllid ar ôl 2025. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaeth fod hon yn rhaglen i gymryd lle cronfeydd yr UE ac felly mae'r Cyngor yn hyderus y bydd rhywfaint o arian ar ôl 2025, fodd bynnag mae llawer o ansicrwydd yn parhau ynghylch hyn ac mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda CLlLC i godi'r cwestiynau yma gyda Llywodraeth y DU.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:  

 

i.                 Trafod cynnwys yr adroddiad; a 

 

ii.                Trafod a ydy'r Aelodau yn dymuno ystyried unrhyw faterion pellach sy'n codi o'r adroddiad yn fanylach.

 

 

51.

MATERION BRYS

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Cofnodion:

Doedd dim mater brys i'w drafod.

 

52.

ADOLYGIAD Y CADEIRYDD A DOD Â'R CYFARFOD I BEN

Myfyrio ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

 

 

 

 

Cofnodion:

Diolchodd yr Is-gadeirydd i'r Swyddogion am ddarparu adroddiadau mor fanwl ac atgoffodd yr Aelodau y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 4 Mawrth 2024.