Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu  07385401877

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

25.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G Jones ac A Ellis.

 

26.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad, doedd dim datganiadau o fuddiant.

 

27.

COFNODION pdf icon PDF 129 KB

Cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod ar-lein y Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2023, yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2023 yn rhai cywir.

 

28.

DOLENNI YMGYNGHORI

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Aeth yr Aelodau ati i gydnabod yr wybodaeth oedd wedi'i darparu trwy'r dolenni ymgynghori mewn perthynas ag ymgynghoriadau agored, ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a'r materion hynny y mae'r awdurdod lleol yn cynnal ymgynghoriadau yngl?n â nhw.

 

29.

YMGYSYLLTU AG AELOD O'R CABINET DDWYWAITH Y FLWYDDYN pdf icon PDF 133 KB

Cyfle i Aelodau'r Pwyllgor graffu ar unrhyw faterion sy'n codi gyda'r deilydd portffolio sy'n gyfrifol am Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau, a sicrhau bod y mecanweithiau priodol yn eu lle i graffu'n effeithiol ar yr Adain Weithredol.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau i'r Pwyllgor a rhoddodd ddiolch i'r Aelod am ymuno. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad i Aelodau a rhoddodd wybod iddyn nhw fod gyda nhw gyfle i graffu ar unrhyw faterion gyda deiliad y portffolio sy'n gyfrifol am Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau a sicrhau bod y mecanweithiau priodol yn eu lle i graffu'n effeithiol ar yr Adain Weithredol.

 

Cafwyd trafodaeth mewn perthynas â phroses sefydlu bwrdd Partneriaeth Cymunedau Diogel a gofynnodd Aelod am ymgysylltu a sicrhau y byddai mesurau ymgysylltu â'r gymuned yn parhau yn y strwythur newydd. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod gr?p ffocws amlasiantaeth yn ei le ar hyn o bryd a'i fod yn gweithio tuag at roi Bwrdd Partneriaeth Cymunedau Diogel Cwm Taf Morgannwg rhanbarthol ar waith o 1 Ebrill 2024. Mae disgwyl i adroddiad cynnydd gael ei gyflwyno i'r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu ar 23 Chwefror ac i Bwyllgor Craffu RhCT – Gwasanaethau Cymuned (Trosedd ac Anhrefn) ar 28 Chwefror.

 

Gofynnodd Aelod a gafodd y potensial i un Awdurdod Lleol lywio'r Bartneriaeth ei ystyried ac aeth yr Aelod o'r Cabinet ati i gydnabod bod hyn yn bryder sydd wedi cael ei godi, a chydnabod y risgiau sy'n ymwneud â'r mater yma. Cafodd Aelodau wybod y bydd y Bartneriaeth yn cydnabod bod rhaid i unrhyw adolygiad o'r strwythurau ddarparu strwythur rhanbarthol integredig addas sy'n sicrhau bod trefniadau ar gyfer atebolrwydd lleol yn gynhwysfawr ac yn fanwl, a hynny er mwyn cadw ymreolaeth ac atebolrwydd lleol ym mhob Awdurdod Lleol unigol.

Felly, bydd y Bartneriaeth yn sicrhau bod pob Awdurdod Lleol yn cael ei fonitro a'u bod nhw'n atebol am eu cyfraniadau. Pan ofynnwyd cwestiynau pellach i'r Aelod o'r Cabinet am risg un Awdurdod Lleol yn llywio'r Bartneriaeth, ychwanegodd na ddylai datblygiad partneriaeth strategol ranbarthol gael effaith niweidiol ar y Cynghorau ac asiantaethau priodol hynny sy'n llwyddo i roi mentrau diogelwch lleol ar waith yn eu cymunedau.Bydd Cylch Gorchwyl newydd y Bartneriaeth Cymunedau Diogel yn cynnwys pwysigrwydd cynnal trefniadau cymunedau diogel lleol a'r trefniadau craffu lleol presennol sydd ar waith ar gyfer Cymunedau Diogel.

 

Cafwyd trafodaeth ar y Strategaeth Toiledau Lleol a gofynnodd Aelod a yw'r Cyngor yn gwneud digon i gyfathrebu â thrigolion mewn perthynas ag argaeledd cyfleusterau a'u lleoliadau. Siaradodd yr Aelod am fandaliaeth mewn toiledau cyhoeddus a gofynnodd beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â hyn. Aeth yr Aelod o'r Cabinet ati i gydnabod y broblem o ran fandaliaeth a'r effaith y mae hyn yn ei chael ar y Cyngor a'r heriau ariannu gwaith atgyweirio. O ran cyfathrebu, dywedodd yr Aelod o'r Cabinet fod cynllun wedi'i ddatblygu gyda meysydd gwasanaeth eraill a bod tudalen we Cyngor RhCT yn cael ei datblygu i roi gwybod am leoliadau toiledau cyhoeddus ledled y fwrdeistref. Bydd potensial creu ap hefyd yn cael ei ystyried. Bydd hefyd modd dod o hyd i doiledau cyhoeddus trwy sticer logo. Tynnodd yr Aelod o'r Cabinet sylw at  ...  view the full Cofnodion text for item 29.

30.

STRATEGAETH TIR HALOGEDIG pdf icon PDF 137 KB

Cyfle i Aelodau'r Pwyllgor graffu ymlaen llaw ar y Strategaeth Tir Halogedig ddiwygiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu bwrpas yr adroddiad er mwyn i Aelodau rag-graffu ar y manylion yn yr adroddiad a rhoi sylwadau'r Pwyllgor i'r Prif Swyddog ac Aelod perthnasol o'r Cabinet cyn iddyn nhw drafod y Strategaeth Archwilio Tir Halogedig arfaethedig ar gyfer RhCT, trwy'r broses penderfyniadau dirprwyedig.

 

Amlinellodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai gefndir y Strategaeth Archwilio Tir Halogedig a chafodd Aelodau wybod y cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ei strategaeth gychwynnol ym mis Ionawr 2004 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Cafodd Aelodau wybod mai bwriad Strategaeth Archwilio Tir Halogedig y Cyngor oedd cyflawni'r blaenoriaethau canlynol o ran tir halogedig posibl:

a. Diogelu iechyd a lles pobl;

b. Annog ailddatblygu tir sydd wedi'i ddifrodi/ailddefnyddio tir llwyd; ?

c. Annog adfer gwirfoddol;

ch. Cyfathrebu a gweithio'n effeithiol gyda sefydliadau eraill i ddiogelu derbynyddion eraill;

d. Ymgysylltu â chymunedau lleol i gael gwybod am eu blaenoriaethau;

dd. Sicrhau cydymffurfiaeth a gorfodi'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau statudol.

 

Nododd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai fod y Cyngor yn hanesyddol wedi ymchwilio i nifer o safleoedd strategol allweddol a'u hadfer nhw mewn partneriaeth ag Awdurdod Datblygu Cymru (WDA) a rhanddeiliaid eraill, a rhoddodd enghreifftiau megis Glofa a Golosgfa Coed-elái a'r Safle Phurnacite yn Abercwmboi. Mae gwaith adfer nifer o safleoedd eraill wedi cael ei sicrhau trwy'r broses gynllunio. Mae system gwybodaeth ddaearyddol (GIS) sydd wedi'i datblygu gan yr adran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd wedi bod yn hynod werthfawr yn ystod y cam ymgynghori cynllunio o ran nodi tir o'r fath. Cafodd Aelodau wybod bod materion tir halogedig yn aml yn gymhleth a bod delio â safleoedd halogedig posibl yn anodd, yn enwedig oherwydd nad oes unrhyw/llawer o wybodaeth ar gael yn aml.

 

Cafodd Aelodau wybod hefyd nad yw Llywodraeth Cymru wedi darparu rhaglen ariannu gyfalaf ar gyfer ymchwilio i dir halogedig a/neu adfer tir halogedig ers 2010. Yn ogystal â hyn, does gan y Cyngor ddim cyllideb gyfalaf benodol ar gyfer ymchwilio i dir halogedig a/neu adfer tir halogedig. O ganlyniad i hyn, mae'r Cyngor wedi defnyddio ei adnoddau i ganolbwyntio ar sicrhau trefniadau ymchwilio ac adfer tir effeithiol yn rhan o'r broses Rheoli Datblygu, a hynny trwy bennu amodau ar gyfer caniatâd cynllunio lle bo angen. Mae ymchwiliadau'n cael eu cynnal cyn datblygu ac maen nhw'n ceisio nodweddu natur benodol unrhyw gysylltiadau llygru posibl a sicrhau eu bod nhw'n cael eu hadfer yn briodol.

 

Aeth Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai ati i gyflwyno agweddau allweddol ar y Strategaeth Archwilio Tir Halogedig ac ar yr adolygiad mwyaf diweddar. Cafodd Aelodau wybod bod proses adolygu'r Strategaeth Archwilio Tir Halogedig wedi cael ei defnyddio i asesu effeithiolrwydd y strategaeth wreiddiol o ran bodloni gofynion deddfwriaeth Rhan 2A a chanllawiau statudol. Cafodd yr adolygiad llawn cyntaf o'r Strategaeth Archwilio Tir Halogedig ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2008. Yn 2016, cafodd y strategaeth ei diwygio i ystyried y newid i'r canllawiau statudol yn 2012.  Rhoddwyd gwybod i Aelodau y cafodd yr amserlenni yn y Strategaeth Tir Halogedig wreiddiol eu hystyried yn  ...  view the full Cofnodion text for item 30.

31.

OEDI YN Y LLWYBR AT OFAL pdf icon PDF 128 KB

Craffu ar adroddiad ychwanegol ar drefniadau i fynd i'r afael â phwysau ym mhob rhan o'r system Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r effaith ar achosion o bobl yn osgoi mynd i'r ysbyty neu'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Oedolion yr adroddiad i roi gwybodaeth allweddol o ran Oedi yn Achos Llwybrau Gofal ar gyfer trigolion Rhondda Cynon Taf rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd 2023 i Aelodau. Hefyd rhoddodd wybodaeth am effaith bresennol pwysau'r gaeaf ar ryddhau o'r ysbyty a gwybodaeth mewn perthynas â defnydd byrddau gwyn electronig a rhannu gwybodaeth cleifion i gefnogi trefniadau rhyddhau o'r ysbyty.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod cydweithwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr gefndir oedi wrth ryddhau o'r ysbyty fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad gan esbonio bod rhagdybiaethau blaenorol am oedi wrth ryddhau o'r ysbyty yn aml yn canolbwyntio ar gapasiti cyfyngedig ym maes gofal cymdeithasol fel y prif reswm, ond mae cymysgedd o ffactorau eraill all achosi oedi wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty, gan gynnwys heriau o ran manteisio ar wasanaethau eraill y GIG yn y gymuned.

 

Rhoddwyd gwybod i Aelodau fod data o ran oedi trosglwyddo ysbyty wedi'i gasglu ar dri achlysur gwahanol, sef:

• Oedi wrth Drosglwyddo Gofal (DToC) a oedd ar gael rhwng 2004 a mis Chwefror 2020.

• Adroddiadau gwybodaeth reoli ar oedi wrth ryddhau o'r ysbyty rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Mawrth 2023 (wedi'u llunio a'u dilysu gan y Byrddau Iechyd yn unig).

• Oedi yn Achos Llwybrau Gofal a gyflwynwyd o fis Ebrill 2023.

 

Cafodd Aelodau wybod bod gofyniad ar bob Bwrdd Iechyd i fesur Oedi yn Achos Llwybrau Gofal trwy gyfrifiad ciplun misol ar drydydd dydd Mercher y mis ac, ar ôl dilysu a cheisio cytundeb gwasanaethau cymdeithasol a phartneriaid llywodraeth leol ehangach, i roi'r wybodaeth yma i Lywodraeth Cymru.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr fod yna amrywiaeth eang o resymau dros Oedi yn Achos Llwybrau Gofal a thynnwyd sylw Aelodau at y rhestr lawn yn Atodiad 1.

 

Esboniwyd yr wybodaeth dadansoddi data i Aelodau a thynnodd y Cyfarwyddwr sylw at y duedd tuag i lawr gyffredinol yn nifer yr adroddiadau o oedi ar gyfer Rhondda Cynon Taf dros y flwyddyn hyd yn hyn. Er gwaethaf bod â'r boblogaeth fwyaf, mae cyflawniad ar y cyfan yn dda o'i gymharu â gweithgarwch Cwm Taf Morgannwg ehangach.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr drosolwg o'r wybodaeth yn nhablau 2a-d yn yr adroddiad ac esboniodd fod y 4 prif reswm dros oedi yn Rhondda Cynon Taf yn adlewyrchu themâu tebyg ledled Cymru ac Awdurdodau Lleol eraill.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr fod Bwrdd Rhyddhau o'r Ysbyty Integredig wedi'i sefydlu er mwyn cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am gyflawniad rhyddhau o'r ysbyty ledled ardal y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys sicrhau bod achosion o Oedi yn Achos Llwybrau Gofal yn cael eu hadrodd yn effeithiol, ac yn bwysicach oll, roi cynllun gwella ar waith i fynd i'r afael â'r meysydd sy'n peri'r risg fwyaf o ran oedi. Cafodd Aelodau drosolwg o'r meysydd sy'n peri'r risg fwyaf ar gyfer ardal Cwm Taf Morgannwg a'r cynlluniau gweithredu.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr y sefyllfa bresennol o ran data Oedi yn Achos Llwybrau Gofal a sut mae staff y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Iechyd  ...  view the full Cofnodion text for item 31.

32.

ADOLYGIAD Y CADEIRYDD A DOD Â'R CYFARFOD I BEN

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r Swyddogion am ymuno â'r cyfarfod ac am eu hadroddiadau a chyflwyniadau cynhwysfawr. Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i Aelodau am gyfrannu at y cyfarfod ac am eu cwestiynau.  

 

33.

MATERION BRYS

Cofnodion:

Dim.