Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu  07385401877

Nodyn: Nodwch – mae’r cyfarfod yma wedi newid o ddull hybrid i gyfarfod ar-lein 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

9.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau am golli'r cyfarfod oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Bradwick, H Gronow, G Jones, G Stacey ac N Morgan.

 

10.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:

 

Ar gyfer Eitem 6 'STRATEGAETH GWASANAETHAU I BLANT' datganodd Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Davis fuddiant personol:

"Rydw i'n gweithio i'r Brifysgol Agored ond dydw i ddim yn ymwneud â recriwtio myfyrwyr na chyflwyno, dylunio na gweinyddu'r cwrs gwaith cymdeithasol."

 

Ar gyfer Eitem 6 'STRATEGAETH GWASANAETHAU I BLANT' datganodd Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Parkin fuddiant personol:

"Rydw i'n gweithio i'r Gwasanaethau i Blant fel rhiant maeth yn Rhondda Cynon Taf."

 

11.

COFNODION pdf icon PDF 130 KB

 

Cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod ar-lein y Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2023, yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2023 yn rhai cywir.

 

12.

DOLENNI YMGYNGHORI

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w hystyried gan y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Aeth yr Aelodau ati i gydnabod yr wybodaeth oedd wedi'i darparu trwy'r dolenni ymgynghori mewn perthynas ag ymgynghoriadau agored, ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a'r materion hynny y mae'r awdurdod lleol yn cynnal ymgynghoriadau yngl?n â nhw.

 

13.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2022/23 pdf icon PDF 136 KB

Rhag-graffu – Yr Aelodau i graffu ar yr adroddiad a gwneud unrhyw argymhellion cyn ei gyflwyno i'r Cabinet.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad i'r Aelodau sy'n amlinellu pwrpas yr adroddiad i gyflwyno copi drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2022/23 i'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymuned yn unol â Rhan 8 Cod Ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr fanylion yr adroddiad a oedd yn crynhoi'r asesiad o'r datblygiadau a'r heriau allweddol yn y Gwasanaethau i Blant ac Oedolion, sut mae hyn yn cysylltu â chynllun Corfforaethol y Cyngor ac yn rhoi enghreifftiau o sut mae'r maes gwasanaeth wedi gweithio i hyrwyddo a gwella lles y rheini sydd angen cymorth.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw at yr effaith y mae pandemig Covid-19 yn parhau i'w chael ar y meysydd gwasanaeth, gan gydnabod cyfraniad staff, darparwyr wedi'u comisiynu a rhieni maeth i'r meysydd gwasanaeth o ran parhau i roi cymorth i ddefnyddwyr gwasanaeth o ystyried yr heriau sydd wedi'u hwynebu.

 

Cydnabyddodd yr Aelodau fanylion yr wybodaeth yn yr adroddiad am yr holl feysydd allweddol, gan ddiolch i'r holl staff am eu hymdrechion.

 

Cydnabyddodd un Aelod y gwelliant yn rhestr aros y Garfan Addasu ac Offer ond dywedodd hefyd fod pobl yn aros dros 12 mis am gymhorthion ac addasiadau i alluogi byw'n annibynnol a gofynnodd a oedd data ar gael i ddangos cyflawniad. Eglurodd y Cyfarwyddwr fod yr wybodaeth yma ddim wrth law ond eglurodd bod asesiadau'r Garfan Addasu ac Offer yn seiliedig ar angen a risg wedi'u hasesu, ac amlinellodd y broses sydd ar waith i gategoreiddio unigolion. Cadarnhaoedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Drohefyd fod y rhestr aros am gymhorthion ac addasiadau wedi lleihau'n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, ond bod y galw'n dal yn uchel. Bydd gwybodaeth ychwanegol ynghylch amseroedd aros yn cael ei darparu i'r Pwyllgor pan fydd ar gael.

 

Gofynnodd Aelod arall am y cymorth sydd ar gael i gynhalwyr ledled y fwrdeistref, gan gyfeirio at bwysau ariannol sy'n wynebu nifer yn dilyn newidiadau i daliadau lwfans gofalwyr. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod unrhyw newidiadau i lwfans gofalwyr yn ymwneud â phenderfyniadau'r Llywodraeth Ganolog nid y Gwasanaethau Cymdeithasol, ond cadarnhaodd i'r Aelodau fod amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar gael i gynhalwyr drwy'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Amlygodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro y manylion yn yr adroddiad i'r Aelodau ynghylch Cynllun Cynnal y Cynhalwyr sy'n rhoi cyngor a gwybodaeth.

 

Cyfeiriodd Aelod at Strategaeth Cyfranogiad y Gwasanaethau i Blant sydd wedi'i chrybwyll yn yr adroddiad a nododd y gyfradd ymateb ar gyfer yr arolwg 'Dod yn rhan o bethau' a gofynnodd a oedd cynlluniau yn eu lle i geisio cynyddu'r gyfradd trwy ddefnyddio gwahanol ddulliau arolwg i rymuso pobl ifainc. Cydnabyddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant fod gwaith i'w wneud i sicrhau bod lleisiau pwysig pobl ifainc yn cael eu clywed ac i ddeall eu profiadau o'r gwasanaeth. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant wrth yr Aelodau fod hon yn flaenoriaeth i'r gwasanaeth ac mae gr?p llywio, dan arweiniad y Pennaeth Cyfranogiad, wedi'i sefydlu ac mae gwaith wedi'i wneud gyda phobl ifainc sydd â phrofiad o ofal  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR WEITHDREFNAU RHOI SYLWADAU, CANMOL A CHWYNO'R GWASANAETHAU CYMDEITHASOL pdf icon PDF 143 KB

Rhoi trosolwg i'r Cabinet o'r trefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefnau cwyno Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol y Cyngor rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n rhoi trosolwg i'r Cabinet o drefnau gweithredu ac effeithiolrwydd gweithdrefnau cwyno Gwasanaethau Cymdeithasol Statudol y Cyngor rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ar gefndir gweithdrefn gwynion statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, gwybodaeth am wersi sy wedi'u dysgu o gwynion a data cyflawniad ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac i Blant, ynghyd â chyflawniadau ar gyfer 2022/23 a datblygiadau yn y dyfodol.

 

Eglurodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fanylion lefel uchel cwynion cam 1 a 2 i'r Aelodau fel sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad. Eglurodd i'r Aelodau, er ei bod yn broses bwysig, fod nifer y cwynion a dderbyniwyd mewn perthynas â nifer yr unigolion sy'n derbyn cymorth y gwasanaeth yn parhau i fod yn gymharol isel. Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau hefyd at y ffaith nad oedd unrhyw ymchwiliadau gan yr Ombwdsmon yn ystod y cyfnod gyda'r holl gwynion yn cael eu cau neu eu cyfeirio'n ôl at y Cyngor i'w datrys.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at ba mor werthfawr yw'r broses gwyno o ran darparu gwybodaeth i'r meysydd gwasanaeth i lunio'r gwasanaethau rhagor a'u darparu fel y mae adran 7 yr adroddiad yn crybwyll.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr i'r Aelodau hefyd fanylion lefel uchel y ganmoliaeth a dderbyniwyd a chydnabyddodd fod y rhain yn bwysig er mwyn dangos y gwaith o ansawdd uchel a lefel y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan staff o fewn y Cyngor, er gwaethaf yr heriau sy'n eu wynebu. 

 

Diolchodd y Cyfarwyddwr i'r Rheolwr Adborth, Ymgysylltu a Chwynion Cwsmeriaid, a'i charfan, am gynnal gweithdrefnau cadarn a sicrhau bod llais defnyddwyr y gwasanaeth yn cael ei glywed.

 

Nododd Aelod y cynnydd yn nifer y cwynion sydd wedi dod i law am y Gwasanaethau i Blant a gofynnodd a fu cyfleoedd i ddysgu o ganlyniad i'r rhain. Nododd yr Aelod hefyd bod modd i'r ffaith bod pobl wedi'u grymuso i wneud cwyn fod yn beth cadarnhaol. Cydnabyddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant y cynnydd ond rhannodd ei fod wedi'i ragweld yn rhannol a bod y maes gwasanaeth yn mynd ati i geisio gwella'r broses gwyno. Amlinellodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant sut mae'r maes gwasanaeth yn gweithio gyda'r Rheolwr Adborth, Ymgysylltu a Chwynion Cwsmeriaid yn rhan o'u proses sicrhau ansawdd, a nododd 3 maes i'w gwella o ran cyfathrebu, gweithio gyda thadau a theuluoedd ag anghenion niwroamrywiol.

 

Gofynnodd Aelod am ragor o fanylion mewn perthynas â natur y cwynion sy'n cael eu cyflwyno'n uniongyrchol i'r Ombwdsmon i fagu dealltwriaeth ac i nodi unrhyw dueddiadau yn y data yma. Cydnabyddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol y cais ac amlinellodd sut mae rhai cwynion yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i'r Ombwdsmon ac yn cael eu ôl-gyfeirio i weithdrefn yr Awdurdod Lleol ac felly'n cael eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Yn dilyn ystyriaeth gan y Pwyllgor, PENDERFYNWYD nodi'r gwaith a gafodd ei wneud gan Garfan Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol, sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad blynyddol, a gofyn am adroddiad ychwanegol yn rhoi  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

STRATEGAETH GWASANAETHAU I BLANT pdf icon PDF 250 KB

Craffu ar Strategaeth y Gwasanaethau i Blant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlinellodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant ddiben yr adroddiad i roi'r  wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Craffu a dangos cynnydd cyfredol o ran Strategaeth Gwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf.

 

Eglurodd a phwysleisiodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant fod cefndir Strategaeth Gwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf wedi'i gwreiddio yng ngwerthoedd, pwrpas a gweledigaeth y gwasanaeth a chyfeiriodd at y ffeithlun sydd ynghlwm wrth yr adroddiad (Atodiad 1) sy'n dangos y gwerthoedd yma. Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at adran 4 yr adroddiad sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar bob un o 5 maes trawsnewid y strategaeth.

 

Cyfeiriodd Aelod at y data yn adrannau 4.3 a 4.8 yr adroddiad a dywedodd fod modd i'r ffordd maen nhw wedi'u cyflwyno fod yn gymharol ddryslyd o ystyried bod y ddogfen hefyd ar gael i aelodau'r cyhoedd. Croesawodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant yr adborth. Cadarnhaodd fod y data yn dangos bod nifer y Plant sy'n Derbyn Gofal yn lleihau. Cydnabyddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant y bydd hyn yn cael ei ystyried ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol wrth gyflwyno data i sicrhau hygyrchedd ac eglurdeb i bawb.

 

Holodd Aelod arall am sylwadau a gafodd eu gwneud yn ystod y cyflwyniad yn ymwneud â lefel isel profiad staff a gofynnodd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant a yw'r gwasanaeth wedi'i staffio'n llawn neu'n gweithio dan bwysau gyda niferoedd annigonol o staff, gan nodi bod diogelu yn bryder yn y maes yma.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant fod cyfradd swyddi gwag o 21% yn y gwasanaeth yn gyfan gwbl, er i hyn fod yn uwch mewn rhai carfanau unigol. Eglurodd fod prinder cenedlaethol o weithwyr cymdeithasol profiadol ond pwysleisiodd i'r Aelodau fod y Gwasanaeth, yn rhan o strategaeth y gweithlu, wedi nodi nifer o feysydd gwaith i'w hystyried o ran recriwtio a chadw. Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant at wersi sydd wedi'u dysgu o flwyddyn gyntaf strategaeth y gweithlu a oedd wedi achosi iddyn nhw ganolbwyntio llawer ar y meysydd yma yn ogystal ag edrych ar ehangu capasiti i sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol yn cael cymorth da. Soniodd am les staff a phwysigrwydd yr arolygon sy'n cael eu cynnal i sicrhau bod ymarferwyr yn cael digoon o gyfleoedd i ddweud eu dweud. Rhannodd gyda'r Aelodau fanylion y mannau myfyrio, sydd wedi'u sefydlu ar sail ymchwil seicolegol, sydd wedi cael adborth hynod gadarnhaol ac a fydd yn cael eu hamlygu'n rheswm unigryw i weithio i'r Gwasanaeth mewn ymgyrchoedd i ddenu staff sydd ar y gweill. Cydnabyddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant y bydd y broses yn un tymor canolig, ond fod y cynllun i ddatblygu ein staff ein hunain yn arbennig o bwysig. Manylodd fod 11 o weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso wedi'u penodi eleni. Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau i Blant sicrwydd i'r Aelodau nad oes unrhyw achosion amddiffyn plant neu achosion plant sy'n derbyn gofal heb eu dyrannu hyd yn hyn a thynnodd sylw at sut mae rheolwyr yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi'r gweithlu.

 

Yn dilyn hyn, cyfeiriodd Aelod at y manylion  ...  view the full Cofnodion text for item 15.

16.

OEDI YN Y LLWYBR AT OFAL pdf icon PDF 159 KB

Craffu ar drefniadau i fynd i'r afael â phwysau ym mhob rhan o'r system Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r effaith ar achosion o bobl yn osgoi mynd i'r ysbyty neu'n cael eu rhyddhau o'r ysbyty.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro i'r Aelodau ddiben yr adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Craffu am y trefniadau rhanbarthol o ran rhyddhau o'r ysbyty. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa bod y Pwyllgor Craffu wedi cael y newyddion diweddaraf ym mis Tachwedd 2022 am y pwysau cyffredinol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol a'r ymdrechion parhaus i annog rhyddhau cleifion yn ddiogel ac yn amserol ar gyfer preswylwyr ag anghenion cymwys yn Rhondda Cynon Taf. Bryd hynny gofynnodd yr Aelodau i adroddiad pellach gael ei baratoi yn hydref 2023 i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau. Cafodd yr Aelodau wybod fod rhagweld y bydd gaeaf o heriau tebyg o ran galw eleni, ac er bod rhywfaint o welliant wedi bod mewn capasiti yn ystod y flwyddyn, mae hyn yn parhau i fod yn sefyllfa fregus.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro y manylion yn adran 5 yr adroddiad gan amlygu'r maes ffocws cynyddol ar gyfer Llywodraeth Cymru, y Bwrdd Iechyd a'r Awdurdod Lleol o ran atal yr angen i bobl fynd i'r ysbyty. Roedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg wedi nodi'r newid mewn pwyslais o'r blaen ac wedi cytuno ar fodel o wasanaethau cymunedol integredig i'w roi ar waith. Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro fanylion y model i'r Aelodau.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro sylw'r Aelodau hefyd at adran 6 yr adroddiad a'r dolenni fideo gyda manylion y llwybrau sy'n gysylltiedig â Rhyddhau i Adfer yna Asesu ('D2RA') sy'n annog rhyddhau effeithiol ac amserol o'r ysbyty ar gyfer pobl nad oes angen gwely acíwt arnyn nhw rhagor. Mae'r dull wedi'i ategu gan yr egwyddor o drin yn y 'cartref yn gyntaf' er mwyn symud asesu ar gyfer anghenion gofal, adsefydlu a chymorth parhaus.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro at sut mae staff Gofal Cymdeithasol yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ym maes Iechyd trwy gydol y flwyddyn i hwyluso Rhyddhau i Adfer yna Asesu a rhoddodd drosolwg o'r gwaith datblygu, gan gynnwys defnyddio byrddau gwyn electronig. Cafodd yr Aelodau wybod am ddiben y byrddau gwyn, gyda'r posibilrwydd yn y dyfodol y bydd modd i staff Rhondda Cynon Taf gael mynediad o bell at ddata'r bwrdd gwyn er mwyn olrhain manylion cleifion, gwneud cynnydd yn uniongyrchol a rhannu gwybodaeth gofal cymdeithasol yn ddi-dor gyda'r ward. Cafodd yr Aelodau wybod mai'r bwriad yw y bydd y defnydd o'r data yma'n cael effaith fawr o ran lleihau oedi yn y llwybr at ofal.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro mai'r datblygiad nesaf mewn perthynas â rhyddhau o'r ysbyty yw cyflwyno adroddiadau ar gyflawniad o ran oedi yn y llwybr at ofal. Cafodd yr Aelodau wybod fod rhanbarth Cwm Taf Morgannwg wedi ymgysylltu â chynllun peilot Llywodraeth Cymru ac wedi bod yn cyflwyno data ers mis Tachwedd 2022, a bod proses newydd i goladu a dilysu data wedi'i datblygu. Ers mis Ebrill 2023 mae'r cynllun peilot wedi dod yn broses adrodd ffurfiol ar gyfer oedi yn y llwybr at ofal sy'n cael ei hadrodd i Lywodraeth Cymru bob  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

17.

ADOLYGIAD Y CADEIRYDD A DOD Â'R CYFARFOD I BEN

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau a'r Swyddogion am ddod i'r cyfarfod ac am gymryd rhan mewn trafodaeth fanwl ar yr adroddiadau a ddarparwyd. Croesawodd drafodaethau pellach ar faterion allweddol a godwyd yn y cyfarfod.