Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Jess Daniel - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd 07385401877
Nodyn: Nodwch – mae’r cyfarfod yma wedi newid o ddull hybrid i gyfarfod ar-lein
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau am golli'r cyfarfod oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Bonetto, S Bradwick ac A Ellis.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a
2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.
|
|
Cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod ar-lein y Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2023, yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2023 yn rhai cywir.
|
|
DOLENNI YMGYNGHORI Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w hystyried gan y Pwyllgor.
Cofnodion: Aeth yr Aelodau ati i gydnabod yr wybodaeth oedd wedi'i darparu trwy'r dolenni ymgynghori mewn perthynas ag ymgynghoriadau agored, ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a'r materion hynny y mae'r awdurdod lleol yn cynnal ymgynghoriadau yngl?n â nhw.
|
|
RHAGLEN WAITH DDRAFFT 2023-24 PDF 92 KB Trafod a chytuno ar Raglen Waith y Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned ar gyfer 2023-24 a fydd yn cael ei chymeradwyo gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu maes o law.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Busnes y Cyngor yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth Aelodau o ran Rhaglen Waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer Blwyddyn 2023/24 y Cyngor. Nodwyd nifer o eitemau cychwynnol o ganlyniad i drafod gyda'r Cadeirydd/Is-gadeirydd a Swyddogion.
Cafodd Aelodau eu hatgoffa bod y rhaglen waith ddrafft yn ddogfen hyblyg er mwyn ychwanegu unrhyw flaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg ati yn ystod blwyddyn y Cyngor. Hefyd, pe byddai angen, byddai modd trefnu cyfarfodydd ychwanegol o'r pwyllgor yma, a hynny gyda chaniatâd y Cadeirydd, er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw eitemau brys ac allweddol o ran amser.
Rhoddodd Rheolwr Busnes y Cyngor wybod i Aelodau y byddai eitemau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at y rhaglen waith, a hynny fel arfer da i wahodd Aelodau perthnasol y Cabinet ar gyfer y Pwyllgor yma i gyfarfodydd mis Ionawr a mis Mawrth. Bydd modd i Aelodau'r Pwyllgor gael gwybod y diweddaraf am bortffolio'r Aelodau o'r Cabinet a chael cyfle i weithredu'n ffrind beirniadol er mwyn sicrhau proses gwneud penderfyniadau gadarn yn y dyfodol.
Cafodd Aelodau wybod y bydd y rhaglen waith yn cael ei chyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, a hynny yn rhinwedd ei rôl drosfwaol a chydlynol i sicrhau nad oes dyblygu o ran rhaglenni gwaith pob un o'r pwyllgorau craffu thematig.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:
1. Cytuno ar faterion i'w cynnwys yn Rhaglen Waith y Pwyllgor Craffu – Gwasanaethau Cymuned ar gyfer Blwyddyn 2023/24 y Cyngor (fel sydd wedi'i nodi yn Atodiad 1) gyda diwygiadau addas yn ôl yr angen; a
2. Gofyn bod y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yn rhoi gwybod i'r Aelod perthnasol o'r Cabinet a'r Swyddog perthnasol am y materion sydd wedi'u nodi'n faterion a fydd yn destun gwaith rhag-graffu cyn i'r Cabinet eu trafod.
|
|
Strategaeth Toiledau Cyhoeddus PDF 164 KB Craffu ar y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â Strategaeth 2019 a thrafod y diwygiadau arfaethedig i'r Strategaeth.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned Bennaeth y Celfyddydau, Llyfrgelloedd a Diwylliant, a roddodd wybod i'r Aelodau mai bwriad yr adroddiad yw rhoi'r diweddaraf i'r Pwyllgor Craffu – Gwasanaethau Cymuned am yr adolygiad o Strategaeth Toiledau Lleol Cyngor Rhondda Cynon Taf rhwng 2019-2023 a 2023-2028. Hefyd, caiff Aelodau gyfle i graffu ar y strategaeth a chyflwyno unrhyw sylwadau neu argymhellion mewn perthynas â'r cynigion yma.
Amlinellodd Pennaeth y Celfyddydau, Llyfrgelloedd a Diwylliant y cefndir, gan nodi cyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol a manylion y strategaeth gychwynnol a gafodd ei chyhoeddi yn 2019. Cafodd Aelodau eu hatgoffa o nod y strategaeth, sef adolygu ansawdd a nifer y toiledau lleol ledled y fwrdeistref sirol. Ar ben hynny, mae'n bwriadu darparu neu hwyluso toiledau glân, diogel, hygyrch a chynaliadwy ar gyfer trigolion ac ymwelwyr mewn lleoliadau lle mae'r angen am gyfleusterau o'r fath wedi'i nodi.
Cafodd Aelodau wybod am y cynnydd hyd yn hyn a rhoddwyd manylion am ddau amcan sydd wedi'u datblygu gyda chamau gweithredu ategol.
Gofynnodd Aelod a fyddai modd i drigolion ddefnyddio ap i ddod o hyd i'r toiledau cyhoeddus agosaf, gan nodi bod hyn yn broblem i drigolion sy'n teithio ledled y fwrdeistref ac sy ddim yn gwybod lleoliad y toiledau agosaf. Aeth Pennaeth y Celfyddydau, Llyfrgelloedd a Diwylliant ati i gydnabod y bydd mapio darpariaeth toiledau ledled y Fwrdeistref Sirol yn allweddol o ran diweddaru'r wybodaeth a sicrhau ei bod ar gael ar wefan y Cyngor. Cafodd Aelodau wybod y bydd arwyddion toiledau cyhoeddus yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a chanllawiau cenedlaethol er mwyn sicrhau bod toiledau hygyrch i'w gweld ledled y fwrdeistref. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu'r Gymuned yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y broses fapio, gan nodi bod gwaith yn mynd rhagddo gyda Swyddogion adran Eiddo'r Cyngor, gan gynnwys manylion Mannau Newid i Oedolion a thoiledau hygyrch. Cafodd Aelodau wybod mai'r uchelgais hirdymor yw cynnwys yr wybodaeth mewn ap. Serch hynny, yn y tymor byr, bydd yr wybodaeth yn cael ei rhoi ar wefan y Cyngor.
Gofynnodd Aelod am fanylion yn yr adroddiad mewn perthynas â'r cyfleusterau sydd ar gael mewn busnesau preifat ledled y fwrdeistref. Hefyd gofynnodd pa gymhellion fyddai ar gael i'r busnesau yma am adael i'r cyhoedd ddefnyddio eu cyfleusterau, gan nodi y bydd hyn yn rhwystr mawr os nad oes unrhyw gymhellion ar gael. Rhoddodd Pennaeth y Celfyddydau, Llyfrgelloedd a Diwylliant wybod i Aelodau y gofynnwyd i fusnesau preifat ganiatáu i'r cyhoedd ddefnyddio eu cyfleusterau, a hynny yn rhan o'r strategaeth gychwynnol, ond roedd y sector preifat yn anfodlon. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu'r Gymuned y bydd y sgwrs yma'n cael ei chynnal eto a thrafododd y Grantiau Cymunedol sydd ar gael i sefydliadau nad ydyn nhw'n gwneud elw.
Nododd Aelod y posibilrwydd o siarad ag adran Canol Trefi y Cyngor am ffyrdd o annog busnesau i ganiatáu i'r cyhoedd ddefnyddio eu cyfleusterau fel ffordd o sicrhau bod Canol Trefi yn fannau croesawgar sy'n annog trigolion i ymweld â nhw. Nododd ei bod yn bwysig ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADOLYGIAD Y CADEIRYDD A DOD Â'R CYFARFOD I BEN Cofnodion: Rhoddodd yr Is-gadeirydd a oedd yn cadeirio ddiolch i Aelodau a Swyddogion am gyfrannu at y cyfarfod. Aeth yr Is-gadeirydd ati i gydnabod cymhlethdod y pwnc a gafodd ei drafod yn ystod y cyfarfod ond rhoddodd ddiolch i Aelodau am ymgysylltu, trafod a gofyn cwestiynau manwl.
|
|
MATERION BRYS Cofnodion: Dim.
|