Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: HYBRID - Llys Cadwyn, Pontypridd / ZOOM

Cyswllt: Sarah Daniel 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

74.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

Nodwch:

1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

75.

Rhag-graffu ar yr ADOLYGIAD O BOLISI CLUDO DISGYBLION O'R CARTREF I'R YSGOL Y CYNGOR pdf icon PDF 85 KB

Rhag-graffu ar ganlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus ar yr adolygiad arfaethedig o drefniadau Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor cyn i'r Cabinet ei drafod ar 20 Mawrth 2024

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod i Aelodau fod gyda nhw gyfle i rag-graffu ar yr adolygiad o Bolisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor, cyn i'r Cabinet ei drafod.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth drosolwg i Aelodau o'r adroddiad a'r cynigion sy'n cael eu trafod yng ngoleuni'r heriau ariannol sylweddol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu yn y tymor canolig. Aeth ati i atgoffa Aelodau bod y cynigion wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, yr oedd y Pwyllgor Craffu wedi cyflwyno ymateb ffurfiol yn rhan ohono ym mis Rhagfyr 2023, a rhoddodd wybod am y themâu allweddol sy'n codi o'r adborth.

 

Yn dilyn cyflwyno'r adroddiad, croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd K Johnson i'r cyfarfod a rhoddodd gyfle iddo annerch Aelodau.

 

Mynegodd y Cynghorydd Johnson bryderon am effaith eang y cynnig ar nifer o gymunedau, yn enwedig y cymunedau sydd heb wasanaethau trên ac sy'n wynebu llai o wasanaethau bws. Mynegodd bryderon am y pwysau ariannol ar deuluoedd sy'n dibynnu ar y ddarpariaeth bresennol ac a fydd nawr yn gorfod talu am docyn bws bob dydd neu'n gyrru i'r ysgol.  Heriodd yr arbedion posibl a dywedodd y dylai hyn gael ei adolygu yn dilyn asesiadau risg i asesu llwybrau diogel. Yn ogystal â hyn, awgrymodd oedi rhoi'r cynigion ar waith hyd nes y bydd argaeledd cerbydau Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (PSVAR) yn cael ei asesu ac y bydd deddfwriaeth sydd ar y gweill sy'n rhoi p?er i Awdurdodau Lleol mewn perthynas â thocynnau a llwybrau bysiau yn cael ei hystyried. Yn olaf, tynnodd sylw at y gwrthddywediad gydag agenda newid yn yr hinsawdd y Cyngor o ganlyniad i gynnydd yn nifer y cerbydau ar y ffordd.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r Cynghorydd Johnson am ei sylwadau a rhoddodd gyfle i Aelodau'r Pwyllgor ofyn cwestiynau a rhoi eu sylwadau mewn perthynas â'r cynigion. Mae crynodeb o'r sylwadau i'w weld isod:

 

Aeth Aelodau ati i gydnabod bod y Cyngor yn darparu cludiant i ddisgyblion ar hyn o bryd sydd y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol o dan ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol, ac roedden nhw'n gwerthfawrogi pam mae'r maes yma'n cael ei drafod, gan nodi bod costau darparu'r lefel bresennol o ddarpariaeth wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. 

 

Roedd sawl Aelod o'r farn nad yw cymhariaeth â Chynghorau eraill yn adlewyrchu canran y plant sy'n gymwys i gael cludiant, sy'n wahanol ym mhob Cyngor.  Hefyd dydy hi ddim yn adlewyrchu amgylchiadau daearyddol na demograffig unigryw Rhondda Cynon Taf.

 

Ar ôl adolygu canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus, nododd Aelodau fod nifer y bobl a ymatebodd, yn ogystal â chanran y bobl a oedd yn erbyn y cynigion, yn dangos yn glir deimladau pobl mewn perthynas â'r cynigion.    Nododd Aelodau fod yr opsiynau amgen sy'n codi o adborth yr ymgynghoriad yn mynd i'r afael yn gyfan gwbl neu'n rhannol â rhai o'r meysydd yma sy'n peri pryder, ond nododd yr Aelodau fod ‘tegwch’ darpariaeth ar draws holl feysydd addysg yn bwysig.

 

Roedd nifer  ...  view the full Cofnodion text for item 75.

76.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim

77.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r holl swyddogion ac Aelodau am fynychu'r cyfarfod ac am eu cyfraniadau gwerthfawr at y drafodaeth fydd yn cael eu rhoi i'r Cabinet cyn iddo drafod y mater.