Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: HYBRID - Llys Cadwyn, Pontypridd

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

60.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

Nodwch:

1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n

gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Nododd y Cynghorydd R Davis Fuddiant Personol yn eitem 5 “Mae fy mhartner yn gweithio i theatr Spectacle, sy’n cael ei chrybwyll yn yr adroddiad, ac mae fy merch yn gweithio i’r Urdd”

 

Nododd y Cynghorydd Sera Evans Fuddiant Personol yn eitem 5 “Mae ysgolion fy meibion wedi’u henwi yn y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg" ac eitem 6 "mae fy nghyflogwr wedi’i enwi yn yr adroddiad Cydraddoldeb Drafft”

 

Nododd y Cynghorydd S Emanuel Fuddiant Personol yn eitem 5 “Mae fy mhlant yn mynychu ysgol a grybwyllir yn yr adroddiad”

61.

Munudau pdf icon PDF 141 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 11 Ionawr & 29 Ionawr 2024 i'w cymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 11 Ionawr a 29 Ionawr 2024 yn rhai cywir.

62.

Dolenni Ymgynghori

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w hystyried gan y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Aeth y Blaen Swyddog Craffu ati i roi gwybod i'r Aelodau am yr ymgynghoriadau agored, gan eu hatgoffa

nhw y dylen nhw gysylltu â'r garfan materion craffu os oes unrhyw gwestiynau'n codi.

63.

Rhaglen Waith y Cabinet

Cofnodion:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, wrth yr Aelodau fod y Rhaglen Waith yn cael ei chyflwyno i'r Aelodau er gwybodaeth ym mhob cyfarfod, gan roi cyfle iddyn nhw adolygu a chodi unrhyw faterion a nodwyd ar gyfer y gwaith Rhag-graffu.

 

Clywodd yr Aelodau fod dyddiad wedi'i bennu i'r Cabinet drafod eitem sy'n ymwneud â Chludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol. Mae'r Aelodau eisoes wedi bod yn rhan o'r ymgynghoriad ar y mater yma ond bydd cyfle arall iddyn nhw rag-graffu ar yr eitem cyn i'r Cabinet wneud ei benderfyniad.

64.

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg pdf icon PDF 254 KB

Yndilyn cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Addysg a Chynhwysiant a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2024, penderfynodd y Pwyllgor ohirio ystyried Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg tan gyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodolYn dilyn trafodaethau gyda Chadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Chynhwysiant a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu (ac yn unol â'r Gweithdrefnau Trosolwg a Chraffu), mae gofyn i Aelodau graffu a herio'r Cynllun Gwaith Blynyddol. Mae gwahoddiad i Aelodau'r Pwyllgor Craffu Addysg a Chynhwysiant i fynychu'r eitem yma o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Swyddogion ac Aelodau'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant i'r cyfarfod ar ôl iddyn nhw gael eu gwahodd i roi eu cyfraniadau ar yr eitem yma.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant yr wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â rhoi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022–2032 y Cyngor ar waith, a'i gynnydd hyd yma.

 

Nododd y Rheolwr fod Adroddiad Adolygiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer blwyddyn un y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar 31 Gorffennaf 2023. Derbyniwyd adborth ar yr adroddiad gan Lywodraeth Cymru ar 14 Tachwedd 2023. Roedd yr adborth yn gadarnhaol ar y cyfan. Mae cynnydd nodedig pellach wedi'i wneud mewn nifer o feysydd ers i'r adroddiad gael ei lunio a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2023, ac mae'r rhain i'w gweld yn yr adroddiad.

 

Cafodd yr Aelodau eu gwahodd i roi eu sylwadau a'u hadborth ar yr adroddiad

 

Cododd Aelod bryderon ynghylch y materion staffio ym maes Addysg Gymraeg, yn enwedig o ran ADY, a dywedodd fod angen i Lywodraeth Cymru wneud rhagor i hyrwyddo Addysg fel proffesiwn, yn enwedig ymhlith siaradwyr Cymraeg. Dywedodd yr Aelod y gallai’r Awdurdod ddarparu cymorth yn y maes yma i sicrhau bod yr iaith a’r proffesiwn addysg yn cael eu hyrwyddo’n well, megis gweithio gydag ysgolion a cholegau i annog disgyblion i astudio’r Gymraeg yn 6ed dosbarth.

 

Roedd y Cyfarwyddwr Addysg a Chynhwysiant yn cydnabod bod y Gweithlu yn her, nid yn unig o ran addysg Gymraeg ond yn y sector addysg Saesneg hefyd. Cytunodd y Cyfarwyddwr fod angen rhoi camau i fynd i'r afael â hyn ar waith ledled y wlad, gan fod hon yn broblem genedlaethol, a bod angen dull systemig o roi pobl ar lwybr carlam i'r sector addysg Gymraeg, gan feddwl yn greadigol am sut rydyn ni'n annog siaradwyr Cymraeg i ystyried gyrfa yn y maes. Aeth hi ymlaen i nodi bod gyda ni yn RhCT gyfleoedd i'r rhai sy'n ystyried y llwybr gyrfa yma wirfoddoli mewn ysgolion yn rhan o leoliadau profiad gwaith, ond cydnabu fod angen atgyfnerthu'r drefn.

 

Nododd Aelod o’r adroddiad fod buddsoddiad mewn addysg Gymraeg yn ne RhCT a dywedodd yr hoffai weld amserlen sy'n nodi'r datblygiadau a'r drefn ddilynol ar gyfer Ysgol Gyfun Cwm Rhondda.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant fod buddsoddiad yn cael ei arwain gan ble mae’r flaenoriaeth fwyaf a lle mae angen mynd i’r afael â chapasiti dros ben yn ogystal â meysydd sydd dan bwysau. Nododd hi fod y gwasanaeth wrthi'n ystyried y 9 mlynedd nesaf, a bydd y garfan yn rhannu ei chynlluniau â Llywodraeth Cymru yn fuan, unwaith y cytunir ar yr adolygiad a'r amserlen flaenoriaeth. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Ysgolion yr 21ain Ganrif, fod Cwm Rhondda yn rhan o Raglen Band B a’i bod hi'n rhan o’r Rhaglen Amlinellol Strategol gyda Llywodraeth Cymru. Cadarnhaodd fod astudiaeth dichonoldeb wedi'i chynnal a bod y gwasanaeth yn gweithio gyda dylunwyr trefol i reoli'r safle. Nododd fod dod o hyd i safle digon mawr  ...  view the full Cofnodion text for item 64.

65.

RHEOLI DIOGELWCH TOMENNYDD YNG NGHYNGOR BWRDEISTREF SIROL RhCT pdf icon PDF 193 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Isadeiledd a Rheoli Asedau yr adroddiad i'r Aelodau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am y gwaith y mae'r Garfan Diogelwch Tomennydd wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mewn perthynas â rheoli, monitro a goruchwylio tomennydd glo segur yn y Fwrdeistref Sirol. Ategwyd yr adroddiad gan gyflwyniad i'r Aelodau.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, rhoddodd y Cadeirydd gyfle i'r Aelodau ofyn cwestiynau.

 

Cyfeiriodd Aelod at y swyddi gwag o fewn y carfanau a nododd eu bod nhw'n cael eu llenwi gan staff asiantaeth ar hyn o bryd. Gofynnodd beth oedd y cynlluniau tymor hir ar gyfer llenwi'r swyddi gwag yma'n barhaol. Ymatebodd y Pennaeth Isadeiledd a Rheoli Asedau ei fod wedi cael awdurdod i ail-hysbysebu'r swyddi ond dywedodd fod y farchnad yn gyfyngedig o ran y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y swydd, ynghyd â chystadleuaeth o ran cyflogau.

 

Cyfeiriodd un Aelod at gyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd lle roedd presenoldeb cyfyngedig, a gofynnodd a oedd y Cyngor yn gwneud digon i godi ymwybyddiaeth o'r materion. Aeth y Swyddog ati i gydnabod bod presenoldeb isel yn y cyfarfod, ac mae hyn yn rhywbeth y mae'r garfan yn edrych arno. Ychwanegodd fod trigolion yn cael eu hannog i gyflwyno ymholiadau os oes gyda nhw bryderon penodol.

 

Gofynnodd Aelod pa bwerau sydd gan y Cyngor i ymdrin â pherchnogion tomennydd preifat. Ymatebodd y Swyddog bod nifer o berchnogion tomennydd preifat yn RhCT ond mae pwerau'r Cyngor yn gyfyngedig. Dywedodd pe bai pryderon diogelwch uniongyrchol, mae modd cyhoeddi “ddiffyg du” a fyddai i bob pwrpas yn golygu y dylid gweithredu ar unwaith. Daeth i'r casgliad bod y Cyngor yn cynnal yr archwiliadau diogelwch, waeth beth fo'r sefyllfa o ran perchenogaeth.

 

Gofynnodd Aelod beth yw ymrwymiad tymor hwy Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion sy’n ymwneud â diogelwch tomennydd yn y dyfodol. Ymatebodd y Swyddog nad oedd yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi ymrwymiad tymor hwy parhaus i gyllid ar gyfer diogelwch tomennydd glo, ond y gellir hysbysu'r Pwyllgor os bydd y sefyllfa'n newid.  Cododd yr Aelodau gwestiynau mewn perthynas â thomennydd yn Nhylorstown a Thon Pentre a gofyn am adroddiadau rheolaidd ar y mater yn ôl i'r Pwyllgor. Aeth y Swyddog ati i gydnabod hyn, ac ychwanegodd y dylai Aelodau gysylltu â'r Garfan Diogelwch Tomennydd Glo ar unrhyw adeg os oes gyda nhw unrhyw ymholiadau penodol mewn perthynas â thomennydd yn eu ward/ardal.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad ar yr effeithiau ar gostau i'r Awdurdod yn ogystal ag unrhyw orgyffwrdd â chynlluniau lliniaru llifogydd a sut mae hyn yn cael ei reoli.

 

Dywedodd y Pennaeth Isadeiledd a Rheoli Asedau fod rhan y Cyngor mewn tomennydd preifat hefyd yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a thomennydd sy'n eiddo i'r Awdurdod Glo, a bod gyda'r Cyngor ddyletswydd i atal perygl o ran tomennydd ond y dylid cydnabod bod cyfyngiadau ar y pwerau hynny. Cadarnhaodd fod hyn i gyd yn dod o dan arian grant y mae'r awdurdod lleol yn gwneud cais amdano ar ran perchnogion preifat. Dywedodd, mewn perthynas  ...  view the full Cofnodion text for item 65.

66.

Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2022-2023 pdf icon PDF 92 KB

Cyfle i'r Aelodau graffu ymlaen llaw ar adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol y Cyngor 2022-23

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd Y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, wrth yr Aelodau fod yr adroddiad yn rhoi cyfle iddyn nhw rag-graffu ar Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol Drafft y Cyngor sydd ynghlwm yn Atodiad B, ar gyfer y flwyddyn 2022-23 cyn i'r Cabinet ei ystyried a chytuno i gyhoeddi Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2022-23. Bydd yr Aelodau’n cofio bod cydraddoldeb ac amrywiaeth wedi’i nodi'n destun rhagor o graffu yn rhan o welliannau craffu yn 2020.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2022/2023 i'r Aelodau

er mwyn cynnal gwaith rhag-graffu a rhoi adborth a sylwadau cyn i'r Cabinet drafod yr adroddiad.

 

Esboniodd y swyddog fod yr Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol yma wedi cael ei ddatblygu er mwyn cyflawni dyletswyddau a rhwymedigaethau cyfreithiol y Cyngor i gofnodi ei gynnydd o ran cyflawni dyletswyddau cydraddoldeb cyffredinol a phenodol. Gofynnwyd i’r Aelodau ystyried a yw’r adroddiad wedi casglu’r wybodaeth berthnasol sydd ei hangen i gyflawni dyletswyddau a rhwymedigaethau cyfreithiol y Cyngor i adrodd ar sut mae wedi cyflawni’r Ddyletswydd Cydraddoldeb Gyffredinol a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

 

Croesawodd yr Aelodau'r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol a gwnaed y sylwadau canlynol

 

Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad ac yn ystod trafodaethau bu’n ystyried y posibilrwydd o wahaniaethu yn erbyn tlodi a dosbarth, sy’n peri pryder. Felly argymhellodd yr Aelodau y dylid ystyried hyn yn rhan o'r broses adrodd mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Wrth ddadansoddi data drwy gydol yr adroddiad, roedd yr Aelodau'n falch o nodi'r canlyniadau gwell mewn nifer o feysydd gan gynnwys y Rhaglen Perthnasau Iach. Amlygodd yr Aelodau nad oedd y data yn awgrymu canlyniadau gwell yn dilyn y prosiect. Sicrhawyd yr Aelodau o glywed, fodd bynnag, nad oedd hyn yn wir a bod y canlyniadau'n gadarnhaol.

 

Nododd yr Aelodau hefyd y data monitro Cydraddoldeb ynghylch hunaniaeth genedlaethol ac ethnigrwydd, ac argymhellwyd mwy o sylwebaeth a chrynodeb ynghylch ethnigrwydd, yn enwedig gan gynnwys gwybodaeth am sut mae'r Cyngor yn ehangu arferion recriwtio i sicrhau ein bod yn gyflogwr deniadol i'r mwyafrif byd-eang.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

1.    Ymgymryd â gwaith rhag-graffu ar yr adroddiad (ynghlwm yn Atodiad B), gan roi cyfle i'r Pwyllgor Craffu gyfrannu at y mater hwn; a

Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i gyflwyno adborth i'r Cabinet ar ran y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu

67.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol (Drafft) pdf icon PDF 90 KB

Rhag-graffu ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu fod yr adroddiad gerbron yr Aelodau i rag-graffu ar Adroddiad Cydraddoldeb Cynllun Cydraddoldeb Strategol (Drafft)2024-28 drafft y Cyngor. Nododd fod Aelodau o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael y cyfle i rag-graffu ar y cynllun cyn i'r Cabinet ei ystyried a chytuno i'w gyhoeddi. Bydd yr Aelodau'n cofio

nodi cydraddoldeb ac amrywiaeth yn faes ar gyfer mwy o waith craffu fel rhan o welliannau craffu a nodwyd yn 2020.

 

Croesawodd yr Aelodau'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol a gefnogwyd gan holl Aelodau'r Pwyllgor. Diolchodd yr Aelodau i'r swyddogion am eu hymrwymiad i weithredu'r cynllun a chawsant eu cysuro o weld cynllun gweithredu manwl yn amlinellu ei weithrediad.

 

Argymhellodd yr Aelodau y dylai'r Pwyllgorau Craffu ailymweld â'r eitem hon yn y dyfodol i fesur ei heffeithiolrwydd a'i gweithrediad, yn enwedig mewn perthynas â chyflwyno hyfforddiant gorfodol i'r holl staff, gan gydnabod ei bod hi'n dasg enfawr.

 

Yn dilyn trafod yr wybodaeth, PENDERFYNWYD:

 

1. Ymgymryd â rhag-graffu ar yr adroddiad (ynghlwm yn Atodiad B), gan roi cyfle i'r Pwyllgor Craffu gyfrannu at y mater hwn; a

2. Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i gyflwyno adborth i'r Cabinet ar ran y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu

3. I'w gynnwys fel eitem ar Raglen Waith Trosolwg a Chraffu yn y dyfodol  

68.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Cofnodion:

Dim

69.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddogion am ddod i'r cyfarfod.