Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Rhithwir

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

46.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Sera Evans.

 

47.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r

Cod Ymddygiad.

Nodwch:

1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn

ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol

hwnnw; a

2. Lle bo Aelodau'n tynnu'n ôl o'r cyfarfod o ganlyniad

i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n

gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau 

o fuddiant canlynol eu gwneud:

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Morgan - Buddiant Personol - "Byddaf i'n cyfrannu at y drafodaeth ond fydda i ddim yn pleidleisio gan fy mod i eisoes wedi siarad am y mater"

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Rogers - Buddiant Personol - "Rydw i'n Llywodraethwr ar gyfer Ysgol Gynradd y Rhigos ac Ysgol Gynradd Hirwaun"

 

48.

Galw i mewn: Penderfyniad y Cabinet i gau Ysgol Gynradd y Rhigos a throsglwyddo disgyblion i Ysgol Gynradd Hirwaun pdf icon PDF 139 KB

Trafod penderfyniad y Cabinet ar y 18 Rhagfyr 2023, mewn perthynas â'r Cynnig i Gau Ysgol Gynradd y Rhigos a throsglwyddo disgyblion i Ysgol Gynradd Hirwaun

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad a oedd yn amlinellu'r drefn ar gyfer y cyfarfod, fel sydd wedi'i nodi yn rheol 17 o Reolau Gweithdrefn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod cais i alw penderfyniad i mewn wedi dod i law oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Trask, A Rogers a D Grehan ar 21 Rhagfyr 2023, a hynny o fewn y cyfyngiad amser rhagnodedig. Roedd y cais yn cydymffurfio â'r meini prawf perthnasol ac yn cael ei ystyried yn ddilys gan y swyddog priodol. 

 

Roedd y cais galw i mewn yn gofyn bod penderfyniad y Cabinet a gafodd ei wneud yn ystod ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2023 mewn perthynas â’r cynnig i gau Ysgol Gynradd y Rhigos, gan symud disgyblion i Ysgol Gynradd Hirwaun, yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y gweithdrefnau ar gyfer y cyfarfod. Yn gyntaf, bydd cyfle i'r tri llofnodwr, a lofnododd y ffurflen galw i mewn, i annerch y Pwyllgor, gan nodi eu rhesymau dros gyflwyno cais galw i mewn a pham eu bod yn ystyried y dylid cyfeirio'r penderfyniad yn ôl i'r sawl sy'n gwneud y penderfyniad er mwyn ailystyried y mater. Yn ail, bydd y siaradwyr cyhoeddus sydd wedi cofrestru yn cael cyfle i annerch yr Aelodau cyn i'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant a'r Aelod o'r Cabinet ymateb i sylwadau'r siaradwyr. Bydd aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael cyfle i drafod y rhesymau dilys sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad ynghyd â'r holl gyfraniadau cyn pleidleisio ar y mater, i weld a ydyn nhw o'r farn y dylid cyfeirio'r mater yn ôl i'r Cabinet.

 

Cadarnhawyd y byddai gan un o'r llofnodwyr enwebedig, y Cynghorydd D Grehan, yr hawl i wneud anerchiad olaf i'r Pwyllgor yn union cyn cynnal pleidlais yngl?n â chyfeirio'r mater yn ôl i'w ailystyried. Cyfrifoldeb Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Democrataidd fydd egluro a chrynhoi penderfyniad y Pwyllgor.

 

Y Cynghorydd S Trask

 

Roedd y Cynghorydd Trask o'r farn bod y penderfyniad sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad yn anghyflawn a ddim yn berthnasol erbyn hyn.  Yn rhan o'i rôl fel Ynad yn y Llys Teulu, dywedodd y Cynghorydd Trask fod gofyn iddo wneud penderfyniadau ar gyfer plant pobl eraill yn aml, a hynny gyda'r holl wybodaeth sydd ar gael iddo. Yn ei farn ef, dylai hyn fod yn wir ar gyfer yr Awdurdod Lleol. Dywedodd fod nifer o faterion wedi datblygu ers yr adroddiad gwreiddiol am yr effaith o gau'r ysgol, megis ymateb yr AALl sy'n nodi mai dim ond ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol y darperir cludiant. Mae gan yr ysgol glwb brecwast sy'n ffynnu ac mae nifer y disgyblion sy'n mynychu'r clwb brecwast ymhlith yr uchaf yn yr ardal. Roedd y Cynghorydd Trask yn ofni y byddai cost gynyddol trafnidiaeth gyhoeddus (£5.20 yw cost tocyn dwyffordd o'r Rhigos i Hirwaun) a'r gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus annibynadwy a chyfyngedig, yn enwedig mewn argyfyngau, yn  ...  view the full Cofnodion text for item 48.