Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Rhithwir

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

51.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r

Cod Ymddygiad.

Nodwch:

1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn

ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol

hwnnw; a

2. Lle bo Aelodau'n tynnu'n ôl o'r cyfarfod o ganlyniad

i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n

gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

52.

Cofnodion pdf icon PDF 127 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2023 i'w cymeradwyo.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2023.

53.

Dolenni Ymgynghori

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Blaen Swyddog Materion Craffu at yr ymgynghoriadau agored, gan atgoffa'r Aelodau bod modd iddyn nhw gysylltu â'r garfan materion craffu i drafod unrhyw gwestiynau posibl.

54.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru Treth Gyngor Decach pdf icon PDF 165 KB

Galluogi Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i gyflwyno ymateb ffurfiol i'r  ymgynghoriad uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu'r adroddiad i’r Aelodau, a oedd yn eu gwahodd i ymateb yn ffurfiol i gam 2 o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, sy'n nodi’r cynigion ar gyfer system Treth y Cyngor Tecach yng Nghymru. Dywedodd mai nod y cynigion yw ail-gydbwyso cyfoeth a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, gan greu system dreth sy'n deg i bawb ac sy'n cysylltu pobl â chymunedau. 

 

Croesawodd y Cadeirydd John Rae a Lisa Haywood o CLlLC, a oedd wedi ymuno â'r cyfarfod i roi trosolwg o’r cynigion ac ateb unrhyw gwestiynau gan yr Aelodau mewn perthynas â’r cynigion.

 

Ar ôl i’r cynigion gael eu cyflwyno, gofynnodd y Cadeirydd am sylwadau a chwestiynau gan yr Aelodau. Mae'r rhain wedi’u crynhoi isod:

 

Dywedodd nifer o’r Aelodau, er bod angen newid er mwyn creu system decach, eu bod nhw o'r farn ei bod hi'n rhy fuan i ddiwygio treth y cyngor o 2025 ymlaen. Nodon nhw nad yw’r canlyniadau a’r effeithiau wedi'u deall yn llawn a bod angen mwy o waith codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â’r cyhoedd.  Yn ogystal â hynny, nododd yr Aelodau fod angen dealltwriaeth well o'r ffordd y byddai'r diwygiadau arfaethedig yma'n effeithio ar gyllid awdurdodau lleol, o ganlyniad i newidiadau yn sylfaen y dreth, a’r effaith ganlyniadol ar lefel y cyllid sy'n cael ei godi gan dreth y cyngor a'i ddyrannu drwy’r Grant Cynnal Refeniw. Cyfeiriwyd yn benodol at y cyfyngiadau ar gyfer Rhondda Cynon Taf oherwydd ei sylfaen dreth leol. Thema gyson a gafodd ei hadrodd yn ôl oedd yr angen i wneud pethau'n gywir, a hynny mewn modd priodol.

 

Roedd yr Aelodau'n awyddus i weld gwybodaeth benodol yn cael ei rhannu mewn modd cyson, clir a chryno gyda'r trigolion unwaith bod y drefn newydd wedi'i chadarnhau. Bydd hyn yn sicrhau bod y trigolion yn gwbl effro i effaith y newid a'r goblygiadau ariannol arnyn nhw. Mae hyn yn fwy pwysig byth o gofio'r argyfwng costau byw sy'n dal i fynd rhagddo.  Roedd yr Aelodau hefyd am weld trigolion yn cael eu hysbysu ymhell ymlaen llaw am unrhyw newidiadau sy'n cael eu rhoi ar waith, fel bod modd iddyn nhw baratoi'n ariannol.

 

Roedd nifer o’r Aelodau’n siomedig â chynnwys deunydd ymgynghori Llywodraeth Cymru, gan nad oedden nhw o'r farn ei fod yn darparu digon o wybodaeth i sicrhau bod y cyhoedd a rhanddeiliaid yn cael y manylion llawn. Gallai hyn olygu na fydd yr adborth a ddaw i law yn ystod yr ymgynghoriad yn ystyrlon. Yn hyn o beth, cafodd gwybodaeth benodol ei rhoi i gefnogi gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd yn y dyfodol, a hynny trwy ddarparu enghreifftiau o’r effaith ariannol bosibl ar aelwyd gyffredin fesul band treth. Tynnodd yr Aelodau sylw at y ffaith y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu cyfleoedd ymgysylltu pellach o ran y diwygiadau arfaethedig.

 

Cododd yr Aelodau nifer o bryderon o ran ailbrisio’r bandiau treth, yn enwedig Band A ar £112,000, a fydd yn arwain at wthio llawer o drigolion yn ardal Rhondda Cynon Taf i fand treth Band B newydd.  Roedd yr  ...  view the full Cofnodion text for item 54.

55.

'GWEITHIO GYDA'N CYMUNEDAU' - DRAFFT O GYNLLUN CORFFORAETHOL Y CYNGOR AR GYFER 2024-2030 pdf icon PDF 418 KB

Galluogi Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i rag-graffu ar y drafft o'r Cynllun Corfforaethol newydd ar gyfer 2024/25 – 2029/30, a'i lywio

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyflawniad yr adroddiad er mwyn i'r Aelodau rag-graffu ar y Cynllun Corfforaethol drafft newydd ar gyfer 2024/25 – 2029/30 a helpu i'w lunio.  Mae’r Cynllun drafft yn rhannu Gweledigaeth y Cyngor ar gyfer y Fwrdeistref Sirol yn 2024, yn ogystal â nodi pedwar Amcan Lles drafft a blaenoriaethau ar gyfer y chwe blynedd nesaf.  Aeth y Rheolwr Cyflawniad ymlaen i sôn bod y Cynllun Corfforaethol drafft newydd 2024-2030 yn ceisio adeiladu ar gynnydd y Cynlluniau Corfforaethol blaenorol, ac mae wedi ailedrych ar eu Gweledigaeth, Pwrpas ac Uchelgeisiau ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.

 

Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, gofynnodd y Prif Weithredwr am adborth ar y Cynllun drafft gan Aelodau’r Pwyllgor, yn benodol mewn perthynas â’r Weledigaeth a’r pedwar amcan Lles.  Ar ôl i’r cyflwyniad ddod i ben, diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am yr wybodaeth, gan wahodd adborth a sylwadau gan yr Aelodau. Mae'r rhain wedi’u crynhoi isod:

 

Gweledigaeth

 

Roedd yr Aelodau'n cytuno â'r datganiad Gweledigaeth arfaethedig, a oedd, yn eu barn nhw, yn dangos uchelgais, ond hefyd yn amlygu'r heriau y mae'r Cyngor yn eu hwynebu. Awgrymodd y Pwyllgor y dylid atgyfnerthu ymdeimlad o gynhwysiant o fewn y Weledigaeth drwy gynnwys y gair “All” ar ddechrau’r datganiad Saesneg. 

 

Amcan Lles – Pobl a Chymunedau

 

Roedd yr Aelodau'n falch o weld bod presenoldeb yn yr ysgol yn cael ei nodi yn y camau gweithredu, gan fod hyn yn fater pwysig ar agenda'r Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant.  Roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hefyd o'r farn bod angen i'r Cynllun gyfeirio'n fwy penodol at Dlodi Plant yn ogystal â'r angen i feithrin uchelgais, yn enwedig ar gyfer cymunedau a phobl ifainc.  Mynegodd yr Aelodau bryderon ynghylch y defnydd o hyperddolenni ym mhob rhan o ddogfen y Cynllun, gan argymell bod y defnydd o'r rhain yn cael ei adolygu a'i ddefnyddio dim ond lle bo angen. Bydd hyn yn sicrhau bod y cynllun yn hygyrch ac yn hawdd i'r cyhoedd ei ddarllen a'i ddeall.

 

Amcan Lles - Gwaith a Busnes

 

Nododd yr Aelodau eu bod nhw'n cefnogi'r amcan ar y cyfan, ond codwyd pryderon ehangach ynghylch y diffyg prentisiaethau sydd ar gael.  Roedd yr Aelodau o'r farn y dylid adolygu argaeledd prentisiaethau i sicrhau bod lleoliadau ar gael, gyda'r bwriad o ysbrydoli pobl i hyfforddi a sicrhau gwaith medrus ar ôl y coleg.  Roedd pryder hefyd bod y cynlluniau prentisiaeth cenedlaethol sydd ar waith ar hyn o bryd yn anhyblyg. Mae yn ei dro yn atal busnesau llai, a allai gynnig cyfle a rennir, rhag cynnig lleoliadau. Dywedodd yr Aelodau hefyd yr hoffen nhw weld cyfeiriad at waith medrus iawn a chymorth o ran galluogi pobl i ddilyn llwybrau gyrfa gwerth chweil, yn hytrach na dim ond dod o hyd i swyddi.

 

Tynnodd yr Aelodau sylw at y problemau traffig ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol, gan gynnwys canol y trefi, gan ddweud bod angen i gymunedau fod â chysylltiadau da, gwell seilwaith, a thrafnidiaeth gyhoeddus hygyrch, fforddiadwy.

Nododd yr Aelodau hefyd y gwerth mewn rhoi cyfleoedd lleol  ...  view the full Cofnodion text for item 55.

56.

TREFNIADAU'R AWDURDOD LLEOL AR GYFER DIOGELU PLANT AC OEDOLION MEWN PERYGL pdf icon PDF 132 KB

Rhoi trosolwg o'r gwaith sydd wedi'i gynnal gan Gr?p Diogelu Corfforaethol y Cyngor a gofyn i Aelodau Etholedig graffu ar fersiwn ddrafft newydd y Polisi Diogelu Corfforaethol a chyflwyno sylwadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr drosolwg o'r gwaith sydd wedi'i gynnal gan Gr?p Diogelu Corfforaethol y Cyngor, gan ofyn i Aelodau Etholedig graffu ar fersiwn ddrafft newydd y Polisi Diogelu Corfforaethol a chyflwyno sylwadau. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa bod Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn cael ei adolygu bob tair blynedd i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben ac i adlewyrchu datblygiadau mewn deddfwriaeth neu arfer gorau.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y polisi wedi'i adolygu yn erbyn y Canllaw Arfer Da Diogelu Corfforaethol Llywodraeth Cymru a CLlLC,a'i fod yn adlewyrchu mewnbwn ar arfer gorau cyfredol o ran diogelu gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym mhob rhan o'r Cyngor, gan gynnwys Gwasanaethau i Blant, Gwasanaethau i Oedolion, Adnoddau Dynol, Caffael, Gwasanaethau Digidol a TGCh ac eraill.

 

I gloi, dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor, yn dilyn yr adolygiad, wedi diwygio ac atgyfnerthu'r trefniadau mewn Polisi drafft newydd a nodir yn Atodiad 1 i'r Aelodau ei ystyried.

 

Cyfeiriodd Aelod at nifer y staff a ymatebodd i'r arolwg a gofynnodd am adborth ar ba ganran y mae hyn yn ei gynrychioli o gymharu â chyfanswm nifer y staff yn y Cyngor. Mynegodd yr Aelod bryderon hefyd ynghylch cyfrifoldebau Diogelu Corfforaethol y Cyngor mewn perthynas â gweithio'n unigol, sydd bellach yn ymestyn i weithwyr swyddfa yn ogystal â’r rhai a oedd yn gweithio ar eu pen eu hunain yn eu rôl o ddydd i ddydd cyn y pandemig. Nododd fod modd i unrhyw oedi posibl i bolisi gweithio’n unigol a hyfforddiant arwain at oblygiadau diogelu i staff.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod yr arolwg yn cael ei ddosbarthu ac yn hygyrch i'r holl staff, gydag ychydig o dan 1,000 o aelodau staff yn cwblhau'r arolwg o gymharu â chyfanswm niferoedd staff o tua 10,500. Nododd fod cyfran uchel o'r staff a ymatebodd wedi dweud bod ganddyn nhw lefel dda o ddealltwriaeth o ran diogelu. Diolchodd y Prif Weithredwr i'r Aelod am y sylwadau ar weithio'n unigol a sicrhaodd y Pwyllgor y byddai hyn yn cael ei drafod mewn cyfarfodydd Gr?p Llywio Diogelu Corfforaethol yn rhan o'r trefniadau monitro parhaus. Cododd yr Aelod bwynt atodol yn benodol mewn perthynas ag ysgolion, a dywedodd y Prif Weithredwr fod cyfran sylweddol o’r cyfanswm o 10,500 o staff yn gweithio mewn ysgolion, bod gwiriadau diogelu’n cael eu cynnal yn rhan o ymweliadau archwilio mewnol ag ysgolion a bod yr adborth yn cael ei gasglu a’i gasglu a'i fwydo'n ôl i'r Gr?p Llywio Diogelu Corfforaethol.

 

Gofynnodd Aelod sut y bydd y trefniadau newydd yn cael eu cyfleu i ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn ystyried ac yn ymgorffori’r canllawiau diweddaraf yn eu polisïau eu hunain.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Gr?p Llywio Diogelu Corfforaethol yn cynnwys y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sydd wedi bod yn rhan o'r adolygiad o'r polisi.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr, yn amodol ar gymeradwyo'r polisi, y bydd hyn yn cael ei  ...  view the full Cofnodion text for item 56.

57.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

58.

Ymgynghori ar Gyllideb 2024-25 Cam 2 pdf icon PDF 177 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad er mwyn i'r Aelodau ymgynghori arno ac i'r Pwyllgor ymateb yn ffurfiol i ail gam Ymgynghoriad Cyllideb 2024-25 y Cyngor.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y gofynnir i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu rag-graffu ar Strategaeth ddrafft Cyllideb Refeniw 2024/25, yn rhan o ail gam proses Ymgynghori ar Gyllideb 2024-25.

Yna rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Cyllid a Gwasanaethau Gwella gyflwyniad i Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, gan drafod y meysydd a ganlyn: Cyflwyniad - Strategaeth Cyllideb Refeniw Ddrafft 2024/25; Sefyllfa Ariannol Bresennol y Cyngor (2023/24); Ymgynghoriad ar y Gyllideb Cam 1 - Penawdau; Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro 2024/25 - Penawdau/Goblygiadau ar gyfer Rhondda Cynon Taf; Strategaeth Cyllideb Arfaethedig y Cabinet 2024/25; a Chamau nesaf a dyddiadau allweddol.

 

Roedd un Aelod yn falch o weld bod 63% o'r rhai a ymatebodd i broses ymgynghori cam 1 ar y gyllideb wedi rhoi adborth y dylai'r Cyngor barhau â'i strategaeth ar gronfeydd wrth gefn, gan gydnabod na ellir defnyddio cronfeydd wrth gefn bob blwyddyn heb iddyn nhw gael eu hailgyflenwi.

 

Dywedodd un Aelod fod nifer yr ymatebion i gam cyntaf yr ymgynghoriad yn ymddangos yn anghymesur o gymharu â nifer y bobl sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf a gofynnodd a oedd cyfle i ddysgu o hyn a defnyddio gwahanol strategaethau i ymgysylltu.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Cyllid a Gwasanaethau Gwella fod y Cyngor yn ystyried ei drefniadau ar sail barhaus i ddysgu gwersi, gyda dull cynhwysfawr o ymgysylltu ar waith sy’n cynnwys digwyddiadau wyneb yn wyneb mewn lleoliadau yng nghanol trefi, ymgysylltu â phartneriaid trydydd sector ac ysgolion, a hefyd trwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.

 

Gofynnodd Aelod a yw'r Cyngor yn gwneud digon i addysgu pobl am waith y Cyngor, fel bod modd deall ei gyllid yn well, hynny yw, sut y caiff arian ei wario a'i wahanol swyddogaethau.  

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Gwella fod y Cyngor yn bwriadu sicrhau bod gwybodaeth ar gael i helpu trigolion i ddeall cyllid y Cyngor a ble mae'n gwario arian cyhoeddus, a rhoddodd enghreifftiau ar ffurf canllaw hawdd ei ddarllen a gynhyrchwyd at ddibenion ymgynghori ar y gyllideb; taflen wedi'i chynnwys o fewn hysbysiadau Treth y Cyngor i drigolion sy'n rhoi dadansoddiad o gyllideb y Cyngor a sut mae'n cael ei wario a hefyd sut mae'r Cyngor yn cael ei ariannu; ac ymgysylltu'n uniongyrchol â disgyblion mewn ysgolion trwy brosesau ymgynghori.  Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu nad yw nifer yr ymgyngoreion y cyfeiriwyd atyn nhw yn y cyflwyniad yn adlewyrchu gweithgarwch cyfathrebu parhaus y Cyngor drwy ei gyfryngau cymdeithasol, a nododd fod nifer o brosesau ymgynghori cyhoeddus ar wahân hefyd wedi'u cynnal yn ystod y misoedd diwethaf. Roedd y rhain yn gysylltiedig â’r broses pennu cyllideb sydd wedi bod yn destun lefelau uchel o ymgysylltu gan y cyhoedd.

 

Gofynnodd Aelod a oedd gwybodaeth ddemograffig mewn perthynas ag unigolion a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar y gyllideb ar gael i'w dadansoddi.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Gwella, fod y wybodaeth hon yn cael  ...  view the full Cofnodion text for item 58.

59.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau a'r Swyddogion am eu presenoldeb yn y cyfarfod ac am eu cyfraniadau trylwyr.