Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Cyswllt: Council Business Unit E-bost: Councilbusiness@rctcbc.gov.uk 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

28.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r

Cod Ymddygiad.

Nodwch:

1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu

buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw;

a

2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu

buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan

fyddan nhw'n gadael.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud

 

Y Cynghorydd G Caple - Datganiad personol, mae fy chwaer yn gweithio yn y gwasanaeth gofal yn y cartref

 

Y Cynghorydd J Edwards - Datganiad personol, rydw i'n adnabod un o'r siaradwyr cyhoeddus

 

Y Cynghorydd C Middle - Datganiad personol, mae fy ngwraig i'n weithiwr gofal critigol ar gyfer Advantage Health Care Limited

 

Y Cynghorydd R Bevan - Datganiad personol, mae fy chwaer-yng-nghyfraith yn gynhaliwr 'cymorth yn y cartref'

 

Y Cynghorydd K Morgan - Datganiad personol, (roedd y Cynghorydd wedi gadael y cyfarfod yn ystod y bleidlais ar yr eitem yma) a hithau'n llofnodwr ar gyfer y Cais Galw i Mewn

 

29.

GALW PENDERFYNIAD Y CABINET I GOMISIYNU GWASANAETHAU GOFAL YN Y CARTREF I MEWN pdf icon PDF 311 KB

Trafod penderfyniad y Cabinet ar 23 Hydref 2023 mewn perthynas â Chomisiynu Gwasanaethau Gofal yn y Cartref

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad a oedd yn amlinellu'r drefn ar gyfer y cyfarfod, fel sydd wedi'i nodi yn rheol 17 o Reolau Gweithdrefn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod cais i alw penderfyniad i mewn wedi dod i law oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol K Morgan, C Lisles a K Johnson, a hynny o fewn y cyfyngiad amser rhagnodedig ar 26 Hydref 2023. Roedd y cais yn cydymffurfio â'r meini prawf perthnasol ac yn cael ei ystyried yn ddilys gan y swyddog priodol. 

 

Roedd y cais i alw penderfyniad i mewn yn gofyn bod penderfyniad y Cabinet mewn perthynas ag adroddiad ar Gomisiynu Gwasanaeth Gofal yn y Cartref a gafodd ei wneud yn ystod cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2023 yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Rhoddodd wybod y bydd y tri Aelod Etholedig a oedd wedi llofnodi'r cais yn cael eu gwahodd i annerch y Pwyllgor, gan amlinellu'u rhesymau dros alw'r penderfyniad i mewn (gyda chymeradwyaeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth- Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yn rhinwedd ei swydd yn Swyddog Priodol), gan egluro pam y dylai'r penderfyniad gael ei gyfeirio'n ôl at y sawl a oedd yn gyfrifol am y penderfyniad fel bod modd ei ailystyried.   Yna bydd y siaradwyr cyhoeddus yn cael cyfle i annerch yr Aelodau cyn i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Aelod o'r Cabinet annerch yr Aelodau er mwyn ymateb i sylwadau'r siaradwyr.  Bydd y Cadeirydd wedyn yn gwahodd Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i drafod y rhesymau dilys sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad ynghyd â sylwadau Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Aelod o'r Cabinet ynghylch a ddylid cyfeirio'r mater yn ôl at y Cabinet er mwyn ei drafod eto. Wedyn, bydd y Swyddog a'r Aelod o'r Cabinet yn cael eu gwahodd i ateb cwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Cadarnhawyd y byddai gan un o'r llofnodwyr enwebedig yr hawl i wneud anerchiad olaf i'r Pwyllgor yn union cyn cynnal pleidlais yngl?n â chyfeirio'r mater yn ôl i'w ailystyried. Cyfrifoldeb Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Democrataidd fydd egluro a chrynhoi effaith penderfyniad y Pwyllgor. Cadarnhaodd y Cynghorydd K Morgan y bydd hi'n gwneud yr anerchiad olaf i'r Pwyllgor ac yna'n gadael cyn i'r bleidlais ddechrau.

 

Y Cynghorydd K Morgan

 

Rhoddodd y Cynghorydd K Morgan wybod ei bod hi wedi llofnodi'r ffurflen galw i mewn gan nad oedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi cael cyfle i gynnal gwaith rhag-graffu cyn i'r penderfyniad gael ei wneud.  Mynegodd bryder am sut mae'r cynnig yn effeithio ar ddefnyddwyr y gwasanaeth a'r staff gan nodi nad oedden wedi gallu manteisio ar unrhyw gyfnod ymgynghori cyn i'r penderfyniad gael ei wneud.  Rhoddodd wybod bod y Cabinet wedi derbyn deiseb yn erbyn y cynnig ond dydy'r cofnodion ddim yn nodi bod y Cabinet wedi trafod y ddeiseb cyn gwneud penderfyniad. Ychwanegodd fod nifer o ddefnyddwyr y gwasanaeth wedi mynegi eu hanfodlonrwydd gyda darparwyr preifat, a'u bod nhw'n fodlon gyda Gwasanaeth  ...  view the full Cofnodion text for item 29.

30.

Materion Brys

To consider any items, which the Chairman, by reason of special circumstances, is of the opinion should be considered at the meeting as a matter of urgency.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim

31.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Dogfennau ychwanegol: