Lleoliad: HYBRID
Cyswllt: Sarah Daniel E-bost: scrutiny@rctcbc.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad. Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n tynnu'n ôl o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â'r Cod Ymddygiad, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda. |
|
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 27 Medi 2023 i'w cymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Medi 2023 yn gofnod cywir o’r cyfarfod. |
|
Dolenni Ymgynghori Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w hystyried gan y Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Aeth y Blaen Swyddog Craffu ati i atgoffa Aelodau o'r ymgynghoriadau sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd os byddan nhw'n dymuno ymateb iddyn nhw.
|
|
Rhaglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu PDF 100 KB Adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad i Aelodau er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw adolygu'r Rhaglen Waith. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at Raglen Waith y Cabinet (Atodiad 2), a hynny er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw adolygu'r rhaglen waith a phenderfynu a oes angen trafod unrhyw faterion yn ystod cyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, neu a oes angen cyfeirio unrhyw faterion at y Pwyllgorau Craffu er mwyn cynnal trafodaethau rhag-graffu.
Cynigodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn parhau i graffu ar faterion sy'n ymwneud â newidiadau i wasanaethau a chynigion ar y gyllideb, yn enwedig y materion hynny sy'n destun ymgynghoriad â'r cyhoedd, a hynny er mwyn sicrhau cysondeb gan fod y Pwyllgor wedi trafod y materion yma yn y gorffennol. Roedd Aelodau o blaid yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
1. Cytuno ar unrhyw faterion i'w cynnwys yn rhan o Raglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Blwyddyn 2023/24 y Cyngor, fel y nodir yn Atodiad A gyda diwygiadau priodol yn ôl yr angen; 2. Gofyn bod y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yn rhoi gwybod i'r Aelod perthnasol o'r Cabinet a'r Swyddog perthnasol am y materion sydd wedi'u nodi fel materion a fydd yn cael eu craffu cyn i'r Cabinet eu trafod; 3. Cytuno bod y Rhaglen Waith yn cael ei hadolygu'n rheolaidd i sicrhau bod yr eitemau sydd wedi'u nodi yn berthnasol a bod unrhyw atgyfeiriadau pellach yn cael eu cynnwys; 4. Trafod, lle bo'n addas, yr eitemau allai gael eu cyflwyno i'r Pwyllgor fel Adroddiadau Gwybodaeth, a hynny er mwyn rhoi hyblygrwydd i Aelodau drafod unrhyw eitemau brys, gan neilltuo amser rhydd i graffu ar eitemau mwy brys o bosibl; a 5. Cytuno ar ba faterion y dylid eu cyfeirio at y Pwyllgorau Craffu a'u cynnwys yn eu Rhaglenni Gwaith unigol. 6. Cytuno y bydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn craffu ar unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac sy'n destun ymgynghoriad â'r cyhoedd, a hynny'n rhan o drefniadau ymgynghori y cytunwyd arnyn nhw |
|
Ymgynghoriad - Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) PDF 168 KB Llunio ymateb ffurfiol i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r cynigion ar gyfer Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad i Aelodau i geisio'u hymateb nhw i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r cynigion ar gyfer Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru).
Cafodd Aelodau wybod am y cynigion, sy'n cynnwys gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru i gyflwyno trefniadau fydd yn gwella amrywiaeth yn y Senedd a strwythurau democrataidd Llywodraeth Leol. Mae cynnig arall yn cynnwys atal Cynghorwyr Tref a Chynghorwyr Cymuned yng Nghymru rhag dod yn Aelodau o'r Senedd a chael gwared ar y cyfnod gras ar gyfer Prif Gynghorwyr sy'n cael eu hethol i'r Senedd ac Aelodau o'r Senedd sy'n cael eu hethol fel Aelodau Seneddol.
Trafododd yr Aelodau'r cynnig i osod dyletswydd ar Weinidogion i wella amrywiaeth yn y Senedd a Llywodraeth Leol, ac roedd yr Aelodau yn llwyr gefnogol o'r cynnig. Aeth yr Aelodau ati i drafod a dylid monitro'r mater yma i sicrhau bod modd mesur unrhyw welliant a chynnal hyder y cyhoedd yn y system, yn ogystal ag annog y rheiny sydd heb sefyll mewn etholiad o'r blaen i fod yn ddigon hyderus i wneud hynny.
Cyfeiriodd Aelod at y cynnig i gyflwyno cofrestru etholiadol heb wneud cais, a'r gallu i gynnal cynllun peilot er mwyn gweithredu'r dull mwyaf effeithiol o wneud hyn. Gofynnodd a fyddai hyn yn cysylltu â systemau'r Cyngor ar gyfer talu biliau Treth y Cyngor, er enghraifft. Esboniodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod trafodaethau'n cael eu cynnal ar hyn o bryd ynghylch y cronfeydd data y byddai modd eu defnyddio i gofrestru'n awtomatig gan nad yw cronfeydd data Treth y Cyngor yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf bob tro, er enghraifft, dydy enwau cyn priodi ddim wedi'u diweddaru, er enghraifft. Pwysleisiodd y bydd y mater yma'n cael ei drafod yn rhan o'r cynllun peilot sydd wedi'i gynnig.
PENDERFYNWYD:
1. Darparu adborth mewn perthynas â'r cynigion sydd wedi'u nodi ym mharagraff 4, a phenderfynu a yw'r Pwyllgor yn dymuno cyflwyno sylwadau neu awgrymiadau pellach, ble'n addas, yn dilyn trafodaeth am yr wybodaeth sy'n cael ei chyflwyno iddyn nhw.
2. Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i gyflwyno'r adborth a ddarparwyd gan Aelodau i Lywodraeth Cymru, ar ran y Pwyllgor.
|
|
Materion Brys Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim |
|
Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben Dogfennau ychwanegol: |