Agenda a Chofnodion

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

18.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

Nodwch:

1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Y Cynghorydd Sera Evans – Rydw i'n gweithio i Brifysgol De Cymru a byddaf i'n gadael y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar Eitem 5 – Mudo Myfyrwyr Rhyngwladol yn RhCT.

19.

Cofnodion pdf icon PDF 123 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2023 i'w cymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2023 yn gofnod cywir o’r cyfarfod.

20.

Dolenni Ymgynghori

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w ystyried gan y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aeth y Blaen Swyddog Craffu ati i atgoffa Aelodau o'r ymgynghoriadau sydd ar agor os byddan nhw'n dymuno ymateb iddyn nhw. 

 

21.

Ymgysylltu ag Aelod Cabinet ddwywaith y flwyddyn pdf icon PDF 265 KB

Rhoi cyfle i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu herio'r Arweinydd ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi, a chraffu ar yr hyn sydd ganddo i'w ddweud.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad i Aelodau er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw graffu ar y penderfyniadau a gafodd eu gwneud gan yr Arweinydd yn ystod y cyfnod a nodir yn yr adroddiad, a sicrhau bod y mecanweithiau priodol yn eu lle i graffu'n effeithiol ar yr Adain Weithredol.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr adroddiad swyddfeydd a blaenoriaethau buddsoddi a gofynnodd i'r Arweinydd am sicrwydd mewn perthynas â deunyddiau concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) yn lleol, a'r sefyllfa o ran ein harolygon a'n harchwiliadau ein hunain, a hynny yng ngoleuni canfod y deunydd mewn adeiladau sy'n eiddo i Awdurdodau Lleol cyfagos. 

 

Atebodd yr Arweinydd gan nodi bod y flaenoriaeth mewn perthynas â hyn wedi canolbwyntio ar ysgolion, a rhoddodd sicrwydd bod adeiladau'n cael eu harchwilio'n rheolaidd gan beirianwyr a syrfewyr yn unol â'r drefn arferol ond maen nhw wedi cael eu harchwilio eto oherwydd y sefyllfa ddiweddar.   Ychwanegodd yr Arweinydd fod archwiliadau pellach yn cael eu cynnal yng nghartrefi gofal y Cyngor ac maen nhw'n trafod gyda'r trydydd sector i sicrhau bod unrhyw wasanaethau wedi'u comisiynu'n cael eu hadolygu hefyd.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr adroddiad blaenoriaethau buddsoddi a gofynnodd am ragor o fanylion mewn perthynas â blaenoriaethau ar gyfer ardal Porth.

 

Atebodd yr Arweinydd gan nodi bod y blaenoriaethau buddsoddi yn unol â'r Cynllun Corfforaethol, a bod y Cabinet yn dilyn hwn hefyd. Dywedodd fod gwaith ar Hwb Trafnidiaeth Porth yn dod i ben, a'u bod nhw'n gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd i drosglwyddo'r safle. Ychwanegodd y bydd gwaith adfywio pellach yng nghanol tref Porth yn cael ei ystyried gan ddefnyddio cyllid rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio (TRI) sydd wedi'i sicrhau gyda datblygwyr preifat i gefnogi twf a datblygiad economaidd. Mae'r Cyngor hefyd wedi prynu darn bach o dir ar Stryd Hannah rydyn ni'n bwriadu ei ddatblygu'n faes parcio arhosiad byr i leddfu rhai o'r problemau parcio yn ardal Porth.  

 

Cyfeiriodd Aelod at y sefyllfa barhaus o ran traffig yn Nhreorci a rhoddodd ddiolch i swyddogion sydd wedi cysylltu bob dydd ac wedi cwrdd â'r Cynghorydd a busnesau lleol.  Cyfeiriodd at yr heriau y mae trigolion ac ymwelwyr â'r dref yn eu hwynebu, gan ganolbwyntio ar y tagfeydd sydd yno'n aml a'r ffaith nad oes unrhyw drenau i helpu'r sefyllfa a bod amserlenni bysiau wedi'u cwtogi.  Dywedodd fod angen cymorth parhaus ar fusnesau'r ardal gan eu bod nhw'n poeni y bydd raid iddyn nhw gau o ganlyniad i'r problemau maen nhw'n eu hwynebu.

 

Aeth yr Arweinydd ati i gydnabod bod y sefyllfa bresennol yn heriol iawn yng Nghwm Rhondda uchaf ar hyn o bryd, a nad oes modd i'r sefyllfa barhau fel y mae hi.  Dywedodd fod sawl cyfarfod wedi cael ei gynnal gyda chymudwyr a thrigolion, a bod opsiynau'n cael eu hadolygu ar hyn o bryd gyda'r cwmni rheoli traffig.  Rhoddodd wybod i Aelodau fod gwaith yn cael ei gynnal yn gynt na'r disgwyl (3 wythnos) a bod popeth sy'n bosibl yn cael ei wneud i sicrhau bod y gwaith yn  ...  view the full Cofnodion text for item 21.

22.

Mudo Myfyrwyr Rhyngwladol yn RhCT pdf icon PDF 354 KB

Rhoi trosolwg i Aelodau Etholedig o'r tueddiadau adleoli a mudo sy'n dod i'r amlwg ymhlith Myfyrwyr Rhyngwladol sy'n cyrraedd Rhondda Cynon Taf a'u teuluoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaeth – Cymunedau Diogel a Phartneriaethau Strategol yr adroddiad a roddodd drosolwg i Aelodau Etholedig o dueddiadau adleoli a mudo Myfyrwyr Rhyngwladol a'u teuluoedd yn Rhondda Cynon Taf sy'n dod i'r amlwg.

 

Ar ôl cyflwyno'r adroddiad, croesawodd y Cadeirydd siaradwr cyhoeddus, Natalie Evans, Cydlynydd Ymgyrch Banc Bwyd Cwm Rhondda, i annerch y Pwyllgor mewn perthynas â'r eitem yma.  Rhoddwyd diolch i'r siaradwr cyhoeddus am ei chyfraniadau a rhoddodd y Cadeirydd gyfle i'r Pwyllgor roi sylwadau a gofyn cwestiynau i'r swyddogion a oedd yn bresennol.

 

Gwnaeth Aelod sylwadau am y pwysau ariannol ychwanegol sydd ar y Cyngor o ganlyniad i fyfyrwyr mudol a'u teuluoedd yn dewis symud i'r ardal, a gofynnodd a yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Cyngor yn ariannol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned y dylai myfyrwyr mudol ddangos bod modd iddyn nhw gefnogi eu hunain yn ystod y broses cyflwyno cais.  Os na fydd modd iddyn nhw barhau i gefnogi eu hunain, yna dyna fater i'r Swyddfa Gartref / problem fisa.  Nododd y Cyfarwyddwr fod yr Awdurdod wedi ymgysylltu â Phrifysgol De Cymru (PDC) sydd wedi cynyddu lefel y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n dewis dod â'u teuluoedd gyda nhw.  Ychwanegodd y Cyfarwyddwr fod gwybodaeth yn cael ei rhoi i fyfyrwyr cyn iddyn nhw benderfynu dod â'u teulu i fyw gyda nhw yn y DU felly bydd pawb sy'n cyrraedd RhCT yn deall yr heriau hynny cyn iddyn nhw gyrraedd. Serch hynny, mae dod â'u teuluoedd gyda nhw gan wybod y risgiau posibl yn parhau i fod yn benderfyniad personol i'r myfyrwyr hynny. Dyma'r rheswm pam dydy cyllid ychwanegol ddim ar gael i Awdurdodau Lleol er mwyn i ni roi cymorth pellach.

 

Nododd Aelod arall eu bod nhw'n falch o glywed bod PDC yn cynnig rhagor o gymorth i fyfyrwyr yn ystod y broses ond hoffai'r Aelod weld rhagor yn cael ei gynnig.  Dywedodd yr Aelod y dylai'r myfyrwyr gael cymorth i ddeall y goblygiadau ariannol fydd gyda nhw pan fyddan nhw'n cyrraedd gan y gallai'r myfyrwyr yma fod yn ddoctoriaid a nyrsys y dyfodol a bod o fudd i'n cymuned yn y tymor hir. Ychwanegodd yr Aelod y dylai'r Awdurdod ystyried sut mae modd i ni helpu'r myfyrwyr a'u teuluoedd sydd eisiau dod i'r DU i astudio a gweithio ymhellach. 

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned wybod bod Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar reoli rhent gan nad oes cyfraith ar hyn o bryd sy'n rheoleiddio cynnydd rhent cartrefi landlordiaid preifat yng Nghymru, a bod cynnydd yn ffïoedd rhent ledled y DU. Ychwanegodd fod gan y Cyngor ymrwymiad hirsefydlog i ailsefydlu. Serch hynny, dyma garfan benodol iawn gan fod cyfyngiadau'n berthnasol ar eu fisa sy'n cyfyngu ar eu mynediad at waith a chyllid cyhoeddus a'u bod nhw yn y DU i astudio.  Os byddan nhw'n parhau i fyw yn y DU ar ddiwedd eu hastudiaethau, bydd angen i'w cyflogwr eu noddi. 

 

Roedd Aelod yn falch o glywed bod PDC yn rhoi cymorth gwell i fyfyrwyr.  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Rhybudd o Gynnig – Tlodi Plant pdf icon PDF 175 KB

Rhoi cyfle i Aelodau drafod cynnwys y Rhybudd o Gynnig mewn perthynas â Thlodi Plant a gyfeiriwyd at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, yn dilyn cyfarfod y Cyngor ar 29 Mawrth 2023

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad i Aelodau er mwyn iddyn nhw ystyried cynnwys y Rhybudd o Gynnig mewn perthynas â Thlodi Plant a gafodd ei gyfeirio gan y Cyngor yn dilyn ei gyfarfod ar 29 Mawrth 2023, at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i'w drafod.

 

Nododd Aelod eu bod o blaid y dull ond hoffai sicrhau bod dull llawn a manwl yn cael ei roi ar waith mewn perthynas â hyn, a gofynnodd am sicrwydd y byddwn ni'n canolbwyntio'n bennaf ar y Rhybudd o Gynnig gwreiddiol.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu gan nodi bod y Cyngor yn cydnabod bod ganddo nifer o gyfrifoldebau gwahanol mewn perthynas â mynd i'r afael â thlodi plant, a nifer o ymyraethau y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfarwyddyd i'r Awdurdod eu cymryd. Dywedodd hefyd y bydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn rhoi gwybod am ei ddarganfyddiadau i'r Cyngor llawn ar ôl trafod y Rhybudd o Gynnig.  I gloi, nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu fod yr adroddiad yn amlinellu'r gwaith sydd wedi'i gynnal yn flaenorol gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, a bydd y gwaith yn unol â'r Rhybudd o Gynnig cymeradwy.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

1.  Cytuno i gynnwys y mater yma yn rhan o raglen waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, yn unol â Chylch Gorchwyl y Pwyllgor.

2.  Cytuno i wahodd dau aelod o'r Pwyllgorau Craffu – Addysg a Chynhwysiant a Gwasanaethau Cymuned i drafodaeth ar y materion sy'n ymwneud â Thlodi Plant. Gwahodd yr Aelodau a wnaeth gynnig ac eilio'r Rhybudd o Gynnig gwreiddiol (os nad ydyn nhw'n aelodau o'r Pwyllgor yn barod) er mwyn helpu'r trafodaethau.

Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i ddiwygio'r rhaglenni gwaith priodol, a rhoi gwybod am y bwriad i gynnwys y Rhybudd o Gynnig a gafodd ei fabwysiadu gan y Cyngor ar 29 Mawrth, yn y trafodaethau ehangach mewn perthynas â'r Cynllun Corfforaethol newydd.

24.

Rhaglen Waith Addysg a Chynhwysiant (Drafft) pdf icon PDF 102 KB

Derbyn drafft o'r Rhaglen Waith Addysg a Chynhwysiant i'w chymeradwyo

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad i Aelodau er mwyn ceisio eu sylwadau a chymeradwyaeth o Raglen Waith ddrafft y Pwyllgor Craffu – Addysg a Chynhwysiant fel y cymeradwywyd yn ei gyfarfod ar 19 Gorffennaf 2023.

 

Roedd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu – Addysg a Chynhwysiant yn falch o gyflwyno'r rhaglen waith yma i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ei chymeradwyo, a gofynnodd i aildrefnu'r eitem y trefnwyd i'r Aelod o'r Cabinet ddod i gyfarfod y Pwyllgor i siarad amdani cyn gynted ag sy'n bosibl. Dywedodd hi fod y rhestr o eitemau 'heb eu dyrannu' ar y Rhaglen Waith yn dangos ehangder cylch gwaith y Pwyllgor a'r ymgysylltu a diddordeb gan Aelodau. I gloi, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu – Addysg a Chynhwysiant er y bydd y Rhybudd o Gynnig mewn perthynas â Thlodi Plant yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, gofynnodd i'w gadw'n eitem i'r Pwyllgor Craffu – Addysg a Chynhwysiant ei thrafod ym mis Hydref.

 

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

1.    Bod Aelodau wedi trafod, lle bo'n addas, yr eitemau allai gael eu cyflwyno i'r Pwyllgor fel Adroddiadau Gwybodaeth, a hynny er mwyn rhoi hyblygrwydd i Aelodau drafod unrhyw eitemau brys, gan neilltuo amser rhydd i graffu ar eitemau mwy brys o bosibl. 

2.    Cytuno ar y materion (os oes rhai) i'w cyfeirio at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, neu Bwyllgor Craffu thematig arall, i'w cynnwys yn eu Rhaglenni Waith unigol yn unol â Chylch Gorchwyl y Pwyllgor dan sylw.

3.    Cytuno ar unrhyw faterion ychwanegol i'w cynnwys ar Raglen Waith y Pwyllgor Craffu – Addysg a Chynhwysiant ar gyfer Blwyddyn 2023/24 y Cyngor, fel y nodir yn Atodiad A gyda diwygiadau priodol yn ôl yr angen.

Bod y drafodaeth ar yr eitem Tlodi Plant yn parhau i fod yn rhan o raglen waith y Pwyllgor Craffu – Addysg a Chynhwysiant sydd wedi'i chyhoeddi.

25.

Adroddiad Cyflawniad ac Adnoddau'r Cyngor (Chwarter 1) pdf icon PDF 204 KB

Cyflwyno'r adroddiad Cyflawniad ac Adnoddau (Chwarter 1) i'r Aelodau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad ar Gyflawniad y Cyngor (Chwarter 1) hyd at 30 Mehefin 2023, i'r Aelodau.  Rhoddodd wybod am bwysigrwydd yr wybodaeth yma i'r broses graffu, yn enwedig o ran darparu gwasanaethau, ond hefyd o ran pennu materion i'w trafod ymhellach yn seiliedig ar yr wybodaeth am gyflawniad sy'n cael ei darparu. Ychwanegodd mai cyfrifoldeb y Pwyllgor yma yw cyfeirio unrhyw eithriadau at y pwyllgor craffu priodol i'w trafod ymhellach, a hynny o dan y cylch gorchwyl.

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Cyllid a Gwasanaethau Gwella yr adroddiad i Aelodau a oedd yn cynnwys manylion am ddatganiadau o sefyllfa chwarter 1 ar gyfer refeniw a chyflawniad y gyllideb gyfalaf; dangosyddion darbodus Rheoli'r Trysorlys; gwybodaeth am Iechyd y Sefydliad gan gynnwys trosiant staff, salwch a risgiau strategol y Cyngor; cynlluniau gweithredu blaenoriaeth y Cynllun Corfforaethol (gan gynnwys dangosyddion cyflawniad a buddsoddi); a rhaglen barhaus y Cyngor o waith i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, rhoddodd y Cadeirydd gyfle i'r Aelodau ofyn cwestiynau.

 

Gofynnodd Aelod a oes modd cael gwybodaeth am nifer y diwrnodau o salwch ar gyfartaledd fel bod modd i Aelodau gymharu'r Awdurdod â'r cyfartaledd cenedlaethol fesul blwyddyn, fesul aelod o staff.

 

Gofynnodd Aelod am ragor o wybodaeth am y targedau oedd wedi'u colli mewn perthynas â Lleoedd Diwylliannol.

 

O ran recriwtio Swyddog Digidol yn rhan o'r gwasanaeth iBobUn a Llyfrgelloedd i wella'r cynnig digideiddio yn y gwasanaeth, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Cyllid a Gwasanaethau Gwella wybod bod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda Charfan Trawsnewid Digidol y Cyngor, gyda'r bwriad o recriwtio eto yn ystod chwarter 3 eleni. Mewn perthynas â datblygu Hwb Diwylliannol Treorci, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod bod gwaith wrthi'n cael ei gynnal i ystyried sut mae modd bwrw ymlaen â'r camau gweithredu yma o ganlyniad i aelod o staff yn gadael y gwasanaeth yn ddiweddar.

 

Mewn ymateb i ymholiad am salwch staff a chadw staff yng Nghyfadran y Gwasanaethau i Blant, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod y cafodd diweddariad ei roi i'r Pwyllgor Craffu – Gwasanaethau Cymuned am Strategaeth y Gwasanaethau i Blant a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y strategaeth gweithlu a mentrau megis gweithlu iach a dull 'datblygu eich gweithlu eich hun' (grow your own) sy'n rhan allweddol o'r Strategaeth.  Dywedodd y gofynnir i'r Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth am y dull 'datblygu eich gweithlu eich hun' (grow your own) ac am y gwaith sydd wedi'i gynnal yn y maes yma gan y brifysgol.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi sefyllfa'r Cyngor o ran cyflawniad ariannol a gweithredol ar 30 Mehefin 2023 (Chwarter 1).

2.    Derbyn gwybodaeth mewn perthynas â salwch staff a dull 'datblygu eich gweithlu eich hun' (grow your own) yn Strategaeth Gweithlu'r Gwasanaethau i Blant.

 

26.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim

27.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Dogfennau ychwanegol: