Agenda a Chofnodion

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

8.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'rCod Ymddygiad.

Nodwch:

1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn

ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol

hwnnw; a

2. Lle bo Aelodau'n tynnu'n ôl o'r cyfarfod o ganlyniad

i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n

gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Sera Evans wedi datgan buddiant personol yn dilyn y cais am eitem ar fyfyrwyr Rhyngwladol sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus.  

 

Roedd y Cynghorydd Middle wedi datgan buddiant personol mewn perthynas ag eitem 5 gan ei fod e'n Aelod o Fwrdd Trivallis, ac mae sôn am Trivallis yn yr adroddiad.

 

9.

Cofnodion pdf icon PDF 109 KB

Derbyn cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 3 a 24 Mai 2024 i'w cymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 3 Mai a 24 Mai 2023 yn gofnod cywir o’r cyfarfodydd.

 

10.

Dolenni Ymgynghori

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Blaen Swyddog Craffu wedi atgoffa'r Aelodau am yr ymgynghoriadau y mae modd i Aelodau ymateb iddyn nhw.   to should they wish to respond to them. 

11.

Rhaglen Waith Ddrafft y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu pdf icon PDF 131 KB

Derbyn Rhaglen Waith Ddrafft y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i'w thrafod a'i chymeradwyo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Blaen Swyddog Craffu adroddiad i Aelodau sy'n ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor mewn perthynas â Rhaglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ogystal â Rhaglen Waith y Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned a'r Pwyllgor Craffu - Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant. Roedd y Swyddog Craffu wedi atgoffa'r Aelodau bod Cylch Gorchwyl y Pwyllgorau wedi'i adolygu yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor yn 2022. Roedd hyn wedi arwain at gryfhau cyfrifoldebau'r Pwyllgor o ran cydlynu.

 

Soniodd Aelod am bwysigrwydd yr eitem arfaethedig ar Domenni Glo gan gytuno y dylai'r eitem yma barhau i fod yn rhan o Raglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu er mwyn ei thrafod yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd fod eitem ar Gyfranogiad y Cyhoedd mewn perthynas â Gwaith Craffu yn cael ei chynnwys, yn dilyn mabwysiadu Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd y Cyngor nes ymlaen yn y flwyddyn.  

 

Gofynnodd Aelod am eglurder mewn perthynas â’r eitem ar y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, gan holi sut y bydd hyn yn cael ei graffu gan fod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant eisoes wedi trafod yr eitem yma.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi cael ei nodi yn ystod cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu fel dogfen sy'n cefnogi nifer o swyddogaethau corfforaethol y Cyngor a fydd yn cael eu hystyried yn rhan o waith craffu'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, dyma pam mae'r eitem wedi'i chynnwys yn rhan o Raglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Ychwanegodd y bydd yr eitem yma hefyd yn cael ei thrafod gan y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant.

 

Gofynnodd y Cadeirydd fod eitem ar fyfyrwyr rhyngwladol sydd heb fynediad i gyllid cyhoeddus yn cael ei chynnwys yn rhan o'r Rhaglen Waith gan ddefnyddio'r eitem yma i fanteisio ar y cyfle i wahodd sefydliadau allanol sy'n darparu cymorth i'r myfyrwyr yma.

 

Roedd y Cynghorydd Sera Evans o blaid cynnwys yr eitem yma, ond nododd y bydd hi'n datgan buddiant sy'n rhagfarnu yn ystod y drafodaeth yma ac yn gadael y cyfarfod gan ei bod hi'n gweithio i Brifysgol De Cymru ac yn benodol yn rhan o'r adran recriwtio myfyrwyr.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

  1. Gofyn bod y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yn rhoi gwybod i'r Aelod perthnasol o'r Cabinet a'r Swyddog perthnasol am y materion sydd wedi'u nodi fel materion i’w craffu cyn i'r Cabinet eu trafod.
  2. Bod y Pwyllgor wedi cytuno i adolygu'r rhaglen waith yn rheolaidd i sicrhau bod yr eitemau sydd wedi'u nodi yn parhau i fod yn berthnasol a bod unrhyw atgyfeiriadau pellach yn cael eu cynnwys;
  3. Bod y Pwyllgor, ble y bo'n addas, wedi trafod unrhyw eitemau y byddai modd eu cyflwyno i'r Pwyllgor fel Adroddiadau Gwybodaeth
  4. Bod y Pwyllgor wedi cytuno pa faterion y mae angen eu cyfeirio at y Pwyllgorau Craffu unigol er mwyn eu cynnwys yn eu rhaglenni gwaith eu hunain.
  5. Bod y Pwyllgor wedi trafod a chytuno ar Raglen Waith y Pwyllgor  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Adroddiad Cyflawniad ac Adnoddau'r Cyngor (Chwarter 4) pdf icon PDF 253 KB

Cyflwyno'r adroddiad Cyflawniad ac Adnoddau (Chwarter 4)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Blaen Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ar Gyflawniad y Cyngor hyd at 31 Mawrth 2023 i Aelodau.  Pwysleisiodd y Swyddog bwysigrwydd yr wybodaeth yma mewn perthynas â'r broses graffu, yn enwedig o ran cyflawni'r cylch gorchwyl, ond hefyd o ran llywio materion i'w trafod ar sail yr wybodaeth am gyflawniad sydd wedi'i darparu. Nododd y Swyddog fod y Pwyllgor yma'n gyfrifol am gyfeirio unrhyw eithriadau sydd wedi'u nodi at y pwyllgor craffu perthnasol, yn unol â'r cylch gorchwyl diwygiedig.

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella yr adroddiad i Aelodau. Roedd yr adroddiad yma'n cynnwys manylion am ddatganiadau diwedd blwyddyn mewn perthynas â'r gyllideb gyfalaf a'r gyllideb refeniw, dangosyddion darbodus Rheoli'r Trysorlys, gwybodaeth Iechyd Sefydliadol, gan gynnwys trosiant staff, salwch a risgiau strategol y Cyngor; a chynlluniau gweithredu ar gyfer blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol (gan gynnwys dangosyddion cyflawniad a buddsoddi). Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi gwaith y Cyngor i wella'i ymateb i ddigwyddiadau tywydd eithafol ac wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd.

 

 

Yn dilyn y cyflwyniad, rhoddodd y Cadeirydd gyfle i Aelodau holi cwestiynau.

 

Roedd Aelod wedi sôn am y pwysau cynyddol ar y sector gofal cymdeithasol, a'r galw cynyddol ar feysydd gwasanaeth ers dechrau pandemig Covid 19. Gofynnodd yr Aelod am wybodaeth bellach am yr hyn sy'n cael ei drafod o ran cynllunio ariannol tymor hwy ar gyfer y meysydd gwasanaeth yma.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella wybod bod gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y Cyngor, yn rhan o'i drefniadau cynllunio ariannol tymor canolig. Rhoddodd wybod bod y Cabinet wedi cytuno ar Strategaeth Cartrefi Gofal Preswyl i Bobl H?n a Strategaeth Trawsnewid Gwasanaeth Preswyl y Gwasanaethau i Blant, sy'n pennu'r ffordd ymlaen ar gyfer datblygu a thrawsnewid gwasanaethau yn y ddau faes, a hynny i sicrhau bod gan drigolion fynediad i wasanaethau modern sy'n addas i'r diben.  Ychwanegodd fod gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi bod yn wynebu galw uchel ynghyd â chostau uwch o ganlyniad i lefelau chwyddiant uchel, ac mae hyn i'w gweld yng Nghyllideb Refeniw y Cyngor ar gyfer 2023/24. Nododd fod y Cyngor wedi defnyddio cronfeydd wrth gefn untro mewn modd call i greu capasiti ychwanegol a lleihau'r rhestr aros ar gyfer gwasanaethau.

 

Holodd Aelod a fydd prosiectau'r dyfodol yn cael eu heffeithio gan gostau uwch ar gyfer gweithwyr a deunyddiau.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella wybod bod pob prosiect yn destun proses gaffael ac adolygu parhaus o ran costau, cyllid ac amseru a hynny i sicrhau bod modd cyflawni prosiectau gan ddefnyddio'r cyllid sydd ar gael. Os yw'r prosiect yn cael ei gefnogi gan sefydliadau ariannu allanol, ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'r sefydliadau hynny os yw costau wedi cynyddu, neu os rhagwelir y byddan nhw'n cynyddu, o ganlyniad i ffactorau nad oes modd eu rheoli megis chwyddiant neu bwysau ehangach ar y farchnad.

 

Holodd Aelod a yw'r dyraniad tai yn RhCT yn cael ei effeithio gan nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy'n cofrestru gyda'r brifysgol, a  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

Ymgynghoriad: ESTYNIAD ARFAETHEDIG GORCHMYNION DIOGELU MANNAU CYHOEDDUS CBSRHCT MEWN PERTHYNAS Â RHEOLIADAU AR GŴN pdf icon PDF 532 KB

Trafod yr ymgynghoriad i ymestyn y Gorchmynion Diogelu (Rheoli C?n) fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Blaen Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i Aelodau. Mae'r adroddiad yma'n ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriadCBSRhCT sy'n cynnig estyn gorchmynion diogelu mannau cyhoeddus CBSRHCT mewn perthynas â mesurau rheoli c?n ar gyfer cyfnod o 3 blynedd o 1 Hydref 2023.

 

Gofynnodd Aelod a fyddai modd ychwanegu caeau chwarae Canol Cwm Rhondda i'r meysydd sy'n cael eu trafod, gan nad oedden nhw wedi'u cynnwys yn y mapiau. Roedd yr Aelod wedi gofyn bod y caeau chwarae yn cael eu hychwanegu gan eu bod nhw'n cael eu hailddatblygu i ddarparu man chwarae. 

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybod bod yr ymgynghoriad yn cynnwys pob cae chwarae wedi'i farcio felly byddai'r ardal yma'n cael ei chynnwys yn rhan o'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ar ôl iddo gael ei gymeradwyo. 

 

Yn dilyn ymholiad, cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod cost yr ymgynghoriad wedi'i gynnwys yn rhan o gyllidebau cyfredol a bod hyn yn cynrychioli'r gofyniad sy'n gofyn i'r Awdurdod gynnal ymgynghoriad amdano a'i adolygu bob tair blynedd.

 

Nododd Aelodau eu bod nhw'n cefnogi'r cynigion sydd wedi'u cynnwys yn yr ymgynghoriad.  Gofynnodd yr Aelodau gwestiwn ynghylch sawl person sydd wedi derbyn dirwy sy'n ymwneud â baw c?n ac a oes modd cyflwyno dirwy uwch pe byddai'r un person yn cyflawni'r drosedd tro ar ôl tro? Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod tua 1000 o bobl wedi derbyn dirwy. Ychwanegodd fod cynnydd wedi bod o ran presenoldeb y Swyddogion er mwyn ceisio atal hyn rhag digwydd ac mae'r swyddogion yn ceisio canolbwyntio ar addysgu pobl am faterion baw c?n. 

 

PENDERFYNWYD: Roedd Aelodau wedi awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i rannu adborth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu â'r Cabinet cyn iddyn nhw wneud unrhyw benderfyniadau am y Gorchmynion.

14.

TRAFOD CADARNHAU'R CYNNIG ISOD YN BENDERFYNIAD:

“Bod y cyfarfod yma'n cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

“Bod y cyfarfod yma'n cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr eitem nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf”

15.

Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol

Derbyn diweddariad terfynol ar Gynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2018-2023

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol ac Eiddo Strategol yr adroddiad i Aelodau sy'n rhoi gwybodaeth am gynnydd y Cyngor yn erbyn themâu allweddol Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2018/23.

 

PENDERFYNWYD:  Bod Aelodau wedi craffu ar Gynllun Rheoli Asedau Corfforaethol y Cyngor, fel sydd wedi'i nodi yn yr atodiad i'r adroddiad.

16.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

DIM

17.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

18.25